| (Ping) Lei. | |
| (Lei) 'Chydig yn hwyr i fod fyny famma, yn y twllwch, ar ben dy hun. | |
| (0, 2) 240 | Pam 'da chi yma felly? |
| (Lei) |Security guards| newydd 'da'ni. | |
| (Lei) Neud y rownds, checkio pethe. | |
| (0, 2) 243 | Iawn. |
| (Lei) Felly, os ti'm yn meindio, dwi'n meddwl bod o'n amser i ti fynd adre. | |
| (Lei) Dio'm yn sâff fyny famma. | |
| (0, 2) 247 | Fy nho i ydi hwn. |
| (0, 2) 248 | Allai eistedd yma os dwisio. |
| (Lei) Ti'n byw yma 'ta? | |
| (Lei) Ti'n byw yma 'ta? | |
| (0, 2) 251 | Yndw. |
| (Lei) O. | |
| (Lei) Pa lawr? | |
| (0, 2) 255 | Pam? |
| (0, 2) 256 | Tisio fi arwyddo rywbeth? |
| (Lei) Just wyndro dwi. | |
| (Lei) Just wyndro dwi. | |
| (0, 2) 258 | Dwi'm yn leidr, os dyna 'dachi'n feddwl. |
| (Lei) Na, na, argol - na! | |
| (Lei) Os fase ti'n disgyn, fydda ni mewn uffar o drwbwl. | |
| (0, 2) 262 | Wel diolch am eich consyrn, ond dwi'n fine. |
| (Ping) Jyst yn gwneud ein job. | |
| (Ping) Jyst yn gwneud ein job. | |
| (0, 2) 264 | Cariwch ymlaen. |
| (0, 2) 265 | Plis. |
| (0, 2) 266 | Dwi'm yn stopio chi. |
| (Ping) Be ti'n yfed? | |
| (Ping) Fawr o hwyl yfed ar ben dy hun. | |
| (0, 2) 271 | Tisio peth? |
| (Ping) Na, diolch. | |
| (Ping) Dwi'n meddwl na fedr person sy'n yfed ar ben ei hun fod yn berson hapus. | |
| (0, 2) 277 | Ydi hynna'n ffaith? |
| (Ping) Dwi'n meddwl bod person sy'n yfed fel'na yn yfed tristwch. | |
| (Ping) Dwi'n meddwl bod person sy'n yfed fel'na yn yfed tristwch. | |
| (0, 2) 279 | Diddorol iawn. |
| (Ping) Ond mae 'na un peth fedrai'm dalld. | |
| (Ping) Ond mae 'na un peth fedrai'm dalld. | |
| (0, 2) 281 | A be 'di hynna? |
| (Ping) Pam ar y ddaear mae bachgen ifanc fel ti yn drist? | |
| (Ping) Ma' siwr bod gyn ti ffrindiau. | |
| (0, 2) 287 | Di'r pethau yna'n golygu dim. |
| (Ping) Fedra di roi nhw i fi felly. | |
| (Ping) Os 'swn i'n ti, 'swni'n dathlu efo'r botel fodca 'na, yn lle pwdu. | |
| (0, 2) 290 | 'Sgyn ti'm clem. |
| (Ping) Eglura i mi 'ta. | |
| (Ping) Trystia fi. | |
| (0, 2) 301 | Dwi heb gael ffeit efo nghariad. |
| (0, 2) 302 | Sgynnai'm cariad. |
| (Ping) A! | |
| (Ping) Dyna di'r broblem felly. | |
| (0, 2) 305 | Naci. |
| (0, 2) 306 | Dwi'm isio siarad am y peth. |
| (0, 2) 307 | Ffwcia o'ma. |
| (Lei) Nefi bliw! | |
| (Lei) Be ti'n trio - cynghanedd? | |
| (0, 2) 317 | Oes rywun erioed 'di dy siomi? |
| (Ping) Ein bos. | |
| (Ping) 'Da ni dal i ddisgwyl. | |
| (0, 2) 321 | Dim fel'na. |
| (0, 2) 322 | Oes na rywun ti'n rili edmygu, a wedyn ti'n darganfod bod nhw da i ddim? |
| (Ping) Um... dwi'n trio meddwl... oes. | |
| (Ping) Hardd. | |
| (0, 2) 328 | Be wnaeth hi? |
| (Ping) Un diwrnod, wnaeth yr athrawes adael y stafell ddosbarth, oni'n chwarae'n wirion efo | |
| (Ping) Torri 'nghalon. | |
| (0, 2) 338 | Be oedd y gosb? |
| (Ping) Rhedeg 3 lap o'r trac traws gwlad, trwy'r blydi slwj, wedyn odd raid i mi helpu'r | |
| (Ping) adeiladwyr gario brics trwy'r pnawn. | |
| (0, 2) 341 | Be wnes di iddi, yr hogan? |
| (Ping) Be ti'n feddwl? | |
| (Ping) Be ti'n feddwl? | |
| (0, 2) 343 | I dalu hi'n nôl. |
| (Ping) Dim byd. | |
| (Ping) Pwy sy'n creu dy broblem di? | |
| (0, 2) 349 | Rywun ddylsa wybod yn well. |
| (Ping) Dachi'n agos? | |
| (Ping) Dachi'n agos? | |
| (0, 2) 351 | Agos iawn. |
| (0, 2) 352 | Neu, mi odda ni. |
| (Ping) Odd y person 'ma'n gas efo ti? | |
| (Ping) Odd y person 'ma'n gas efo ti? | |
| (0, 2) 354 | Dim efo fi. |
| (0, 2) 355 | Efo bobl eraill. |
| (Lei) Torra pob cysylltiad, well i ti gael gwared ohona nhw. | |
| (Lei) Os mae nhw'n wael i bobl eraill rŵan, fydden nhw'n wael i ti yn y dyfodol agos. | |
| (0, 2) 359 | Dio'm mor syml a hynny. |
| (Lei) Sblitia fyny efo hi. | |
| (Lei) Un diwrnod ma'i'n troi rownd a deud bod hi'm yn ffansio fi bellach, bod hi'n fy ngadael i am rywun arall. | |
| (0, 2) 368 | Rywun cyfoethog? |
| (Lei) Rhedeg ryw fusnes, busnes bach ond yn gwneud dwbwl fy nghyflog. | |
| (Lei) Well ganddi fod yn feistres iddo fo na gwraig i mi. | |
| (0, 2) 372 | Felly adawodd hi ti am arian? |
| (Lei) Yn union! | |
| (Lei) Dyna mae popeth yn arwain at yn diwedd. | |
| (0, 2) 375 | Dim popeth. |
| (Lei) Na? | |
| (Lei) Enwa un problem sydd ddim am bres. | |
| (0, 2) 378 | Wel...bariaeth, celwyddau, gwagedd...'mond rhan o'r broblem ydi arian. |
| (Lei) Dyna mae pawb isio. | |
| (Lei) Dyna sy'n ein cymell ni i wneud pethe drwg. | |
| (0, 2) 381 | Felly dim arian ar ben ei hun ydi'r problem. |
| (0, 2) 382 | Y broblem ydi'r ffaith bod ni isio arian. |
| (0, 2) 383 | Mae pob problem yn deillio o awydd, chwant - 'dwi isio'. |
| (0, 2) 386 | Mae'r broblem yma, dymuno pethe, wedi bodoli ers byth bythoedd. |
| (0, 2) 387 | Pam mae'r mynachod Bwdhaidd yn datgysylltu eu hunain o bleserau daearol? |
| (0, 2) 388 | Pam mae Cristnogion yn sôn am y saith pechod marwol? |
| (0, 2) 389 | R'un peth 'dio. |
| (0, 2) 390 | Yr unig wahaniaeth ydi bod y mynachod Bwdhaidd yn trio gwneud i bobl weld gwacter eu dymuniadau. |
| (0, 2) 391 | Mae'r Cristnogion yn trio rhoi braw i ni efo'u straeon o ddamnedigaeth ag uffern ffyrnig. |
| (0, 2) 392 | Mae gan Confucius syniad gwahanol. |
| (0, 2) 393 | Gan dderbyn y bydden ni o hyd yn dymuno pethe, roedd o jyst isio ni anelu amdanyn nhw |
| (0, 2) 394 | mewn ffyrdd cyfiawn. |
| (Ping) Um, ga'i just ddeud, sgynnai'm clem be ti'n sôn am. | |
| (Ping) Um, ga'i just ddeud, sgynnai'm clem be ti'n sôn am. | |
| (0, 2) 396 | Wrth gwrs bod gyn ti. |
| (0, 2) 397 | Wnaeth ei ddyweddi adael o am ddyn mwy cyfoethog reit? |
| (Ping) Reit. | |
| (Ping) Reit. | |
| (0, 2) 399 | Achos roedd hi'n dymuno bywoliaeth mwy cyfforddus. |
| (Lei) Yr hen ast! | |
| (Lei) Yr hen ast! | |
| (0, 2) 401 | Ddaru dy ffrind yn 'rysgol reportio ti i'r athrawes achos oedd hi isio—be? |
| (Ping) Dwn i'm. | |
| (Ping) Dwn i'm. | |
| (0, 2) 403 | Isio'r athrawes licio hi. |
| (0, 2) 404 | Roedd hi'n dymuno ei sylw. |
| (Ping) Ella. | |
| (Ping) Ella. | |
| (0, 2) 406 | Dydi pawb ddim isio pres. |
| (0, 2) 407 | Mae rhai yn gaeth i sylw. |
| (0, 2) 408 | Eraill, llawer, isio concro'r byd. |
| (0, 2) 409 | Dim am gyfoeth y byd ond am gydnabyddiaeth y byd. |
| (0, 2) 410 | Efallai dio ddim i wneud â pres, yn hytrach mae i'w wneud â chanmoliaeth, sylw, cariad ac edmygedd - dymuniadau pobl. |
| (0, 2) 411 | Dyna pam mae nhw'n gwneud camgymeriadau. |
| (Lei) Wyt ti'n stiwdent o gwbwl? | |
| (Lei) Wyt ti'n stiwdent o gwbwl? | |
| (0, 2) 413 | Trydydd flwyddyn. |
| (0, 2) 414 | Athroniaeth. |
| (Lei) Oni'n meddwl. | |
| (Lei) Oni'n meddwl. | |
| (0, 2) 417 | Ocê. |
| (0, 2) 418 | Ocê. |
| (0, 2) 419 | Dyma gyfyng gyngor moesol i ti. |
| (Lei) O Dduw. | |
| (Lei) O Dduw. | |
| (0, 2) 422 | Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist, iawn? |
| (Ping) Ydi dy gariad di'n artist? | |
| (Ping) Ydi dy gariad di'n artist? | |
| (0, 2) 424 | Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist. |
| (Ping) Sgynnai ddim though. | |
| (Ping) Sgynnai ddim though. | |
| (0, 2) 426 | Cogio, ddudis i. |
| (0, 2) 427 | Cwestiwn damcaniaethol ydi hwn, iawn? |
| (Ping) Dam can - be? | |
| (Ping) Dos yn dy flaen. | |
| (0, 2) 434 | Cau dy lygaid. |
| (0, 2) 435 | Dychymga bod gyn ti gariad. |
| (Ping) Dwi'n dychmygu! | |
| (Ping) Dwi'n dychmygu! | |
| (0, 2) 437 | A dychmyga bod hi'n actores. |
| (Ping) Ie. | |
| (Ping) Dwi'n gallu gweld hi rŵan. | |
| (0, 2) 440 | A dychmyga bod hi'n hynod dalentog a bod hi'n gweithio'n galetach na neb. |
| (Ping) Wrth gwrs. | |
| (Ping) Wrth gwrs. | |
| (0, 2) 442 | Ond dydi hi ddim isio enwogrwydd neu unrhyw fath o ffortiwn. |
| (Ping) 'Di ddim? | |
| (Ping) 'Di ddim? | |
| (0, 2) 444 | Na. |
| (0, 2) 445 | Cwbwl ma'i isio ydi bobl i werthfawrogi ei gwaith. |
| (Ping) Reit. | |
| (Ping) Reit. | |
| (0, 2) 447 | Ond 'di ddim yn medru ffindio gwaith. |
| (0, 2) 448 | Mae hi'n trepsio i'r holl glyweliadau 'ma. |
| (0, 2) 449 | Ond does neb yn ei chastio hi achos does neb yn sylweddoli faint mor dalentog ydi hi. |
| (Ping) Dydyn nhw'm yn gwbo be mae nhw'n golli. | |
| (Ping) Dydyn nhw'm yn gwbo be mae nhw'n golli. | |
| (0, 2) 451 | Cwbwl ma'i angen ydi un brêc. |
| (0, 2) 452 | Un siawms i ddod ymlaen yn y byd. |
| (0, 2) 453 | Be ddylsa hi wneud? |
| (Lei) Hawdd. | |
| (Lei) Dyna 'di'r unig ffordd i gael hwb i fyny. | |
| (0, 2) 462 | Be os mai hi ydi dy gariad di? |
| (Lei) Fy nghariad i? | |
| (Lei) Fy nghariad i? | |
| (0, 2) 464 | Ie. |
| (0, 2) 465 | A ti'n ffindio allan. |
| (0, 2) 466 | Be faset ti'n gwneud? |
| (Lei) Rhoi clustan iddi a fydda ni 'di torri fyny. | |
| (Lei) Rhoi clustan iddi a fydda ni 'di torri fyny. | |
| (0, 2) 468 | Ond os ti'n rili caru hi? |
| (Lei) Os fysa hi'n rili caru fi fase hi'm yn gwneud hynna! | |
| (Lei) Ac eniwe dydi cariad ddim yn golygu goddef anffyddlondeb. | |
| (0, 2) 471 | Ond os fase ti'n caru hi go iawn, faset ti'm isio marw? |
| (Lei) Marw? | |
| (Lei) |As if|. | |
| (0, 2) 475 | Os wyt ti 'di dotio efo hi. |
| (0, 2) 476 | Roeddet ti dan yr argraff bod hi mor bur fase hi 'rioed yn gwneud y fath beth. |
| (Lei) Wel faswn i'n foi twp iawn i gredu hynna. | |
| (Lei) Wel faswn i'n foi twp iawn i gredu hynna. | |
| (0, 2) 478 | Ond fysa ti'm yn teimlo bod dy fywyd yn disgyn i ddarnau? |
| (0, 2) 479 | Fysa ti'm iso'r cyfan ddod i ben? |
| (Ping) Dio'm werth o mêt. | |
| (Ping) Fyddi di 'di anghofio'r cwbwl lot. | |
| (0, 2) 484 | Dwi'n meddwl os mae rhywun yn gadael chi lawr fel'na, does 'na'm point byw. |
| (Lei) Dyna'r peth twpia dwi 'rioed 'di clywed. | |
| (Lei) Gwell fyth, lladd y boi arall. | |
| (0, 2) 490 | Be os mae'r sarhad yn ormod? |
| (Lei) Dal ddim yn gwneud sens. | |
| (Ping) Go iawn rŵan — bwyd, gwely, anghofio. | |
| (0, 2) 495 | Ond be os tisio anfon neges? |
| (0, 2) 496 | I wneud nhw deimlo'n ddrwg. |
| (0, 2) 497 | Fel merched y pentre 'cw sy'n lladd ei hunain i ddial ar eu mamau mewn cyfraith. |
| (0, 2) 498 | I orfodi nhw i gydnabod y ffordd roedden nhw'n trin y merched. |
| (Lei) Eh? | |
| (Lei) {codi ei ysgwyddau} Heb siarad efo hi. | |
| (0, 2) 516 | Pam oedd hi'n trio lladd ei hun? |
| (Lei) Oedd hi'm yn iawn yn ei meddwl nag o'dd. | |
| (Lei) Allai'm cofio. | |
| (0, 2) 520 | Ti'n teimlo'n euog? |
| (Lei) Euog? | |
| (Lei) Mae'r holl beth rhwngtha hi a'i photas. | |
| (0, 2) 524 | Felly dwyt ti ddim yn deall rheiny sy'n cynnau ei hunan ar dân fel protest gwleidyddol? |
| (Lei) Wrth gwrs ddim. | |
| (Lei) Os dachi'n gofyn i mi, dial 'di'r unig ymateb call. | |
| (0, 2) 536 | Ocê. |
| (0, 2) 537 | Dyma gwestiwn i ti. |
| (0, 2) 538 | Fysat ti'n marw er mwyn amddiffyn rywun ti'n caru? |
| (Ping) Er enghraifft? | |
| (Ping) Er enghraifft? | |
| (0, 2) 540 | I helpu dy deulu allan o broblemau ariannol. |
| (0, 2) 541 | Neu i achub ffrind. |
| (Ping) Eto, sut mae lladd eich hun yn helpu? | |
| (Ping) Eto, sut mae lladd eich hun yn helpu? | |
| (0, 2) 543 | Wel be os wyt ti'n credu mewn karma. |
| (0, 2) 544 | Felly ti'n cymryd dy fywyd er mwyn atal cosbedigaeth i rywun ti'n garu. |
| (Ping) Fedrai weld pam ti'n yfed ar ben dy hun, os mai dyma di'r math o banter ti'n roi allan | |
| (Lei) Amser mynd adre dwi'n meddwl. | |
| (0, 2) 554 | Un cwestiwn olaf. |
| (0, 2) 555 | Be os fedri di'm dioddef byw cam ymhellach achos bod y byd yn fucked up. |
| (Ping) Os mae'r byd yn fucked up, dyna reswm da i fyw! | |
| (Ping) I roi pethe yn ei le. | |
| (0, 2) 559 | Dwn im. |
| (0, 2) 560 | Pan oni'n blentyn, oni isio bod yn arwr. |
| (0, 2) 561 | Yn cywiro camweddau. |
| (0, 2) 562 | Sefyll fyny i'r system ar ran y llai ffodus. |
| (0, 2) 563 | Fel lleidr penffordd, herwr o hogyn. |
| (Ping) Finna 'fyd! | |
| (Ping) Finna 'fyd! | |
| (0, 2) 565 | Ti'n gweld y byd fel lle creulon? |
| (Ping) Wrth gwrs. | |
| (Lei) Sbia ar y gerddi, y clybiau preifat! | |
| (0, 2) 576 | Does 'na'm tâl da i gael am waith caled yn y byd yma. |
| (Ping) Gwaith caled sy'n cael ei dalu lleiaf. | |
| (Lei) Bod yn ddigywilydd ydi'r swydd gorau. | |
| (0, 2) 579 | Yn y dechrau, dim ond rhai sy'n gwneud pethe cywilyddus. |
| (0, 2) 580 | Ag os dydyn nhw'm yn cael eu cosbi, yn hytrach - os mae nhw'n cael eu gwobreuo, dyna sut mae'n cychwyn. |
| (0, 2) 581 | Mae pawb yn dilyn y system newydd. |
| (0, 2) 582 | Hyd nod yn fy mhrifysgol, adeg etholiad llywydd undeb y myfyrwyr, mae pawb yn defnyddio perthnasoedd a presantau i brynu pleidleisiau. |
| (Ping) Mae o fel'na ym mhob man. | |
| (Lei) Mae angen i ni gael gwared ohona nhw i gyd a'u hanghyfiawnder. | |
| (0, 2) 588 | Mae'r byd yn anghyfiawn. |
| (0, 2) 589 | John Lennon! |
| (0, 2) 590 | John Lennon er enghraifft, sut fedrith o gael ei ladd? |
| (Lei) Mae isio sortio'r lle ma allan. | |
| (Lei) Lladd y rhai llygredig. | |
| (0, 2) 593 | Pam mae o mor anodd mynnu bod rywbeth yn digwydd? |
| (Lei) Be? | |
| (Lei) Be? | |
| (0, 2) 595 | Pan oeddwn i'n fach, oni'n gobeithio dysgu Kung-Fu i helpu'r gwan a'r tlawd, a gwaredu'r byd o anghyfiawnder. |
| (Ping) Finna' 'fyd! | |
| (Ping) Finna' 'fyd! | |
| (0, 2) 597 | Wedyn oeddwn i isio bod yn fardd. |
| (0, 2) 598 | Fel Lu Xun. |
| (0, 2) 599 | "Gyda chalon ffyrnig, dwi'n herio yn dawel mil o fysedd sy'n cyhuddo, |
| (0, 2) 600 | Plygu mhen fel ychen fodlon, dwi'n gwasanaethu'r plant." |
| (Ping) Da rŵan. | |
| (Ping) Da rŵan. | |
| (0, 2) 602 | Roedd fy nhad yn arfer dweud mai'r peth mwya gwirion ydi gwario amser efo boblgyda diddordebau main, a hefyd bod angen bod bob amser yn ddyfal - mae camgymeriadaubach yn gallu difetha bywyd. |
| (Lei) 'Di hwn di meddwi ta be? | |
| (Lei) 'Di hwn di meddwi ta be? | |
| (0, 2) 604 | 'Y rheswm na fedr person gyffredin fod yn sant ydi'r dymuniadau angerddol sy'n ein arwain ymhobman.' … |
| (0, 2) 605 | 'Roeddwn i'n meddwl dy fod yn arwr, ond mae'n ymddangos mai dyn cyffredin wyt' … |
| (0, 2) 606 | 'Os na fedr person waredu syniadau sy'n llenwi'r meddwl a'i feichio'n barhaus, mi fydd o'n rwymedig â grymoedd cyferbyniol.' |
| (Ping) Dwi'n cytuno. | |
| (Ping) Mae'n wyntog fyny famma. | |
| (0, 2) 610 | Sut allith o fod yn gymaint o hypocrite? |
| (Ping) Tyd o'r ymyl. | |
| (Ping) Dio'm yn sâff. | |
| (0, 2) 615 | Sut fedra i orfodi fo i weld ei gam? |
| (Lei) Paid a bod yn ferthyr. | |
| (Lei) Fyddi di'n difaru'n bora. | |
| (0, 2) 618 | Mae mor anodd cario 'mlaen fel hyn. |
| (0, 2) 619 | Dwisio cerdded llwybr fy hunain. |
| (0, 2) 620 | Dwi'n casau'r … |bullshit| 'ma! |
| (Ping) Hei! | |
| (Ping) Hei! | |
| (0, 2) 627 | Chwilio a chwilio a methu ffindio prawf bywyd |
| (0, 2) 628 | strydoedd y ddinas rhy galed i adael olion traed |
| (0, 2) 629 | Dim ond pan dwi'n gadael y dorf dwi'n medru ffindio'n hun |
| (0, 2) 630 | yn anadlu yn rhydd awyr y môr. |
| (Ping) Mae'r cân yna'n |classic|! | |
| (Lei) Erbyn i ti ddarllen hwn... ' | |
| (0, 3) 790 | Dad? |
| (0, 3) 791 | Ti sy'na? |
| (Ping) |Shit|! | |
| (Ping) |Shit|! | |
| (0, 3) 794 | Be sy'n mynd 'mlaen 'ma? |
| (Ping) Fedra ni egluro popeth. | |
| (Ping) Fedra ni egluro popeth. | |
| (0, 3) 796 | Be ffwc dachi'n neud 'ma? |
| (Ping) Aros eiliad. | |
| (Ping) Aros eiliad. | |
| (0, 3) 798 | |Security guards| newydd. |
| (0, 3) 799 | Dyna jôc y ganrif. |
| (0, 3) 800 | Sleifio gwmpas y to ganol nos, ddylswn i 'di meddwl. |
| (Ping) Dani'm yma i ddwyn dy betha di. | |
| (Ping) Dani'm yma i ddwyn dy betha di. | |
| (0, 3) 802 | O na? |
| (Ping) 'Chydig bach dani'n cymryd, fel iawndal. | |
| (Ping) 'Chydig bach dani'n cymryd, fel iawndal. | |
| (0, 3) 804 | Fedrai'm credu hyn. |
| (0, 3) 805 | Dwi newydd ddal chi, sgynnoch chi ddim cywilydd? |
| (0, 3) 806 | |Scum| dachi! |
| (Ping) Plis gwranda. | |
| (Lei) Mae popeth sy'ma wedi ei ddwyn gan y bobl gyffredin. | |
| (0, 3) 813 | Tria egluro hynna i'r heddlu. |
| (Lei) Dora'r ffôn lawr. | |
| (Lei) Rwan! | |
| (0, 3) 819 | Rhy hwyr. |
| (0, 3) 820 | Mae'r heddlu ar eu ffordd. |
| (Lei) Fyddi di'n difaru hynna. | |
| (Lei) Eh? | |
| (0, 3) 842 | |Scum|. |
| (Lei) Be ddudis di? | |
| (Lei) Be ddudis di? | |
| (0, 3) 844 | |Scum|. |
| (0, 3) 845 | Dyna ydach chi. |
| (Lei) Tisio deud hynna eto? | |
| (Lei) Mwy fel cerdd na nodyn hunanladdiad. | |
| (0, 3) 868 | Dora fo'n nôl i mi. |
| (Lei) Gorchymyn oedd hwnna? | |
| (Lei) Gorchymyn oedd hwnna? | |
| (0, 3) 870 | Ty'd a fo yma! |
| (Lei) Dwi'm yn meddwl bod rywun yn dy sefyllfa di yn gallu ordro ni o gwmpas, wyt ti? | |
| (Lei) Dwi'm yn meddwl bod rywun yn dy sefyllfa di yn gallu ordro ni o gwmpas, wyt ti? | |
| (0, 3) 872 | Clown yn cogio bod yn frenin, dyna'r cwbwl wyt ti. |
| (Lei) Mae'n deimladwy iawn dydi? | |
| (Lei) Ond i le mae'r awydd marw wedi diflannu i rŵan ta? | |
| (0, 3) 878 | — |
| (Lei) Na. | |
| (Lei) Ble mae'r |hard drive| 'ma ti'n sôn am? | |
| (0, 3) 889 | Pa |hard drive|? |
| (Lei) Paid a chwarae lol. | |
| (Lei) Be oedd dy fwriad, bygwth yr hen ddyn? | |
| (0, 3) 898 | Roeddwn i isio fo gofio. |
| (Lei) Dy hunanladdiad yn ddraenen yn ei ochr. | |
| (Lei) Dwi'n siarad efo'r bastun celwyddog yma. | |
| (0, 3) 920 | Ffwcia chdi! |
| (Lei) Dangos dy liwiau rŵan yndwyt? | |
| (Ping) Sicrhau bod o'n cael ei arestio. | |
| (0, 3) 925 | Damwain oedd o. |
| (0, 3) 926 | Wnaeth o'm trio. |
| (0, 3) 927 | Odd o 'di cael cwpwl o ddrincs. |
| (0, 3) 928 | Damwain. |
| (0, 3) 929 | Damwain erchyll. |
| (Lei) Felly pam wnaeth o'm troi ei hun fewn? | |
| (Lei) Rhybuddio nhw i beidio siarad! | |
| (0, 3) 933 | Dydi hynna'm yn wir. |
| (0, 3) 934 | Wnaeth o'm bygwth neb. |
| (Lei) Na. | |
| (Lei) Pwy orchmynnodd y dynion i wneud y fath beth? | |
| (0, 3) 944 | Dwi'm yn credu ti. |
| (0, 3) 945 | Fysa nhad i 'rioed yn gwneud hynny! |
| (Lei) Ti dal i freuddwydio. | |
| (Lei) Deffra! | |
| (0, 3) 948 | Ella wnaeth ei ddynion benderfynu ymysg ei hunan, i ddiogelu'n nhad. |
| (Lei) G'ad mi ofyn cwestiwn arall i ti. | |
| (Lei) Faint mor bwerus ti'n credu yda nhw? | |
| (0, 3) 956 | Dyna 'di dy stori di! |
| (0, 3) 957 | Sgyn ti'm yr holl ffeithiau. |
| (0, 3) 958 | Hyd nos os wnaeth o hynna i gyd … doedd o'm yn bwriadu anafu neb. |
| (0, 3) 959 | Oedd o'n cyfro fyny ei gamgymeriad gwirion. |
| (Lei) Mab ffyddlon i'r carn. | |
| (Lei) Mab ffyddlon i'r carn. | |
| (0, 3) 961 | Dymuniadau. |
| (Lei) Eh? | |
| (Lei) Eh? | |
| (0, 3) 963 | Mae pob camgymeriad yn deillio o ddymuniadau. |
| (Lei) Be'r uffar mae'n sôn am? | |
| (Lei) Be'r uffar mae'n sôn am? | |
| (0, 3) 966 | Roedd 'na ddynes yn y car. |
| (0, 3) 967 | Dyna oedd ei gamgymeriad cyntaf. |
| (0, 3) 968 | Dyna be oedd o'n trio cyfro fyny. |
| (0, 3) 969 | Wedyn wnaeth un camgymeriad ddilyn i'r nesaf. |
| (0, 3) 970 | Doedd o'm isio mam ffindio allan. |
| (0, 3) 971 | Doedd o'm isio torri ei chalon hi. |
| (Lei) O, digon ffeind. | |
| (Lei) Ond mae'n gêm i wneud rywbeth i amddiffyn teimladau ei wraig bach annwyl. | |
| (0, 3) 976 | Dwi mor sori. |
| (Ping) Ty'd laen, Lei. | |
| (Ping) Gonest a dibynadwy. | |
| (0, 3) 992 | Dim yn union. |
| (Ping) Mae gyn ti freuddwydion o leiaf, a calon clên. | |
| (Ping) Lle mae'r cyfiawnder yn hynny? | |
| (0, 3) 1010 | Dwi wedi rhoi arian i'r elusen sy'n gweithio efo'r teulu. |
| (0, 3) 1011 | Yr arian dachi'n chwilio amdano, wnes i roi o i gyd. |
| (Ping) Welais i hynna'n y llythyr. | |
| (Ping) Ti'n hogyn da. | |
| (0, 3) 1014 | Dwisio gwneud y peth iawn. |
| (Ping) Y peth iawn fydd rhoi'r fideo i ni. | |
| (Ping) Y peth iawn fydd rhoi'r fideo i ni. | |
| (0, 3) 1016 | Wyt tisio anfon fy nhad i'w farwolaeth? |
| (Ping) Nac ydw, ond mae angen talu am gamgymeriadau. | |
| (Ping) Rho gyfiawnder i deulu Dan Bach. | |
| (0, 3) 1019 | Dan oedd ei enw? |
| (Ping) Ia, pump oed. | |
| (Ping) Ia, pump oed. | |
| (0, 3) 1021 | Wnai siarad efo nhad. |
| (0, 3) 1022 | Allai berswadio fo i gyflwyno'i hun i'r heddlu. |
| (Lei) Paid a trystio fo. | |
| (Lei) Ceisio lladd ei hun ond yn disgyn i gysgu'n feddw yn canu cân. | |
| (0, 3) 1027 | Ro'i mwy o arian i'r teulu. |
| (Ping) Dani'm isio dy arian. | |
| (Lei) Y fideo! | |
| (0, 3) 1031 | Mi fydda nhw'n ei ladd. |
| (0, 3) 1032 | Y cyhoedd yn mynd am ei waed! |
| (Lei) Mae raid i rywun dalu am droseddau dy dad. | |
| (Ping) A dwi'm isio ti fod y person yna. | |
| (0, 3) 1035 | Mae gynno fo gynlluniau mawr i'r dyfodol. |
| (0, 3) 1036 | Mi fydd o'n swyddog dda. |
| (0, 3) 1037 | Mae o wedi gwneud sawl peth ardderchog i'r ardal yma yn barod! |
| (Lei) |Hit and run|, taliadau budr, bygwth teulu sy'n galaru. | |
| (Lei) Ardderchog. | |
| (0, 3) 1040 | Dio'm o hyd wedi bod fel hyn. |
| (Lei) Ti rioed di meddwl am gynlluniau mawr Hen Liu ar gyfer ei fab? | |
| (Lei) Ti rioed di meddwl am gynlluniau mawr Hen Liu ar gyfer ei fab? | |
| (0, 3) 1042 | Mae'r byd i gyd yn wyneb i waered. |
| (Lei) Yndy. | |
| (Lei) Yndy. | |
| (0, 3) 1044 | Does dim gwobr am waith caled. |
| (Ping) Nag oes. | |
| (Ping) Nag oes. | |
| (0, 3) 1046 | Ond mae gwobr am gywilydd. |
| (0, 3) 1047 | Os mae'r petha ma'n digwydd o amgylch chi, mae pawb yn neud o, mae'n anodd peidio dod yn ran o'r system. |
| (Lei) Na fo, rho'r bai ar sgwyddau eraill. | |
| (Lei) Lle ydach chi'n fanna? | |
| (0, 3) 1071 | Awstralia. |
| (Lei) Awstralia! | |
| (Lei) Ai dyna ti'n trio deutha fi? | |
| (0, 3) 1109 | 'Pan mae anadl ar ôl, mae'n bosib edifarhau y pechodau mawr.' |
| (Lei) Dwi'n casàu bobl sy'n defnyddio penillion! | |
| (Ping) Plis dora'r |hard drive| i ni! | |
| (0, 3) 1115 | Oni'n arfer adrodd rhain pan oni'n ifanc, fy nhad yn dysgu nhw i mi. |
| (Ping) Gwranda. | |
| (Ping) Gwranda rŵan. | |
| (0, 3) 1118 | Pennillion bythgofiadwy. |
| (Ping) Mae'n bosib i ti roi stop i hyn i gyd — | |
| (Ping) Mae'n bosib i ti roi stop i hyn i gyd — | |
| (0, 3) 1120 | Be di'r pwynt? |
| (0, 3) 1121 | Dachi'n benderfynol i'm lladd. |
| (Ping) Nac ydan. | |
| (Ping) Dyna'r cwbwl dani isio. | |
| (0, 3) 1125 | Iawn. |
| (Ping) Be? | |
| (Ping) Be? | |
| (0, 3) 1127 | Wnai roi'r |hard drive| i chi. |
| (Ping) Diolch i Dduw! | |
| (Ping) O'r diwedd! | |
| (0, 3) 1130 | 'Edifarhau y pechodau mawr'. |
| (Ping) Ia, ia. | |
| (Ping) Lle mae o ta? | |
| (0, 3) 1133 | Datglymwch fi. |
| (Lei) Paid ag ymddiried ynddo fo. | |
| (Ping) Mae'n gweld trwy'r drwg. | |
| (0, 3) 1142 | Diolch. |
| (Ping) Brysia rŵan. | |
| (Ping) Brysia rŵan. | |
| (0, 3) 1144 | Mae o yn fy stafell wely. |
| (Ping) Tyd 'laen 'ta. | |
| (Ping) Ti'm yn meddwl fedrith unrhyw un newid. | |
| (0, 3) 1154 | Sefwch yn ôl! |
| (Ping) Y bastard diegwyddor! | |
| (Ping) Y bastard diegwyddor! | |
| (0, 3) 1157 | Pediwch â symud modfedd. |
| (Ping) Pam? | |
| (Ping) Pam? | |
| (0, 3) 1159 | Dachi'm yn ymwybodol o be dachi'n neud. |
| (0, 3) 1160 | Dachi'n trio distrywio bywyd fy nhad. |
| (0, 3) 1161 | Popeth mae o 'di gweithio tuag at. |
| (0, 3) 1162 | Am be? |
| (Ping) Cyfiawnder. | |
| (Ping) Cyfiawnder. | |
| (0, 3) 1164 | Dialedd! |
| (0, 3) 1165 | Mae ganddo gynlluniau mawr, uchelgeisiol. |
| (0, 3) 1166 | Fydd o'n arweinydd ardderchog ryw ddydd. |
| (0, 3) 1167 | Gwas ffyddlon i'r bobl gyffredin. |
| (Lei) A be am ein cynlluniau ni? | |
| (Lei) Be am y cynlluniau oedd gan Hen Liu ar gyfer ei fab? | |
| (0, 3) 1170 | Be |am| eich cynlluniau chi? |
| (0, 3) 1171 | Be fedrwch chi wneud? |
| (0, 3) 1172 | Lladron diegwyddor. |
| (Dyn Heddlu) {off} Agorwch y drws! | |
| (Dyn Heddlu) Heddlu! | |
| (0, 3) 1177 | 'Os na fedar person ddianc ei ego, fydd o'n gaeth i'r byd dibwys yma'. |
| (0, 3) 1178 | Does dim ond un ffordd i wneud sens o hynna. |
| (Lei) Fedri di ddim, sgyn ti'm y gyts. | |
| (Ping) Paid a gwneud rywbeth gwirion. | |
| (0, 3) 1181 | Mae angen iddo wybod be mae'n teimlo fel i golli rywun mae'n caru. |