| (Ned) Dewch fechgyn, rhaid mynd â'r bywyd-fad mâs. | |
| (Mari) Dyna'r don wedi golchi drosti! | |
| (1, 0) 21 | Nage─mae yn dal i fyny eto. |
| (1, 0) 22 | Wyt ti yn mynd, Dic? |
| (1, 0) 24 | O, 'machgen mawr i! |
| (Dic) Wel, odw, mam! | |
| (1, 0) 36 | Dere 'nol, Nel, mae'n ofnadwy heibio i war y graig─mae eisieu dyn cryf i sefyll yn nannedd y gwynt. |
| (1, 0) 37 | Mae cysgod lled dda fan hyn. |
| (Beti) Ddaw Nel ddim 'nol, os gall fynd i'w gweld rywfodd. | |
| (Nel) Mae'r tonnau'n gynddeiriog, a'r gwynt yn wallgo'─fe fuo i bron â chael fy chwythu i'r môr. | |
| (1, 0) 46 | Odi nhw'n barod? |
| (1, 0) 47 | Mae'r llong bron â mynd i lawr. |
| (1, 0) 48 | Na, mae'n dal i fyny eto. |
| (1, 0) 49 | Dyna |rocket| arall o'r llong. |
| (Nel) Edrychwch, dyna'r bad allan! | |
| (Mari) Lwc dda i'r bechgyn, weda i. | |
| (1, 0) 66 | Maent wedi mynd allan lawer tro o'r blaen, ac wedi gwneuthur gwaith da. |
| (1, 0) 67 | Y nef a'u bendithio! |
| (Nel) Dyna fe yn y dŵr! | |
| (Gwenno) Do, a Dic. | |
| (1, 0) 76 | Pa fad all fyw yn y fath storm? |
| (1, 0) 77 | Mae'r tonnau fel mynyddau! |
| (Mary Jane) Ni ddaw yr un o nhw 'nol. | |
| (Sal) Cwn dy galon, da ti. | |
| (1, 0) 84 | Wn inna ddim beth sy'n bod, ond mae arna i ofn ofnadw' heno. |
| (Sal) {Yn canu yn ddistaw bach, ar y dôn "Melita".} | |
| (Gwenno) {Yn rhedeg i gwrdd â'u mam.} | |
| (1, 0) 106 | Nid wyf yn cofio i'r bad fynd mâs erioed o'r blaen heb fod Sali Wat gyda'r |boys| yn rhoi |push off| iddo. |
| (1, 0) 107 | Aros yn y gwely! |
| (1, 0) 108 | Na, allai hi ddim, er ei bod dros ei phedwar ugain a dwy oddiar Calan Mai. |
| (Mari) Wel, Sali fach, dyma ti wedi dod unwaith eto. | |
| (Sali Wat) Odi'r bad wedi mynd? | |
| (1, 0) 113 | Odi, mae e' draw, bron o'r golwg 'nawr. |
| (1, 0) 114 | Mae'r môr yn arw heno! |
| (Sali Wat) Odi'n wir, ond mae "'Nhad wrth y llyw." | |
| (Bess) Mae Ned Tomos a Wil Bifan mâs yn pysgota oddiar neithiwr. | |
| (1, 0) 125 | Druan o Shwan! |
| (1, 0) 126 | Fe af i siarad â hi. |
| (1, 0) 156 | Ie, bydd yn saith mlynedd wythnos i nos yfory, a noswaith arw iawn oedd hi, a ti oedd y babi glana' welais i erioed, er mod i wedi magu saith mor lân a neb yn y pentre, ond yr oeddet ti, Jenny fach, fel angel o'r nef. |
| (Jenny) "Perl y môr" mae dadi yn fy ngalw i. | |
| (Mari) Na, diolch i'r Arglwydd, yr oedd yna fwy na digon yn barod, ond wyddai y crachod yna ddim o hynny. | |
| (1, 0) 182 | Weli di b'le maent 'nawr, Nel? |
| (1, 0) 183 | B'le mae'r bad, a sut mae ar y llong druan? |
| (Nel) Wn i ddim yn wir, wela i ddim. | |
| (Nel) {Yn sisial ganu, "Tyn am y lan, forwr, tyn am y lan," etc.} | |
| (1, 0) 194 | Na, Nel fach, does yna neb yn canu, ond y gwynt ofnadwy─ti sy'n meddwl eu bod. |
| (Mari) Ow! Ow! | |
| (1, 0) 222 | Welwch chi rywun yn y dŵr? |
| (Sali) Na, ddim yn awr. | |
| (Sal) {Yn cyfeirio â bys.} | |
| (1, 0) 237 | O! druan bach! |
| (Mari) Mae ei nerth yn pallu. | |
| (Sal) Gadewch i fi fynd! | |
| (1, 0) 272 | Na, Sal, cofia am dy blant bach. |
| (1, 0) 273 | Aros di yma. |
| (Sal) Beth os mai Wil ni sydd fan draw ar ei oreu druan bach, yn treio dod 'nol ataf fi a'r plant. | |
| (1, 0) 302 | Peidiwch mentro gormod, da chi, ferched! |
| (Pawb) {Yn galw} | |
| (Gwenno) Mae popeth wedi distewi, ond y storom. | |
| (1, 0) 312 | Fe achubant y dyn─gwnant, 'rwy'n siwr─maent yn llaw Duw. |
| (Tomi Bach) {Yn dod i mewn.} | |
| (Nel) Rhowch y rhaff allan─digon o honi! | |
| (1, 0) 317 | Na, foddant hwy ddim─dal dy afal yn y rhaff, Nel. |
| (1, 0) 318 | Fe arbeda Duw ddwy mor wrol a Mari a Bess. |
| (Gwenno) Alla i wneud dim ond gweddïo a dal ar y rhaff. | |
| (Mary Jane) {Bloedd yn dod.} | |
| (1, 0) 332 | O! diolch i'r nefoedd, maent wedi ei gael. |
| (1, 0) 333 | Mae'r rhaff yn cael ei thynnu! |
| (1, 0) 334 | Dyna'r arwydd ini dynnu i mewn! |
| (1, 0) 335 | Dewch, tynnwch ferched, tynnwch! |
| (Nel) 'Nawr, pawb gyda'i gilydd! | |
| (Tomi) Maent yn dod i'r golwg heibio'r graig fawr, a mae rhywun rhwng y ddwy! | |
| (1, 0) 354 | Tomi, dere yma. |
| (1, 0) 355 | Cer i 'mofyn Dr. Williams, a dere ag e' i dŷ Mari a Bess! |
| (Nel) 'Nawr, chi nad ydych yn tynnu'r rhaff, ewch lawr i'w cwrdd, a chariwch y dyn i'r tŷ agosaf ─tŷ Mari a Bess yw hwnnw! | |
| (Mary Jane) Gwenno, dere i ni fynd i'r tŷ i roi pethau yn barod erbyn daw'r merched 'nol â'r baich dynol! | |
| (1, 0) 360 | Ie, dyna fydd ore, Mary Jane. |
| (Gwenno) Dyma fi yn mynd, mam. | |
| (Gwenno) Shan, gofala am mam, wnei di, a dere a hi lan tua'r tŷ ar ol i'r merched ddod 'nol, da ti? | |
| (1, 0) 363 | O'r gore, cer di, Gwenno fach. |
| (Nel) {Yn galw ar ei hol.} | |
| (Sali Wat) {Pawb arall wedi mynd allan.} | |
| (1, 0) 389 | Cadw dy afael yn y rhaff, Sali, a fe awn ar ol y lleill. |
| (1, 0) 390 | Dyna nhw wedi dod i'r lan! |
| (1, 0) 391 | Glyw di y gwaeddi! |
| (Sal) Ewch ag ef i dŷ Mari. | |
| (Beti) Yn dwyn Ei waith i ben." | |
| (1, 0) 407 | Ie'n wir. |
| (Pegi) {Yn dod 'nol.} | |
| (Mari) Dyna'i cadwodd e' i'r lan neu fe fuasai wedi boddi. | |
| (1, 0) 413 | Cer tua thre, Mari, a thithau, Bess, i newid eich dillad a chael rhywbeth twym. |
| (1, 0) 414 | Cerwch chwaff, nawr! |
| (Jenny) {Yn cydio yn llaw BESS ac hefyd yn un MARI.} | |
| (Sali Wat) Mae'n |shawl| i gyda Bess. | |
| (1, 0) 427 | Yr oedd yn rhaid i dy fam gael rhoi ei |shawl| i Mari─ni wnai |shawl| neb arall y tro. |
| (Gwenno) {Yn mynd ar ol BESS a MARI.} | |
| (1, 0) 432 | Sut mae eich dynion chi? |
| (1, 0) 433 | Yr ydym i gyd wedi anghofio am bawb, ond am Bess a Mari. |
| (Pegi) O, nid ydynt damaid gwaeth; maent wedi newid 'nawr, ac yn cael tamaid o fwyd. | |
| (Jenny) {Yn rhedeg allan.} | |
| (1, 0) 443 | I feddwl mai eu hunig frawd a achubwyd ganddynt! |
| (Sali Wat) Mae yna galonnau trwm mewn llawer man heno─faint oedd yn y llong, tybed? | |
| (Sali Wat) Mae yma destun diolch fod ein gweddïau ni wedi eu hateb, a'r bechgyn wedi eu harbed i gyd. | |
| (1, 0) 446 | Dere adre, Sali. |
| (1, 0) 447 | Bydd cof am heno mewn oesau i ddod, a bydd merched Cymru mewn canrifoedd yn darllen am ferched y Mwmbwls, fel oeddent yn barod pan ddaeth yr alwad i wneud gorchest fawr. |
| (Sali Wat) Ie, fyddwn ni ddim yma yn hir eto. | |
| (Sali Wat) Bendigedig! | |
| (1, 0) 452 | Ie'n wir. |
| (1, 0) 453 | Dere, mae pawb wedi mynd. |
| (1, 0) 454 | Isht! |
| (1, 0) 455 | Dyna ganu! |
| (1, 0) 456 | Mae Capten Jones a'r bechgyn i gyd o flaen y tŷ yn canu. |
| (1, 0) 457 | Clyw! |
| (1, 0) 458 | Dere i ni fynd lan yna. |