| (Sioni) Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un. | |
| (John) Dyna fel ma'r arian yn mynd, coste, coste, o hyd. | |
| (1, 0) 47 | Llai o sŵn, John; ma tafod ti rhy hir. |
| (1, 0) 48 | Cerwch mlân, Jenkins. |
| (Ffeirad) "Penderfynwyd rhoi to newydd ar yr Eglwys o lechau Carnarfon, ac fod Mr. | |
| (Ffeirad) Penderfynwyd fod Nansi Jac Potcher i ddod o flaen y Festri heno." | |
| (1, 0) 54 | Very good, very good. |
| (1, 0) 55 | A fi'n cynnyg 'nawr, Mr. Chairman, fod ni'n câl report John a Dafi am y ffordd. |
| (1, 0) 56 | Well i ti, Dafi, siarad, mi fydd John ding-dong, ding-dong drw'r nos yn gweyd 'i stori, a ma ladi yn disgwyl fi catre i cinio. |
| (Ffeirad) Eitha reit, Mr. Williams. | |
| (Dafydd) Ma John a finne o'r farn unfrydol mai dyna'r ffordd rata, a dyna'r prif beth wedi'r cwbwl. | |
| (1, 0) 64 | Very good, Dafydd, a chi'n gweyd y gwir bob gair. |
| (1, 0) 65 | Rown i ar cefen y cel glâs mas yn hela, ac wrth croesi yr hen ffordd y jafol 'na mi a'th troed y cel bach i hen twll, a finne tros i ben e' i'r mwt, nes o'dd cot fi'n plastar, ac wedi spwylo altogether. |
| (1, 0) 67 | Helo, Siaci Felin, be sy arnat ti, gwêd? |
| (Siaci) O, mishtir bach, rwy' wedi gweld pethe rhyfedd heno. | |
| (Siaci) Alle nhw ddim bod yn mynd i'r Felin, waeth chroesa nhw ddim dŵr, fel y gwyddoch. | |
| (1, 0) 77 | A fi'n synnu atat ti, Siaci, yn dod 'ma i weyd hen stori baganaidd fel 'na. |
| (1, 0) 78 | Pam na chi, Jenkins, Ffeirad, peidio pregethu yn erbyn hen trash fel'na? |
| (1, 0) 79 | Cŵn bendith y mamau, wir, digon tebyg mai haid o llygod ffrenig welest ti, ar 'i ffordd i whilio ydlan newy'. |
| (1, 0) 80 | Os o'nhw'n mynd i'r Plâs, mi ro'i y cipar, a'r fferets, a'r tarriers ar 'u hol nhw, a mi 'na i |short work| o'r scamps. |
| (Ffeirad) You must understand, Mr. Williams, that these country people live very close to nature and its mysteries, which are closely allied to the supernatural. | |
| (Ffeirad) Than are dreamt of in your philosophy." | |
| (1, 0) 86 | Jolly rot, I say. |
| (1, 0) 87 | You are paid to knock this nonsense out of them, and see that you do it. |
| (Ffeirad) Rhaid mynd ymlaen â'r fusnes ar ol y digression yna. | |
| (Nansi) Ond 'dyw Jac ddim wedi bod yn potchan eriod, nag yw, wirione i. | |
| (1, 0) 106 | O'dd Jac ddim yn potcher, Nansi, a'r bobol yn gweyd celwy ie. |
| (1, 0) 107 | Wen i wedi specto 'rhen Jac os llawer dy' a fi a'r cipar yn 'i watcho fe, y scamp, a d'odd dim ishe gwell evidens na ges i. |
| (1, 0) 108 | A fi yn paso tŷ ti, Nansi, un diwarnod, a 'ma fi yn dachre smelo, smelo. |
| (1, 0) 109 | Ma cawl gweningen yn tŷ Nansi, medde fi. |
| (Nansi) Cawl gweningen, syr, phrofes i ddim cawl gweningen yn 'y mywyd. | |
| (Nansi) Ie, wirione fach annwl. | |
| (1, 0) 113 | Paid ti bod mor smart, Nansi. |
| (1, 0) 114 | Ro'dd Carlo bach gyda fi, a ma' Carlo bach yn dachre smelo, a 'ma fe yn mynd miwn i gardd ti, Nansi, a 'ma fe'n dod 'nol â asgwrn gweningen yn 'i ben e'. |
| (1, 0) 115 | A ma fe'n sefyll o mlan i ac yn edrych arna i, ac fel yn gweyd, Mistir, ma' fi wedi dala Jac Potcher o'r diwedd. |
| (1, 0) 116 | Ie, Nansi, hen dyn drwg yw Jac, a hen potcher mowr hefyd, a fi'n falch fod e' yn y jâl. |
| (Nansi) O, syr, peidiwch bod mor galon galed; ma'r plant a finne heb fwyd yn y tŷ, ac heb dân ar y tywydd oer 'ma. | |
| (Dafi) Mi ellwch ddychrynu Nansi Jac Potcher a ffermwyrs Llansilio, ond mae Dafi'r teiliwr yn golygu bod yn ddyn rhydd, ac yn golygu pregethu rhyddid hefyd. | |
| (1, 0) 131 | Dyma hi o'r diwedd. |
| (1, 0) 132 | A fi a nhad a nhacu wedi tendo Festri Llansilio am ugeine o flynydde, a dyma fi, Scweier y plwy, yn gorffod grondo ar insults fel hyn 'da hen teilwr. |
| (1, 0) 133 | Dyma be sy'n bod, Jenkins, Ffeirad, o câl hen deilwr i ddod i cymysgu â ffarmwyrs respectablyn y Festri. |
| (1, 0) 134 | A fi dim yn aros rhagor, a fi'n mynd catre at y ladi, a cofia di, Dafi teilwr, cei di dim gwinio stitch mwy i'r Plâs, a ma ishe dillad newy' ar y cotchman a'r bwtler 'nawr. |
| (1, 0) 135 | A fi'n mynd. |
| (Ffeirad) Dear me, Mr. Williams, rhaid i chi basio heibio i Dafi. | |
| (Ffeirad) Come, Mr. Williams, sit down. | |
| (1, 0) 142 | Na, na, 'ma fi'n mynd. |
| (Dafydd) Mi shifftith â'r ddou leia wedyn gyda thipyn o help cymdogion. | |
| (1, 0) 158 | Dyma hi o'r diwedd. |
| (1, 0) 159 | Mae'r byd ar ben; mae'r byd ar ben! |
| (1, 0) 160 | Twm Cotchman, dere mlaen, tyn dy hat lawr, a gwêd wrth y Festri be' sy wedi hapno mewn plwy respectabl fel Llansilio. |
| (1, 0) 161 | Tyn dy hat lawr a paid sefyll fel post fan 'na. |
| (1, 0) 162 | Gwêd dy stori. |
| (Tomos) Ma'r si ar lêd, syr, fod Beca a'i merched ar garlam wyllt drwy y gymdogaeth. | |
| (Dafi) Hwre, bendigedig! | |
| (1, 0) 165 | Dyna result dy hen tafod ti, Dafi teilwr, a fi'n gweyd yn blaen os clywa i fod un o tenants y Plâs yn y busnes hyn, "Notis to quit" fydd hi at once. |
| (1, 0) 166 | Cer ymlaen â dy stori, Twm, yn lle sefyll fel mwlsin fan 'na. |
| (Tomos) 'Rodd y cipar a finne yn câl bob o beint yn Tafarn Spite heno, pan ddaeth gwas Hafod Isa miwn gan waeddi yn wyllt tros y lle fod Beca a'i merched ar gefen ceffyle ar garlam wyllt drwy y lle, eu bod nhw wedi torri gât New Inn, ac eu bod ar eu ffordd i dorri gât Drefach; eu bod wedi gyrru i dŷ Salmon y Cybydd a'i dynnu o'i wely, a bwgwth llosgi ei helem wenith os na addewai roi help i bobol dlawd y plwy. | |
| (Tomos) Yna fe aethant— | |
| (1, 0) 172 | Dyna ddigon, dyna ddigon, mae'r byd ar ben. |
| (1, 0) 173 | Mi fyddan yn dod i'r Plas nesa a hala ofn ar ladi, a llosgi y tai, a lladd y pheasants a'r gweningod, ond mi hala i yn straight at y Government i gal y soldiers lawr, a mi nawn cwnstebli newy'. |
| (1, 0) 174 | A cofia di, Dafi teilwr, os clwa i dy fod ti yn torri y cyfreth mi cei di summons yn y fan. |
| (1, 0) 175 | Mi dy ddysga i di i weyd hwre am fod Beca a'r set 'na yn gneud drwg. |
| (1, 0) 176 | Ac os cei di dau neu dri diwarnod yn y stocs, falle na fydd dy hen dafod ti mor hir. |
| (1, 0) 177 | Dere, Twm, rhaid i fi alw y justices at i gily' i neud cwnstebli. |