| (1, 0) 6 | Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod? |
| (1, 0) 7 | Wyt ti wedi colli dy ben, dywed? |
| (Rolant) {Yn dal i chwerthin.} | |
| (Rolant) Y llyfr 'ma, Sara, mae o'n ddigon â gwneud i'r marw chwerthin. | |
| (1, 0) 12 | Pa lyfr, 'neno'r dyn? |
| (Rolant) "Seren tan Gwmwl". | |
| (Rolant) "Seren tan Gwmwl". | |
| (1, 0) 14 | O, yr hen Jac Glan-y-Gors 'na! |
| (1, 0) 15 | 'R wyt ti wedi meddwi'n lân ar y cr'adur. |
| (Rolant) Dim syndod. | |
| (Rolant) 'D oes yr un llyfr mwy doniol yn bod. | |
| (1, 0) 18 | Doniol? |
| (1, 0) 19 | Sych iawn 'r oeddwn i'n ei weld o. |
| (1, 0) 20 | Lladd ar y byddigions a deud y drefn am yr offeiriaid a'r Eglwys. |
| (Rolant) Wel ie, diolch bod rhywun yn... | |
| (Rolant) Wel ie, diolch bod rhywun yn... | |
| (1, 0) 22 | A brolio pobol Ffrainc am dorri pen y brenin a'i roi mewn basged. |
| (Rolant) Ie, Sara, ond wrth gwrs... | |
| (Rolant) Ie, Sara, ond wrth gwrs... | |
| (1, 0) 24 | Bobol bach! |
| (1, 0) 25 | A 'r wyt ti'n galw peth felly yn ddoniol? |
| (Rolant) Ydw. | |
| (Rolant) Er mai gwir neges y llyfr ydi dangos bod Seren Rhyddid a Chyfiawnder dan gwmwl yn yr hen wlad 'ma. | |
| (1, 0) 28 | A rhoi'r bai am hynny ar y byddigions. |
| (Rolant) {Yn cynhesu i'r hoff destun.} | |
| (1, 0) 33 | Ond Rolant, mae o'n bechod anfaddeuol cwyno yn erbyn trefn yr Hollalluog... |
| (Rolant) {Yn wawdlyd.} | |
| (Rolant) Trefn yr Hollalluog, yn wir! | |
| (1, 0) 36 | Ein dyletswydd ni ydi plygu. |
| (Rolant) I drefn yr esgobion a'r bobol fawr? | |
| (Rolant) Darllen di waith Jac yn ymosod ar y tacle. | |
| (1, 0) 40 | Paid â rhyfygu, Rolant! |
| (Rolant) {Yn dal ati.} | |
| (Rolant) Ma'r cnafon yn ddigon dig'wilydd i gymryd arian y bobol, ond heb ddeall un gair o'u hiaith nhw! | |
| (1, 0) 43 | Mae Mr. Foster, ein person |ni|, yn gallu siarad Cymraeg. |
| (Rolant) {Yn sbeitlyd braidd.} | |
| (Rolant) Ydi, rhaid cyfaddef fod mei lord Hugh Foster yn ymostwng cymaint â hynny i'n plesio ni. | |
| (1, 0) 46 | Nid peth gweddus o gwbl ydi gwneud sbort o weision y Brenin Mawr. |
| (Rolant) {Yn wawdlyd eto.} | |
| (Rolant) Hy! Gweision i frenin yn nes atom o beth wmbredd ydi'r tacle! | |
| (1, 0) 49 | Rhag cywilydd iti, Rolant! |
| (Rolant) Mae Jac yn ei le, Sara. | |
| (Rolant) Chwarae teg iddo am brotestio yn erbyn gorthrwm y Llywodraeth, y trethi di-ddiwedd, a'r degwm. | |
| (1, 0) 53 | 'D ydw i ddim yn cydweld â'r cr'adur, beth bynnag. |
| (1, 0) 54 | Mae o'n fachgen digon teidi, am wn i, er na weles i mohono ers plwc byd. |
| (Rolant) Sut y mae hi arno fo tua Llundain 'na tybed? | |
| (Rolant) Sut y mae hi arno fo tua Llundain 'na tybed? | |
| (1, 0) 56 | Mae'n rhaid iddo fo fihafio'i hun mewn lle felly, a'r brenin mor agos. |
| (Rolant) {Yn chwerthin.} | |
| (Rolant) Ond 'synnwn i flewyn na chaiff o'i erlid am sgrifennu'r |Seren|. | |
| (1, 0) 61 | Rhyngddo fo â'i botes! |
| (1, 0) 62 | Ond paid |ti| â brygawtha' gormod... rhag ofn... |
| (Rolant) Rhaid imi ddatgan fy marn. | |
| (Rolant) Rhaid imi ddatgan fy marn. | |
| (1, 0) 64 | Wel, rhaid... ond... {yn torri'r ddadl.} |
| (1, 0) 65 | Bobol bach! |
| (1, 0) 66 | Be' ydi rhyw gyboli fel hyn a minne â llond y byd o waith trwsio... {yn cydio yn rhai o'r dillad.} |
| (1, 0) 67 | 'R ydw i wedi addo dilledyn neu ddau i'r hen Feti Ifans, druan. |
| (1, 0) 68 | Mae'n bur gyfyng arni, y gre'dures. |
| (Rolant) Ac nid yr unig un o lawer. | |
| (Rolant) 'R wyt ti'n helpu cryn dipyn arni, Sara, chwarae teg iti. | |
| (1, 0) 71 | Mae'n rhaid i rywun swcro'r hen chwaer. |
| (1, 0) 72 | 'S gwn i os oes ar Ifor eisie'r crys 'ma yn o fuan? |
| (1, 0) 73 | Lle mae o, Rolant? |
| (Rolant) Yn y llofft, am wn i, yn pincio fel arfer. | |
| (Rolant) 'D ydi o'n meddwl am ddim arall. | |
| (1, 0) 76 | Caru ma'r bachgen, 'neno'r dyn. |
| (Rolant) 'D oedd dim rhyw hen ffal-diral fel hyn pan oeddwn i wrthi erstalwm... | |
| (Rolant) 'D oedd dim rhyw hen ffal-diral fel hyn pan oeddwn i wrthi erstalwm... | |
| (1, 0) 78 | Rhaid i Ifor symud efo'r oes, weldi. |
| (1, 0) 79 | A chofia bod Janet yn |lady|. |
| (Rolant) Ydi, ond twt lol, wn i ddim be' ddaw o blant yr oes yma... | |
| (1, 0) 82 | Ifor! Ifor! |
| (Ifor) {O bell.} | |
| (Ifor) Be' sy'n bod? | |
| (1, 0) 85 | 'Ddoi di 'lawr am funud, 'nghariad i? |
| (1, 0) 87 | Be' aflwydd ydech chi'r dynion yn 'i wneud â'ch dillad, deudwch? |
| (1, 0) 88 | Ma' nhw'n garpie gwyllt. |
| (1, 0) 89 | Edrych ar y pâr 'sane 'ma... yn dylle mân ulw botes. |
| (1, 0) 90 | 'Dase ti'n gorfod trwsio dy 'sane dy hun... |
| (Ifor) {Yn ddreng.} | |
| (Ifor) Rhywbeth ar goll beunydd. | |
| (1, 0) 100 | O Ifor, 'oes gen ti eisie'r crys 'ma yn fuan? |
| (1, 0) 101 | Mae rhyw 'chydig o waith trwsio arno. |
| (Ifor) Fy nghrys gorau? | |
| (Rolant) Yn bur wahanol i'w thad. | |
| (1, 0) 113 | Da thi, Rolant, rho'r gore iddi... |
| (Ifor) Mae Mr. Foster yn ddyn o gymeriad... | |
| (Rolant) Hi ddyle fod yn offeiriad plwy', ac nid Hugh Foster. | |
| (1, 0) 121 | Rolant, 'r wyt ti'n rhyfygu! |
| (1, 0) 122 | Cofia 'i fod o'n un o weision yr Hollalluog. |
| (Rolant) Dyna hi eto! | |
| (Ifor) Be' dase'r Ffrancod yn landio? | |
| (1, 0) 128 | Gwarchod ni, ie! |
| (1, 0) 129 | A thorri'n penne ni, bodyg-un! |
| (Ifor) 'R yden ni'n ymladd dros egwyddorion Cristnogaeth, a'n ffordd ni o fyw. | |
| (Rolant) "Yn erbyn yr Anghrist", yn wir! | |
| (1, 0) 141 | Ond Rolant, os ydi Ifor bach yn meddwl fel yna, mae ganddo fo berffaith hawl i... |
| (Rolant) Meddwl? | |
| (1, 0) 180 | Rolant, dyna ddigon. |
| (Rolant) {Yn dal ati.} | |
| (Rolant) 'Daswn i'n gwybod dy fod ti'n galw Jac yn fradwr o argyhoeddiad, mi fedrwn faddau iti, ond cymryd gair y person... | |
| (1, 0) 183 | Gad lonydd i'r bachgen, da thi. |
| (Rolant) Lle aflwydd ma' dy asgwrn cefn di, dywed? | |
| (Rolant) Diodde' pob anghyfiawnder a thrais heb brotest yn y byd! | |
| (1, 0) 190 | Ifor bach, mi gei di'r crys erbyn yfory... |
| (Ifor) {Yn swta, heb gymaint â diolch.} | |
| (Ifor) {Yn mynd allan gan roì clec ar 'y drws, a chwerthin yn sbeitlyd.} | |
| (1, 0) 201 | O, 'machgen bach annwyl i! |
| (1, 0) 202 | 'R wyt ti wedi dweud pethe reit cas wrtho fo, Rolant. |
| (Rolant) Dim ond y gwir. | |
| (Rolant) Dim ond y gwir. | |
| (1, 0) 204 | Mae Ifor yn iawn yn y bôn. |
| (Rolant) {Yn bendant.} | |
| (1, 0) 208 | Paid â dweud 'i fod o yn... |
| (Rolant) Mae gen i ofn mai fel hyn y bydd o weddill i oes, yn greadur dof, di-asgwrn-cefn, sbeitlyd, anniolchgar.... | |
| (Rolant) Mae gen i ofn mai fel hyn y bydd o weddill i oes, yn greadur dof, di-asgwrn-cefn, sbeitlyd, anniolchgar.... | |
| (1, 0) 210 | Ond mi fydd yn well ar ôl priodi Janet. |
| (Rolant) {Yn chwerthin.} | |
| (1, 0) 214 | Ma'n teulu ni gystal â theulu Mr. Foster, be' siŵr iawn ydi o! |
| (Rolant) 'Sgwn i pam y ma'r cradur hwnnw eisiau fy ngweld heno? | |
| (Rolant) 'Sgwn i pam y ma'r cradur hwnnw eisiau fy ngweld heno? | |
| (1, 0) 216 | I sôn am Ifor a Janet, mae'n amlwg. |
| (Rolant) Na, rhywbeth llawer mwy pwysig na hynny! | |
| (Rolant) Na, rhywbeth llawer mwy pwysig na hynny! | |
| (1, 0) 218 | 'Fydde hi ddim yn well iti dacluso mymryn arnat dy hun cyn iddo ddod? |
| (Rolant) {Yn wawdlyd.} | |
| (1, 0) 228 | Bobol bach! |
| (1, 0) 229 | Yr holl lanast 'ma! |
| (1, 0) 231 | Y Person, o bawb! |
| (1, 0) 232 | Wn i ddim be' fydd o'n ei feddwl ohono'i! |
| (Foster) Fe garwn gael gair â chwi, Mr. Huw, os gwelwch yn dda. | |
| (1, 0) 242 | Mae hi'n hwyro'n braf. |
| (Foster) Ydyw. | |
| (Foster) Ydyw. | |
| (1, 0) 244 | M... mae hi'n gynhesach nag arfer yr adeg yma o'r flwyddyn. |
| (Foster) {Heb fawr o ddiddordeb.} | |
| (1, 0) 248 | Flwyddyn yn ôl, 'r oedd hi'n oerach o gryn dipyn. |
| (Foster) {Ym sych.} | |
| (1, 0) 255 | O, Mr. Foster! |
| (Rolant) Ewch ymlaen. | |
| (1, 0) 276 | Rolant, paid â d' anghofio dy hun! |
| (Foster) Fe'ch clywais yn datgan un tro eich bod yn ddyn crefyddol. | |
| (1, 0) 293 | O, 'machgen bach dewr i! |
| (Rolant) {Yn bendant iawn.} | |
| (1, 0) 311 | Rolant bach, cymer ofal...! |
| (Rolant) {Yn dal ati.} | |
| (Rolant) Yn nes at yr Efengyl na'r eiddo chwi! | |
| (1, 0) 333 | Rolant bach, paid â rhyfygu! |
| (Foster) {Fel o'r blaen.} | |
| (1, 0) 344 | Rolant, cymer ofal... |
| (Foster) {Yn codi.} | |
| (1, 0) 357 | O, rhag dy g'wilydd, Rolant, yn colli dy dymer! |
| (1, 0) 358 | Dyna ti wedi andwyo popeth. |
| (Rolant) Pam, 'neno'r dyn? | |
| (Rolant) Pam, 'neno'r dyn? | |
| (1, 0) 360 | Ifor a Janet. |
| (Rolant) A dyna'r cwbl sy'n dy boeni di? | |
| (Rolant) Mae llawer mwy yn y fantol na helynt Ifor a Janet, coelia di fi. | |
| (1, 0) 364 | Ond amdanyn' nhw yr ydw i'n meddwl. |
| (Rolant) Digon posibl. | |
| (Rolant) Ma' Janet yn llawer rhy dda i fod yn ferch i'r hen Foster. | |
| (1, 0) 367 | Mae o'n ddyn caled, wrth gwrs. |
| (1, 0) 368 | Ond ma nhw'n deud y gall Janet ei droi a'i drosi fel y mynno. |
| (1, 0) 369 | Cannwyll 'i lygad o. |
| (Rolant) Diolch bod rhywun yn gallu meddalu mymryn arno. | |
| (Rolant) Mae o'n eitha' cydwybodol, yn ymddwyn yn ôl ei argyhoeddiad... | |
| (1, 0) 373 | Ond yn elyn iti byth ar ôl heno! |
| (Rolant) Dichon 'i fod o. | |
| (Rolant) Eto, 'synnwn i ddim nad ydi o yn ddistaw bach yn fy mharchu am ddal fy nhir. | |
| (1, 0) 376 | Gobeithio'r annwyl! |
| (1, 0) 377 | 'R wyt ti wedi mynd â dy ben i dy botes heno, Rolant. |
| (1, 0) 378 | Gofala fod 'chydig yn gallach o hyn ymlaen, ne' yn y carchar yn Rhuthun y byddwn ni, gei di weld! |
| (Rolant) Ond mae'n rhaid imi sefyll... | |
| (Rolant) Ond mae'n rhaid imi sefyll... | |
| (1, 0) 380 | Mi gei sefyll faint 'fynni di, ond iti gofio'r hen air... |
| (1, 0) 381 | "Os na bydd gryf..." |
| (Rolant) Mi gawn weld... | |
| (Rolant) Gresyn 'mod i wedi colli fy nhymer, hefyd. | |
| (1, 0) 389 | 'R ydw i'n mynd â'r ychydig bethe 'ma i'r hen Feti, druan. |
| (1, 0) 390 | Mae'n ddrwg gen' i drosti. |
| (Rolant) Y gre'dures! | |
| (Rolant) Pam aflwydd y ma'r Person yna mor ddall! | |
| (1, 0) 396 | Da thi, eistedd i lawr, a cheisia anghofio popeth amdano fo a dy hen Jac Glan-y-Gors! |
| (1, 0) 397 | Darllen rywbeth arall, 'neno'r dyn... |
| (Rolant) O wel... | |
| (1, 0) 401 | Mi bicia'i allan yrŵan, Rolant. |
| (1, 0) 402 | 'Fydda' i fawr o dro, os na fydd yr hen Feti'n waeth. |
| (Rolant) {Yn sibrwd.} | |
| (1, 0) 764 | Yr hen Feti, druan! |
| (1, 0) 765 | Mae hi ar ben arni... |
| (1, 0) 767 | Helo, pwy ydi'r dyn diarth 'ma? |
| (Rolant) {Yn bur ffwndrus.} | |
| (Ifor) Dyn y mae llawer o sôn amdano y dyddiau hyn. | |
| (1, 0) 778 | Wel, 'da i byth o'r fan'ma! |
| (1, 0) 779 | Jac Glan-y-Gors! |
| (1, 0) 780 | Ond be'ar y ddaear... |
| (Rolant) Mae Jac ar ymweliad â'r pentref, ac wedi galw... | |
| (Ifor) Ie, clywsom stori yn y pentref eich bod wedi cyrraedd Cymru. | |
| (1, 0) 786 | Dyn a helpo di, Jac! |
| (1, 0) 787 | Ond mi gadwn ni chwarae teg iti yma. |
| (Rolant) Na, mae'n rhaid i Jac fynd ar unwaith. | |
| (Rolant) Na, mae'n rhaid i Jac fynd ar unwaith. | |
| (1, 0) 789 | 'Rheswm annwyl, mor fuan â hynny? |
| (Ifor) {Yn wên i gyd.} | |
| (Jac) Rolant Huw, 'r ydw i'n adnabod y sŵn curo yna yn rhy dda! | |
| (1, 0) 813 | Y Brenin! |
| (1, 0) 814 | Bobol bach, be' wnawn ni, deudwch? |
| (Jac) {Yn hollol ddi-gyffro.} | |
| (1, 0) 876 | Rolant bach, paid â theimlo fel yna... |
| (Foster) {Mor galed ag erioed.} | |
| (Rolant) 'D oes arna'i byth eisiau ei weld eto! | |
| (1, 0) 940 | Rolant, paid da thi... |
| (Ifor) {Wrth y drws canol.} | |
| (1, 0) 947 | Ifor... 'y 'machgen annwyl i... |