| (Ned) Dewch fechgyn, rhaid mynd â'r bywyd-fad mâs. | |
| (Mary Jane) Dyma fi'n mynd lawr yn nês at y dŵr. | |
| (1, 0) 55 | Mae yna ddigon yn barod. |
| (1, 0) 56 | Arhoswch fan hyn, ferched. |
| (Bess) Mae'r llong yna yn soddi. | |
| (Mary Jane) {Yn dechreu crio.} | |
| (1, 0) 81 | Taw sôn, Mary Jane, â dy gleber. |
| (1, 0) 82 | Mae'r bad wedi mynd mâs ddwseni o weithiau, ac wedi bod mewn llawer storm cynddrwg a heno, a phawb wedi dod 'nol yn ddiogel. |
| (1, 0) 83 | Cwn dy galon, da ti. |
| (Shan) Wn inna ddim beth sy'n bod, ond mae arna i ofn ofnadw' heno. | |
| (1, 0) 86 | ~ |
| (1, 0) 87 | "Tydi fu gynt, Anfeidrol Iôr, |
| (1, 0) 88 | Yn cau anesmwyth donnau'r môr, |
| (1, 0) 89 | Gan erchi i'r dyfnder llydan, maith |
| (1, 0) 90 | Aros yn ei derfynau llaith. |
| (1, 0) 91 | O! clyw ein cri dros rai, ein Iôr, |
| (1, 0) 92 | Sydd mewn enbydrwydd ar y môr." |
| (Nel) Welwch chi'r bad? | |
| (Beti) Faint sydd ynddi, tybed? | |
| (1, 0) 135 | Wn i yn y byd. |
| (1, 0) 136 | Mae'n edrych yn llong lled fawr. |
| (1, 0) 137 | O b'le mae'n dod? |
| (1, 0) 138 | Mae rhyw wragedd bach yn rhywle mewn pryder mawr heno ynghylch y rhai sydd fan draw yn disgwyl y bad i ddod. |
| (Beti) Tybed a all y bad eu cyrraedd ar noson mor arw? | |
| (Jenny) Yr oedd e'n dweyd neithiwr, mae dim ond un tro eto oedd eisieu, iddo gael |Jiwbili|. | |
| (1, 0) 153 | Hanner cant o weithia yw heno, felly. |
| (Jenny) Ie, ac 'roedd mami yn dweyd fod bron saith mlynedd er pan daeth dadi a fi yn ol yn ei freichiau pan aeth y llong i lawr, ac y boddwyd pawb, ond myfi, a Jaci y morwr. | |
| (Jenny) {Yn rhedeg allan heibio'r graig.} | |
| (1, 0) 164 | Dyna'r trysor gore gafodd Capten Jones neu unrhyw un arall o'r môr. |
| (1, 0) 165 | Dewch yn nês i gysgod y graig, ferched, mae hi'n dechre bwrw glaw eto, a mae'r gwynt yn ofnadwy. |
| (Beti) Edrych, Sal, dyna ragor wedi dod. | |
| (Beti) O! Lisa Jones, a Dai Jones, a Tim Ned sydd yna. | |
| (1, 0) 170 | Ie, dau dda ydynt hwy. |
| (1, 0) 171 | Wfft shwd ddynion! |
| (1, 0) 172 | 'Nawr maent yn dod, ar ol i'r bad fynd mâs. |
| (Mari) A dyma Sam Caleb yn mynd atynt 'nawr. | |
| (Beti) O 'mhlant bach i─a ddaw eich tad 'nol? | |
| (1, 0) 186 | Dere fan hyn, Beti, i ni weddïo ar i Dduw eu cadw, a'u dwyn yn ol. |
| (Nel) {Yn rhedeg yn nês at y dŵr.} | |
| (1, 0) 210 | Isht! clywch hwy'n gwaeddi! |
| (1, 0) 211 | Dyna'r bad wedi troi! |
| (1, 0) 212 | Maent i gyd yn y dŵr! |
| (1, 0) 213 | Mae ar ben ar y bad! |
| (1, 0) 214 | Beth allwn ni wneud? |
| (1, 0) 215 | Rhywun! |
| (1, 0) 216 | Rhywbeth! |
| (Mari) O, dyna'r bad wedi mynd yn ganddryll ar y creigiau. | |
| (1, 0) 235 | O! mae rhywun yn y dŵr─draw fan yna. |
| (Bess) Rhaid ei achub e'. | |
| (1, 0) 260 | Ydych chi'n galw'ch hunain yn ddynion! |
| (1, 0) 261 | Na, babis ydych eich tri! |
| (1, 0) 262 | Rhag cywilydd i chi! |
| (1, 0) 263 | Ach-a-fi! |
| (Bess) {Yn troi ei dillad am ei chanol.} | |
| (1, 0) 271 | Gadewch i fi fynd! |
| (Shan) Na, Sal, cofia am dy blant bach. | |
| (Shan) Aros di yma. | |
| (1, 0) 274 | Beth os mai Wil ni sydd fan draw ar ei oreu druan bach, yn treio dod 'nol ataf fi a'r plant. |
| (Nel) Clymwch hwynt i gyd gyda'i gilydd. | |
| (Mari) 'Nawr am fy nghanol i. | |
| (1, 0) 284 | Weli di e' 'nawr, Bess? |
| (Bess) Gwelaf, mae'n cadw 'mlaen, ond mae'n galed arno, druan bach! | |
| (Gwenno) Alla i wneud dim ond gweddïo a dal ar y rhaff. | |
| (1, 0) 320 | Faint mwy wyt ti am wneud? |
| (1, 0) 321 | Dyna i gyd mae'r Brenin Mawr am i ni wneud─gweddïo a gweithio. |
| (1, 0) 322 | Dal dy afal yn y Dwyfol, ond paid ag anghofio y rhaff ddynol sydd yn dy law. |
| (Nel) Isht! | |
| (Gwenno) Fe wnawn bopeth yn barod, a chwpanaid o dê berw. | |
| (1, 0) 371 | Tynnwch i gyd! |
| (1, 0) 372 | Dewch! dewch! |
| (1, 0) 373 | Dyna nhw ar y traeth! |
| (1, 0) 374 | Mae'r rhaff yn |slack|. |
| (1, 0) 375 | Tyn y clwm hyn yn rhydd, Nel, i fi gael rhedeg i'w cwrdd. |
| (1, 0) 377 | O! dyna Nel wedi mynd. |
| (1, 0) 378 | Torrwch y clwm, wnewch chi─rhywun, dyma fi yn mynd. |
| (Shan) Glyw di y gwaeddi! | |
| (1, 0) 398 | Ewch ag ef i dŷ Mari. |
| (1, 0) 399 | Mae popeth yn barod. |