| (Sara) Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod? | |
| (1, 0) 11 | Y llyfr 'ma, Sara, mae o'n ddigon â gwneud i'r marw chwerthin. |
| (Sara) Pa lyfr, 'neno'r dyn? | |
| (Sara) Pa lyfr, 'neno'r dyn? | |
| (1, 0) 13 | "Seren tan Gwmwl". |
| (Sara) O, yr hen Jac Glan-y-Gors 'na! | |
| (Sara) 'R wyt ti wedi meddwi'n lân ar y cr'adur. | |
| (1, 0) 16 | Dim syndod. |
| (1, 0) 17 | 'D oes yr un llyfr mwy doniol yn bod. |
| (Sara) Doniol? | |
| (Sara) Lladd ar y byddigions a deud y drefn am yr offeiriaid a'r Eglwys. | |
| (1, 0) 21 | Wel ie, diolch bod rhywun yn... |
| (Sara) A brolio pobol Ffrainc am dorri pen y brenin a'i roi mewn basged. | |
| (Sara) A brolio pobol Ffrainc am dorri pen y brenin a'i roi mewn basged. | |
| (1, 0) 23 | Ie, Sara, ond wrth gwrs... |
| (Sara) Bobol bach! | |
| (Sara) A 'r wyt ti'n galw peth felly yn ddoniol? | |
| (1, 0) 26 | Ydw. |
| (1, 0) 27 | Er mai gwir neges y llyfr ydi dangos bod Seren Rhyddid a Chyfiawnder dan gwmwl yn yr hen wlad 'ma. |
| (Sara) A rhoi'r bai am hynny ar y byddigions. | |
| (1, 0) 30 | Y nhw sy'n cyfrifol... y brenhinoedd, yr esgobion a'r arglwyddi. |
| (1, 0) 31 | Cymer di'r ardal yma... |
| (Sara) {Yn gwaredu.} | |
| (1, 0) 35 | Trefn yr Hollalluog, yn wir! |
| (Sara) Ein dyletswydd ni ydi plygu. | |
| (Sara) Ein dyletswydd ni ydi plygu. | |
| (1, 0) 37 | I drefn yr esgobion a'r bobol fawr? |
| (1, 0) 38 | Gwared ni! |
| (1, 0) 39 | Darllen di waith Jac yn ymosod ar y tacle. |
| (Sara) Paid â rhyfygu, Rolant! | |
| (1, 0) 42 | Ma'r cnafon yn ddigon dig'wilydd i gymryd arian y bobol, ond heb ddeall un gair o'u hiaith nhw! |
| (Sara) Mae Mr. Foster, ein person |ni|, yn gallu siarad Cymraeg. | |
| (1, 0) 45 | Ydi, rhaid cyfaddef fod mei lord Hugh Foster yn ymostwng cymaint â hynny i'n plesio ni. |
| (Sara) Nid peth gweddus o gwbl ydi gwneud sbort o weision y Brenin Mawr. | |
| (1, 0) 48 | Hy! Gweision i frenin yn nes atom o beth wmbredd ydi'r tacle! |
| (Sara) Rhag cywilydd iti, Rolant! | |
| (Sara) Rhag cywilydd iti, Rolant! | |
| (1, 0) 50 | Mae Jac yn ei le, Sara. |
| (1, 0) 51 | 'R ydw i reit hoff o'r bachgen... 'r oedd 'i dad a minne yn ffrindie mawr erstalwm yng Ngherrig y Drudion. |
| (1, 0) 52 | Chwarae teg iddo am brotestio yn erbyn gorthrwm y Llywodraeth, y trethi di-ddiwedd, a'r degwm. |
| (Sara) 'D ydw i ddim yn cydweld â'r cr'adur, beth bynnag. | |
| (Sara) Mae o'n fachgen digon teidi, am wn i, er na weles i mohono ers plwc byd. | |
| (1, 0) 55 | Sut y mae hi arno fo tua Llundain 'na tybed? |
| (Sara) Mae'n rhaid iddo fo fihafio'i hun mewn lle felly, a'r brenin mor agos. | |
| (1, 0) 58 | Go dda yr hen Sara! |
| (1, 0) 60 | Ond 'synnwn i flewyn na chaiff o'i erlid am sgrifennu'r |Seren|. |
| (Sara) Rhyngddo fo â'i botes! | |
| (Sara) Ond paid |ti| â brygawtha' gormod... rhag ofn... | |
| (1, 0) 63 | Rhaid imi ddatgan fy marn. |
| (Sara) Wel, rhaid... ond... {yn torri'r ddadl.} | |
| (Sara) Mae'n bur gyfyng arni, y gre'dures. | |
| (1, 0) 69 | Ac nid yr unig un o lawer. |
| (1, 0) 70 | 'R wyt ti'n helpu cryn dipyn arni, Sara, chwarae teg iti. |
| (Sara) Mae'n rhaid i rywun swcro'r hen chwaer. | |
| (Sara) Lle mae o, Rolant? | |
| (1, 0) 74 | Yn y llofft, am wn i, yn pincio fel arfer. |
| (1, 0) 75 | 'D ydi o'n meddwl am ddim arall. |
| (Sara) Caru ma'r bachgen, 'neno'r dyn. | |
| (Sara) Caru ma'r bachgen, 'neno'r dyn. | |
| (1, 0) 77 | 'D oedd dim rhyw hen ffal-diral fel hyn pan oeddwn i wrthi erstalwm... |
| (Sara) Rhaid i Ifor symud efo'r oes, weldi. | |
| (Sara) A chofia bod Janet yn |lady|. | |
| (1, 0) 80 | Ydi, ond twt lol, wn i ddim be' ddaw o blant yr oes yma... |
| (Sara) {Yn mynd at ddrws y gegin fach, ac yn bloeddio.} | |
| (1, 0) 97 | Nid fel yna y mae iti siarad â'th fam! |
| (Ifor) 'Fedra 'i ddod o hyd i affeth o ddim yn y llofft 'na. | |
| (1, 0) 106 | I fynd i dŷ'r Person am |afternoon tea|, wrth gwrs! |
| (Ifor) 'D oes dim rhaid ichi fod mor sbeitlyd! | |
| (Ifor) 'D oes dim rhaid ichi fod mor sbeitlyd! | |
| (1, 0) 108 | 'D ydw i ddim, 'ngwas i. |
| (1, 0) 109 | 'R wy'n falch dy fod ti'n ffrind i Janet y ferch. |
| (1, 0) 110 | Mae hi'n eneth hoffus iawn. |
| (Ifor) Wel? | |
| (Ifor) Wel? | |
| (1, 0) 112 | Yn bur wahanol i'w thad. |
| (Sara) Da thi, Rolant, rho'r gore iddi... | |
| (Ifor) Mae Mr. Foster yn ddyn o gymeriad... | |
| (1, 0) 115 | Ydi! |
| (1, 0) 116 | Cymeriad caled... fel haearn Sbaen. |
| (1, 0) 117 | Dim owns o gydymdeimlad â'r werin bobl y mae o'n gyfrifol amdanyn' nhw. |
| (Ifor) Mae Janet yn ymweld â'r tlodion... | |
| (Ifor) Mae Janet yn ymweld â'r tlodion... | |
| (1, 0) 119 | Ydi, chware teg iddi. |
| (1, 0) 120 | Hi ddyle fod yn offeiriad plwy', ac nid Hugh Foster. |
| (Sara) Rolant, 'r wyt ti'n rhyfygu! | |
| (Sara) Cofia 'i fod o'n un o weision yr Hollalluog. | |
| (1, 0) 123 | Dyna hi eto! |
| (1, 0) 124 | Be' ydi gwaith gwas yr Arglwydd, tybed? |
| (1, 0) 125 | Hel bechgyn i'r Milishia? |
| (Ifor) Mae'n rhaid inni amddiffyn y wlad 'ma. | |
| (1, 0) 132 | Ffordd yr hen Feti Ifans o fyw, er enghraifft? |
| (1, 0) 133 | Yn hanner llwgu yn yr hofel bwthyn 'na! |
| (1, 0) 134 | A miloedd o rai tebyg iddi yng Nghymru! |
| (Ifor) {Yn dal ati fel parot.} | |
| (1, 0) 138 | Wel, wel! |
| (1, 0) 139 | Hawdd gweld dy fod |ti| wedi cael y fraint o eistedd wrth draed Hugh Foster. |
| (1, 0) 140 | "Yn erbyn yr Anghrist", yn wir! |
| (Sara) Ond Rolant, os ydi Ifor bach yn meddwl fel yna, mae ganddo fo berffaith hawl i... | |
| (Sara) Ond Rolant, os ydi Ifor bach yn meddwl fel yna, mae ganddo fo berffaith hawl i... | |
| (1, 0) 142 | Meddwl? |
| (1, 0) 143 | 'Ddaru o 'rioed feddwl yr un eiliad! |
| (1, 0) 144 | Dim ond ail-adrodd pregeth yr hen Foster fel parot. |
| (1, 0) 145 | Yn enw'r Mawredd, dysga feddwl drosot dy hun, ngwas i! |
| (Ifor) Yr un fath â chi, wrth gwrs. | |
| (Ifor) Yr un fath â chi, wrth gwrs. | |
| (1, 0) 147 | Wel... ie... pam? |
| (Ifor) {Yn sarcastig.} | |
| (Ifor) Byth yn benthyca syniadau yr un cr'adur byw, John Jones o Lan-y-Gors na neb arall. | |
| (1, 0) 150 | Mi fydde'n iechyd iti ddarllen |Seren tan Gwmwl|. |
| (Ifor) 'R ydw i wedi ei ddarllen. | |
| (1, 0) 155 | Beth? |
| (1, 0) 156 | Bradwr? |
| (Ifor) Ie! | |
| (1, 0) 159 | 'Chaiff neb alw Jac Glan-y-Gors yn fradwr yn y tŷ yma! |
| (Ifor) {Yn dal ati.} | |
| (1, 0) 165 | Pwy glywest ti'n galw Jac yn fradwr? |
| (Ifor) {Yn haerllug.} | |
| (Ifor) Pawb bron. | |
| (1, 0) 169 | Pwy? |
| (Ifor) 'R wyf wedi dweud unwaith... pawb. | |
| (1, 0) 172 | Ateb... PWY? |
| (Ifor) {Yn dechrau cloffi.} Wel... y... hwn a'r llall | |
| (Ifor) {Yn dechrau cloffi.} Wel... y... hwn a'r llall | |
| (1, 0) 174 | Brysia... pwy oedd o? |
| (Ifor) O wel... y... Mr. Foster yn un... | |
| (Ifor) O wel... y... Mr. Foster yn un... | |
| (1, 0) 176 | Pwy arall? |
| (Ifor) {Yn ddof erbyn hyn.} N... n... neb arall. | |
| (Ifor) {Yn ddof erbyn hyn.} N... n... neb arall. | |
| (1, 0) 178 | Na, 'feiddiai neb yn y pentre' heblaw Hugh Foster alw Jac yn fradwr. |
| (Sara) {Yn ceisio tawelu'r storm.} | |
| (1, 0) 182 | 'Daswn i'n gwybod dy fod ti'n galw Jac yn fradwr o argyhoeddiad, mi fedrwn faddau iti, ond cymryd gair y person... |
| (Sara) Gad lonydd i'r bachgen, da thi. | |
| (Sara) Gad lonydd i'r bachgen, da thi. | |
| (1, 0) 184 | Lle aflwydd ma' dy asgwrn cefn di, dywed? |
| (1, 0) 186 | 'D oes dim hanner digon o hwnnw yng Nghymru heddiw. |
| (1, 0) 187 | Diodde' pob anghyfiawnder a thrais heb brotest yn y byd! |
| (Sara) Ifor bach, mi gei di'r crys erbyn yfory... | |
| (Sara) 'R wyt ti wedi dweud pethe reit cas wrtho fo, Rolant. | |
| (1, 0) 203 | Dim ond y gwir. |
| (Sara) Mae Ifor yn iawn yn y bôn. | |
| (1, 0) 206 | Nac ydi, Sara. |
| (Sara) {Wedi dychryn braidd.} | |
| (Sara) Paid â dweud 'i fod o yn... | |
| (1, 0) 209 | Mae gen i ofn mai fel hyn y bydd o weddill i oes, yn greadur dof, di-asgwrn-cefn, sbeitlyd, anniolchgar.... |
| (Sara) Ond mi fydd yn well ar ôl priodi Janet. | |
| (1, 0) 212 | Mi ddaw hynny i ben pan fydd y Wyddfa i gyd yn gaws! |
| (Sara) {Ym poethi mymryn.} | |
| (Sara) Ma'n teulu ni gystal â theulu Mr. Foster, be' siŵr iawn ydi o! | |
| (1, 0) 215 | 'Sgwn i pam y ma'r cradur hwnnw eisiau fy ngweld heno? |
| (Sara) I sôn am Ifor a Janet, mae'n amlwg. | |
| (Sara) I sôn am Ifor a Janet, mae'n amlwg. | |
| (1, 0) 217 | Na, rhywbeth llawer mwy pwysig na hynny! |
| (Sara) 'Fydde hi ddim yn well iti dacluso mymryn arnat dy hun cyn iddo ddod? | |
| (1, 0) 220 | Tacluso? |
| (1, 0) 221 | Ar gyfer rhyw ddyn fel... |
| (1, 0) 223 | Wel hwyrach dy fod ti'n iawn, Sara. |
| (1, 0) 225 | Rhy hwyr! |
| (1, 0) 226 | Dyna'r hen Foster, os nad wy'n methu. |
| (Sara) {Mewn helynt.} | |
| (Foster) Fe garwn gael gair â chwi, Mr. Huw, os gwelwch yn dda. | |
| (1, 0) 236 | Wrth gwrs, Mr. Foster, Dowch i mewn. |
| (1, 0) 239 | Eisteddwch yma, Mr. Foster. |
| (Foster) Diolch. | |
| (Foster) Esgusodwch fi, Mrs. Huw, ond nid i olrhain y tywydd y deuthum i yma heno. | |
| (1, 0) 251 | Gwyddom hynny'n dda Mr. Foster. |
| (1, 0) 252 | Beth yw eich neges, os gwelwch yn dda? |
| (Foster) Y mae a wnelo â chwi yn bersonol, ac hefyd â'ch mab Ifor. | |
| (Sara) O, Mr. Foster! | |
| (1, 0) 256 | Ewch ymlaen. |
| (Foster) Barn pob dyn cyfrifol yn y wlad hon yw fod Prydain mewn argyfwng pur enbyd heddiw. | |
| (Foster) Barn pob dyn cyfrifol yn y wlad hon yw fod Prydain mewn argyfwng pur enbyd heddiw. | |
| (1, 0) 258 | Wel? |
| (Foster) Dyletswydd pawb sy'n deyrngarol i'r Brenin a'r Llywodraeth ydyw ceisio helpu'r wlad yn ei dyddiau blin. | |
| (Foster) Fel gŵr o sylwedd a dylanwad ymhlith gwerin y pentref, byddwch yn barod i ategu hyn... | |
| (1, 0) 261 | Ac felly? |
| (Foster) Disgwylir brwdfrydedd gan bawb at yr ymgyrch y mae Prydain wedi ei galw gan Dduw iddi... | |
| (1, 0) 264 | Mr. Foster, siaradwch yn blaen, da chi. |
| (1, 0) 265 | Awgrymu yr ydych y dylwn ddangos mwy o frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn Ffrainc? |
| (Foster) Ie, os mynnwch. | |
| (Foster) Ie, os mynnwch. | |
| (1, 0) 267 | Fy nghydwybod i fy hunan, ac nid offeiriad y plwy sy'n arfer â dangos i mi fy nyletswydd. |
| (Foster) {Yn sarcastig braidd.} | |
| (1, 0) 272 | Ie, ac y mae un peth pendant iawn y dywed fy nghydwybod wrthyf na ddylwn ei wneud. |
| (Foster) O? A beth ydyw? | |
| (Foster) O? A beth ydyw? | |
| (1, 0) 274 | Hel ieuenctid yr ardal i'r Milishia, fel y gwnewch chi, Mr. Foster. |
| (Sara) {Yn dechrau ofni.} | |
| (Foster) Fe'ch clywais yn datgan un tro eich bod yn ddyn crefyddol. | |
| (1, 0) 278 | 'R wy'n amcanu felly, yn ôl fy syniad i am grefydd. |
| (Foster) Ac eto, ni ddangoswch unrhyw frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn anffyddwyr Ffrainc, gelynion eich crefydd chwi a minnau. | |
| (Foster) Ac eto, ni ddangoswch unrhyw frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn anffyddwyr Ffrainc, gelynion eich crefydd chwi a minnau. | |
| (1, 0) 280 | Mr. Foster, 'r ydym wedi clywed y bregeth yma o'r blaen, gan Ifor. |
| (Foster) Chwarae teg iddo, yn wir. | |
| (Foster) Dywedais fod a wnelo fy neges ag yntau hefyd. | |
| (1, 0) 283 | Wel? |
| (Foster) Ymddengys ei fod ef, o leiaf, yn sylweddoli ei ddyletswydd. | |
| (1, 0) 287 | Beth? |
| (Foster) Fe ddylech fod yn falch o'i sêl wlatgarol a'i ysbryd gwrol... | |
| (1, 0) 290 | F...f...fy mab i yn y Milishia? |
| (Foster) Ie, yn ymladd dan faner rhyddid a chyfiawnder... | |
| (1, 0) 297 | Na, 'chaiff yr un mab i mi ymuno â'r Milishia! |
| (Foster) Dynion dewr, gwlatgarol. | |
| (Foster) Dynion dewr, gwlatgarol. | |
| (1, 0) 299 | Gwehilion cymdeithas! |
| (Foster) Syr! | |
| (Foster) Syr! | |
| (1, 0) 301 | Lladron, dihirod, treiswyr merched! |
| (Foster) Mr. Huw, ystyriwch eich... | |
| (Foster) Mr. Huw, ystyriwch eich... | |
| (1, 0) 303 | A'u drygioni yn drewi drwy'r sir! |
| (Foster) {Yn llymach na'i arfer.} | |
| (Foster) Mr. Huw, nid wyf am wrando ar y fath sen... | |
| (1, 0) 306 | Pam nag arferwch eich sêl ryfelgar i ymladd anghyfiawnder a thrais yr uchelwyr yn y wlad hon? |
| (Foster) {Yn bontifficaidd.} | |
| (Foster) Y maer Diafol a'r Anghrist ar gerdded yn Ffrainc... | |
| (1, 0) 309 | Y mae'r ddau yn fyw yma yng Nghymru, a chwithau'r Eglwysi yn ymladd o'u plaid! |
| (Sara) {Wedi dychryn.} | |
| (1, 0) 313 | Pa le mae llais yr Efengyl heddiw? |
| (Foster) {Yn offeiriadol.} | |
| (1, 0) 317 | Treftadaeth! |
| (1, 0) 318 | Pa faint sydd gan drueiniaid tlawd y pentref hwn, er enghraifft? |
| (1, 0) 319 | 'R ydych chwi a'ch degymau a'ch trethi wedi ei ddwyn oddi arnynt! |
| (Foster) {Yn awgrymiadol.} | |
| (Foster) Syniadau peryglus yw y rhai hyn, Mr. Huw. | |
| (1, 0) 322 | Peryglus i bwy, tybed? |
| (Foster) Mae'n amlwg eich bod wedi llyncu athrawiaeth |The Rights of Man|, Tom Paine, a'i ddynwaredwr yng Nghymru, Jac Glan-y-Gors. | |
| (Foster) Mae'n amlwg eich bod wedi llyncu athrawiaeth |The Rights of Man|, Tom Paine, a'i ddynwaredwr yng Nghymru, Jac Glan-y-Gors. | |
| (1, 0) 324 | Dau ddyn yn ddigon dewr i sefyll dros gyliawnder! |
| (1, 0) 325 | Fe wnai les i chwi ddarllen y llyfryn hwn, Mr. Foster. |
| (Foster) ... Yr Efengyl yn ôl Jac Glan-y-Gors. | |
| (1, 0) 332 | Yn nes at yr Efengyl na'r eiddo chwi! |
| (Sara) Rolant bach, paid â rhyfygu! | |
| (1, 0) 340 | Bradwr? |
| (Foster) Ac wrth goleddu eu syniadau llygredig, Mr. Huw, yr ydych chwithau yn elyn i'ch gwlad. | |
| (Foster) Ac wrth goleddu eu syniadau llygredig, Mr. Huw, yr ydych chwithau yn elyn i'ch gwlad. | |
| (1, 0) 342 | Ond nid gelyn i gyfiawnder! |
| (Sara) {Wedi dychryn eto.} | |
| (Foster) Yr wyf i yn ŵr o ddylanwad... | |
| (1, 0) 349 | Gwnewch a fynnoch, 'r wyf yn berffaith dawel fy mod yn iawn. |
| (Foster) O'r gorau. | |
| (Sara) Dyna ti wedi andwyo popeth. | |
| (1, 0) 359 | Pam, 'neno'r dyn? |
| (Sara) Ifor a Janet. | |
| (Sara) Ifor a Janet. | |
| (1, 0) 361 | A dyna'r cwbl sy'n dy boeni di? |
| (1, 0) 363 | Mae llawer mwy yn y fantol na helynt Ifor a Janet, coelia di fi. |
| (Sara) Ond amdanyn' nhw yr ydw i'n meddwl. | |
| (Sara) Ond amdanyn' nhw yr ydw i'n meddwl. | |
| (1, 0) 365 | Digon posibl. |
| (1, 0) 366 | Ma' Janet yn llawer rhy dda i fod yn ferch i'r hen Foster. |
| (Sara) Mae o'n ddyn caled, wrth gwrs. | |
| (Sara) Cannwyll 'i lygad o. | |
| (1, 0) 370 | Diolch bod rhywun yn gallu meddalu mymryn arno. |
| (1, 0) 371 | Ond cofia, 'd ydi Hugh Foster ddim yn ddyn drwg, Sara. |
| (1, 0) 372 | Mae o'n eitha' cydwybodol, yn ymddwyn yn ôl ei argyhoeddiad... |
| (Sara) Ond yn elyn iti byth ar ôl heno! | |
| (Sara) Ond yn elyn iti byth ar ôl heno! | |
| (1, 0) 374 | Dichon 'i fod o. |
| (1, 0) 375 | Eto, 'synnwn i ddim nad ydi o yn ddistaw bach yn fy mharchu am ddal fy nhir. |
| (Sara) Gobeithio'r annwyl! | |
| (Sara) Gofala fod 'chydig yn gallach o hyn ymlaen, ne' yn y carchar yn Rhuthun y byddwn ni, gei di weld! | |
| (1, 0) 379 | Ond mae'n rhaid imi sefyll... |
| (Sara) Mi gei sefyll faint 'fynni di, ond iti gofio'r hen air... | |
| (Sara) "Os na bydd gryf..." | |
| (1, 0) 382 | Mi gawn weld... |
| (1, 0) 384 | O'r annwyl, 'r oeddwn i wedi edrych ymlaen heno am noson go dawel yng nghwmni'r Seren. |
| (1, 0) 385 | Gresyn 'mod i wedi colli fy nhymer, hefyd. |
| (Sara) 'R ydw i'n mynd â'r ychydig bethe 'ma i'r hen Feti, druan. | |
| (Sara) Mae'n ddrwg gen' i drosti. | |
| (1, 0) 391 | Y gre'dures! |
| (1, 0) 392 | Yr hen ryfel felltith 'ma! |
| (1, 0) 393 | Pobol yn hanner llwgu. |
| (1, 0) 395 | Pam aflwydd y ma'r Person yna mor ddall! |
| (Sara) Da thi, eistedd i lawr, a cheisia anghofio popeth amdano fo a dy hen Jac Glan-y-Gors! | |
| (Sara) Darllen rywbeth arall, 'neno'r dyn... | |
| (1, 0) 398 | O wel... |
| (1, 0) 422 | Jac! |
| (1, 0) 423 | Be ar y ddaear... |
| (Jac) {Ar dop ei lais.} | |
| (Jac) Duwcs mawr, Rolant Huw, 'rois i fraw ichi, deudwch? | |
| (1, 0) 426 | Sh! |
| (1, 0) 427 | Paid â bloeddio! |
| (Jac) Pam? | |
| (Jac) A phan weles i Mrs. Huw... | |
| (1, 0) 432 | Be' ydi ystyr hyn, helgwn y gyfraith? |
| (Jac) Ie, gorfod gadael Llundain ar |short notice|, fel pe tae. | |
| (Jac) Bras-gamu allan o'r tŷ drwy ddrws y bac fel cr'adur o'i go' ulw las, heb ddim ond côt ucha' a'r pecyn 'ma. | |
| (1, 0) 437 | A dod yr holl ffordd o Lundain? |
| (Jac) Ie. | |
| (Jac) 'Neno'r dyn, Rolant Huw, be' ydi rhyw d'wllwch fel hyn? | |
| (1, 0) 442 | O, ofn i rywun dy weld, Jac. |
| (Jac) Dyna welliant! | |
| (Jac) 'R argod fawr, ydech chi wedi dychryn, deudwch? | |
| (1, 0) 447 | Wel... na, ond mae'n ddrwg gen' i drosot ti, Jac. |
| (Jac) {Yn eithaf hapus.} | |
| (1, 0) 454 | Mae'n g'wilydd dy fod ti'n gorfod ffoi oddi cartre' am sefyll dros yr hyn sy'n iawn. |
| (Jac) O wel, rhyw greadur aflonydd 'fum i erioed wyddoch. | |
| (Jac) Dyna pam 'r ydw i'n dal yn hen lanc, efallai. | |
| (1, 0) 457 | 'R wyt ti mewn tipyn o helynt heno. |
| (1, 0) 458 | Be' oedd yr achos? |
| (1, 0) 459 | |Seren tan Gwmwl|? |
| (Jac) Ie. | |
| (Jac) Mi ddeudis i bethe reit gas amdanyn' nhw. | |
| (1, 0) 464 | 'R oeddwn i'n amau o'r dechre mai i hyn y bydde' hi'n dod. |
| (Jac) Ond gwrandewch! | |
| (Jac) Mae'n rhaid fod rhyw Ddic-Siôn-Dafydd wedi prepian arna' i. | |
| (1, 0) 469 | Rhag c'wilydd iddo, pwy bynnag oedd. |
| (1, 0) 470 | Dyna un sgerbwd na fedra' i ei ddiodde' byth... bradwr! |
| (Jac) Wel, 'ddarfu imi ddim aros yn Llundain i ddadlau f'achos. | |
| (Jac) Noswaith o leia'. | |
| (1, 0) 474 | Â chroeso, Jac. |
| (1, 0) 475 | 'R wyt ti'n haeddu gorffwys... mi ge'st amser digon caled, mi'wn. |
| (Jac) {Yn eithaf hapus.} | |
| (1, 0) 480 | Mae'r werin yn dy hanner addoli. |
| (Jac) Ydi. | |
| (Jac) ... a llawer ohonyn' nhw'n hanner lwgu, y cre'duried. | |
| (1, 0) 486 | Mi fyddi'n berffaith sâff yma, Jac. |
| (1, 0) 487 | Hwyrach bod Ifor y bachgen 'ma yn deud y drefn amdanat ti ambell dro, ond mi ofala'i y bydd |o| yn iawn. |
| (1, 0) 488 | Mae pawb yn yr ardal yn cyd-weld â thi, ond |un|... |
| (Jac) O? | |
| (Jac) A phwy ydi hwnnw, felly? | |
| (1, 0) 491 | Person y plwy. |
| (Jac) {Yn chwerthin yn galonnog.} | |
| (Jac) Yr hen deip, mi'wn. | |
| (1, 0) 496 | Ie, efallai. |
| (1, 0) 497 | Dim symud arno ar gwestiwn y wladwriaeth a'r Eglwys. |
| (1, 0) 498 | Cyfiawnhau'r rhyfel... |
| (1, 0) 500 | "Crwsâd sanctaidd yn erbyn yr i Anghrist"... |
| (Jac) {Yn chwerthin.} | |
| (Jac) Dyna'r teip... i'r blewyn! | |
| (1, 0) 503 | Ond mae hwn yn llawer mwy galluog na'r cyffredin. |
| (1, 0) 504 | Mae o'n ddyn i'w |ofni|. |
| (Jac) Ofni? | |
| (1, 0) 526 | Y... y... dyma Miss Foster. |
| (1, 0) 528 | D... Dyma Mr.... Mr.... |Williams|! |
| (Jac) {Yn mwynhau'r sefyllfa ddiddorol.} | |
| (1, 0) 537 | Y... ie... Mr. Williams. |
| (Janet) Wel, gwell fyddai i mi fynd, 'r wy'n meddwl. | |
| (1, 0) 541 | Wel ie, am wn i... yn wir. |
| (Jac) {Ar ei orau yng ngŵydd y rhyw deg.} | |
| (1, 0) 556 | Wel... y... eisteddwch am funud, Janet. |
| (Jac) Janet? | |
| (1, 0) 564 | Mae Mr.... y... Williams a minnau yn hen gyfeillion, Janet. |
| (1, 0) 565 | 'R oeddwn i'n adnabod ei dad yn dda erstalwm. |
| (1, 0) 566 | Mae Mr. Williams ar ymweliad â mi, fel hyn... |
| (Janet) O, wyddwn i ddim eich bod yn disgwyl ymwelydd, Mr. Huw. | |
| (Janet) O, wyddwn i ddim eich bod yn disgwyl ymwelydd, Mr. Huw. | |
| (1, 0) 571 | Wel na, rhyw... y... wneud ei feddwl i fyny'n sydyn wnaeth Mr. Williams, yntê? |
| (Jac) Mi fum innau'n ei ofyn hefyd lawer tro, onido Rolant Huw? | |
| (1, 0) 588 | Wel do... am wn i... wir. |
| (Janet) Mae un Cymro o leiaf yn datgan yn gryf mai peth ffôl a phechadurus yw rhyfela. | |
| (Janet) Dillad, 'r wy'n credu. | |
| (1, 0) 643 | Mae Sara wedi mynd ag un pecyn i'r hen Feti... |
| (Janet) Na, nid hwnnw, ar gyfer rhywun arall. | |
| (Janet) Na, nid hwnnw, ar gyfer rhywun arall. | |
| (1, 0) 645 | Wel, 'rhoswch chi, 'rŵan. |
| (Janet) {Yn swynol.} | |
| (1, 0) 657 | Na Janet, 'fedra'i weld yr un pecyn yn unman... |
| (Janet) O? | |
| (Janet) Os gwelwch yn dda. | |
| (1, 0) 663 | Ar bob cyfrif, Janet. |
| (1, 0) 664 | 'Fyddai'r un dau funud. |
| (Janet) Wel... JAC GLAN-Y-GORS! | |
| (Janet) Mae gennyf ofn amdanoch... ofn. | |
| (1, 0) 690 | Mae o'n beth od, Janet, ond 'fedra'i yn fy myw da... |
| (Janet) {Yn hollol fel pe bai dim wedi digwydd.} | |
| (Jac) Merch y person! | |
| (1, 0) 705 | Ie. |
| (1, 0) 706 | Biti dy fod ti wedi dweud... |
| (Jac) {Yn dal i edrych tua'r drws.} | |
| (1, 0) 711 | Diolch i'r nefoedd nad oedd hi'n sylweddoli pwy oeddet ti, Jac! |
| (1, 0) 712 | "Mistar Williams"! |
| (1, 0) 713 | Mi fum i'n glyfar yn meddwl am hwnna! |
| (Jac) {Yn hanner breuddwydiol.} | |
| (1, 0) 717 | Do, yn wir. |
| (Jac) {Â'i feddwl ymhell, a dal i edrych tua'r drws.} | |
| (Jac) "Janet" ddywed'soch chi oedd ei henw hi, yntê? | |
| (1, 0) 720 | Wel ie... ond... |
| (Jac) {Yn freuddwydiol eto.} | |
| (1, 0) 727 | 'Neno'r dyn, be' sy'n bod? |
| (1, 0) 728 | Wyt ti'n sâl? |
| (Jac) {Yn hynod o dawel.} | |
| (Jac) Rolant Huw, 'rhaid imi ffoi ar unwaith! | |
| (1, 0) 736 | Ffoi? |
| (Jac) 'D oes dim aros i fod! | |
| (Jac) 'D oes dim aros i fod! | |
| (1, 0) 738 | Ofn yr hen Foster? |
| (Jac) Na. | |
| (Jac) Mae pethau'n waeth nag a feddyliwch... | |
| (1, 0) 741 | 'Neno'r dyn, Jac... |
| (Jac) {Yn dechrau byrlymu.} | |
| (Jac) Tom Paine... mi glywsoch am hwnnw? | |
| (1, 0) 745 | Wel do... ond... |
| (Jac) {Yn dal ati.} | |
| (Jac) Ie, yng Nghymru! | |
| (1, 0) 753 | Ond beth sydd a wnelo Tom Paine... |
| (Jac) Y fi ydi Tom Paine Cymru! | |
| (Jac) 'D oes dim dinas barhaus bellach i awdur |Seren tan Gwmwl|. | |
| (1, 0) 757 | Twt lol Jac, 'r wyt ti'n eitha' sâff yma... |
| (Jac) Nac ydw'! | |
| (1, 0) 769 | Y... y... 'd wyt ti ddim yn 'i 'nabod o, Sara? |
| (Ifor) {Ar unwaith, ac yn eithaf siriol.} | |
| (Sara) Ond be'ar y ddaear... | |
| (1, 0) 781 | Mae Jac ar ymweliad â'r pentref, ac wedi galw... |
| (Jac) {Yn cellwair unwaith eto.} | |
| (Sara) Ond mi gadwn ni chwarae teg iti yma. | |
| (1, 0) 788 | Na, mae'n rhaid i Jac fynd ar unwaith. |
| (Sara) 'Rheswm annwyl, mor fuan â hynny? | |
| (1, 0) 794 | Wel, chware teg iti Ifor, ond... |
| (Ifor) Mae hwn yn achlysur pwysig iawn. | |
| (Ifor) Bydd sôn am ymweliad y gwron o Lan-y-Gors... | |
| (1, 0) 797 | Yn anesmwyth.} |
| (1, 0) 798 | Na... mae Jac ar gychwyn... |
| (Ifor) {Yn dal ati.} | |
| (1, 0) 810 | Pwy sy' 'na, tybed? |
| (Jac) Rolant Huw, 'r ydw i'n adnabod y sŵn curo yna yn rhy dda! | |
| (1, 0) 825 | Ifor, beth yw hyn? |
| (Ifor) Mae hi'n rhy hwyr, Jac Glan-y-Gors. | |
| (Jac) Hen ffrindie! | |
| (1, 0) 834 | Dyna Hugh Foster, |
| (Jac) Wel, Rolant Huw, agorwch y drws... led y pen! | |
| (Jac) Wel, Rolant Huw, agorwch y drws... led y pen! | |
| (1, 0) 836 | Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac... |
| (1, 0) 839 | Beth yw ystyr hyn, Mr. Foster? |
| (Foster) Gwaith y Brenin. | |
| (1, 0) 851 | A gwyddom erbyn hyn pwy ydyw. |
| (Foster) Y mae'n haeddu pob clod, Mr. Huw. | |
| (1, 0) 857 | Ti, felly, bia'r |clod| am hyn! |
| (Ifor) {Yn wawdlyd.} | |
| (1, 0) 862 | Fy mab i fy hun yn bradychu ei deulu... bradychu fy nghyfaill! |
| (1, 0) 863 | Ac yn cymryd arno ei fod yn falch o'i weld... |
| (Ifor) Wrth gwrs! | |
| (Ifor) Y fi... Ifor... nad oedd neb yn meddwl y gallwn i... | |
| (1, 0) 870 | 'D oes dim enw yn bod ar y weithred ffiaidd yma... |
| (Foster) 'R wyf fi yn dal ei bod yn ganmoladwy. | |
| (1, 0) 874 | Na, melltith a gwawd! |
| (Sara) {Yn ceisio'i gysuro.} | |
| (1, 0) 883 | Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac... |
| (Foster) Tewi a fyddai orau i chwithau, Mr. Huw. | |
| (Janet) Ifor? | |
| (1, 0) 922 | Ie... fy mab i fy hun... |
| (Jac) {Yn ceisio cyfiawnhau Ifor.} | |
| (1, 0) 938 | Nage, gwaith bradwr! |
| (1, 0) 939 | 'D oes arna'i byth eisiau ei weld eto! |