| (Sara) Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod? | |
| (Foster) Hwn yw eich dyn, Capten Rogers. | |
| (1, 0) 843 | Ai chwi yw John Jones, yn enedipol o Lan-yGors, plwyf Cerrig-y-drudion, a ddihangodd o Lundain rhyw dair wythnos yn ôl? |
| (Jac) {Yn ddigon hapus.} | |
| (Jac) Ie, yn duwcs... pam? | |
| (1, 0) 846 | Mae gennyf awdurdod i'ch dwyn i'r ddalfa. |
| (1, 0) 847 | Rhoddwyd gwarant i bob swyddog Milishia yn y sir hon wedi i chwi ddianc o Lundain. |
| (1, 0) 848 | Rhoddwyd hefyd bris am eich dal... pris uchel, Mr. Jones. |
| (Foster) A llawenydd yw canfod mai un o'r plwyf hwn a fu'n gyfrwng i ddal y bradwr. | |
| (Foster) Y mae'n amser symud, Capten Rogers... | |
| (1, 0) 892 | Dewch, Mr. Jones... |