| (1, 0) 23 | Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam? |
| (Mali) Hitia befo. | |
| (Mali) Rydw i'n hen gynhefin â bod yn unig, weldi; a mi fedra i weld llawn cymint yn y twllwch, am wn i wir,—a mwy. | |
| (1, 0) 26 | Wel, rhaid ini gael lamp i'ch gweld chi beth bynnag, rhag ofn ych bod chi ar rhyw berwyl drwg. |
| (1, 0) 28 | Elin! Elin! |
| (Elin) {O'r ty llaeth.} | |
| (Elin) Beth sydd eisio? | |
| (1, 0) 31 | Dowch â thipyn o ola yma, neno'r taid; mae'r hen wraig i hun yn y fan yma fel pelican yr anialwch. |
| (1, 0) 32 | Mae hi'n wyth o'r gloch, ac yn dywyll fel bol buwch. |
| (Mali) Wyth o'r gloch! Wyth o'r gloch! | |
| (Mali) Wyth o'r gloch! Wyth o'r gloch! | |
| (1, 0) 34 | Welis i rioed siwn beth ag Elin yma ar ol i Emrys ddwad adre. |
| (1, 0) 35 | Mae hi wedi pendronni'n lân;—chafodd y moch yr un tamad o fwyd bore heddiw, mi gymra i fy llw,—a wyddoch chi beth, mam? roedd yna flas hir hel ar y menyn yr wythnos yma,— |
| (1, 0) 36 | oedd fel mae byw fi;—y tro cynta erioed ar ol i Elin ddwad i'r Sgellog. |
| (Elin) {Yn dyfod i fewn gyda'r lamp.} | |
| (Elin) Ag mae eisio rhywun i ail-bobi tipin ar yr hen wlad, rhywun i ddysgu tipin arni, rhywun i roi tipin o gryfdwr yn asgwrn i chefn hi, a gewch chi weld mai Emrys ydi'r dyn. | |
| (1, 0) 51 | Wel, tawn i'n llwgu ar y fan yma, dyma'r hen Elin yn dechra'i gweld nhw eto. |
| (1, 0) 52 | Rhyngoch chi i gyd—mam yn gweld petha yn y tân, ag Ann yn stydio Geiriadur Charles, ag Emrys yn mynd i wneud tŵr melin ag eglwys, a chitha eto Elin yn siarad fel Llyfr y Diarhebion, does gen ddyn glân o Gymro ddim siawns i roi'i big i fewn. |
| (Mali) Taw, Robert bach. | |
| (Mali) Yr hên a ŵyr, a mi leiciwn i cyn marw weld Emrys bach yn rhoi tro yng nghynffon y bobol yma sy'n yn cadw ni i lawr. | |
| (1, 0) 56 | Pam na fasa fo'n mynd yn brygethwr ynte os ydi o mor awyddus am roi tro yng nghynffona pobol? |
| (Elin) Mi fasa Emrys yn gneud cystal prygethwr a'r un ohonyn nhw {yn pwyntio at y lluniau} o ran hynny. | |
| (1, 0) 60 | Wel, nid meddwl y mae o heno; mi gymra i fy llw mai troi'i draed tua'r Hafod y mae o. |
| (1, 0) 62 | Ydech chi'n meddwl y gneith hi wraig iddo fo, Elin? |
| (1, 0) 64 | Waeth befo, o ran hynny, mae genni hi ddigonedd o arian. |
| (Elin) Twt, twt!—mae'n rhy fuan iddo fo feddwl am briodi am flynyddoedd eto,—ac mae'r hên Vaughan, welwch chi, yn disgwyl rhywbeth gwell i Miss Agnes na mab i ffarmwr... | |
| (Ann) Rydw i wedi tywallt llaeth heno i gyd i'r potia cadw. | |
| (1, 0) 70 | Paid a chadw cymin arno fo'r tro yma, 'ngeneth i. |
| (1, 0) 71 | Mae dy feistres wedi mopio wrth feddwl am Emrys, a mae rhyw bry yn dy gorun ditha, 'ddyliwn. |
| (1, 0) 95 | Rydw i yn ych clywed chi, Elin William. |
| (1, 0) 96 | Tasa fo'n i chael hi, fasa ddim rhaid iddo fo weithio'r un cnoc byth,—mae na le siort ora iddo fo roi'i het ar yr hoel. |
| (1, 0) 97 | Peidiwch ag ymyrraeth â'r hogyn; gadwch lonydd iddo fo. |
| (Elin) {Yn codi ei llais.} | |
| (1, 0) 110 | Dyna hi eto! |
| (1, 0) 111 | Ar y fend i, chai ddim agor y ngheg heb i chi neidio i ngwddw i. |
| (1, 0) 112 | Does arni i ddim eisio fforsio'r hogyn—nag oes arna i, neno'r brensiach annwyl. |
| (1, 0) 113 | Eisio iddo fo gael chwara teg sy arna i. |
| (1, 0) 114 | Rydech chi'n gweld potsiars ym mhob twll a chongol,—ag Agnes yr Hafod ydi'r potsiar rwan, ddyliwn i. |
| (1, 0) 115 | Potsiar wir! |
| (1, 0) 116 | Ann |
| (1, 0) 118 | Mae Miss Vaughan yr Hafod yn dwad ar y buarth, mistres. |
| (1, 0) 119 | Brenin annwyl! lle mae ngholar i, Elin? |
| (1, 0) 120 | Ann! wyt ti wedi hiro fy sgidia gora i? |
| (1, 0) 121 | Mam! ydi'ch gwyneb chi'n lân? |
| (Mali) Wyt ti'n gweld y ddwy fflam groes yna yn y tân, Ann? | |
| (Ann.) Ydi hynny'n arwydd o rwbeth, deudwch. | |
| (1, 0) 126 | Ydi, siwr iawn,—sein barrug; mae nghymala i yn pigo ers tridia. |
| (1, 0) 127 | Mae'n rhaid i mi roi tipyn o Oel Morus Ifan arnyn nhw. |
| (Ann) Fydd arnoch chi ddim f'eisio fi eto, mistres? | |
| (Ann) Fydd arnoch chi ddim f'eisio fi eto, mistres? | |
| (1, 0) 129 | D'eisio di?—bydd debig iawn wir,—i neud cwpaned o dê i Miss Vaughan. |
| (1, 0) 130 | Beth wyt ti'n rhythu arna i, dwad, fel bwch ar drana? |
| (Elin) {Yn ddistaw.} | |
| (Elin) Mae hi'n dywyll iawn, ond ydi hi? | |
| (1, 0) 144 | la, dowch i fewn Miss Vaughan, a steddwch wrth y tân. |
| (1, 0) 146 | Cerdd o 'ma, Pero,—'rwyt ti am y lle gora bob amser, yr hen ffagwt. |
| (1, 0) 147 | Steddwch, Miss Vaughan. |
| (Agnes) Sut yr ydech chi i gyd. | |
| (Agnes) A chithe, Mali Owen? | |
| (1, 0) 152 | Mae'r hen wraig yn i gweld nhw heno. |
| (Agnes) Dydech chi ddim yn |superstitious|, ydech chi, Mali Owen? | |
| (Agnes) Mae o wedi bod hefo Mr. Evans y gweinidog yn rhoi |rating| iawn iddo am beidio pregethu yn erbyn |poachio|. | |
| (1, 0) 168 | Ho, felly wir! |
| (1, 0) 169 | Mi gafodd damad go chwerw i gnoi gen yr hen lanc, mi dyffeia io. |
| (Agnes.) Do, wir. | |
| (Mali) 'Dydw i'n meddwl dim byd, rwan.... Ydi hi'n dywyll o hyd? | |
| (1, 0) 182 | Ydi fel bol—, fel |y tu fewn| i fuwch, Miss Vaughan. |
| (1, 0) 183 | Mi ddaw Emrys toc. |
| (Elin) Hwyrach i fod o wedi mynd i gael sgwrs hefo'r gweinidog. | |
| (Elin) Hwyrach i fod o wedi mynd i gael sgwrs hefo'r gweinidog. | |
| (1, 0) 185 | Wn i ar y ddaear sut y mae'r ddau yn medru cyd-dynnu,—mae Emrys yn mynd yn anffyddiwr glân, mae arna'i ofn. |
| (1, 0) 186 | Dydi o'n credu dim yn y morfil, Miss Vaughan. |
| (Agnes) Morfil? pa forfil? | |
| (Agnes) Morfil? pa forfil? | |
| (1, 0) 188 | Morfil Jona, wrth gwrs—wn i ddim beth ddaw ohono fo. |
| (Elin) Tewch, tewch, Robert. | |
| (Mali) Oes gen ti damad go flasus yn swper iddo, Elin? | |
| (1, 0) 214 | Mi geith mei lord ddwad â'i swper hefog o gen i fod o'n troi 'i draed mor hwyr. |
| (1, 0) 215 | Wn i ddim lle andros y geill o fod yn ymdroi, na wn i byth o'r fan 'ma. |
| (Mali) {Yn fywiog.} | |
| (Emrys) Adda... ag Efa! | |
| (1, 0) 235 | Yr argian fawr! |
| (Elin) Lle cest ti rheina? | |
| (Emrys) Rhaid i chitha gael côt fel hon, nhad; welsoch chi 'rioed gymaint o hwyl gaech chi hyd y caeau na: mi dalith mam am y |game licence| hefo pres y menyn. | |
| (1, 0) 244 | Sut ar wyneb daear y daethon nhw i'r clawdd, tybed? |
| (Emrys.) Wn i ddim,—a waeth gen i chwaith. | |
| (Emrys) Mi wnân ginio fory. | |
| (1, 0) 251 | Hy! cinio wir! |
| (1, 0) 252 | Fasa waeth gen i gau ngheg am y gwynt nag am betha felna. |
| (1, 0) 254 | Dydech chi ddim yn paratoi swper i Miss Vaughan, Elin? |
| (Agnes) Na wir, 'rydw i wedi ymdroi gormod yn barod. | |
| (Agnes) Mi fydd |Ma-ma| yn bur anesmwyth am dana i. | |
| (1, 0) 257 | Taid annwyl, bedi'r brys? |
| (1, 0) 258 | Dydech chi ddim wedi clywed Emrys yn pregethu eto ar yr hyn mae o'n mynd i neud yn y wlad yma. |
| (Agnes) Rydw i'n gobeithio'n fawr nag ydech chi ddim yn mynd yn |agitator|, Mr. Williams? | |
| (Mali) Clywch! | |
| (1, 0) 265 | Neb. |
| (Mali) Mae'r ci yma'n anesmwyth iawn. | |
| (1, 0) 268 | Bedi'r acsus sy arnat ti, yr hen lob gwirion? |
| (1, 0) 269 | Clywad ogla'r ddau ffowlyn mae o, mam. |
| (Emrys) Wel, Miss Vaughan, gan na fedrwch chi ddim aros, mi ddoi hefo chi dros y gors. | |
| (Mali) O! | |
| (1, 0) 280 | Pwy gaclwm sy'n tyrfu'r adeg yma o'r nos, tybed? |
| (Elin) Rhowch y ffesants yna o'r golwg, brysiwch! | |
| (McLagan) Sit ma ti, Robert Williams? | |
| (1, 0) 292 | Hel at y Feibl Gymdeithas, myn fend i! |
| (1, 0) 293 | Wyddwn i ddim fod yr un ohonoch chi'n perthyn i'r seiat,—ond steddwch, nen dyn. |
| (1, 0) 294 | Cadwch ych hetiau, ddynion. |
| (Plisman) Foneddigion a boneddigesau, nid hel at y Gymdeithas Feiblau ryden ni'r tro yma,—ond yma ar berwyl y gyfraith ryden ni. | |
| (Plisman) Fel hyn y bu pethau—yr oedd y bonheddwr hwn, sef Mr. Alexander McLagan, (mae'n wir ddrwg gennyf nad ydyw ei Gymraeg yn deilyngach o'i gwmni), a minnau wrth ein post heno tuag ugain munud wedi wyth yn gwylio am |boachers|, ac wedi aros wyth munud wrth fy oriawr... | |
| (1, 0) 298 | Wats y mae o'n feddwl, Mr. McLagan. |
| (Plisman) Yr oeddwn i yn mynd i ddweud, Mr. Williams, pan welsoch chi'n dda dorri ar draws fy sgwrs, ini weled dyn tua phum troedfedd deng modfedd o hyd yn dod allan o Winllan y Coetmor ac yn cerdded yn bwyllog tuag atom. | |
| (Plisman) Yn awr, yr wyf yn eich tynghedu nad atalioch oddiwrthyf ddim os gwyddoch! | |
| (1, 0) 308 | Diar annwyl bach, Robaits, rydech chi'n glasurol ofnatsan lâs. |
| (1, 0) 309 | Rhaid ych bod chi'n ola fel latern. |
| (1, 0) 310 | Ydi'ch llygad chi ar y pulpud, deudwch? |
| (McLagan) Ia, ond gwelis ti rwbath, Robert Williams? | |
| (McLagan) Ia, ond gwelis ti rwbath, Robert Williams? | |
| (1, 0) 312 | Y fi? |
| (1, 0) 313 | Naddo, nen taid annwyl, ddyn glân. |
| (1, 0) 314 | Fum i ddim allan ar ol swpera, yn naddo bobol? |
| (Elin) Naddo. | |
| (McLagan) Lle ti câl baw coch ar esgid ti, Emrys Williams? | |
| (1, 0) 343 | 'Run fan a'r lle cawsoch chi'ch locsyn, ddyliwn i. |
| (1, 0) 344 | Fuost ti yn Scotland yn ddiweddar, Emrys? |
| (Emrys.) Rydech chi'n methu rhwng dau goch, nhad. | |
| (Emrys) Gweld y ddau dderyn yma ar ochor y clawdd ddarum i wrth ola mhibell, ag mae hawl gan bawb i'r hyn welan nhw ar y ffordd fawr, debig gen i? | |
| (1, 0) 383 | Oes, debig iawn, wir,—neu mae petha wedi mynd yn od ofnatsan. |
| (1, 0) 384 | Nenor Rasmws mawr, os na cheith dyn tlawd godi dau dderyn wedi marw oddiar y clawdd mewn gwlad efengyl, mae hi wedi mynd, |
| (Agnes) Dywedwch y gwir, Mr. Williams. | |
| (1, 0) 411 | Am y tro, am y tro! |