| (Mari) {yn siarad wrthi ei hun} Wn i ddim be ddaw o honom ni 'rwan. | |
| (Sgt Williams) Rhaid i ni wneyd ein dyledswydd, wyddoch; ac fel y dywedais, yr wyf yn gobeithio y bydd popeth yn reit dydd Llun. | |
| (1, 1) 79 | Mam!—— {yn gweld y Sergeant, ac yn tewi mewn syndod} |
| (Sgt Williams) Dowch, Robert Lewis, waeth i ni heb ymdroi, wna hynny les yn y byd. | |
| (Mari) Be wyt ti'n ddeyd ddeydodd Abel Hughes wrthat ti neithiwr, Rhys? | |
| (1, 2) 111 | Deyd y cawn i beidio mynd i'r siop heddyw, am fod Bob yn dwad allan o'r jail. |
| (Mari) Mae'n dda gen i fod Abel Hughes yn dal i gredu mai ar gam yr anfonwyd Bob i'r jail. | |
| (Mari) Mae'n dda gen i fod Abel Hughes yn dal i gredu mai ar gam yr anfonwyd Bob i'r jail. | |
| (1, 2) 113 | 'Roedd mistar yn deyd ddoe yn y siop ei fod ef yn credu erbyn hyn fod Bob wedi cael dau fis o jail yn hollol ar gam. |
| (Mari) Yr ydw i yn synnu fod Mr. Brown, y Person, yn gallu pregethu am gyfiawnder a thrugaredd, ac ynta'i hun wedi bod ar y fainc yn cytuno efo gwr y Plas i weinyddu anghyfiawnder. | |
| (Mari) Be' na i iddo fo, Rhys? | |
| (1, 2) 164 | Mi fydda Bob yn ffond iawn o gacen gyrans. |
| (Mari) Ie, dyna hi; wneiff honno ddim pwyso arno fo. | |
| (Wil) {wrth Rhys} Gai roi noled iddo fo? | |
| (1, 2) 256 | Cymer ofal, Wil. |
| (Mari) Cerwch i ffwrdd, James, fel 'rydw i yn gofyn i chi. | |
| (Tomos) Rhaid i ni hastio; rhaid iti adel y llestri, Barbara. | |
| (2, 2) 342 | Dacw Wil Bryan yn dwad. |
| (2, 2) 343 | Welodd o mona i. |
| (2, 2) 344 | Mi drof yn f'ol. |
| (2, 2) 345 | Na, fydde hynny ddim yn anrhydeddus at Wil, er fy mod wedi penderfynu peidio cymdeithasu âg ef mwyach. |
| (2, 2) 346 | Mi ddeudaf wrtho mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da. |
| (2, 2) 347 | Mi fydd yn siwr o fy ngwawdio, yn enwedig os deyda i wrtho mod i am fynd yn bregethwr. |
| (2, 2) 348 | Dylaswn fod wedi deyd yn onest wrtho er's misoedd, paham yr wyf yn ei osgoi. |
| (Wil) Holo! yr hen fil blynyddoedd! | |
| (Wil) Mae acw andros o row wedi bod yr wsnos yma, a hynny am ddim byd just, a dydw i ddim am ddiodde chwaneg o humbug. | |
| (2, 2) 357 | Beth oedd yr helynt, Wil? |
| (Wil) Wel, mi wyddost am yr hen gloc wyth niwrnod sy yn y gegin acw? | |
| (Wil) Ond honour brigh, ydi'n ffaith fod ti wedi d'aileni? | |
| (2, 2) 397 | Wil, wyt ti ddim yn meddwl fod yn bryd i ni droi dalen? |
| (2, 2) 398 | Fedra i ddim deyd wrthat ti yn groew mod i wedi fy ail-eni, ond y mae fy meddwl wedi mynd dan gyfnewidiad rhyfedd yn ddiweddar. |
| (2, 2) 399 | 'Roeddwn i eisio cael deyd wrthat ti mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da, os ca i help i fod felly, a does dim ar y ddaear a ddymunwn yn fwy nag i tithau neyd yr un penderfyniad. |
| (2, 2) 400 | Yr wyt bob amser wedi bod yn ffrynd mawr i mi, ond neiff hi mo'r tro i fynd ymlaen fel y buom ni,—mae hi yn siwr o ddiweddu yn ddrwg. |
| (2, 2) 401 | Fyddi di ddim yn meddwl am hynny weithie, Wil? |
| (Wil) Go on efo dy bregeth; "ni a sylwn yn yr ail le," dywed. | |
| (Wil) Go on efo dy bregeth; "ni a sylwn yn yr ail le," dywed. | |
| (2, 2) 403 | Nid pregeth mo honi, Wil, ond ymgom gyfeillgar. |
| (Wil) Wel, os nad pregeth ydi hi, mi glywis i salach lawer gwaith. | |
| (Wil) Ond i fod yn sad; 'roeddwn i wedi spotio er's tipyn dy fod wedi mynd i'r lein yna, a mi ddeudis hynny wrthat ti, onid o? | |
| (2, 2) 406 | Do siwr. |
| (Wil) Roeddat ti'n meddwl y baswn i'n gneyd sport am dy ben di. | |
| (James) Nei di ddim ysgwyd llaw efo mi? | |
| (2, 2) 455 | F'ewythr, pe ysgydwn law â chwi, disgwyliwn iddi fraenu y foment honno. |
| (2, 2) 456 | Yr wyf yn eich cashau â fy holl galon. |
| (2, 2) 457 | Gadewch i mi basio. |
| (James) Be' sy arnat ti, fachgen? | |
| (James) Pam yr wyt ti yn fy nghashau i? | |
| (2, 2) 461 | Pam, yn wir! |
| (2, 2) 462 | Gwyddoch yn burion. |
| (2, 2) 463 | Chi fu yr holl achos o'r holl drueni y bu fy mam ynddo. |
| (2, 2) 464 | Chi ddysgodd fy nhad i boachio. |
| (2, 2) 465 | Chi a'i dysgodd i segura. |
| (2, 2) 466 | Pa sawl gwaith y rhoddodd fy mam y swllt ola i chi er mwyn cael gwared o honoch? |
| (James) Na hidia son am dy dad; mae o wedi mynd i ffwrdd. | |
| (James) Na hidia son am dy dad; mae o wedi mynd i ffwrdd. | |
| (2, 2) 468 | I ble? |
| (2, 2) 469 | I'r Merica? |
| (James) Na, i le cynhesach o lawer. | |
| (James) Na, i le cynhesach o lawer. | |
| (2, 2) 471 | Siaradwch yn eglur. |
| (2, 2) 472 | Lle mae o? |
| (James) Sut y medra i ddeyd wrthat ti? | |
| (James) Fum i 'rioed ar y grounds lle mae dy dad 'rwan; y cwbwl fedra i ddeyd ydi fod o wedi cicio'r bwced. | |
| (2, 2) 475 | Ydach chi'n deyd y gwir am unwaith? |
| (James) Fu 'rioed well gwir. | |
| (Miss Hughes) Eistedd fan yna, Rhys. | |
| (2, 3) 519 | O'r gore, Tomos Bartley. |
| (2, 3) 520 | Prysur iawn ydych o hyd, 'rwy'n gweld. |
| (Tomos) Ie, tw bi shwar, trwsio 'sgidie rhwfun o hyd. | |
| (Tomos) Ie, tw bi shwar, trwsio 'sgidie rhwfun o hyd. | |
| (2, 3) 522 | Esgidie pwy yw y rhai yna? |
| (Tomos) 'Sgidie Wil Pont y Pandy, {gellir nodi unrhyw gymeriad lleol}—welest ti fath draed erioed, ma' nhw fel cwarter i dri, da 'i byth o'r fan 'ma! | |
| (Tomos) Wyst ti be, pan glywn ni am cheap trip, hidie Barbara a finne 'run bluen pwyntydd a dwad i edrach am danat ti, a hidien ni, Barbara? | |
| (2, 3) 533 | Mi leiciwn eich gweld chi yn arw iawn. |
| (Tomos) Mi wn o'r gore y leiciet ti'n gweld ni. | |
| (Tomos) Oes yno lawer o honyn nhw, dwed, yn y Bala yn dysgu pregethu? | |
| (2, 3) 536 | Nid dysgu pregethu mae nhw yno, Tomos Bartley. |
| (Tomos) O wel, wir, dwed di hynny, achos mi glywais i rai o honyn nhw a doeddwn i yn gweld dim byd ynyn nhw,—i nhast i | |
| (Tomos) Wel, be yn y byd mawr mae nhw yn ddysgu yno? | |
| (2, 3) 541 | Ieithoedd, Tomos Bartley. |
| (Tomos) Hyhy! Pw ieithoedd, dwed? | |
| (Tomos) Hyhy! Pw ieithoedd, dwed? | |
| (2, 3) 543 | Lladin a Groeg. |
| (Tomos) Hoho! mi gwela hi 'rwan,—rhag ofn y bydd raid iddyn nhw fynd yn fisionaries, ynte? | |
| (Tomos) Riol peth, yn wir. | |
| (2, 3) 546 | Nag ydw. |
| (Tomos) 'Roeddwn inne yn meddwl hynny. | |
| (Tomos) Be daru ti galw nhw? | |
| (2, 3) 550 | Lladin a Groeg. |
| (Tomos) Tw bi shwar,—Lladin a Groeg. | |
| (Tomos) Tw bi shwar,—Lladin a Groeg. | |
| (2, 3) 552 | Nage. |
| (Tomos) Iaith pwy, ynte? | |
| (Tomos) Iaith pwy, ynte? | |
| (2, 3) 554 | O, ieithoedd rhyw hen bobol sydd wedi marw er's canrifoedd. |
| (Tomos) Ieithoedd pobol wedi marw! | |
| (Tomos) Gneyd sport o hono i 'rwyt ti, dwed? | |
| (2, 3) 558 | Na, yr wyf yn deyd y gwir yn onest i chi,—maent yn dysgu yr ieithoedd er mwyn y trysorau sydd ynddynt. |
| (Tomos) Wel, da i byth gam i geibio os clywais i ffasiwn beth. | |
| (Tomos) Beth arall mae nhw yn 'i ddysgu ono, dwed? | |
| (2, 3) 563 | Mathematics. |
| (Tomos) Mathew Matic! | |
| (Tomos) Be ydi hwnnw, dywed? | |
| (2, 3) 567 | Sut i fesur a phwyso, a gneyd cyfrifon a phethe felly. |
| (Tomos) Dene rwbath digon handi, a dene'r rheswm, ddyliwn i ti, fod cymin o brygethwrs yn mynd yn ffarmwrs ac yn shopwrs. | |
| (Tomos) Be arall ma nhw yn 'i ddysgu? | |
| (2, 3) 570 | Saesneg a Hanesiaeth. |
| (Tomos) Eitha peth. | |
| (Tomos) Ond dywed i mi, ddyliwn fod y ffâr yn go lew ono? | |
| (2, 3) 581 | Nid ydynt yn profeidio i neb. |
| (2, 3) 582 | Mae pawb yn gorfod gofalu am dano ei hun. |
| (Tomos) Wel, sut yn y byd mawr mae'r bechgyn yn cael profisiwns? | |
| (Tomos) Ydyn nhw yn cael hyn a hyn yr wsnos at fyw? | |
| (2, 3) 585 | Nag ydynt; mae nhw yn cael mynd yma ac acw i brygethu, ac yn cael ychydig am hynny, ac yn byw arno. |
| (Tomos) Wel, da i byth i Ffair Caerwys os nad y College ydi'r lle rhyfedda y clywis i son am dano. | |
| (Tomos) Mi fydd gynnon ni ddigon wedyn. | |
| (2, 3) 594 | Na, fydd arna i ddim angen, yn siwr, Tomos Bartley, diolch yn fawr i chwi. |
| (Tomos) Wel, wel! Arnat ti mae'r bai. | |
| (Tomos) Nos dawch. | |
| (2, 4) 617 | Wel, mae yr amgylchiad oeddwn wedi ei hir ddisgwyl wedi pasio. |
| (2, 4) 618 | Yr wyf yn awr wedi fy ngalw gan eglwys Bethel i bregethu, ond beth wnaf?—dyna y cwestiwn. |
| (2, 4) 619 | Dydw i ddim ond bachgen tlawd, a rhaid cael arian i fynd i'r Coleg. |
| (2, 4) 620 | Hwyrach y dylwn i aros adref i gadw y busnes ymlaen efo Miss Hughes. |
| (2, 4) 621 | Mae hi wedi cynnyg cyflog dai mi; ond 'rwyf yn meddwl mai mynd i'r Coleg ddylwn er hynny, neu roi fling i'r pregethu yma am byth. |
| (2, 4) 622 | Dywedodd fy hen feistr, Abel Hughes, wrthyf lawer gwaith na ddylai yr un dyn ieuanc feddwl am bregethu, heb ar yr un pryd benderfynu treulio rhai blynyddoedd yn y Coleg. |
| (2, 4) 623 | Dywedodd Abel wrthyf na fuasai raid i mi fod eisiau dim tra yn y Coleg, ac y disgwyliai ef i mi wneyd Shop y Gornel yn gartref. |
| (2, 4) 624 | Ond waeth tewi am hynny. |
| (2, 4) 625 | Fuasai wiw i mi son wrth neb am hynny,—choelie nhw mona i. |
| (2, 4) 626 | Beth wnai? |
| (2, 4) 627 | Wn i ddim. |
| (2, 4) 628 | Yr ydw i yn synnu ata fy hun mor ddi-adnoddau ydwyf. |
| (2, 4) 629 | Hwyrach fy mod wedi arfer ymddiried mwy yn Abel Hughes nag mewn Rhagluniaeth. |
| (2, 4) 630 | Ydi o ddim ond rhyfyg arnaf fynd i'r Coleg heb ddim o fy nghwmpas ond dillad ac ychydig lyfrau. |
| (2, 4) 631 | Be ydw i'n siarad? |
| (2, 4) 632 | Y cwestiwn ydyw, "Beth a wna i am arian?" |
| (2, 4) 633 | 'Does gen i fawr; dyma nhw—{yn tynnu allan ei bwrs, ac yn cyfrif ei arian,—un, dwy, etc.}—chwe phunt a deg swllt a chwe cheiniog! |
| (2, 4) 634 | Erbyn byddaf wedi talu rhyw ychydig bethau, a phrynnu rhai ereill, fydd gen i ddim ond digon i dalu fy nhren i'r Bala. {yn dal ei arian yn ei law} |
| (Miss Hughes) Yr ydw i'n mynd i gadw 'rwan, Rhys. | |
| (Miss Hughes) Yr ydw i'n mynd i gadw 'rwan, Rhys. | |
| (2, 4) 637 | Arhoswch funud. |
| (2, 4) 638 | Mae gen i eisio siarad gair efo chwi. |
| (2, 4) 639 | Heb ofyn eich caniatad, yr wyf wedi gwneyd ymchwiliad lled fanwl i amgylchiadau eich diweddar frawd, ac yr wyf yn cael fod digon ar ol i chi fyw yn gysurus arno, ac i chi gael byw i fynd yn hen. |
| (2, 4) 640 | Fy nghyngor i ydyw,—gellwch ei wrthod os dewiswch,—gwerthu yr ystoc a'r busnes. |
| (2, 4) 641 | Yr wyf yn meddwl y gwn am gyfaill i mi y byddai yn dda ganddo gymeryd popeth oddiar eich llaw. |
| (2, 4) 642 | Mae allan o'r cwestiwn i mi aros yma i edrych ar ol y busnes. |
| (2, 4) 643 | Yr wyf yn benderfynol o fynd i'r Coleg. |
| (2, 4) 644 | Ac yr wyf yn sicr, pe gallech ymgynghori â fy hen feistr, y dywedai ef fy mod yn gwneyd yn fy lle. |
| (Miss Hughes) Yr ydw i wedi siarad yn gas iawn lawer gwaith wrthat ti, Rhys. | |
| (Miss Hughes) Mi wn y gwnei di fadde i mi. | |
| (2, 4) 647 | Gwnaf; 'ran hynny, ddigies i 'rioed wrthoch chi. |
| (Miss Hughes) Roeddwn i wastad yn dy leicio di, mi wyddost o'r gore. | |
| (Miss Hughes) Y ti ŵyr ore, a mi wnaf fel wyt ti yn deyd. | |
| (2, 4) 651 | Yr wyf yn sicr mai dyna y peth gore i chi, a mae yn dda gen i weld eich bod yn cydweld â mi. |
| (Miss Hughes) Bydawn i yn cael rhwfun yn dy le di, fy robio i wnai o, hwyrach, ynte? | |
| (Miss Hughes) Bydawn i yn cael rhwfun yn dy le di, fy robio i wnai o, hwyrach, ynte? | |
| (2, 4) 653 | Wn i ddim yn wir. |
| (Miss Hughes) Oedd ar Abel rwbeth o gyflog i ti? | |
| (Miss Hughes) Oedd ar Abel rwbeth o gyflog i ti? | |
| (2, 4) 655 | Dim. |
| (2, 4) 656 | Yr oeddwn ers mis wedi codi fy nghyflog, hyd i ddydd Sadwrn diweddaf. |
| (Miss Hughes) Dyma ti, mi wn y cei yn y College bopeth fyddi di eisio; ond hwyrach na chei di fawr o boced-myni. | |
| (Wil) Wel, aros di, welis i monot ar ol y seiat y ces di dy alw i bregethu, ond dyma ni, just y peth, 'roeddwn i eisio cael ymgom efo ti. | |
| (2, 4) 667 | Mi wyddwn, Wil, y cawn i'r hanes i gyd gennyt. |
| (2, 4) 668 | Sut y bu hi ar ol iddyn nhw ngyrru i allan? |
| (Wil) Bydawn i yn rhoi verbatim report i ti, wnai o les yn y byd i ti. | |
| (Wil) Glywes di am danom ni acw? | |
| (2, 4) 697 | Clywed be, Wil? |
| (2, 4) 698 | Dydw i ddim yn dy ddailt di. |
| (Wil) Wel, mae hi yn "U P" acw, a mi fydd pawb yn gwybod hynny cyn wythnos i heddyw, a fedra i mo'i sefyll hi. | |
| (Wil) Fum i 'rioed o'r blaen yn really down in the mouth. | |
| (2, 4) 710 | Wil, yr wyt ti bron wedi cymeryd fy ngwynt! |
| (2, 4) 711 | Sut y daeth pethau i hyn? |
| (Wil) Rhy faith i fynd drostyn nhw, was. | |
| (Wil) Mae'n rhaid i mi fynd,—mae rhywbeth yn fy ngyrru. | |
| (2, 4) 720 | 'Rwyt ti wedi ngneyd i'n brudd, Wil. |
| (2, 4) 721 | Wnei di dderbyn un cyngor? |
| (Wil) Beth ydi hynny, old fellow? | |
| (Wil) Beth ydi hynny, old fellow? | |
| (2, 4) 723 | Treia newid dy ffordd o fyw. |
| (Wil) Fedra i ddim, Rhys. | |
| (Wil) Yr wyf yn teimlo bron 'run fath a Wolsey,—"Had I but served my God,"—mi wyddost am y geirie. | |
| (2, 4) 729 | Wil bach—— |
| (Wil) Waeth iti heb siarad! | |
| (Tomos) Sut yr wyt ti ers cantoedd â miloedd? | |
| (3, 1) 795 | Reit iach, Tomos. |
| (3, 1) 796 | Pwy yn y byd mawr fase yn disgwyl y'ch gweld chi yn y Bala? |
| (Tomos) Tw bi shwar! | |
| (Tomos) Lle 'roeddat ti wrthi ddoe? | |
| (3, 1) 809 | Trawsfynydd. |
| (Tomos) Trawsfynydd? | |
| (Tomos) Wel, aros di, nid un oddiyno oedd Morgan Llwyd? | |
| (3, 1) 812 | Ië. |
| (Tomos) Tw bi shwar! | |
| (Tomos) Dywed i mi, oes ene rai o'i deulu o yn byw yn Trawsfynydd 'rwan? | |
| (3, 1) 832 | Oes y mae, Tomos. |
| (Tomos) Bydase gen i amser, mi faswn yn mynd yno 'u gweld nhw, bydawn i byth o'r fan 'ma! | |
| (Tomos) Wyt ti'n cael digon o brofisiwns yma, dywed? | |
| (3, 1) 841 | Mae hi yn dwad ymlaen yn eitha da hyd yn hyn, Tomos. |
| (3, 1) 842 | Sut mae Barbara, a sut na fase hi efo chi? |
| (Tomos) Wel, rhw ddigon bethma ydi Barbara, yn siwr i ti. | |
| (Tomos) Wyst ti be, fum i ddim oddicartre o'r blaen er's pum mlynedd ar hugain. | |
| (3, 1) 847 | Beth ydych chi yn 'i feddwl o'r Bala, Tomos? |
| (Tomos) Tydw i wedi gweld fawr ohoni eto, ond yn ol hynny weles hi, mae hi'n edrach yn debyg iawn,—yn ol y meddwl i,—i dre wedi 'i bildio ar ganol cae. | |
| (Tomos) Does gen i fawr o amser, a mi fydd acw dy ar ffyrch nes a i 'nol. Oes gynnat ti amser? | |
| (3, 1) 857 | Oes debyg. |
| (3, 1) 858 | Mi ddanghosaf gymaint ag allaf. |
| (3, 1) 859 | Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi cael bwyd. |
| (Tomos) Do, neno dyn; mi roth Barbara olwyth o facyn a bara i mi fyta ar y ffordd, a mi nes yn champion, syffiasiant i un-dyn. | |
| (Tomos) Do, neno dyn; mi roth Barbara olwyth o facyn a bara i mi fyta ar y ffordd, a mi nes yn champion, syffiasiant i un-dyn. | |
| (3, 1) 861 | Well i mi 'molchi. |
| (Tomos) 'Molchi! I be wyt ti isio molchi? | |
| (Tomos) Wyt ti'n mynd dipyn yn gysetlyd yma, dywed? | |
| (3, 1) 866 | Fydda i 'run dau funud. {Ymneillduo am funud.} |
| (Tomos) Aros di, Rhys, weles i monat ti yn cymeryd dim byd at dy ben er pan ydw i yma. | |
| (Tomos) Ches di ddim bwyd? | |
| (3, 1) 869 | Do, Tomos, mi ges fwyd yn Rhyd-y-fen. |
| (Tomos) Rhyd-y-fen? | |
| (Tomos) Ydi hi'n daith? | |
| (3, 1) 873 | Na, ty tafarn ydi Rhyd-y-fen,—hanner y ffordd rhwng y Bala a Ffestiniog. |
| (Tomos) Be, be? | |
| (Tomos) Ond 'does dim harm yn y peth-ynddo'i hun, yn ol y meddwl i; a mi fyddwn yn wastad yn deyd fod Abel Hughes yn rhy strict efo hynny. | |
| (3, 1) 878 | Diolch yn fawr i chwi, Tomos; a diolchwch i Barbara. |
| (Tomos) Mae i ti groeso, machgen i. | |
| (Tomos) {yn tanio ei getyn} Mi gychwynna i, fechgyn. | |
| (3, 1) 881 | Hwyrach mai gwell fydda i chi beidio smocio yn y dre, Tomos. |
| (Tomos) Oes drwg am hynny? | |
| (Tomos) Ne ai pobol go gysetlyd sydd yn y Bala? | |
| (3, 1) 884 | 'Does dim drwg yn y peth, am wn i, Tomos; ond nid oes neb parchus yn gwneyd hynny yma. |
| (Williams) Na, smociwch eich gore, Mr. Bartley. | |
| (Williams) Mi fydde yn perfect treat. | |
| (3, 1) 895 | Fydde hynny ddim quite y peth. |
| (3, 1) 896 | Mae o yn dipyn o brofedigaeth i mi, achos mi fydd raid i mi fynd ag o o gwmpas. |
| (3, 1) 897 | Bydase'r creadur wedi gadael y goler fawr yna gartre, mi fase yn dda iawn gen i. |
| (3, 1) 898 | Mi fydd pawb yn edrach ar y'n hola ni. |
| (Williams) Paid a chyboli! | |
| (Williams) Os cai, mi geiff y mathematics am heddyw'r prydnawn fynd i Jerico. | |
| (3, 1) 904 | Gei di, wir! |
| (3, 1) 905 | Yr oeddwn ar fedr cynnyg pum swllt i ti am ddwad i gymeryd peth o'r cywilydd. |
| (Williams) Rhys Lewis sydd ar y ddau. | |
| (Williams) Ydi hi'n iach? | |
| (3, 1) 913 | Paid a lolian, Williams. |
| (3, 1) 914 | Edrych, beth ddyliet ti yw hwn? |
| (3, 1) 915 | Gwahoddiad oddiwrth fy hen eglwys, Bethel, i fynd yn weinidog arni. |
| (Williams) Llongyfarchiadau lond gwlad. | |
| (Williams) Unpeth eto, Rhys. | |
| (3, 1) 918 | Beth ydi hwnnw, Williams? |
| (Williams) Gwraig reit dda. | |
| (Williams) Pam mae dy wedd yn newid,—pa newydd drwg? | |
| (3, 1) 922 | Dyma lythyr o garchar Birmingham, yn dweyd fod yno berthynas i mi ar ei wely angeu, ac fod yn rhaid i mi fynd yno ar unwaith i'w weld. |
| (Tomos) {oddiallan} | |
| (Athraw) Mr. Evans of Denbigh, will you read? | |
| (3, 2) 948 | He is not here, sir. |
| (Athraw) Where is he? | |
| (4, 1) 1019 | Waeth i mi droi i edrych am lety.—{Clywed chwibiannu.} |
| (4, 1) 1020 | Dyna'r hen "Gaersalem". |
| (4, 1) 1021 | Wyddwn i ddim fod y Saeson yn ei harfer o'r blaen. |
| (4, 1) 1022 | Mi gaf weld,—mae y chwibianwr yn dwad ffordd yma. |
| (Wil) Wel, yr hen ganfed! | |
| (Wil) Wyddost ti pwy weles i rwan just? | |
| (4, 1) 1030 | Na wn i. |
| (Wil) Wel, mi weles yr hen Niclas yn dwad allan o'r lle yna, a mi canlynais o, a mi weles 'i fod o yn byw ar hyn o bryd yn 65 Gregg Street, ac mi ddois yn ol yma i edrych welwn i chwaneg o'r breed, a strange to tell, dyma tithe. | |
| (Wil) Spowtia. | |
| (4, 2) 1067 | Wel, mi ges lythyr fod 'ne rywun yn y Carchar yna wedi marw, ac yn gofyn am danaf cyn marw. |
| (4, 2) 1068 | Dois yma ar unwaith, ac aethum i'r Carchar, a phwy oedd yno ond fy ewythr James Lewis wedi marw. |
| (4, 2) 1069 | Prin y medrwn i gredu ei fod wedi marw o ddifrif; ond mai rhyw gynllun cyfrwysddrwg oedd ganddo i ddyfod allan o'r carchar. |
| (4, 2) 1070 | Er mwyn bod yn sicr, teimlais ei ddwylaw a'i dalcen, ac yr oeddynt can oered a'r muriau llaith oedd o'n cwmpas. |
| (4, 2) 1071 | Yr oedd cyn farwed a hoel, ac er ei fod yn ewythr i mi, frawd fy nhad, mae arnaf ofn na ddodwyd ond ychydig o'i waeth rhwng pedair ystyllen. |
| (4, 2) 1072 | Fedra i ddim llai na theimlo yn falch, nad all ef fy mlino i mwy. |
| (4, 2) 1073 | Mi ddois allan o'r Carchar, ac mi wyddost y gweddill. |
| (Wil) Gwna dy hun gartref tra byddai yn ceisio'r grub yn barod. | |
| (Wil) Wel, mi welaf fod ti'n cymeryd stoc. | |
| (4, 2) 1078 | Wel, Wil bach, wyt ti wedi dwad i hyn? |
| (Wil) Dwad i be? | |
| (Wil) Dywed y gair, te neu goffi? | |
| (4, 2) 1084 | Te. |
| (Wil) Same here. | |
| (Wil) Does gen i ddim llefrith chwaith,—ma'r tuberculosis yn enbyd ar y gwartheg yma, ac mae te heb laeth ynddo 'n torri syched yn well lawer, Rhys. | |
| (4, 2) 1098 | Wel, 'rwan, Wil bach, dywed dipyn o dy hanes i mi. |
| (Wil) Wel, mi wyddost pan yr es i oddi cartre. | |
| (Wil) Mae'r cwbl just a chael ei dalu rhyngom ni. | |
| (4, 2) 1129 | Yr oeddwn yn deall fod dy dad bron a thalu ei holl ddyled, ond bychan y gwyddwn i dy fod di yn 'i helpu o. |
| (4, 2) 1130 | Yr wyt yn gwneyd yn dda iawn, ond fe wnaet yn well pe ddoit adref. |
| (Wil) Mi ddof rai o'r dyddiau nesaf yma, pan fydd yr accounts yn glir. | |
| (Wil) Mi ddof rai o'r dyddiau nesaf yma, pan fydd yr accounts yn glir. | |
| (4, 2) 1132 | Be ddyliet, Wil, yr wyf fi wedi cael galwad i fod yn fugail yr hen eglwys y cawsom ein dau ein magu ynddi. |
| (4, 2) 1133 | A fuasai ddim yn well gennyf, os atebaf yr alwad yn gadarnhaol, na dy gael di unwaith eto yn aelod ohoni. |
| (Wil) Wait till the clouds roll by. | |
| (Wil) Ddylies i'n siwr mai y got las oedd ene, having run us down to earth. | |
| (4, 2) 1140 | 'O na, mae'n debyg ei fod yn gweld nad oeddym yn gwneyd drwg, ac wedi ein rhoi i fyny. |
| (Wil) Never be too sure! | |
| (Wil) Os daw'r officer yma, be ddeydwn ni wrtho, dywed? | |
| (4, 2) 1145 | 'Does dim i'w wneyd ond deyd y gwir, a chymeryd y canlyniadau. |
| (4, 2) 1146 | Ond mi fynnaf wybod pwy oedd ar y gwely yn y ty yna, dae raid i mi fynd i ben y ffenestr eto. |
| (Wil) Deyd y gwir! | |
| (Sgt Williams) Rhys, a ydych yn fy adnabod? | |
| (4, 2) 1173 | Nag ydw i'n wir. |
| (Sgt Williams) Bryan, a ydych chwi? | |
| (Sgt Williams) Wyddoch chi pwy oedd yn y ty hwnnw, Rhys Lewis? | |
| (4, 2) 1185 | Mi wn fod yr hen Niclas yno. |
| (Sgt Williams) Ydi, ac y mae eich tad yno hefyd,—ar ei wely angau. | |
| (Sgt Williams) Fuasech chi yn leicio ei weld? | |
| (4, 2) 1190 | Na fuaswn! |
| (4, 2) 1191 | Ond yr ydw i wedi gwneyd addewid. |
| (4, 2) 1192 | Buaswn. |
| (Wil) Ie, cyn iddo'i gloewi hi. | |
| (Sgt Williams) Mi ddof hefo chwi. | |
| (4, 2) 1195 | Wel, mi awn; ond aros di, Wil, 'does gen i ddim llawer o amser i ddal y tren, achos rhaid i mi fynd yn ol i'r Bala yn ddiymdroi, am fod yr Exam gennon ni drwy'r wythnos nesaf. |
| (Wil) Wel, paid a synnu os bydd yours truly yn troi adref yn fuan, achos rydw i yn mawr gredu fod Wil Bryan yn dwad yn ei ol. | |
| (Tomos) Dacw fo'n dwad ar y gair i ti. | |
| (4, 3) 1214 | Wel, gyfeillion bach, sut yr ydach chi heddyw? |
| (Tomos) Digon symol ydi Barbara wir, wel di. | |
| (Tomos) Wyst ti be, Rhys, mae 'i gweld hi yn sal fel hyn yn codi hireth arna i am Seth. | |
| (4, 3) 1218 | Wel, yr ydw i yn disgwyl y cawn ni gyfarfod Seth eto. |
| (Tomos) Mae natur tranne yni hi heno, wel di; ac wrth feddwl am hynny, dene sy'n gneyd Barbara deimlo mor sal heno. | |
| (Tomos) Mae un o'r moch ola ges i yn colli'i stumog bob amser cyn tranne. | |
| (4, 3) 1221 | Mae'n ddrwg gen i nad ydi Barbara ddim gwell. |
| (4, 3) 1222 | Mi ddowch |chi| i'r capel, Tomos? |
| (Tomos) Tw bi shwar. | |
| (Wil) And to kill two birds with one stone, drwy ymweld â'r hen thorough-breds, mi ddeuthom yma ar dy ol di. | |
| (4, 3) 1231 | Dowch i fewn. |
| (Tomos) Wel, William, mi 'rwyt ti'n edrych yn dda. | |
| (Barbara) Ydi o'n wir, William, dy fod di yn mynd i briodi? | |
| (4, 3) 1249 | Rhaid i chi ddim swilio'ch dau. |
| (4, 3) 1250 | Ydi o'n wir? |
| (Wil) Fel secret, gan ddisgwyl nad eiff o ddim ymhellach, yr ydw i'n deyd wrthoch chi yma fod ene o'r diwedd definite understanding rhwng Sus a minne, ac yn wir ynglŷn â'r cwestiwn yna y daethom i yma i edrach am Rhys. | |
| (Wil) Mae hynny yn dibynnu ar Rhys yma. | |
| (4, 3) 1255 | O na, mi fydd yn bleser gen i roi fy hun at eich gwasanaeth a'ch cyfleustra chwi eich dau. |
| (Wil) Well, that settles it. | |
| (Wil) Wyt ti'n cofio mod i'n deyd wrthat ti mod i'n past feeling? | |
| (4, 3) 1260 | Ydw. |