| (Pleser) |Now, by your leave, gentlemen and ladies|: | |
| (Rondol) Heddyw, mae rhai yn ei haeddu, | |
| (1, 1) 760 | Gwrandewch yn awr fawr a mân gân glân Ragluniaeth, |
| (1, 1) 761 | I mi mor deg, yma ar dwyn, mae'r olwyn reolaeth; |
| (1, 1) 762 | Pura sail pob rhyw swydd, hwynt arwydd naturiaeth; |
| (1, 1) 763 | Pob cwymp a dyrchafiaeth sydd a'u lluniaeth i'm llaw; |
| (1, 1) 764 | Doethineb Ior wnaeth y byd, a'r hyn sydd gyd ynddo, |
| (1, 1) 765 | A'i air ef sydd o'i ras yn addas ddefnyddio, |
| (1, 1) 766 | Rhagluniaeth rad, glanwaith rodd, a ryngo fodd iddo; |
| (1, 1) 767 | Pob gwedd a ddigwyddo o'm dwylaw a ddaw, |
| (1, 1) 768 | Mae pob dyn yn llaw Duw yn cynwys i'w amcanion, |
| (1, 1) 769 | Fel clai rhwydd yn llaw rydd crochenydd awch union; |
| (1, 1) 770 | Ef oll wneiff, o'i allu 'nawr, rai'n fawr, a rhai'n fyrion. |
| (1, 1) 771 | A pha'm na bydd dynion mwy boddlon yn byw? |
| (1, 1) 772 | Creaduriaid glân, mân a mawr, ag aflan yn gyfled, |
| (1, 1) 773 | Carnolion byd, fryd ddi-freg, a hoywdeg ehediaid; |
| (1, 1) 774 | Lluoedd llawn, ddawn diddysg, pysg ac ymlusgiaid; |
| (1, 1) 775 | Rhagluniaeth ganlyniad sy'n rhediad phob rhyw. |
| (1, 1) 776 | ~ |
| (1, 1) 777 | Rhagluniaeth nawf, glanwaith nod, i'r pysgod fel pesgon, |
| (1, 1) 778 | Y mawr eu nherth mewn môr a nant lyncant y gwaelion, |
| (1, 1) 779 | Byw wna'r dewr ar ben y dwl, a'u meddwl a'u moddion, |
| (1, 1) 780 | Doethineb y cyfion, llaw roddion, llwyr yw, |
| (1, 1) 781 | Yn ei law anwyl e' mae calonau pelynion; |
| (1, 1) 782 | Darostwng beilch drwst, a bar, a chodi'r gwar gwirion, |
| (1, 1) 783 | Mwynaidd yw 'mynedd dda, dilidia wrth dylodion; |
| (1, 1) 784 | Fe dderbyn dylodion i foddion ail fyw, |
| (1, 1) 785 | Enfyn ef iawn farn i'r goludog i'w g'ledi, |
| (1, 1) 786 | Newynog noeth llenwi wna o'i anwyl ddaioni, |
| (1, 1) 787 | Nerth a dawn wrth y dydd, radd enwog, rydd ini; |
| (1, 1) 788 | Os trown o'n trueni ei gwmni ef gawn. |
| (1, 1) 789 | O! am nerth yma'n Nuw i fyw ac i farw, |
| (1, 1) 790 | Hwn yw'r sail unig sydd pan dderfydd pob twrw; |
| (1, 1) 791 | Un yw ef yn ei air pan fo'r byd yn bair berw, |
| (1, 1) 792 | Gwynfyd fo'r dydd hwnw yn ei enw fe'n iawn. |
| (Rheswm Natur) Chwenycha' i'n 'nawr, a mawr yw 'mwriad, | |
| (Rheswm Natur) Gael deall cyneddf dull eich caniad. | |
| (1, 1) 796 | Pwy ydych chwi, a pheth yw'ch henw? |
| (Rheswm Natur) Rheswm natur maent yn fy ngalw. | |
| (Rheswm Natur) Ddamweinie croes i Reswm Natur. | |
| (1, 1) 808 | Nid Rheswm Natur, ystyr, clyw, |
| (1, 1) 809 | All union farnu pethe Duw; |
| (1, 1) 810 | Nicodemus yw cydymeth |
| (1, 1) 811 | Plant y byd a'u hanwybodeth. |
| (1, 1) 812 | ~ |
| (1, 1) 813 | Mae'n rhaid cael dyn yn hollol allan |
| (1, 1) 814 | O syniad cnawd a balchder hunan, |
| (1, 1) 815 | A marw i'r cnawd a byw i Dduw, |
| (1, 1) 816 | Cyn perffeth ddirnad pa beth yw. |
| (Rheswm Natur) Mae hyn 'rwy'n gweled galed gwlwm, | |
| (Rheswm Natur) Yw rhagluniaethe yn mhob oes. | |
| (1, 1) 821 | Rhaglunieth iachus y Gorucha', |
| (1, 1) 822 | Ro'i Lot ymwared o Gomora; |
| (1, 1) 823 | A Noa wneud arch i'w gadw o'r dystryw, |
| (1, 1) 824 | Chwech ugen mlynedd cyn y diluw. |
| (1, 1) 825 | ~ |
| (1, 1) 826 | Rhaglunieth ddirgel fu'r athrylith, |
| (1, 1) 827 | Yn dysgu Jacob gael y fendith; |
| (1, 1) 828 | A gwerthu Joseph i law'r Aiphtwyr, |
| (1, 1) 829 | I gadw'i fywyd ef a'i frodyr. |
| (1, 1) 830 | ~ |
| (1, 1) 831 | Rhagluniaethe diamgyffred, |
| (1, 1) 832 | Fu i Moses gyda'r Israelied; |
| (1, 1) 833 | Josua, Dafydd, a Hezecia, |
| (1, 1) 834 | A'r wraig weddw o Sarepta. |
| (1, 1) 835 | ~ |
| (1, 1) 836 | Fe gadwodd llaw Rhaglunieth lân, |
| (1, 1) 837 | Trwy ffau'r llewod a ffwrn dân; |
| (1, 1) 838 | Trwy ene'r morfil yn y mawrfor, |
| (1, 1) 839 | Trwy fywyd Job, ac amryw'n rhagor. |
| (1, 1) 840 | ~ |
| (1, 1) 841 | Pob peth sy'n llaw yr Hwn a all |
| (1, 1) 842 | Ddarostwng un a chodi'r llall; |
| (1, 1) 843 | Ni ddichon un dyn, gwnaed ei egni, |
| (1, 1) 844 | 'Chwanegu cyfudd at ei faintioli. |