| (Price) {Gyda gollyngdod.} | |
| (Gwen) Dewch miwn. | |
| (1, 0) 248 | Shwd ych-chi yma heddi? |
| (1, 0) 250 | O, ych-chi'n cal tê? |
| (Gwen) Otyn, otyn. | |
| (1, 0) 256 | Na'n wir! |
| (1, 0) 257 | Na'n wir! |
| (1, 0) 258 | Dim diolch. |
| (1, 0) 259 | Newydd gal 'nhê wy' i. |
| (Gwen) Mae yma ddicon o groeso, cofiwch chi. | |
| (1, 0) 262 | Oes, oes! |
| (1, 0) 263 | Fe wn i hynny. |
| (1, 0) 265 | Fe glywsoch y newydd, spo? |
| (Price) Do, fe glywas. | |
| (Price) Do, fe glywas. | |
| (1, 0) 267 | Wel, feddylias i ariod y byswn i byw i weld shwd ddyn a'r hen Binkerton yn M.P. dros y Cwm─naddo'n wir! |
| (Gwilym) Mae' nhw'n gweyd 'i fod e'n ddyn galluog iawn, Mr. Pugh. | |
| (Price) A chlywas i ariod sôn am y Pinkerton yma tan ryw ddwy ne dair blynadd yn ol. | |
| (1, 0) 275 | Wel, rown i'n meddwl fod pawb yn diall 'slawar dydd taw Evan Davies oedd i ddilyn George Llewelyn. |
| (Gwilym) Bysa wedi ei ddilyn ddeng mlynadd yn ol, yn ddi-os, Mr. Pugh; falle bum mlynadd yn ol. | |
| (Gwen) Cymrwch honna yn 'ch llaw fanna nawr, Isaac Pugh. | |
| (1, 0) 295 | Wel yn wir, doedd dim o'i isha arno' i. |
| (1, 0) 296 | Ond gan 'ch bod chi mor garetig─ |
| (Gwen) {Yn dal plataid o fara 'menyn.} | |
| (Gwen) Dyna bishyn bach neis tena i chi. | |
| (1, 0) 302 | Wel yn wir, Mrs. Price fach, gan 'ch bod chi mor daer─ |
| (Price) Clywas fod William Ewart chi wedi cal hwyl dda arni lan yn Treherbert pwy ddydd Sul 'ma. | |
| (1, 0) 307 | Fe geso' i lythyr oddiwrth William Ewart y bora 'ma. |
| (1, 0) 309 | Glywsoch chi oddiwrth John Henry yn ddiweddar? |
| (Gwen) Dim ond cwpwl o bicture-postcards yr wthnosa dwetha yma, ond 'dym ni ddim yn poeni o achos hynny am 'i fod e wrthi yn gwitho erbyn yr |examination|. | |
| (1, 0) 314 | Peth rhyfadd hed na fysa fe'n sgrifennu! |
| (1, 0) 316 | Mae Lewis chi wedi bod yn gwitho dros Pinkerton, spo, Price? |