| (Dieithryn) Dydd da ichi. | |
| (Capten) Pendics. | |
| (0, 1) 107 | Llid y coluddyn. |
| (Prydderch) Poen yn ei bol. | |
| (Prys) Na, na, na, mi ydw i'n dilyn perwyl eich perorasiwn chi rwan... rydw i'n meddwl. | |
| (0, 1) 123 | Cymhariaeth ddigon tila oedd hi, serch hynny. |
| (0, 1) 124 | Cyffelybiaeth anllenyddol. |
| (Capten) Dewcs, mi ydw i'n fodlon ei newid hi os ydi'n eich blino chi Prothero! | |
| (Prys) Biti drosti, ydach chi ddim yn meddwl? | |
| (0, 1) 137 | Wel, mae'n dibynnu. |
| (Prydderch) Mater o farn. | |
| (Prys) Mae o wedi bod yn her i'r pentre ers cyn co' on'd ydi? | |
| (0, 1) 244 | Be sy wedi bod yn her i'r pentre ers cyn co'? |
| (Prys) Wel, y clogwyn, Prothero, y clogwyn. | |
| (Prys) Ydach chi ddim yn cofio? | |
| (0, 1) 248 | Anodd deud y gwahaniaeth erbyn heddiw! |
| (Prydderch) Dim ond cynnyrch dirywiad yr oes. | |
| (Prys) Dewcs, tybed d'wch? | |
| (0, 1) 257 | Rwy'n tueddu i gytuno efo chi y tro yma, Prydderch, mae'n ddrwg gen i ddeud! |
| (Capten) Dim byd sicrach. | |
| (Capten) Glywsoch chi'r fath erthyl o ebychiad erioed! | |
| (0, 1) 279 | Mae pobol wedi anghofio sut i siarad. |
| (Prys) Dewcs, tybed d'wch? | |
| (Prydderch) Twt, twt, twt be nesa! | |
| (0, 1) 284 | Mi hoffwn i wneud datganiad. |
| (Capten) Mae Prothero am wneud datganiad. | |
| (Capten) Reit, Prothero. | |
| (0, 1) 288 | Fe glywsoch Prydderch yn "twt-twtio" rwan. |
| (0, 1) 289 | Peidied neb â meddwl mai ar dir diwylliannol roedd o'n gwneud. |
| (0, 1) 290 | Hynny ydi nid wfftio at ein hiaith sathredig ni roedd o. |
| (Prydderch) Cywir! | |
| (Prydderch) Ar dir metaffisegol roeddwn i'n protestio. | |
| (0, 1) 293 | Fel mater o ffaith, mae o'n twt-twtio bob tro y bydd rhywun yn sôn am y Bod Mawr. |
| (0, 1) 294 | Mi ydw i wedi sylwi hynny. |
| (Prydderch) Y Bod Mawr? | |
| (Prydderch) Sy'n bygwth ein traflyncu'n raddol a dan-din. | |
| (0, 1) 366 | Cytuno mae'n ddrwg gen i gyfadde. |
| (0, 1) 367 | Ond waeth heb na hel dail, — mae'n argyfwng. |
| (Capten) Creisis! | |
| (Prydderch) Croesffordd Ffawd! | |
| (0, 1) 370 | Nemesis! |
| (Prys) Traed moch! | |
| (Prys) Traed moch! | |
| (0, 1) 372 | Ond pam? |
| (0, 1) 373 | Be ydi'r rheswm? |
| (0, 1) 374 | Wel, yng ngeiriau'r Doctor Karl von Dietloff — mi fedra inna ddyfynnu dynion pwysig hefyd, Prydderch, — yng ngeiria'r Doctor Dietloff wedi mynd ar goll rydan ni. |
| (0, 1) 375 | Cenedl ar gyfeiliorn. |
| (0, 1) 376 | Di-asgwrncefn. |
| (0, 1) 377 | Chwit-chwat! |
| (0, 1) 378 | Chwim-chwam! |
| (0, 1) 379 | A does yna ddim ond un ffordd allan inni. |
| (Capten) Prun ydi honno, Prothero, os nad ydi o'n ormod i ofyn? | |
| (0, 1) 384 | Mynd yn ôl i wytnwch y dyddiau gynt, dyna ichi be! |
| (0, 1) 385 | Ymwroli! |
| (0, 1) 386 | Gwregysu ein llwynau! |
| (0, 1) 387 | Ail-gydio yn yr hen werthoedd! |
| (0, 1) 388 | Rhoi'r ysgwydd i'r olwyn. |
| (0, 1) 389 | Ein trwyn ar y maen! |
| (0, 1) 390 | Ein cefn ati! |
| (0, 1) 391 | A does yna ddim ond un waredigaeth inni. |
| (0, 1) 392 | A phetaech yn gofyn imi be ydi honno, mi ddywedwn wrthych chi. |
| (0, 1) 393 | Yn dwt, yn gryno. |
| (0, 1) 394 | Mewn un frawddeg. |
| (0, 1) 395 | Heb falu awyr na hel dail. |
| (Capten) Prys, gofyn iddo fo. | |
| (Prys) Beth ydi'r waredigaeth, Prothero? | |
| (0, 1) 399 | Sach-lian a lludw. |
| (0, 1) 400 | Bara-sych-a-dŵr. |
| (0, 1) 401 | Ydach chi'n fy neall i? |
| (Prydderch) Twt! twt! twt! twt! | |
| (0, 1) 404 | Ydw i'n clywed rhywun yn beiddio twt-twtio eto? |
| (Prydderch) Mae gen i berffaith hawl i dwt-twtio. | |
| (Prydderch) A thwt-twtio wna i hefyd wrth glywed y fath lol-mi-lol, potas-maip. | |
| (0, 1) 409 | Enaid mewn tywyllwch! |
| (Prydderch) Meddwl mewn cadwyni! | |
| (Prydderch) Meddwl mewn cadwyni! | |
| (0, 1) 411 | Heretic! |
| (Prydderch) Mymbo-jumbo! | |
| (Prydderch) Mymbo-jumbo! | |
| (0, 1) 413 | Twpsyn! |
| (Prydderch) Bali-Bŵ! | |
| (0, 1) 417 | Does yna ddim ond un peth i wneud i'r fath gablwr. |
| (0, 1) 418 | Rhaid gorffen tynnu ei drowsus! |
| (0, 1) 419 | Rydach chi wedi gofyrr amdani gyfaill! |
| (Prydderch) Ydach chi'n drysu, ddyn? | |
| (Prydderch) Ydach chi'n drysu, ddyn? | |
| (0, 1) 422 | Teimlo fel twt-twtio rwan, Prydderch? |
| (0, 1) 423 | Rhoswch chi...! |
| (Prydderch) Ydach chi am dynnu mraich i o'i soced? | |
| (Prydderch) Ydach chi am dynnu mraich i o'i soced? | |
| (0, 1) 426 | Mi gawn benderfynu hynny, toc! |
| (Capten) Prys, ydi ei ddwy ysgwydd o ar lawr? | |
| (Prys) Mi wela i ola rhyngddo fo a'r ddaear! | |
| (0, 1) 435 | Goleuni'r Ffydd! |
| (0, 1) 436 | Rwan Prydderch, dwedwch ar f'ôl i "Duw cariad yw". |
| (Prydderch) Dydach chi ddim yn gall ddyn! | |
| (0, 1) 439 | "Duw... cariad... yw!" |
| (Prydderch) Mygu'n lân! | |
| (Prydderch) Rwy' i wedi colli fy ngherdyn! | |
| (0, 1) 466 | Wedi'i ollwng o reit siwr, wrth ichi gael eich trechu gan y Gwirionedd! |