| (James) Beth gynllwyn wyt ti'n geisio'i wneud? | |
| (Sam) {Allan. Ch.} | |
| (1, 0) 334 | Sut ydych chi, Mr. James? |
| (1, 0) 335 | Mae'n dda gen'i gwrdd â chwi. |
| (1, 0) 336 | Maddeuwch imi am roi fy nhraed ar dir sanctaidd fel petai, ond y mae'r dorf yn dechrau mynd ychydig yn anesmwyth ac yn disgwyl am y third act, yn disgwyl am awchus hefyd. |
| (1, 0) 337 | Mae'n dda, yn dda odiaeth, er nad wyf i wedi cael cyfle i weld fawr o ddim ar wahân i ddiwedd y second act. |
| (1, 0) 338 | Angladd wedi 'nghadw i... hen aelod o'r eglwys yn cael ei gladdu heddiw yn Rhydymwyn, ag yr oedd yn rhaid i mi fod yno o barch i'r hen gyfaill. |
| (1, 0) 339 | Trueni i'r ddau beth daro ar draws ei gilydd ynte? |
| (1, 0) 340 | Fe aeth un o'r brodyr yn hirwyntog a minnau'n colli'r bws yn y fargen. |
| (1, 0) 342 | 'Dedd yr un arall yn dod wedyn am ddwy awr. |
| (1, 0) 343 | Fe gerddais i Bontyrhyd ac yn ffodus iawn fe ddaeth cyfaill heibio yn ei gar pan oeddwn i ar fynd i chwilio amserau'r trên. |
| (1, 0) 344 | Roeddwn i wedi meddwl y byddai'n rhaid i mi ffonio neu anfon teligram i ddweud nad allwn i ddod o gwbwl, ond fe arbedais y draul honno a chael lifft yn y fargen. |
| (1, 0) 345 | A phan glywodd e' mai myfì oedd y gŵr gwâdd yma heno fe aeth allan o'i ffordd a dod â mi bob cam at ddrws y Neuadd. |
| (1, 0) 346 | Ag fel y dywedais i, Mr. James, 'dwy-i ddim wedi cael ond darn o'r Second Act, ag yr oedd hwnnw'n flasus, yn flasus dros ben. |
| (1, 0) 347 | Mae dwy act ar ôl, onid oes? |
| (James) Oes, ond y mae... | |
| (James) Oes, ond y mae... | |
| (1, 0) 349 | Dim esgusodion, dim o gwbwl. |
| (1, 0) 350 | Mae'r darn bach a welais i eisioes wedi profi eich gallu chwi. |
| (1, 0) 351 | Ag y mae gennych chwi gwmni, Mr. James, cwmni o actorion sy'n gwybod eu gwaith. |
| (1, 0) 352 | Mae yma adnoddau gwerth eu meithrin a'u disgyblu, ag yn cael eu disgyblu hefyd. |
| (1, 0) 353 | Mae graen ar y gwaith. |
| (1, 0) 354 | Digon hawdd canfod bod gweledigaeth, awdurdod, ag ufudd-dod yn cyd-dynnu yn y cwmni hwn. |
| (1, 0) 355 | Ac mae'n rhaid eu cael... cymerwch ddiwedd y Second Act 'ma, yr actio tawel... munud llawn ohono fel y gwelais i droeon ar y London stage—yr anesmwythyd oedd yn dilyn yr olygfa garu ddwys, a'r llen wedyn yn disgyn fel ergyd o wn i gloi'r cyfan. |
| (1, 0) 356 | Dyna beth oedd darlun!... hawdd gweld bod cynnwrf yng ngwaed y bachgen ifanc—dyma fe ynte? |
| (James) John... Mr. John Roberts. | |
| (James) Ychydig bach cyn i chi... | |
| (1, 0) 359 | Mae'n dda gen'i gwrdd â chwi, 'machgen i. |
| (1, 0) 360 | Daliwch ati... mae gennych chwi dalent, gwnewch fawr ohoni, peidiwch â'i chladdu. |
| (1, 0) 361 | Pwy ŵyr na chawn eich gweld chwi rywdro yn rhoi Cymru ar y map... ar y Sgrîn. |
| (1, 0) 362 | A chwithau? |
| (Siân) Siân Ifans. | |
| (1, 0) 366 | Siân... Siân Ifans... enw Cymraeg tlws yn gweddu ei berchennog i'r dim. |
| (1, 0) 367 | Fe garwn i fod yn fachgen ifanc un waith eto i gael y fraint o chware gyferbyn â chwi yn y Gomedi brydferth hon. |
| (1, 0) 368 | A gyda llaw, Mr. James, gadewch i mi eich llongyfarch ar iaith y ddrama—Cymraeg glân heb ddim maswedd yn unlle. |
| (1, 0) 370 | Ust! |
| (1, 0) 371 | Pwy sy'n canu? |
| (Siân) Fe fynnodd y bitsh fach ddangos 'i hunan! | |
| (James) Un o'r merched sy'n canu, Mr. Price. | |
| (1, 0) 375 | Un o ferched y ddrama? |
| (James) Ie. | |
| (James) Ie. | |
| (1, 0) 377 | Mae Act Three wedi dechrau felly? |
| (James) Na—dyna oeddwn i am egluro i chi gynneu. | |
| (James) 'Roeddwn i'n deall y'ch bod chi heb gyrraedd neu fe fuaswn wedi gofyn i chi siarad─mae gennych chi araith? | |
| (1, 0) 381 | Rhyw bwt bach... dim llawer. |
| (1, 0) 382 | Byddai'n chwith iddynt droi adre' heb air oddi wrth Gadeirydd. |
| (James) Pa bryd y carech chi siarad—ar y diwedd neu rhwng y drydedd a'r bedwaredd act? | |
| (James) Pa bryd y carech chi siarad—ar y diwedd neu rhwng y drydedd a'r bedwaredd act? | |
| (1, 0) 384 | Rhwng y ddwy act rwy'n meddwl. |
| (1, 0) 385 | Bydd pobl yn codi o'u seddau ac yn rhuthro i ddal eu cerbydau ar y diwedd. |
| (1, 0) 386 | Fe garwn-i gael gwrandawiad lled dda, achos mae dau neu dri phwynt arbennig gennyf i'w pwysleisio. |
| (1, 0) 387 | Ag yn naturiol fe fyddant yn disgwyl gair oddi wrth yn awdur wedi'r ddrama. |
| (1, 0) 388 | Dowch rownd i'r llwyfan i wrando ar yr eneth yma—mae yn canu'n brydferth. |
| (Neli) Dyna beth od—rhaid 'u bod nhw heb gwpla'r ail act! | |
| (1, 0) 416 | Campus, fy ngeneth i, campus! |
| (1, 0) 417 | Dowch, mae'r dorf yn gweiddi am ragor. |
| (1, 0) 418 | Rhowch un gân fach arall iddynt. |
| (Gwen) 'Wn i ddim beth fyddai'n taro. | |
| (1, 0) 421 | Meddyliwch am rywbeth, rhaid plesio'r dorf. |
| (Siân) 'Roeddwn i'n meddwl inni ddod yma er mwyn y ddrama! | |
| (James) Os na bydd y llwyfan... | |
| (1, 0) 463 | Gwnaf i ar unwaith. |
| (1, 0) 465 | Nawr, oes rhywbeth arbennig y carech i mi ei gynnwys? |
| (1, 0) 466 | Rŷch chi'n dod yma er mwyn yr Institute, wrth gwrs, heb ddim tâl? |
| (James) Dim ond y treuliau. | |
| (James) Dim ond y treuliau. | |
| (1, 0) 468 | Dyna fe, dim ond eich treuliau. |
| (1, 0) 469 | Arhoswch chi... chi yw'r awdur a chi hefyd fu'n prodiwsio. |
| (1, 0) 470 | Pwy yw'r Stage Manager? |
| (1, 0) 471 | Rhaid enwi'r rhain i gyd achos y mae eu hanner heb brynnu rhaglen. |
| (1, 0) 472 | Efallai mai dyna pam; y mae'n rhaid i ni'r Cymry gael Cadeirydd. |
| (1, 0) 473 | Welwch chi byth Gadeirydd yn y dramâu Saesneg yma. |
| (James) Wel, fi yw'r llwyfenydd hefyd, ond 'does dim angen ichi son am hynny. | |
| (James) Wel, fi yw'r llwyfenydd hefyd, ond 'does dim angen ichi son am hynny. | |
| (1, 0) 475 | Oes. |
| (1, 0) 476 | Rhaid cael y cyfan. |
| (1, 0) 477 | A phwy fu wrth y "make-up?" |
| (Siân) Fe fethodd y colurwr swyddogol ddod. | |
| (Siân) Fe fethodd y colurwr swyddogol ddod. | |
| (1, 0) 479 | Y beth? |
| (Marged) Colurwr—gair 'rŷm ni wedi'i fathu. | |
| (Marged) Mae'n swnio dipyn bach yn well ynghanol geiriau Cymraeg na "make-up man." | |
| (1, 0) 482 | Colurwr! |
| (1, 0) 483 | Gair da... rhaid egluro hwnna iddynt. |
| (1, 0) 484 | Ie, gair da dros ben yw e'. |
| (1, 0) 485 | Fe glywais alw'r peth yn "weddnewid" rywdro, ond y mae hynny braidd yn rhy Feiblaidd, er mai fi sy'n dweud hynny. |
| (1, 0) 486 | Wel nawr, pwy oedd y make-up man yma? |
| (James) Enw MrGerallt Rhys sydd ar y rhaglen, ond fel y dywedodd Siân, fe fethodd â dod ar y funud ola'. | |
| (Siân) Dyma Raglen i chi, Mr. Price. | |
| (1, 0) 491 | Diolch, diolch yn fawr. |
| (James) Er mwyn enw da, Mr. Price, efallai na byddai ond yn deg i chi ddweud taw rhywun arall fu wrth y gwaith, heb enwi neb. | |
| (James) Er mwyn enw da, Mr. Price, efallai na byddai ond yn deg i chi ddweud taw rhywun arall fu wrth y gwaith, heb enwi neb. | |
| (1, 0) 493 | Na, na, rhaid eich henwi chwi. |
| (1, 0) 494 | Chwi fu wrthi, a chwi sy'n haeddu'r clod. |
| (1, 0) 495 | Ond y mae gormod o waith ar eich hysgwyddau chwi, Mr. James. |
| (1, 0) 496 | Trueni na buasech chwi wedi ceisio help gan y Social Service nawr. |
| (1, 0) 497 | Roedd rhyw gwmni Saesneg o'r cwm arall yma yr wythnos ddiwethaf am dair noson yn olynol, a dyn yn dyfod bob nos i ofalu am y "make-up" 'ma ac yn cael ei dalu hefyd gan y Council. |
| (1, 0) 498 | 'Roedd gwaith da ganddo hefyd... |
| (1, 0) 499 | Ond arhoswch chwi, 'wela i mo'ch henw chwi yn y Rhaglen ymhlith yr actors, Mr. James. |
| (1, 0) 500 | Beth yw ystyr y make-up—y blew yma sydd ar eich hwyneb chwi? |
| (James) Fe drawyd un o'r chwaryddion yn sal yn sydyn iawn echnos, a bu'n rhaid i mi ddysgu'r rhan. | |
| (James) Rhan fach yw hi, a 'rwy'n gwybod y ddrama bron i gyd ar gof—wedi darllen rhan pob un yn 'i dro pan na ddigwyddai ddod i bractis. | |
| (1, 0) 503 | 'Does gyda chwi ddim understudies? |
| (1, 0) 504 | Beth yw'r gair Cymraeg am understudy—dewch nawr, chwi bobol glyfar y colegau? |
| (John) 'Fu dim galw am air Cymraeg amdano yn ein cwmni ni. | |
| (John) 'Doedd neb yn barod i gymryd y gwaith a dim pwrpas bathu un wedyn. | |
| (1, 0) 507 | Go dda! |
| (1, 0) 508 | Go dda!—ond fe ddylech gael understudy i bob part, Mr. James. |
| (1, 0) 509 | Nawr un gair bach am yr olygfa eto. |
| (1, 0) 510 | Pan ddeuthum-i i mewn 'roeddwn i'n methu'n lân â deall beth oedd wedi digwydd. |
| (1, 0) 511 | 'Roedd y llwyfan yn edrych fel cegin ond bod dim celfi yno, dim ond bocs yma a thraw a'r muriau'n sobr o noeth. |
| (1, 0) 512 | Dim sôn am yr hen luniau teuluol. |
| (1, 0) 513 | 'Wyddoch chi, Mr. James, mae'n hawdd gweld pwy sydd ynglŷn â'n dramâu ni oddi wrth y lluniau a'r celfi fydd ar y llwyfan. |
| (1, 0) 514 | Mae llun hen Domos Ifans y Gôf wedi bod mewn pob math o ddrama yma. |
| (1, 0) 515 | Mae'n dal i chwarae yn ei lun er ei fod ef wedi ei gladdu ers blynyddoedd A phan ddeuthum i mewn heno 'roeddwn i'n teimlo fel petawn i mewn rhyw le dieithr. |
| (1, 0) 516 | Fe gefais dipyn o sioc ac ofni'r gwaethaf hyd nes i ryw wraig ddweud wrthyf mai golygfa tŷ ar ganol "Spring cleaning" oedd hi. |
| (James) {Gan chwerthin.} | |
| (James) Does dim byd arbennig yn y ddrama yn galw am hynnw. | |
| (1, 0) 520 | O, mi welaf, 'roeddech chwi am gael tipyn bach o newid o'r hen olygfeydd. |
| (James) Na... dyma'r rheswm yn syml chi, Mr. Price. | |
| (James) Gan nad oes angen celfi ar ystafell sydd ar hanner 'i spring cleano' fe fyddai'n arbed llawer iawn o drafferth i mi... 'does him angen cludo hen soffa neu gadair esmwyth neu ford, na gofalu bod tân yn y grat, dim ond benthyca dau neu dri bocs sebon heb eisiau i chi fynd ar y'ch gliniau ar ofyn neb. | |
| (1, 0) 528 | Go dda! |
| (1, 0) 529 | Go dda! |
| (1, 0) 530 | Angen yw mam pob dyfais, wyddoch chi. |
| (John) Wrth gwrs mae Mr. James wedi gwneud patent o'r syniad neu fe fydd yn torri mâs fel y frech ymhlith yr hen awduron. | |
| (John) Wrth gwrs mae Mr. James wedi gwneud patent o'r syniad neu fe fydd yn torri mâs fel y frech ymhlith yr hen awduron. | |
| (1, 0) 532 | Dan gof, Mr. James, beth am hawlfraint y ddrama? |
| (James) Dwy gini yw honno, Mr. Price. | |
| (James) Dwy gini yw honno, Mr. Price. | |
| (1, 0) 534 | Ie, dwy gini fydd drama Gymraeg wreiddiol fel rheol ynte? |
| (1, 0) 535 | Mae dramâu o'r Saesneg wrth gwrs yn werth mwy, ag y mae eitha' gwerth dwy gini yn hon—mae'n bedair act, onid yw? |
| (1, 0) 536 | Ond hyn oeddwn i am ofyn i chwi... nawr 'rwy'n gwybod i chwi fod yn garedig dros ben─dod yma bob cam o Gaerdydd am ddim, a rhoi'r elw i'r Institute, ond fe fyddai'n beth da pe gallwn i ddweud wrthynt nawr eich bod yn rhoi'r hawlfraint am y ddrama, neu gyfran ohono, yn ôl at yr Institute. |
| (1, 0) 537 | Fe fyddai'n help i enw da y cwmni ac yn symbyliad inni allu eich gwahodd chwi yma rywdro eto. |
| (Siân) Oes rhyw dreuliau arnoch chi yma? | |
| (Siân) Oes rhyw dreuliau arnoch chi yma? | |
| (1, 0) 539 | Mae'r neuadd am ddim wrth gwrs—ati hi y mae'r elw. |
| (1, 0) 540 | 'Dwy' ddim yn meddwl bod neb ond yr Electrician yn cael ei dalu—Sais yw hwnnw ag y mae'n un o'r swyddogion. |
| (Marged) Beth am yr argraffu? | |
| (Marged) Beth am yr argraffu? | |
| (1, 0) 542 | Jones y Printer tu wrth hwnnw—|fe| s'yn gwneud y gwaith bob tro. |
| (John) Ydy' e wedi gostwng rhywfaint ar y draul neu'n gwneud y gwaith am ddim? | |
| (John) Ydy' e wedi gostwng rhywfaint ar y draul neu'n gwneud y gwaith am ddim? | |
| (1, 0) 544 | O'dyw e' ddim yn gwneud y gwaith yn rhad—allech chi ddim disgwyl iddo roi ei lafur yn rhad. |
| (1, 0) 545 | Fe fyddai'n anodd gofyn iddo ostwng hefyd—'roedd hi braidd yn lletchwith welwch chi ag yntau'n perthyn i Bwyllgor y Neuadd. |
| (1, 0) 546 | Hwy fu'n gyfrifol am eich gwahodd chwi yma. |
| (James) Oes aelwyd o'r Urdd yma, Mr. Price, neu gangen o'r Blaid Genedlaethol? | |
| (James) Oes aelwyd o'r Urdd yma, Mr. Price, neu gangen o'r Blaid Genedlaethol? | |
| (1, 0) 548 | Mae Aelwyd gan yr Urdd, 'rwy'n meddwl, rhyw gwtsh newydd 'i agor mewn rhyw hen siop. |
| (1, 0) 549 | Wn i ddim am y Welsh Nationalists. |
| (Marged) Oes, mae cangen o'r Blaid yma, Mr. James. | |
| (James) Rhannwch y ddwy gini rhyngddyn' 'hw, Mr. Price. | |
| (1, 0) 552 | Rhyngddynt? |
| (James) Ie, rhowch gini i'r Blaid, a gini i'r Urdd. | |
| (James) Efallai y byddech chi mor garedig â gwneud hynny'n bersonol? | |
| (1, 0) 555 | 'Rwy'n gweld nad ydych chwi'n gwybod am y cylch yma'n ddigon da, Mr. James. |
| (1, 0) 556 | Os cymerwch chi gyngor gen' i fe rowch y cyfan i'r Urdd, neu gwell fyth, i'r Institute. |
| (1, 0) 557 | Rhaid i chwi gofio am eich henw da, Mr. James, a'r dramâu sydd heb eu sgrifennu gennych. |
| (James) 'Does gen'i fawr o awydd gwneud ffortiwn o'r drama, Mr. Price, ag hyd y gwela' i fawr o obaith chwaith. | |
| (Gwen) Mae popeth yn barod i'r drydedd act nawr, Mr. James. | |
| (1, 0) 562 | Efallai y byddai'n well i mi ohirio fy araith fach i tan ddiwedd yr act felly? |
| (James) Dyna fyddai orau. | |
| (James) Dyna fyddai orau. | |
| (1, 0) 564 | Wel, mi af i y tu hwnt i'r llen. |
| (1, 0) 565 | Pob hwyl a phob lwc i chwi. |
| (Siân) Esgusodwch fi, Mr. Price—ga' i'r rhaglen? | |
| (Siân) Esgusodwch fi, Mr. Price—ga' i'r rhaglen? | |
| (1, 0) 567 | Chi piau hi wrth gwrs! |
| (1, 0) 568 | Mae 'nghof i'n chware triciau dwl. |