| (1, 0) 40 | Wel, diolch i'r mawredd, dyna hwnna wedi 'i gwpla. |
| (1, 0) 41 | Rwy'i wedi sgrifennu at Lizzie Ann. |
| (1, 0) 42 | Fe fydd nol yma ddydd Llun. |
| (Gwen) Feddylias i ariod pan adewais iddi fynd lawr i Lantrisant y byswn yn gweld cymaint o'i hisha hi. | |
| (Gwen) Wrth gwrs fysa ddim yn deg ifi 'i chatw hi a nwnta'n dishgwl babi yno cyn pen doufish. | |
| (1, 0) 45 | Wel, fe fydd nol ddydd Llun, ta beth. |
| (Gwen) Nid 'mod i'n teimlo'r gwaith yn ormodd ifi, cofia, ond mae'n od yn y tŷ yma hepthi rywsut. | |
| (1, 0) 48 | Dyna falch wy'i 'mod i wedi cwpla'r ddou lythyr yna. |
| (1, 0) 49 | Dyna jobyn nad oes geni gynnig iddo─sgrifennu llythyron. |
| (1, 0) 50 | Am na ches i fawr o ysgol ariod depig. |
| (Gwen) Wyt ti wedi cwpla'r llythyr at Myfanwy, John? | |
| (1, 0) 53 | Wel am otw, merchi. |
| (1, 0) 54 | O'r diwadd! |
| (Gwen) {Yn gollwng ei hosan i'w harffed.} | |
| (1, 0) 58 | Do, merchi, fe wetas hynny. |
| (Gwen) Wn i ddim yn y byd shwd y galla' i fatal ag e. | |
| (Gwen) Rwy'n ffaelu diall, John, pam mae'r Brenin Mawr yn doti dynon gita'i gilydd os yw E am 'u gwahanu nhw wetyn. | |
| (1, 0) 62 | Paid â becso, Gwen fach. |
| (1, 0) 63 | Mynd fydd ora ar 'i les e. |
| (1, 0) 64 | Roet ti dy hunan yn clwad Dr. Willie Jenkins yn gweyd pwy ddydd yma mai'r rhan yna o Australia yw'r man gora yn y byd i ddyn yn y |decline|. |
| (1, 0) 65 | Lwc fawr oedd i Myfanwy gisho gita ni i hela fe mas yno, a hitha'n gwpod 'i fod e'n dost. |
| (Gwen) Wel, fe fydd yn lwc i Myfanwy idd 'i gal e hed. | |
| (Gwen) Fe ddotast yn y llythyr am dano'n ennill y wobor yn Steddfod Mountain Ash, spo? | |
| (1, 0) 69 | Wel, am do, Gwen, wrth gwrs hynny! |
| (Gwen) A dim ond pump wthnos cyn y bydd e'n mynd. | |
| (1, 0) 73 | Ond meddwl, Gwen fach, beth fydd y canlyniad! |
| (1, 0) 74 | Dim ond cwpwl bach o flynydda, yna wedi'r holl weddïo taer a cholli dagra, fe ddaw nol atom ni eto─yn ddyn cryf ac iach! |
| (Gwen) Ia, ia, John, fe wn i hynny! | |
| (1, 0) 80 | Shwd mae spelian "endeavouring," Gwen? |
| (Gwen) {Yn synfyfyriol.} | |
| (Gwen) Bysa'n llawar rhwyddach iti sgrifennu yn Gymrag, John bach. | |
| (1, 0) 87 | Ho'n wir! |
| (1, 0) 88 | A gatal i ŵr Myfanwy feddwl 'mod i'n ffaelu wilia Sisnag, a ninna ddim yn wilia â'n gilydd pan madawson' nhw â Aberpandy? |
| (1, 0) 89 | Dim perig, wir! |
| (1, 0) 91 | Wel, wel, tyswn i ddim ond wedi cal ticyn o ysgol! |
| (1, 0) 92 | O'r cyfla mae'r plant yn 'i gal heddi─|Council School|, yr |Intermediate|, a'r |College|! |
| (Gwen) Sgwn i shwd bydd e'n dishgwl. | |
| (1, 0) 96 | Yn dishgwl? |
| (1, 0) 97 | Pwy? |
| (Gwen) Gwilym ni, pan ddaw e nol yn gryf ac iach. | |
| (1, 0) 104 | Gwen fach, rwyt ti byth a hefyd yn meddwl am y bechgyn yma. |
| (Gwen) {Gydag arlliw o syndod.} | |
| (1, 0) 112 | Ia, dyna ti, y streic... |
| (1, 0) 113 | Un ar ol y nall─streic, streic, streic! |
| (1, 0) 114 | Allsat ti ddim cal ffowlyn ar hen gownt gan Parri'r Fish? |
| (Gwen) Dyw e ddim yn rhoi hen gownt i neb nawr. | |
| (1, 0) 118 | Ia, dyna ti! |
| (1, 0) 120 | A dyna'r criw mae Lewis ni yn byw ac yn bod gita nhw. |
| (1, 0) 121 | A dyn teidi fel fi sy wedi |Drill Hall| y funad yma yn dewish ymgeisydd Seneddol─a mae nhw'n siwr o ddewish un pert hed! |
| (Gwen) {Wedi dilyn ei meddyliau ei hun.} | |
| (1, 0) 128 | O, fe fydd yn ddicon |respectable| i Myfanwy ni, paid ti ofni hynny. |
| (Gwen) Crotan ryfadd oedd Myfanwy─'roedd hi'n llawn bywyd ac yn dân ac yn deimlad i gyd. | |
| (Gwen) Rwy' i bron cretu bod John Henry ni'n tyfu yr un ffunud a'i fotryb Myfanwy. | |
| (1, 0) 132 | Mae fe rwpath yn depig, mae'n wir. |
| (1, 0) 133 | Ag all neb ama nag oes ganto lais hyfryd. |
| (Gwen) A mae fe rwpath yn depig obeutu 'i drwyn a'i ên hed. | |
| (Gwen) Ddotast ti air am dano yn y llythyr? | |
| (1, 0) 136 | Wel am do! |
| (1, 0) 138 | "We are expecting our John Henry back from college─" |
| (Gwen) |University|, John, |University|! | |
| (1, 0) 141 | "From the University in Cardiff to-morrow or the day after. |
| (1, 0) 142 | I think I told you before that he is preparing for the ministry. |
| (1, 0) 143 | He is now in his second year, and next year he will be trying for the B.A." |
| (Gwen) {Wrthi ei hun gydag arddeliad mawr.} | |
| (Gwen) Y Parch. John Henry Price, B.A. | |
| (1, 0) 146 | "Perhaps he will study for the B.D. afterwards, but that isn't quite settled yet. |
| (1, 0) 147 | Fortunately─ |
| (1, 0) 149 | fortunately, he won a County Exhibition, so that we don't have to keep him altogether." |
| (Gwen) Allsem ni ddim gwneud, John, a Gwilym druan mor wannaidd. | |
| (1, 0) 153 | Dyna brecath grand roes e inni Nadolig dwetha─precath ardderchog oedd hi. |
| (1, 0) 154 | Doedd Isaac Pugh ddim yn rhyw wresog iawn obeutu hi, ond roedd y diaconiaid erill yn 'i chanmol hi tuhwnt. |
| (Gwen) Wel, John, wyt ti'n gweld, mae 'i fab 'i hunan, William Ewart, yn paratoi i fod yn bregethwr hed, a falle na alla neb ddishgwl iddo fod yn rhyw wresog iawn. | |
| (Gwen) Wel, John, wyt ti'n gweld, mae 'i fab 'i hunan, William Ewart, yn paratoi i fod yn bregethwr hed, a falle na alla neb ddishgwl iddo fod yn rhyw wresog iawn. | |
| (1, 0) 156 | A hefyd, mae fe mor gyndyn dros roi galwad i Jones Dowlais. |
| (Gwen) Fe wetast wrth Myfanwy am yr alwad i Horeb, spo? | |
| (Gwen) Fe fydd hynny yn ddiddorol, a hitha wedi arfadd ishta yn y cornal wrth yr harmonium o'r dydd y bedyddiwyd hi. | |
| (1, 0) 160 | Wn i ddim, Gwen, os wyt ti wedi taro ar yr un syniad a finna obeutu'r alwad yma. |
| (Gwen) {Yn ddigyffro.} | |
| (1, 0) 164 | Wel, fe fyddai'n ardderchog o beth tysa John Henry wedi cwpla yn y Coleg ac yn gallu cymryd yr eclws, on' byddai, Gwen? |
| (Gwen) {Yn gollwng ei gwaith gwnïo i'w harffed.} | |
| (Gwen) Pump wthnos, dim ond pump wthnos. | |
| (1, 0) 171 | Dere, Gwen fach, dere. |
| (1, 0) 172 | Does dim iws iti fecso felna. |
| (Gwen) Alla' i ddim help, John bach. | |
| (1, 0) 212 | Wel, Gwilym, ffordd mae hi nawr, machan i? |
| (Gwen) Ble buast ti mas yna'r holl amsar, boi bach, a hitha mor dwym yn yr houl? | |
| (Gwen) Ble buast ti mas yna'r holl amsar, boi bach, a hitha mor dwym yn yr houl? | |
| (1, 0) 214 | Rown i'n gweyd wrth dy fam ar ol cino y dylat ti fynd i orffws am spel bob diwetydd. |
| (Gwilym) Rwy'n olreit, nhad! | |
| (Gwilym) Wel, fe fuas am dro at yr |Institute|, ac yna meddyliais y byswn yn aros i glywad pwy gas 'i ethol fel yr ymgeisydd newydd. | |
| (1, 0) 235 | Yr hen Binkerton yna, spo. |
| (Sam) |Right, boss, right, the very first time|! | |
| (Pugh) Fe glywsoch y newydd, spo? | |
| (1, 0) 266 | Do, fe glywas. |
| (Pugh) Wel, feddylias i ariod y byswn i byw i weld shwd ddyn a'r hen Binkerton yn M.P. dros y Cwm─naddo'n wir! | |
| (Gwilym) Mae' nhw'n gweyd 'i fod e'n ddyn galluog iawn, Mr. Pugh. | |
| (1, 0) 269 | Dynon fel fe sy'n felldith i'r wlad yma heddi. |
| (1, 0) 270 | Pwy yw e, sgwn i, i gal 'i hannar addoli? |
| (1, 0) 271 | Rwy' i wedi byw yn y cwm yma nawr am drician mlynadd. |
| (1, 0) 272 | Rwy' i'n cofio Aberpandy cyn byth i'r Powel Griffiths shinco'r pwll cynta. |
| (1, 0) 273 | Rwy'n cofio defid y Pandy'n pori'n dawal lle mae Pwll Bryndu nawr. |
| (1, 0) 274 | A chlywas i ariod sôn am y Pinkerton yma tan ryw ddwy ne dair blynadd yn ol. |
| (Pugh) Wel, rown i'n meddwl fod pawb yn diall 'slawar dydd taw Evan Davies oedd i ddilyn George Llewelyn. | |
| (Gwilym) Ond mae'r cwbwl wedi newid yn y cwm erbyn heddi. | |
| (1, 0) 278 | Eitha gwir, Gwilym, y cwbwl wedi newid, a newid er gwath hed, mae'n flin gen i weyd. |
| (1, 0) 279 | Dyn da, stydi yw Evan Davies, dyn teidi, respectable, ac yn ddiacon ers ucian mlynedd. |
| (1, 0) 280 | Rwy'n cofio'r diwarnod pan ethom ni'n dou i lawr y cwm i weld Gladstone. |
| (1, 0) 282 | Ia, yr hen Gladstone! |
| (1, 0) 283 | Dyna ddyn i chi! |
| (1, 0) 284 | A drychwch ar yr hen Binkerton yma. |
| (1, 0) 285 | Glywsoch chi son iddo ariod dywyllu drws capal ne hyd yn oed eclws tysa fatar o hynny? |
| (1, 0) 286 | Pam na wnaiff e gynnal 'i hen gyfarfotydd ar ryw ddiwarnod arall heblaw'r Saboth? |
| (1, 0) 287 | Mae'n ddicon calad i gal pobol i'r capal ar ddydd Sul heb iddo fe gatw 'i hen gyfarfotydd. |
| (1, 0) 288 | "Chwe diwrnod y gweithi," medda'r Gair. |
| (1, 0) 289 | Ond dyna, mae petha felly mas o ddate heddi. |
| (Gwen) {Yn arllwys cwpanaid o dê.} | |
| (1, 0) 306 | Clywas fod William Ewart chi wedi cal hwyl dda arni lan yn Treherbert pwy ddydd Sul 'ma. |