| (Dug) Antonio yma eisoes! | |
| (Dug) Dyro dy law. Oddi wrth Belario yr wyt? | |
| (4, 0) 167 | Ie, f'arglwydd. |
| (Dug) Croeso. Cymer di ei le. | |
| (Dug) Yr achos sydd yn awr ger bron y llys? | |
| (4, 0) 171 | Mae gennyf bob gwybodaeth am y ddadl. |
| (4, 0) 172 | Ond pa un yw'r marsiandwr, a ph'run yw'r Iddew? |
| (Dug) Antonio a Shylock, sefwch allan. | |
| (Dug) Antonio a Shylock, sefwch allan. | |
| (4, 0) 174 | Ai Shylock yw dy enw? |
| (Shylock) Shylock, ie. | |
| (4, 0) 177 | Rhyw gyngaws rhyfedd ydyw hwn sydd gennyt, |
| (4, 0) 178 | Eto mor gaeth, na ddichon cyfraith Fenis |
| (4, 0) 179 | Dy wrthwynebu am ci yrru ymlaen. |
| (4, 0) 180 | Tydi a saif mewn perygl, onid e? |
| (Antonio) Felly y dwed. | |
| (Antonio) Felly y dwed. | |
| (4, 0) 182 | A arwyddaist ti'r cyfamod? |
| (Antonio) Do. | |
| (Antonio) Do. | |
| (4, 0) 184 | Felly rhaid i'r Iddew drugarhau. |
| (Shylock) Yn rhaid? Tan ba orfodaeth, dwedwch im. | |
| (Shylock) Yn rhaid? Tan ba orfodaeth, dwedwch im. | |
| (4, 0) 186 | Nid yw trugaredd tan orfodaeth neb. |
| (4, 0) 187 | Fe ddisgyn fel y tyner law o'r nef |
| (4, 0) 188 | Ar ddaear gras; y mae tan fendith ddeublyg, |
| (4, 0) 189 | Bendithia'r hwn sy'n rhoi a'r hwn sy'n cael. |
| (4, 0) 190 | Cadarnaf yw mewn cedyrn; ac mae'n harddach |
| (4, 0) 191 | Ar deyrn gorseddawg nag yw'r goron aur. |
| (4, 0) 192 | Gallu tymhorol a ddengys ei deyrnwialen, |
| (4, 0) 193 | Teyrnged i fawredd gan barchedig ofn |
| (4, 0) 194 | Ac arni arswyd pob brenhinol rwysg. |
| (4, 0) 195 | Ond mae trugaredd goruwch rhwysg teyrnwialen |
| (4, 0) 196 | Brenhinoedd,—ar orseddfa'u calon hwy. |
| (4, 0) 197 | Mae'n briodoledd i'r Goruchaf Dduw, |
| (4, 0) 198 | Ac ymdebyga gallu'r byd i'r nef |
| (4, 0) 199 | Pan leddfer ei gyfiawnder gan drugaredd. |
| (4, 0) 200 | Wrth bledio am gyfiawnder, cofia hyn,— |
| (4, 0) 201 | Yng nghwrs cyfiawnder ni chai undyn fyth |
| (4, 0) 202 | Weld iachawdwriaeth; "Maddau i ni'n dyledion" |
| (4, 0) 203 | Yw'n gweddi beunydd; a'r un weddi a'n dysg |
| (4, 0) 204 | I faddau i'n dyledwyr. Dwedais hyn |
| (4, 0) 205 | Tan obaith y lliniarwn i dy blê |
| (4, 0) 206 | Am gael cyfiawnder; ond os cyndyn wyt, |
| (4, 0) 207 | Bydd rhaid i lys di-dderbyn-wyneb Fenis |
| (4, 0) 208 | Gyhoeddi barn ar y marsiandwr hwn. |
| (Shylock) Boed fy ngweithredoedd ar fy mhen fy hun. | |
| (Shylock) Hawliaf y ddeddf, hyd eithaf ei llythyren. | |
| (4, 0) 211 | Ai methu â thalu'r swm yn ôl y mae? |
| (Bassanio) Nage; dyma fi'n cyflwyno i'r llys | |
| (Bassanio) A ffrwyno'r cythraul creulon rhag ei fryd. | |
| (4, 0) 221 | Ni ellir hyn. Nid oes yn Fenis hawl |
| (4, 0) 222 | I newid iod o gyfraith sefydledig, |
| (4, 0) 223 | Cofnodid hynny megis cynsail llys. |
| (4, 0) 224 | A rhuthrai llawer cam trwy ddrwg esiampl |
| (4, 0) 225 | I gnoi'r wladwriaeth. Na, ni ellir hyn. |
| (Shylock) Daniel a ddaeth i'r frawdle, ie, Daniel! | |
| (Shylock) O farnwr ifanc, anrhydeddaf di. | |
| (4, 0) 228 | Atolwg, rhowch im weled y cyfamod. |
| (Shylock) Ar unwaith, ddoethawr parchus. Dyma fo. | |
| (4, 0) 231 | Shylock, cynigir it dair gwaith y swm. |
| (Shylock) Mae gennyf lw; llw, llw i'r nef; | |
| (Shylock) Na wnaf er Fenis. | |
| (4, 0) 235 | Fforffed yw'r cyfamod. |
| (4, 0) 236 | Ac yn ôl hwn mae gan yr Iddew hawl |
| (4, 0) 237 | Gyfreithlon, oes, i dorri pwys o gnawd. |
| (4, 0) 238 | Ger calon y marsiandwr.—Bydd drugarog. |
| (4, 0) 239 | Cymer dy arian. Gad im rwygo hwn. |
| (Shylock) Pan delir ef yn gyflawn i'r llythyren. | |
| (Antonio) Roddi ei ddedfryd. | |
| (4, 0) 250 | Felly, dyma hi,— |
| (4, 0) 251 | Rhaid it ddinoethi'r fron yn awr i'w gyllell. |
| (Shylock) O farnwr urddawl! O ŵr ifanc gwych! | |
| (Shylock) O farnwr urddawl! O ŵr ifanc gwych! | |
| (4, 0) 253 | Canys y mae holl amcan grym y ddeddf |
| (4, 0) 254 | Wedi'i gymhwyso at y penyd llawn |
| (4, 0) 255 | Sydd yn ddyledus yn yr ysgrif hon. |
| (Shylock) Cywir, bob gair, O farnwr doeth a da! | |
| (Shylock) A chymaint hŷn yr ydwyt ti na'th olwg! | |
| (4, 0) 258 | Felly di-noetha di dy fron. |
| (Shylock) Ie'i fron, | |
| (Shylock) "Gerllaw ei galon", onid dyna'r gair? | |
| (4, 0) 262 | Yn union. A oes clorian yma i bwyso |
| (4, 0) 263 | Ei gnawd? |
| (Shylock) Mae'n barod eisoes gennyf, farnwr. | |
| (Shylock) Mae'n barod eisoes gennyf, farnwr. | |
| (4, 0) 265 | Tâl am wasanaeth meddyg, Shylock, erddo, |
| (4, 0) 266 | I drin ei glwyf rhag gwaedu i farwolaeth. |
| (Shylock) Oes sôn yn y cyfamod am wncud hyn? | |
| (Shylock) Oes sôn yn y cyfamod am wncud hyn? | |
| (4, 0) 268 | Nac oes, ond beth am hynny? Byddai'n dda |
| (4, 0) 269 | Pe gwnaethit gymaint o gymwynasgarwch. |
| (Shylock) Ni wclaf air o sôn yn y cyfamod. | |
| (Shylock) Ni wclaf air o sôn yn y cyfamod. | |
| (4, 0) 271 | Tydi, farsiandwr, oni ddwedi ddim? |
| (Antonio) Ychydig iawn yn wir, cans parod wyf. | |
| (Bassanio) I'r cythraul hwn yn awr, i'th achub di. | |
| (4, 0) 296 | Diolch go brin a rôi dy wraig am hyn |
| (4, 0) 297 | Pe byddai hi gerllaw yn gwrando'r cynnig. |
| (Gratiano) Mae gennyf innau wraig, a mawr y'i caraf. | |
| (Shylock) Gwastraff ar amser prin! Ymlaen â'r ddedfryd! | |
| (4, 0) 308 | Ein dedfryd yw: Ti biau'r pwys o gnawd, |
| (4, 0) 309 | —Trwy farn y llys, a chaniatâd y gyfraith. |
| (Shylock) O farnwr teg! | |
| (Shylock) O farnwr teg! | |
| (4, 0) 311 | Mae'n rhaid it dorri'r cnawd oddi ar ei fron, |
| (4, 0) 312 | —Trwy farn y llys a chaniatâd y gyfraith. |
| (Shylock) O farnwr doeth! Tyred, ymbaratô. | |
| (Shylock) O farnwr doeth! Tyred, ymbaratô. | |
| (4, 0) 314 | Aros am ennyd! Y mae un peth mwy. |
| (4, 0) 315 | Ni rydd yr ysgrif hawl i ddafn o waed; |
| (4, 0) 316 | Geiriad yr amod ydyw "pwys o gnawd". |
| (4, 0) 317 | Cymer dy fforffed, cymer bwys o gnawd, |
| (4, 0) 318 | Ond wrth ei dorri, os tywellti ddafn, |
| (4, 0) 319 | Un dafn o waed Cristnogol, mae dy dir |
| (4, 0) 320 | A'th eiddo i gyd, yn ôl cyfreithiau Fenis, |
| (4, 0) 321 | Yng ngafael y llywodraeth. |
| (Gratiano) O farnwr teg!—Clyw, Iddew! O farnwr doeth! | |
| (Shylock) Ai dyna'r gyfraith? | |
| (4, 0) 324 | Darllen hi dy hun. |
| (4, 0) 325 | Cyfiawnder a gymhellaist. Rhof fy ngair |
| (4, 0) 326 | Y cei gyfiawnder—fwy nag a ddymuni. |
| (Gratiano) O farnwr doeth! Clyw, Iddew! O farnwr doeth! | |
| (Bassanio) Naw mil o bunnoedd. Dyma'r cyfri'n llawn. | |
| (4, 0) 331 | Yn araf! |
| (4, 0) 332 | Cyfiawnder a fynn yr Iddew. Pwyll! Dim brys:— |
| (4, 0) 333 | Na rodder iddo ddim heblaw y penyd. |
| (Gratiano) O Iddew! Barnwr teg a barnwr doeth! | |
| (Gratiano) O Iddew! Barnwr teg a barnwr doeth! | |
| (4, 0) 335 | Felly ymbaratô i dorri'r cnawd. |
| (4, 0) 336 | Na thywallt waed, ac na thor lai na mwy |
| (4, 0) 337 | Na phwys o gnawd. Ac os cymeri fwy |
| (4, 0) 338 | Neu lai na'r union bwysau, pe na bai |
| (4, 0) 339 | Yn drymach neu'n ysgafnach ddim ond trwch |
| (4, 0) 340 | Ugeinfed rhan y gronyn lleiaf un, |
| (4, 0) 341 | Neu os try'r glorian ond gan drwch y blewyn, |
| (4, 0) 342 | Fe'th grogir, ac â d'eiddo i'r llywodraeth. |
| (Gratiano) Daniel yr ail! O Iddew, dyma Ddaniel! | |
| (Gratiano) Yn awr, anffyddiwr, cefais di'n dy glun. | |
| (4, 0) 345 | Pam y petrusa'r Iddew? Mynn dy fforffed. |
| (Shylock) Rhowch imi'r tair mil, a gadewch im fynd. | |
| (Bassanio) Mae'r arian gen i'n barod. Dyma 'nhw. | |
| (4, 0) 348 | Gwrthododd hwy ar goedd gerbron y llys. |
| (4, 0) 349 | Cyfiawnder iddo bellach a'i gyfamod! |
| (Shylock) Oni chaf hyd yn oed y swm di-log? | |
| (Shylock) Oni chaf hyd yn oed y swm di-log? | |
| (4, 0) 351 | Ni chei di ddim ond y pwys cnawd fforffediwyd, |
| (4, 0) 352 | A chymer hwnnw ar boen dy einioes, Iddew. |
| (Shylock) Os felly, rhoed y diawl hwyl iddo arno. | |
| (Shylock) Ni thariaf yma i'm holi. | |
| (4, 0) 355 | Eto, arhô! |
| (4, 0) 356 | Mae gafael arall arnat gan y ddeddf:: |
| (4, 0) 357 | Yn ôl cyfreithiau Fenis fe ordeiniwyd, |
| (4, 0) 358 | Os profir mewn llys barn yn erbyn estron |
| (4, 0) 359 | Ei fod yn ceisio einioes rhyw ddinesydd, |
| (4, 0) 360 | Yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, i |
| (4, 0) 361 | Fod gan y person sydd yn nod i'r cynllwyn |
| (4, 0) 362 | Hawl i feddiannu ci eiddo hyd yr hanner; |
| (4, 0) 363 | Â'r hanner arall i drysorfa'r dref. |
| (4, 0) 364 | Bydd bywyd y troseddwr at drugaredd |
| (4, 0) 365 | Y Dug ei hun yng ngwaethaf pob apêl. |
| (4, 0) 366 | Yn y cyfyngder hwn y sefi, meddaf, |
| (4, 0) 367 | Cans eglur yw, ar goedd gerbron y llys, |
| (4, 0) 368 | Yn uniongyrchol ac anuniongyrchol, |
| (4, 0) 369 | Ddarfod it geisio einioes y diffynnydd |
| (4, 0) 370 | 'Trwy gynllwyn; ac am hyn agored wyt |
| (4, 0) 371 | I'r ddirwy a'r gosb a nodais innau'n awr. |
| (4, 0) 372 | Penlinia ac erfyn bardwn gan y Dug. |
| (Gratiano) Erfyn yn hytrach gennad i ymgrogi, | |
| (Dug) Gall gostyngeiddrwydd ostwng hynny'n ddirwy. | |
| (4, 0) 382 | O ran y dref,—ac nid o ran Antonio. |
| (Shylock) Na; ewch â'm heinioes. Ewch â'r cyfan. Ewch! | |
| (Shylock) Pan aethoch chwi â'r modd oedd genny' i fyw. | |
| (4, 0) 387 | Antonio, pa drugaredd a roit ti iddo? |
| (Gratiano) Croglath yn rhad! Dim mymryn mwy, wir Dduw! | |
| (Dug) Y pardwn a gyhoeddais iddo'n awr. | |
| (4, 0) 403 | A wyt ti'n fodlon, Iddew? Beth a ddwedi? |
| (Shylock) 'R wy'n fodlon. | |
| (Shylock) 'R wy'n fodlon. | |
| (4, 0) 405 | Glerc, tynn allan ffurf o weithred. |
| (Shylock) Atolwg, caniatewch i mi fynd ymaith: | |
| (Dug) Atolwg syr, dowch gyda mi i ginio. | |
| (4, 0) 415 | Pardwn, yn ostyngedig iawn, cich gras. |
| (4, 0) 416 | Rhaid imi heno gyrraedd Padua, |
| (4, 0) 417 | A dylwn gychwyn yno'n ddi-ymdroi. |
| (Dug) Gofidiwn ninnau nad oes gennych hamdden, | |
| (Antonio) Mewn serch ac mewn gwasanaeth iwch, tra bôm. | |
| (4, 0) 429 | Talwyd yn helaeth eisoes a foddhawyd, |
| (4, 0) 430 | Ac wrth eich achub, fe'm boddhawyd i. |
| (4, 0) 431 | Cyfrifaf hynny'n ddigon fyth o dâl, |
| (4, 0) 432 | Canys ni bu fy mryd erioed ariangar. |
| (4, 0) 433 | Cofiwch f'adnabod i pan gwrddwn eto. |
| (4, 0) 434 | Mae'n hwyr im gychwyn. Bendith arnoch chwi. |
| (Bassanio) Yn wir, syr, rhaid im wneud un cynnig arall. | |
| (Bassanio) Peidiwch â'm gwrthod a maddeuwch im. | |
| (4, 0) 439 | Wel, gan cich bod yn pwyso, ufuddhaf. |
| (4, 0) 441 | Rho im dy fenyg; gwisgaf hwy cr cof; |
| (4, 0) 443 | A'th fodrwy gennyt tithau, er dy serch. |
| (4, 0) 444 | Na thynn dy law yn ôl; ni fynnaf fwy, |
| (4, 0) 445 | Ac ni wrthodit tithau byth mo hyn. |
| (Bassanio) Nid yw y fodrwy hon, syr, ddim ond tegan. | |
| (Bassanio) Gwarth fyddai arnaf gynnig hon i chwi. | |
| (4, 0) 448 | Ni fynnwn unpeth arall—dim ond hon. |
| (4, 0) 449 | Ac erbyn meddwl, wir, fe aeth â'm bryd. |
| (Bassanio) Dibynna mwy ar hon na'i gwerth masnachol. | |
| (Bassanio) Eithr am hon, syr, esgusodwch fi. | |
| (4, 0) 454 | Gwelaf eich bod yn hael o ran cynigion, |
| (4, 0) 455 | Chwi ddysgodd im gardota, ac yn awr |
| (4, 0) 456 | Fe'm dysgwch sut mae ateb cais cardotyn. |
| (Bassanio) Ond wrda, gan fy ngwraig y cefais hon. | |
| (Bassanio) Na werthwn moni byth, na'i rhoi, na'i cholli. | |
| (4, 0) 460 | Esgus pur hwylus i'ch rhyddhau o'ch rhodd. |
| (4, 0) 461 | Onid yw'ch gwraig o'i phwyll, pe gwyddai hi |
| (4, 0) 462 | Fel y teilyngais innau'r fodrwy hon, |
| (4, 0) 463 | Ni ddigiai hi dros byth am ichwi ei rhoi |
| (4, 0) 464 | Er fy ngwasanaeth. Wel, da bôch chwi'ch dau. |