| (Bernardo) Pwy sydd yna? | |
| (Brenin) Beth dd'wed Polonius? | |
| (1, 2) 324 | Oes, fy arglwydd; gwnaeth |
| (1, 2) 325 | Ddirwasgu cenad o fy ngenau i |
| (1, 2) 326 | Trwy grefu caled; ac, o'r diwedd, rho'is |
| (1, 2) 327 | Ar ei ewyllys ef, fy sêl fy hun; |
| (1, 2) 328 | Anfoddog fu 'r cydsyniad, ond yn awr, |
| (1, 2) 329 | Atolwg wyf, rho'wch genad iddo i fyn'd. |
| (Brenin) Laertes, dewis d' awr; dy amser da, | |
| (Laertes) Achosa wenau wrth ro'i ail ffarwel. | |
| (1, 3) 671 | Ai yma fyth, Laertes? Dos i'r llong, |
| (1, 3) 672 | I'r llong, rhag c'wilydd; canys mae y gwynt |
| (1, 3) 673 | Yn eistedd ar ysgwyddau 'ch hwyl, a gwneir |
| (1, 3) 674 | Am danat aros; bendith gyda thi; |
| (1, 3) 676 | A'r 'chydig eiriau hyn gwna yn dy gof |
| (1, 3) 677 | Eu hysgrifenu. I'th feddyliau di |
| (1, 3) 678 | Na ddyro iaith, ac hefyd paid a throi |
| (1, 3) 679 | Un meddwl cas i fod yn weithred byth. |
| (1, 3) 680 | Bydd yn gyfeillgar, nid yn isel chwaith. |
| (1, 3) 681 | Cyfeillion fyddo genyt, ag y gwneist |
| (1, 3) 682 | Eu cariad brofi, ymafael ynddyut wrth |
| (1, 3) 683 | Dy enaid gyda bachau dur, ond na |
| (1, 3) 684 | Ddiwyna'th law trwy roddi croesaw i |
| (1, 3) 685 | Bob 'deryn newydd-ddeor a di-blyf. |
| (1, 3) 686 | Ymochel rhag myn'd i ymryson; ond, |
| (1, 3) 687 | Os byddi mewn un, ymddwyn fel y bo |
| (1, 3) 688 | Dy wrthwynebydd yn dy ofni di. |
| (1, 3) 689 | Rho i bob un dy glust, dy lais i neb, |
| (1, 3) 690 | Derbynia gerydd pawb, ond cadw 'th farn. |
| (1, 3) 691 | Boed gwerth dy wisg, yn ol a bryno 'th bwrs, |
| (1, 3) 692 | Ond nid yn ol dychymyg; gwerthfawr, nid |
| (1, 3) 693 | Yn goeg; can's mynych dengys gwisg y dyn; |
| (1, 3) 694 | A hwy yn Ffrainc, o oreu ystad a gradd, |
| (1, 3) 695 | Ynt dra dewisol a godidog—yn |
| (1, 3) 696 | Hynyma, maent yn wir yn benaf dim. |
| (1, 3) 697 | Nac arfer echwyn, na ddod fenthyg chwaith; |
| (1, 3) 698 | Gwna'r benthyg [7] fynych golli ei hun a'r ffrynd,. |
| (1, 3) 699 | Ac echwyn byla fin cynildeb doeth. |
| (1, 3) 700 | Uwchlaw pob dim,—bydd ffyddlawn it' dy hun, |
| (1, 3) 701 | Dilynir hyn, fel nos yn dilyn dydd, |
| (1, 3) 702 | Nas gelli fod yn ffals i unrhyw ddyn. |
| (1, 3) 703 | Ffarwel! fy mendith wreiddio hyn o'th fewn. |
| (Laertes) Tra gostyngedig y cymeraf fi; | |
| (Laertes) Fy nghenad, f' arglwydd. | |
| (1, 3) 706 | Yr amser eilw, dos. |
| (1, 3) 707 | Mae 'th weision bellach yn dy ddysgwyl di. |
| (Laertes) Ffarwel, Ophelia; cofiwch hyny 'n dda | |
| (Laertes) Ffarwel. | |
| (1, 3) 714 | Pa beth, Ophelia, a ddwedodd wrthych chwi? |
| (Ophelia) Os boddlawn genych, rhywbeth yn ynghylch | |
| (Ophelia) Fy arglwydd Hamlet. | |
| (1, 3) 717 | Pur feddylgar yw |
| (1, 3) 718 | Y peth, yn wir: dywedwyd wrthyf fi |
| (1, 3) 719 | Ei fod ef yn ddiweddar yn bur aml |
| (1, 3) 720 | Yn treulio amser gyda chwi; a'ch bod |
| (1, 3) 721 | O'ch clustwrandawiad yn dra rhydd a hael: |
| (1, 3) 722 | Os felly, (fel y d'wedir wrthyf fi, |
| (1, 3) 723 | Mewn ffordd o rybudd,) rhaid im' ddweud nad y'ch |
| (1, 3) 724 | Yn deall mo eich hunan yn rhy glir, |
| (1, 3) 725 | Fel gweddai i fy merch, a'ch henw da: |
| (1, 3) 726 | Pa beth sydd rhyngoch? rho'wch i mi y gwir. |
| (Ophelia) Fe roes i mi, fy arglwydd, amryw o | |
| (Ophelia) Gynygion yn ddiweddar o ei serch. | |
| (1, 3) 729 | Serch? pw! siaradwch fel genethig ffol, |
| (1, 3) 730 | Ddibrofiad yn y fath amgylchiad dwys: |
| (1, 3) 731 | A y'ch chwi yn credu ei gynygion ef, |
| (1, 3) 732 | Fel gelwch hwynt? |
| (Ophelia) Nis gwn, fy arglwydd, beth | |
| (Ophelia) I'w feddwl. | |
| (1, 3) 735 | Ha! felly 'n siwr! mi'ch dysgaf chwi: |
| (1, 3) 736 | Meddyliwch mai rhyw faban ydych, am |
| (1, 3) 737 | Ich' dderbyn y cynygion fel aur da, |
| (1, 3) 738 | A hwythau ddim yn fathol.. Wele gwnewch |
| (1, 3) 739 | Gynygiaw eich hunan dipyn yn fwy drud; |
| (1, 3) 740 | Ac onidê (heb dori gwynt 'r hen air, |
| (1, 3) 741 | Trwy im' ei gamddefnyddio ef fel hyn), |
| (1, 3) 742 | Chwychwi a wnewch gynygiaw, i mi ffŵl. |
| (Ophelia) Fy arglwydd, fe ymbiliodd â myfi | |
| (Ophelia) Mewn cariad pur, ac anrhydeddus ddull. | |
| (1, 3) 745 | A "dull" y gelwch ef, i ffordd, i ffordd. |
| (Ophelia) Fy arglwydd, rho'dd i'w eiriau gadarnâd, | |
| (Ophelia) A holl santeiddiaf addunedau 'r nef. | |
| (1, 3) 748 | O ïe, maglau i ddal ceiliogod coed. |
| (1, 3) 749 | Gwn, pan fo'r gwaed yn boeth, mor barod yw |
| (1, 3) 750 | Yr enaid i roi addunedau i |
| (1, 3) 751 | Y tafod: am y ffaglau hyn, fy merch, |
| (1, 3) 752 | Sy 'n rhoddi mwy o oleu, nag o wres,— |
| (1, 3) 753 | Ac a ddiffoddant hyd yn nod yn yr |
| (1, 3) 754 | Addewid, cystal ag mewn gweithred,—ni |
| (1, 3) 755 | Wna 'r tro i chwi eu derbyn yn lle tân. |
| (1, 3) 756 | O'r adeg yma byddwch yn fwy prin |
| (1, 3) 757 | O'ch presenoldeb gwiw-wyryfaidd, a |
| (1, 3) 758 | Rho'wch bris fo uwch ar eich cwmnïaeth na |
| (1, 3) 759 | Dymuniad i ymgomio gyda'r gŵr. |
| (1, 3) 760 | Am f' arglwydd Hamlet, credwch yn ei gylch, |
| (1, 3) 761 | Hynyma, sel, Ei fod yn ieuanc, ac |
| (1, 3) 762 | Y gall ef rodio gyda thenyn hŵy |
| (1, 3) 763 | Nag â gewch chwi; yn fyn Ophelia, na |
| (1, 3) 764 | Ro'wch gred i un o'i addewidion ef: |
| (1, 3) 765 | Llateïon ydynt hwy, heb fod o'r fath. |
| (1, 3) 766 | Ddangosir gan eu gwisgiad, dim ond rhyw |
| (1, 3) 767 | Ymbilwyr drygiawn, am anniwair gais, |
| (1, 3) 768 | Anadlant ffug-adduned santaidd a |
| (1, 3) 769 | Duwiolaidd, fel y gallont dwyllo yn well. |
| (1, 3) 770 | Hynyma am y cwbl,—Ni fynwn i, |
| (1, 3) 771 | Mewn geiriau plaen, i chwi o'r amser hwn, |
| (1, 3) 772 | Warthruddo un hamddenol foment i |
| (1, 3) 773 | Roi un ymddyddan na chael geiriau â |
| (1, 3) 774 | Fy arglwydd Hamlet; gofalwch chwi am hyn, |
| (1, 3) 775 | 'R wyf fi yn eich tyngedu; de'wch i ffordd. |
| (Ophelia) Myfi a wnaf, fy arglwydd, ufuddâu. | |
| (Hamlet) Na, deuwch, awn ein tri yn nghyd. | |
| (2, 1) 1193 | Rho'wch iddo 'r arian a'r llythyrau hyn, |
| (2, 1) 1194 | Reynaldo. |
| (Reynaldo) Mi wnaf, fy arglwydd. | |
| (Reynaldo) Mi wnaf, fy arglwydd. | |
| (2, 1) 1196 | Chwi wnaech |
| (2, 1) 1197 | Yn hynod ddoeth, Reynaldo, cyn ei wel'd, |
| (2, 1) 1198 | I holi am ei ddull. |
| (Reynaldo) F' arglwydd, mi | |
| (Reynaldo) Fwriedais hyny. | |
| (2, 1) 1201 | Yn wir, da yr y'ch |
| (2, 1) 1202 | Yn d'wedyd: pur dda dywedwch chwi. |
| (2, 1) 1203 | Edrychwch, syr, ymholwch gyntaf oll |
| (2, 1) 1204 | Pa Ddaniaid sydd yn Paris; a pha ddull |
| (2, 1) 1205 | A phwy, pa foddion, p' le y maent yn byw, |
| (2, 1) 1206 | Pa gwmni, a pheth yw eu treulion; a |
| (2, 1) 1207 | Chan gael, trwy 'r pethau amgylchynog hyn, |
| (2, 1) 1208 | Eu bod mewn cydnabyddiaeth â fy mab,— |
| (2, 1) 1209 | De'wch felly yn agosach nag y gwna |
| (2, 1) 1210 | Eich neges benaf oddef, i chwi dd'od. |
| (2, 1) 1211 | Gwnewch ffugio, megys, ryw wybodaeth bell |
| (2, 1) 1212 | Am dano, megys, |Adwaen i ei dad, |
| (2, 1) 1213 | Ei berthynasau, ac ei hun mewn rhan|;— |
| (2, 1) 1214 | A ydych chwi, Reynaldo, 'n gweled hyn? |
| (Reynaldo) Pur dda, fy arglwydd, ac efelly gwnaf. | |
| (Reynaldo) Pur dda, fy arglwydd, ac efelly gwnaf. | |
| (2, 1) 1216 | |"Ac ef mewn rhan;"— ond|, chwi a ellwch ddweud, |
| (2, 1) 1217 | |Ond os yw ef yr un a dybiaf fi|, |
| (2, 1) 1218 | |Mae'n hynod wyllt, a gwna fel hyn a'r llall|;— |
| (2, 1) 1219 | A rhoddwch arno y fath ffugion ag |
| (2, 1) 1220 | A fynoch, ond er hyny, dim mor ddrwg |
| (2, 1) 1221 | Ac i'w anmharchu;—hyn gochelwch chwi; |
| (2, 1) 1222 | Awgrymwch, syr, y fath lithriadau ffol, |
| (2, 1) 1223 | Masweddol, ac arferol i ieuenctyd a |
| (2, 1) 1224 | Phenrhyddid. |
| (Reynaldo) Fel hapchwareu, f' arglwydd? | |
| (Reynaldo) Fel hapchwareu, f' arglwydd? | |
| (2, 1) 1226 | Ië, |
| (2, 1) 1227 | Neu yfed, ymgleddyfu, tyngu, neu |
| (2, 1) 1228 | Gweryla, neu ymlochi â phuteiniaid, hyd |
| (2, 1) 1229 | Hynyna gellwch fyn'd. |
| (Reynaldo) Fy arglwydd, gwnai | |
| (Reynaldo) Hyn ei ddianrhydeddu. | |
| (2, 1) 1232 | Na wnai'n wir: |
| (2, 1) 1233 | Chwi ellwch ei dymheru pan yn gwneud |
| (2, 1) 1234 | Y cyhuddiadau. Ni raid i chwi ro'i |
| (2, 1) 1235 | Difrïad arall arno, nac ei fod |
| (2, 1) 1236 | Yn arfer anniweirdeb; hyn nid yw |
| (2, 1) 1237 | Fr meddwl: ond anedlwch chwi ei fai |
| (2, 1) 1238 | Mor goeg, ag yr ymddengys pob rhyw beth |
| (2, 1) 1239 | Yn fwy fel rhyddid gwyllt, ac megys fflam |
| (2, 1) 1240 | Neu doriad allan meddwl llawn o dân; |
| (2, 1) 1241 | Gwylltineb gwaed heb gael ei ddofi âg |
| (2, 1) 1242 | Ymruthrad cyffredinol. |
| (Reynaldo) Ond, arglwydd da,— | |
| (Reynaldo) Ond, arglwydd da,— | |
| (2, 1) 1244 | Paham y gwnelech hyn? |
| (Reynaldo) Ië, f' arglwydd, mi | |
| (Reynaldo) Ddymunwn wybod hyny. | |
| (2, 1) 1247 | Yn wir, syr, |
| (2, 1) 1248 | Dyma 'm hamcan; a gwir gredu 'r wyf ei fod |
| (2, 1) 1249 | Yn dwyll a gyfiawneir; chwychwi yn rho'i |
| (2, 1) 1250 | Y brychau ysgeifn hyny ar fy mab, |
| (2, 1) 1251 | Fel peth a fo'n llychwino yn eí waith. |
| (2, 1) 1252 | Ac hefyd manwl sylwch ar y gŵr |
| (2, 1) 1253 | Yr hwn a fynech blymio, welodd ef |
| (2, 1) 1254 | Y llanc a nodwch yn y beiau hyn? |
| (2, 1) 1255 | Ac os yn euog, sicr y gellwch fod |
| (2, 1) 1256 | Y cewch eich hanerch yn y geiriau hyn, — |
| (2, 1) 1257 | |Wych syr|, neu |gyfaill|, neu |foneddwr gwiw|, |
| (2, 1) 1258 | Fd yr arferir d'weud nen odid â |
| (2, 1) 1259 | |Gŵr da|, neu ynte, |fy nghydwladwr gwych|. |
| (Reynaldo) Pur dda, fy arglwydd. | |
| (Reynaldo) Pur dda, fy arglwydd. | |
| (2, 1) 1261 | Ac yna, syr, efe a wna hyn,— |
| (2, 1) 1262 | Efe a wna.— |
| (2, 1) 1263 | Beth yr oeddwn yn myned i'w ddweud? |
| (2, 1) 1264 | Myn yr offeren, yr oeddwn yn myned i ddweud rhywbeth. |
| (2, 1) 1265 | Ymha le y gadewais? |
| (Reynaldo) Yn |Eich hanerch yn y geiriau hyn|. | |
| (Reynaldo) Yn |Eich hanerch yn y geiriau hyn|. | |
| (2, 1) 1267 | Eich hanerch yn y geiriau hyn,—Ië 'n siŵr; |
| (2, 1) 1268 | Anercha chwi fel hyn ,— |Mi adwaen y| |
| (2, 1) 1269 | |Boneddwr, doe neu echdoe gwelais ef|, |
| (2, 1) 1270 | |Neu'r pryd a'r pryd, neu'r amser hwn neu'r llall|, |
| (2, 1) 1271 | |A chyda hwn a hwn a'r lle a'r lle|; |
| (2, 1) 1272 | |Hapchwareu 'r oedd; neu yn y fan a'r fan| |
| (2, 1) 1273 | |Yn feddw fawr; neu yn ymgecru yn nghylch| |
| (2, 1) 1274 | |Y tennis; neu, fel dichon fod, myfi| |
| (2, 1) 1275 | |A'i gwelais ef yn myn'd i dŷ amheus| |
| (2, 1) 1276 | (Hyn ydyw putein-dŷ), |neu felly ymlaen|. |
| (2, 1) 1277 | A welwch chwi yn awr; mae 'ch abwyd ffug |
| (2, 1) 1278 | Yn gwisgo nodwedd yr abwydyn gwir. |
| (2, 1) 1279 | Fel hyn trwy gynllwyn a doethineb dwfn, |
| (2, 1) 1280 | A dyrwynlathau, [14] ac â phrofion [15] gŵyr, |
| (2, 1) 1281 | Unochrog, trwy anuniongyrchedd cawn |
| (2, 1) 1282 | Yr uniongyrchol allan; felly, trwy |
| (2, 1) 1283 | Fy araeth i a'm cyngor hwn a gewch |
| (2, 1) 1284 | Fy mab i'r goleu: 'n awr yr ydych yn |
| (2, 1) 1285 | Fy neall, onid ydych? |
| (Reynaldo) Yr wyf, fy arglwydd. | |
| (Reynaldo) Yr wyf, fy arglwydd. | |
| (2, 1) 1287 | Duw fyddo gyda chwi, a byddwch wych. |
| (Reynaldo) Da, fy arglwydd. | |
| (Reynaldo) Da, fy arglwydd. | |
| (2, 1) 1289 | A chofiwch sylwi ar |
| (2, 1) 1290 | Ei dueddiadau drosoch chwi eich hun. |
| (Reynaldo) Mi wnaf, fy arglwydd. | |
| (Reynaldo) Mi wnaf, fy arglwydd. | |
| (2, 1) 1292 | A bydded iddo ef ei hun |
| (2, 1) 1293 | I ffurfio 'r miwsic [16] gyda geiriau 'r gân. |
| (Reynaldo) O'r goreu, f' arglwydd. | |
| (Reynaldo) O'r goreu, f' arglwydd. | |
| (2, 1) 1297 | Dydd da!—pa fodd y mae Opheli»? beth |
| (2, 1) 1298 | Yw 'r mater? |
| (Ophelia) O, fy arglwydd, f' arglwydd, mi | |
| (Ophelia) A ge's fy nychrynu 'n fawr. | |
| (2, 1) 1301 | A pha beth, |
| (2, 1) 1302 | Yn enw'r nef? |
| (Ophelia) Fy arglwydd, pan yr o'wn | |
| (Ophelia) I ddweud ei dychrynfeydd, fe ddaeth o'm blaen. | |
| (2, 1) 1314 | Yn ynfyd am dy serch? |
| (Ophelia) Fy arglwydd, nis gwn i; ond wele, yn wir, | |
| (Ophelia) Yr wyf yn ofni hyn. | |
| (2, 1) 1317 | Pa beth a dd'wedodd ef? |
| (Ophelia) Gafaelodd yn fy ngarddwrn; daliodd fi | |
| (Ophelia) Ac, hyd y diwedd, syllai arnaf fi. | |
| (2, 1) 1336 | Tyrd gyda mi; myfi a geisiaf wel'd |
| (2, 1) 1337 | Y brenin; dyma wir berlewyg serch; |
| (2, 1) 1338 | Yr hwn y mae ei duedd ffyrnig ef |
| (2, 1) 1339 | Yn llwyr ddyfetha ei hun; gan arwain yr |
| (2, 1) 1340 | Ewyllys i'r eithafion mwyaf erch, |
| (2, 1) 1341 | Mor fynych ag un nwyd o dan y nef, |
| (2, 1) 1342 | A flina 'n natur ni. Drwg genyf hyn,— |
| (2, 1) 1343 | Pa beth, a roisoch iddo eiriau cas, |
| (2, 1) 1344 | Ei fod yn ymddwyn atoch chwi fel hyn? |
| (Ophelia) Na ddo, fy arglwydd da, ond fel y gwnaech | |
| (Ophelia) Lythyrau, gyda pheidio 'i dderbyn ef. | |
| (2, 1) 1348 | Hynyna a'r gwnaeth yn ynfyd. Drwg yn wir |
| (2, 1) 1349 | Yw genyf fi, na wnaethom â gwell pwyll |
| (2, 1) 1350 | A barn, ei ddeall ef, ond ofni wnes |
| (2, 1) 1351 | Nad oodd ond chwareu, ac yn meddwl dy |
| (2, 1) 1352 | Andwyo; ond, rheg i'm drwgdybiaeth! mae 'n |
| (2, 1) 1353 | Ymddangos ei fod mor dueddol i'm hoed ni, |
| (2, 1) 1354 | I fyned yn ein tybiau yn rhy bell, |
| (2, 1) 1355 | Ag yw 'n gyffredin i ieuengaidd rai |
| (2, 1) 1356 | I fod heb bwyll. Tyr'd, ni a gerddwn at |
| (2, 1) 1357 | Y brenin, rhaid hysbysu hyn; can's os |
| (2, 1) 1358 | Ei gelu wnawn, gall beri mwy o ddrwg |
| (2, 1) 1359 | Nac yw y casedd o amlygu serch. |
| (2, 1) 1360 | Tyred. |
| (Brenin) Croesaw, gu Rosencrantz a Guildenstern! | |
| (Brenines) Amen! felly boed! | |
| (2, 2) 1421 | Mae 'n negesyddion ni, fy arglwydd da, |
| (2, 2) 1422 | O Norway 'n llawen, wedi d'od yn ôl. |
| (Brenin) Ti fuost eto 'n dad newyddion da. | |
| (Brenin) Ti fuost eto 'n dad newyddion da. | |
| (2, 2) 1424 | A fum i, f' arglwydd? 'R wyf yn sicrâu |
| (2, 2) 1425 | I chwi, benadur da, fy mod i yn |
| (2, 2) 1426 | Dal fy nyledswydd, fel y daliaf fi |
| (2, 2) 1427 | Fy enaid, sef i'm Duw a'm grasol deyrn; |
| (2, 2) 1428 | A meddwl 'rwyf (os nad yw 'r menydd hwn |
| (2, 2) 1429 | Yn dilyn ôl achosion mor ddiffael; |
| (2, 2) 1430 | Ag yr arferai) fy mod wedi cael |
| (2, 2) 1431 | Yr achos o orphwyllder Hamlet y pryd hwn. |
| (Brenin) O adrodd hyny; 'rwy 'n awyddus iawn | |
| (Brenin) Am glywed. | |
| (2, 2) 1434 | Rhoddwch chwi yn gyntaf oll |
| (2, 2) 1435 | Dderbyniad i'r cenadau; a'm newydd i |
| (2, 2) 1436 | Gaiff fod yn ffrwyth [17] ar ol eu gorwledd hwynt |
| (Brenin) Dos i'w moesgyfarch, dwg y ddau i fewn. | |
| (Brenin) Gydwledda: croesaw calon i chwi 'n ol. | |
| (2, 2) 1488 | Y gorchwyl hwn ga'dd ei ddiweddu 'n dda. |
| (2, 2) 1489 | Benadur, a rhïanes, byddai myn'd |
| (2, 2) 1490 | I ymresymu beth a ddylai fod |
| (2, 2) 1491 | Breniniaeth, beth yw dyledswyddau, pa'm |
| (2, 2) 1492 | Mae dydd yn ddydd, a nos yn nos, ac amser |
| (2, 2) 1493 | Yn amser yn gwastraffu nos, a dydd, |
| (2, 2) 1494 | Ac amser. Felly, gan mai byrder yw |
| (2, 2) 1495 | Enaid arabedd, nid yw meithder ond |
| (2, 2) 1496 | Cangenau ac allanol wisg,—myfi |
| (2, 2) 1497 | A fyddaf fyr: eich mab ardderchog sydd |
| (2, 2) 1498 | Orphwyllog: ïe gorphwyllog galwaf ef; |
| (2, 2) 1499 | Can's i egluro gwir orphwylledd, beth |
| (2, 2) 1500 | Yw hyny yn amgenach na bod yn |
| (2, 2) 1501 | Orphwyllog; ond gadawn i hyny fod. |
| (Brenines) Rhowch fwy o sylwedd, gyda llai o gelf. | |
| (Brenines) Rhowch fwy o sylwedd, gyda llai o gelf. | |
| (2, 2) 1503 | Fy rhïan, tyngaf nad wy 'n arfer dim |
| (2, 2) 1504 | Celfyddyd; ei fod yn ynfyd sydd |
| (2, 2) 1505 | Yn wir, mae 'n wir, a gwir gresynus yw, |
| (2, 2) 1506 | A gwir resynus yw ei fod yn wir. |
| (2, 2) 1507 | Mae hwn yn ffigur ffol; Ffarwel, dim twyll. |
| (2, 2) 1508 | Ei fod yn ynfyd, ynte, caniatâwn; |
| (2, 2) 1509 | Yn awr, mae 'n aros i ni allan gael |
| (2, 2) 1510 | Yr achos gwir, i'r effaith [18] hynod hwn, |
| (2, 2) 1511 | Neu'n hytrach, d'wedwch chwi, yr achos o |
| (2, 2) 1512 | Y diffyg [18] hwn; can's mae yr effaith, gan |
| (2, 2) 1513 | Ei fod yn ddiffyg, wedi tarddu o ryw |
| (2, 2) 1514 | Wir achos: dyma fel yr erys, a |
| (2, 2) 1515 | Hyn ydyw 'r gweddill. |
| (2, 2) 1516 | Ystyriwch hyn yn ddwys: |
| (2, 2) 1517 | Mae genyf ferch; mae genyf, tra y bo |
| (2, 2) 1518 | Yn eiddof fi; yr hon, o'i dyled a'i |
| (2, 2) 1519 | Hufudd-dod, sylwch, roddodd i mi hwn: |
| (2, 2) 1520 | Yn awr gwnewch gasglu a dyfalu 'n deg. |
| (2, 2) 1521 | |At y nefolaidd, ac eilun fy enaid, y brydferthedig Ophelia|, |
| (2, 2) 1522 | Dyna ymadrodd drwg, ymadrodd gwael; |prydferthedig| sydd ymadrodd gwael; ond chwi gewch glywed:— |
| (2, 2) 1523 | Fel hyn, — |
| (2, 2) 1524 | |Yn ei godidog fynwes wên, y pethau hyn, etc |
| (Brenines) A ddaeth hyn oddiwrth Hamlet ati hi? | |
| (Brenines) A ddaeth hyn oddiwrth Hamlet ati hi? | |
| (2, 2) 1526 | Aroswch beth, fy rhïan; byddaf fi |
| (2, 2) 1527 | Yn gywir. |
| (2, 2) 1529 | |Amau fod y ser yn dân|, |
| (2, 2) 1530 | |Amau dori'r wylaidd wawr|, |
| (2, 2) 1531 | |Amau'r gwir, fel celwydd glân|, |
| (2, 2) 1532 | |Byth nac amau 'm cariad mawr|. |
| (2, 2) 1533 | |O Ophelia anwyl! yr wyf yn syfrdanllyd gyda'r penillton hyn; nid oes genyf fedr i gyfrif fy ocheneidiau; ond fy mod yn dy garu yn oreu, O yn dra goreu, cred|. |
| (2, 2) 1534 | |Ffarwel|. |
| (2, 2) 1535 | |Yr eiddot am byth, foneddiges dra anwyl, tra y mae y peiriant hwn yn eiddo, HAMLET|. |
| (2, 2) 1536 | ~ |
| (2, 2) 1537 | Hyn, mewn ufudd-dod, ddarfu i fy merch |
| (2, 2) 1538 | Ei ddangos imi, a llawer mwy na hyn; |
| (2, 2) 1539 | Bu i'w ymbiliau, fel y delent hwy |
| (2, 2) 1540 | I'r golwg trwy amserau, moddion, lle, |
| (2, 2) 1541 | Cyn hyn, fel ffrwd ymdywallt i fy nghlust. |
| (Brenin) Ond sut dderbyniad roddodd hi i'w serch? | |
| (Brenin) Ond sut dderbyniad roddodd hi i'w serch? | |
| (2, 2) 1543 | Pa fodd meddyliwch chwi am danaf fi? |
| (Brenin) Fel ffyddlawn a thra anrhydeddus ddyn. | |
| (Brenin) Fel ffyddlawn a thra anrhydeddus ddyn. | |
| (2, 2) 1545 | Mi fynwn felly fod. Er hyn pa beth |
| (2, 2) 1546 | Feddyliech, pan y gwelais i 'r serch twymn |
| (2, 2) 1547 | Ar chwim adenydd (fel y gwelais i |
| (2, 2) 1548 | Cyn i mi gael ei glywed gan fy merch; |
| (2, 2) 1549 | Mae 'n hollol iawn, hysbysu hyn i chwi), — |
| (2, 2) 1550 | Beth feddyliasech chwi, neu ynte ei |
| (2, 2) 1551 | Mawrhydi y frenines anwyl, pe |
| (2, 2) 1552 | Buaswn i, yn chwareu yna yr |
| (2, 2) 1553 | Ysgrifgist neu y tabl-lyfr; [19] neu roi |
| (2, 2) 1554 | Fy nghalon ar lawn waith, yn fud, ddi-glyw; |
| (2, 2) 1555 | Neu wel'd â golwg swrth y cariad hwn;— |
| (2, 2) 1556 | Beth feddyliasech? Na, fe aethum i |
| (2, 2) 1557 | Ar fyr i'r gwaith, ac â'r feistresan fach, |
| (2, 2) 1558 | Ieuengaidd, y siaredais i fel hyn,— |
| (2, 2) 1559 | "Mae arglwydd Hamlet yn dywysog, sydd |
| (2, 2) 1560 | O radd uwchlaw dy gylch; ni chaiff hyn fod:" |
| (2, 2) 1561 | Ac yna rhois orchmynion iddi hi, |
| (2, 2) 1562 | Am gloi ei hun, rhag iddo dd'od i'w gwydd, |
| (2, 2) 1563 | Heb dderbyn un negesydd, nac ychwaith |
| (2, 2) 1564 | Anrhegion. Hyn, pan roddais iddi, a |
| (2, 2) 1565 | Gymerodd ffrwyth fy nghyngor; ynteu wrth |
| (2, 2) 1566 | Wel'd gael ei wrthod (i wneud 'stori fêr), |
| (2, 2) 1567 | A syrthodd gyntaf oll i dristwch; yna i |
| (2, 2) 1568 | Ymprydio; ac i wylio; wedi hyn |
| (2, 2) 1569 | I wendid; wed'yn i ysgafnder gwag; |
| (2, 2) 1570 | A thrwy y treigliad hwn, fe gwympodd i'r |
| (2, 2) 1571 | Gorphwylledd yn yr hwn y mae yn awr, |
| (2, 2) 1572 | A'r hwn o'i herwydd y galarwn ni. |
| (Brenin) A dybiwch chwi mai hyny yw? | |
| (Brenines) Gall fod, mae yn bur debyg. | |
| (2, 2) 1575 | A fu rhyw dro |
| (2, 2) 1576 | (Dymunwn wybod hyn) pan dd'wedais i, |
| (2, 2) 1577 | "Efelly mae," na fu yn ol fy ngair? |
| (Brenin) Erioed, hyd ag y gwyddom ni. | |
| (Brenin) Erioed, hyd ag y gwyddom ni. | |
| (2, 2) 1579 | Gymerwch hwn oddiwrth |
| (2, 2) 1580 | Hwn yma, os fel arall mae yn bod. |
| (2, 2) 1582 | Os bydd i amgylchiadau f' arwain i, |
| (2, 2) 1583 | Myfi a ddeuaf hyd i'r lle y bo |
| (2, 2) 1584 | Gwirionedd wedi 'i gelu, er iddo 'n wir |
| (2, 2) 1585 | Fod yn geledig yn y dyfnder cudd. |
| (Brenin) Pa fodd y gallwn roddi mwy o brawf | |
| (Brenin) I'r peth? | |
| (2, 2) 1588 | Chwi a wyddoch, ambell dro |
| (2, 2) 1589 | Ei fod yn rhodio am bedair awr yn nghyd, |
| (2, 2) 1590 | O fewn y cyntedd hwn. |
| (Brenines) Efelly gwna, | |
| (Brenines) Yn wir. | |
| (2, 2) 1593 | Ac ar yr adeg hon fe gaiff fy merch |
| (2, 2) 1594 | Ollyngdod ato; byddwch chwi a mi 'n |
| (2, 2) 1595 | Ymguddio tan y groglen eang hon, |
| (2, 2) 1596 | A sylwn ar eu cyfarfyddiad hwynt, |
| (2, 2) 1597 | Os nad yw yn ei charu, ac nad hyn |
| (2, 2) 1598 | Fu'r achos iddo gwympo odd ei bwyll, |
| (2, 2) 1599 | Na foed im' byth gael llais yn ngwaith y llys, |
| (2, 2) 1600 | Ond cadw fferm, a chyda certwyr fod. |
| (Brenin) Nyni | |
| (Brenines) Yr adyn truan, ac yn darllen mae. | |
| (2, 2) 1606 | I ffordd, dymunaf ichwi; ewch eich dau |
| (2, 2) 1607 | I ffordd, mi a'i cyfarchaf ef cyn hir, |
| (2, 2) 1608 | O rhowch im' ganiatâd. |
| (2, 2) 1610 | Pa fodd y mae |
| (2, 2) 1611 | Fy Arglwydd Hamlet? |
| (Hamlet) Iach, trugarâed Duw. | |
| (Hamlet) Iach, trugarâed Duw. | |
| (2, 2) 1613 | A ydych chwi yn fy adnabod i, |
| (2, 2) 1614 | Fy arglwydd? |
| (Hamlet) Wyf yn hynod dda; chwychwi | |
| (Hamlet) Sydd werthwr pysgod. | |
| (2, 2) 1617 | F' arglwydd, nac wyf fi. |
| (Hamlet) Wel, dymunaswn eich bod yn ddyn | |
| (Hamlet) Mor onest. | |
| (2, 2) 1620 | Gonest, fy arglwydd? |
| (Hamlet) Iê, syr; bod yn onest, fel y mae y byd hwn yn myned, yw bod yn un wedi ei bigo allan o ddeng mil. | |
| (Hamlet) Iê, syr; bod yn onest, fel y mae y byd hwn yn myned, yw bod yn un wedi ei bigo allan o ddeng mil. | |
| (2, 2) 1622 | Mae hyna yn bur wir, fy arglwydd. |
| (Hamlet) Canys os yw yr haul yn magu cynrhon mewn ci marw, gan fod yn dduw yn cusanu burgyn,— | |
| (Hamlet) A oes genych ferch? | |
| (2, 2) 1625 | Oes, fy arglwydd. |
| (Hamlet) Na adewch iddi rodio yn yr haul: mae amgyffred [20] yn fendith; ond gan y gall eich merch feichiogi, [20] gyfaill, edrychwch ati. | |
| (Hamlet) Na adewch iddi rodio yn yr haul: mae amgyffred [20] yn fendith; ond gan y gall eich merch feichiogi, [20] gyfaill, edrychwch ati. | |
| (2, 2) 1627 | Beth a ddywedaf fi am hyn? |
| (2, 2) 1629 | O hyd yn siarad am fy merch. |
| (2, 2) 1630 | Eto nid adwaenodd fi ar y cyntaf; dywedodd mai gwerthwr pysgod oeddwn: mae wedi myned yn bur bell, yn bur bell: ac mewn gwirionedd, yn fy ieuenctyd dyoddefais inau lawer o galedi er mwyn cariad: yn bur agos gymaint a hyn. |
| (2, 2) 1631 | Mi a siaradaf âg ef eto.— |
| (2, 2) 1632 | Beth yr ydych yn ei ddarllen, fy arglwydd? |
| (Hamlet) Geiriau, geiriau, geiriau! | |
| (Hamlet) Geiriau, geiriau, geiriau! | |
| (2, 2) 1634 | Beth yw y mater, fy arglwydd? |
| (Hamlet) Rhwng pwy? | |
| (Hamlet) Rhwng pwy? | |
| (2, 2) 1636 | Dyna yr wyf yn feddwl, y mater yr ydych yn ei ddarllen, fy arglwydd. |
| (Hamlet) Enllibiau, syr; | |
| (Hamlet) canys chwychwi eich hun, syr, a fyddech mor hen ag wyf finau, pe gallech, fel y môrgranc, ond myned tuag yn ôl. | |
| (2, 2) 1641 | Er fod hyn yn orphwylledd, eto mae trefn yn perthyn iddo. |
| (2, 2) 1643 | A ddeuwch chwi o'r gwynt, fy arglwydd? |
| (Hamlet) I fy medd? | |
| (Hamlet) I fy medd? | |
| (2, 2) 1645 | Yn wir, byddai hyny o'r gwynt.— |
| (2, 2) 1646 | Mor lawn o ystyr yw ei atebion weithiau! yr hapusrwydd y mae gorbwylledd, yn fynych, yn taro arno! tra nas gallai rheswm ac iawn bwyll fod yn alluog i lefaru mor lwyddianus. |
| (2, 2) 1647 | Mi a'i gadawaf, ac a ymdrechaf yn union i gael moddion i gyfarfod rhyngddo ef a fy merch.— |
| (2, 2) 1648 | Fy arglwydd anrhydeddus, mi a wnaf, yn ostyngedig, ganu'n iach a chwi. |
| (Hamlet) Nis gellwch, syr, gymeryd oddiarnaf unpeth y byddaf mor ewyllysgar i ymadael âg ef; oddieithr fy mywyd, dieithr fy mywyd, oddieithr fy mywyd. | |
| (Hamlet) Nis gellwch, syr, gymeryd oddiarnaf unpeth y byddaf mor ewyllysgar i ymadael âg ef; oddieithr fy mywyd, dieithr fy mywyd, oddieithr fy mywyd. | |
| (2, 2) 1650 | Byddwch wych, fy arglwydd. |
| (Hamlet) Yr hen ffyliaid blinderus hyn! | |
| (Hamlet) Yr hen ffyliaid blinderus hyn! | |
| (2, 2) 1653 | A ydych chwi yn myn'd i chwilio am |
| (2, 2) 1654 | Yr arglwydd Hamlet? wele, dyna fe. |
| (Rosencrantz) {Wrth Polonius.} | |
| (Hamlet) Nid wyf yn orphwyllog ond i'r gogledd-ogledd-orllewin: pan fyddo y gwynt yn ddeheuol, mi adwaen hebog oddiwrth lawlif. | |
| (2, 2) 1755 | Boed yn dda gyda chwi, foneddigion. |
| (Hamlet) Gwrandewch, Guildenstern; a chwithau hefyd;—wrth bob clust boed gwrandawydd: y babi mawr hwna, a welwch yna, nid yw eto allan o'i gawiau. | |
| (Hamlet) Yr ydych yn dweud yn gywir, syr: ar ddydd Llun y bore; y pryd hwnw yr oedd, yn wir. | |
| (2, 2) 1760 | Fy arglwydd, mae genyf newydd i'w ddweud wrthych. |
| (Hamlet) Fy arglwydd, mae genyf newydd i'w ddweud wrthych chwi. | |
| (Hamlet) Pan oedd Rocius yn chwareuydd yn Rhufain,— | |
| (2, 2) 1763 | Mae y chwareuwyr wedi dyfod yma, fy arglwydd, |
| (Hamlet) Pw, pw! | |
| (Hamlet) Pw, pw! | |
| (2, 2) 1765 | Ar fy anrhydedd,— |
| (Hamlet) Yna daeth pob chwareuydd ar ei ful,— | |
| (Hamlet) Yna daeth pob chwareuydd ar ei ful,— | |
| (2, 2) 1767 | Y chwareuwyr goreu yn y byd, naill ai am bruddchwareu, gwawdchwareu, hanesiaeth, bugeilgerdd, bugeilgerddol-gwawd-chwareuol, hanesiol-bugeilgerddol, pruddchwareuol- hanesiol, pruddchwareuol-gwawdchwareuol-hanesiol-bugeilgerddol, golygfa anrhanadwy, neu gân ddiderfyn: nis gall Seneca fod yn rhy drwm, na Plautus yn rhy ysgafn. |
| (2, 2) 1768 | Am gyfraith ysgrifen, ac am y rhyddid. dyma yr unig ddynion. |
| (Hamlet) O Jephthah, farnwr Israel!—y fath drysor oedd genyt ti! | |
| (Hamlet) O Jephthah, farnwr Israel!—y fath drysor oedd genyt ti! | |
| (2, 2) 1770 | Pa drysor oedd ganddo, fy arglwydd? |
| (Hamlet) Beth— | |
| (2, 2) 1775 | Fyth yn nghylch fy merch. |
| (Hamlet) Ai nid wyf yn iawn, yr hen Jephthah? | |
| (Hamlet) Ai nid wyf yn iawn, yr hen Jephthah? | |
| (2, 2) 1777 | Os ydych yn fy ngalw i yn Jephthah, fy arglwydd, y mae genyf fi ferch, yr wyf yn ei charu yn anwyl. |
| (Hamlet) Na, nid yw hyna yn canlyn. | |
| (Hamlet) Na, nid yw hyna yn canlyn. | |
| (2, 2) 1779 | Beth sydd yn canlyn ynte, fy arglwydd? |
| (Hamlet) Wel, |Fel dygwyddai, Duw a wyddai|, ac yna, chwi wyddoch, |Dygwydd wnaeth y rhod, Fel yn debyg 'r oedd yn bod|,— | |
| (Hamlet) Felly ewch yn mlaen. | |
| (2, 2) 1819 | Ger bron fy Nuw, fy arglwydd, dyna siarad yn rhagorol; âg aceniad a phwyll da. |
| (Chwareuwr 1) "Buan cafodd ef, | |
| (Chwareuwr 1) Y nef mor isel a'r ellyllon!" | |
| (2, 2) 1860 | Mae hwn yn rhy hir. |
| (Hamlet) Caiff fyned at yr eilliwr, gyda'th farf di.— | |
| (Hamlet) Y frenines gudd? | |
| (2, 2) 1868 | Mae hyna yn dda; Brenines gudd, sydd dda. |
| (Chwareuwr 1) "Yn rhedeg yn droed-noeth | |
| (Chwareuwr 1) A chyffro yn y duwiau." | |
| (2, 2) 1888 | Sylwch, os nad yw wedi troi ei liw, ac â dagrau yn ei lygaid.— |
| (2, 2) 1889 | Atolwg i ti, dim ychwaneg. |
| (Hamlet) Pob peth yn dda; mi a fynaf genyt lefaru y gweddill o hyn yn fuan.— | |
| (Hamlet) Byddai yn well i chwi gael beddargraff drwg ar ol marw, na chael eu hanair hwynt tra y byddoch byw. | |
| (2, 2) 1894 | Fy arglwydd, mi a'u triniaf hwynt yn ol eu haeddiant. |
| (Hamlet) Gwarchod pawb, ddyn, yn llawer gwell na hyny. | |
| (Hamlet) Cymerwch hwynt i fewn. | |
| (2, 2) 1899 | De'wch syrs. |