| (Harmonia) Yli! | |
| (0, 3) 1858 | Plwton yma, ia... |
| (0, 3) 1859 | Faint? |
| (0, 3) 1860 | Ugain mil?... |
| (0, 3) 1861 | Pa frwydr oedd hon?... |
| (0, 3) 1862 | O, rwy'n gweld... |
| (0, 3) 1863 | Wrth gwrs, rhaid eu derbyn rhag blaen... |
| (0, 3) 1864 | Mynd â nhw'n syth i'r Adran Ddarparu... |
| (0, 3) 1865 | Ia siwr. |
| (0, 3) 1866 | Mi wna i nodyn o hynny... |
| (0, 3) 1867 | Diolch. |
| (0, 3) 1870 | la? |
| (Ysgrifenyddes) Dionysos i'ch gweld chi, Plwton. | |
| (Ysgrifenyddes) Dionysos i'ch gweld chi, Plwton. | |
| (0, 3) 1872 | Ia, wrth gwrs. |
| (0, 3) 1873 | Mae ganddo fo apwyntiad. |
| (0, 3) 1874 | Anfonwch o i mewn yn syth. |
| (Ysgrifenyddes) {Petruso} | |
| (Ysgrifenyddes) Esgusodwch fi... | |
| (0, 3) 1877 | Wel? |
| (Ysgrifenyddes) Wn i ddim sut i ddweud hyn, Syr. | |
| (Ysgrifenyddes) Ond mae yna Un o'r Byd Arall efo fo! | |
| (0, 3) 1881 | Mae pawb yn Hades wedi dwad o'r byd arall rywbryd neu'i gilydd. |
| (Ysgrifenyddes) Ond nid yn y stâd y mae hwn ynddi! | |
| (Ysgrifenyddes) Ond nid yn y stâd y mae hwn ynddi! | |
| (0, 3) 1883 | Dwy i ddim yn eich deall chi. |
| (Ysgrifenyddes) Dydy o ddim wedi... | |
| (Ysgrifenyddes) Hynny ydy, mae o'n FYW! | |
| (0, 3) 1886 | Beth! |
| (0, 3) 1887 | Twt, twt, pa ofergoeledd yw hyn? |
| (Ysgrifenyddes) Mae o'n wir, Plwton. | |
| (Ysgrifenyddes) Mi gewch weld drosoch eich hun. | |
| (0, 3) 1890 | Mae'r peth yn anhygoel. |
| (0, 3) 1891 | Anfonwch nhw i mewn, rhag blaen. |
| (0, 3) 1895 | Cyfarchion, Dionysos, a chroeso i Hades. |
| (Dionysos) Diolch iti, Plwton. | |
| (Dionysos) Diolch iti, Plwton. | |
| (0, 3) 1897 | Ymweliad go annisgwyl! |
| (Dionysos) Ac amcan arbennig. | |
| (0, 3) 1900 | Ac yn syfrdanol o anghyffredin, ddyliwn. |
| (0, 3) 1901 | Rwy'n gobeithio dy fod ti'n sylweddoli difrifoldeb cam fel hyn? |
| (Dionysos) Yn llwyr. | |
| (Dionysos) Fe gei'r eglurhad yn y man. | |
| (0, 3) 1904 | Popeth yn iawn. |
| (0, 3) 1905 | Er bod yn rhaid imi ddweud 'mod i'n synnu na welaist yn dda rhoi unrhyw rybudd, ymlaen llaw, o fenter mor rhyfygus. |
| (0, 3) 1906 | Rhaid imi ddweud hynna'n blwmp ac yn blaen. |
| (Dionysos) Rwy'n syrthio ar fy mai, Plwton. | |
| (Dionysos) Ond teimlo roeddwn i y byddai hynny'n cymhlethu pethau'n ormodol a dianghenraid. | |
| (0, 3) 1909 | Wel, mi gawn weld. |
| (0, 3) 1910 | Ond cyn iti wneud dy ddatganiad, rhaid imi alw fy Nghynghorwyr i mewn. |
| (0, 3) 1911 | Rhaid cael eu cytundeb a'u cydweithrediad nhw, beth bynnag yw dy gynllun. |
| (Dionysos) Purion. | |
| (Dionysos) Purion. | |
| (0, 3) 1915 | Gynghorwyr, rwy i wedi eich galw yma i'ch cyflwyno i Dionysos. |
| (0, 3) 1916 | Does dim angen imi amlhau geiriau ond dweud ei fod yma ar berwyl pwysig iawn. |
| (0, 3) 1917 | Beth yw, wn i ddim fy hun eto. |
| (0, 3) 1918 | Ond dichon y cawn i gyd wybod ganddo yn y man. |
| (0, 3) 1919 | Ond cyn galw arno, mi hoffwn ddweud un peth; am reswm arbennig, mae o wedi dod â chydymaith anarferol — a dweud y lleiaf — gydag ef. |
| (0, 3) 1923 | Rwy'i am argymell, Gynghorwyr, ein bod yn rhoi clust i Dionysos. |
| (0, 3) 1924 | Ac ar ôl hynny, trafod ei ddatganiad yn ôl ein doethineb. |
| (Blaenor y Côr) Geiriau doeth, Plwton, ac argymhelliad teg | |
| (Dionysos) Diolch eto am eich gwrandawiad astud. | |
| (0, 3) 1963 | Wel, fe glywsoch gais Dionysos. |
| (0, 3) 1964 | Dichon fod y cynllun yn swnio'n herfeiddiol a rhyfygus, ond eich dyletswydd chi yw ei drafod. |
| (0, 3) 1965 | Y cynnig ydy: gwneud apêl i gewri'r dyddiau gynt fynd yn ôl i Athen i adfer ei hasgwrn-cefn a'i hunan-barch... |
| (0, 3) 1966 | Dowch yn ddiymdroi, os gwelwch yn dda. |
| (Blaenor y Côr) Plwton, rwyt ti'n gofyn rhywbeth anodd iawn; | |
| (Côr B) Ni ofynnir inni wneud dim oll ond hyn. | |
| (0, 3) 1994 | Gwahaniaeth barn yn amlwg. |
| (0, 3) 1995 | A oes yna rywun am wneud cynnig pendant? |
| (0, 3) 1996 | Yn ddiymdroi, os gwelwch yn dda. |
| (Blaenor y Côr) O'r gorau, Plwton, rhag gwastraffu dim | |
| (Blaenor y Côr) Gynllun a chais Dionysos. | |
| (0, 3) 2007 | Fe glywaist y cynnig, Dionysos. |
| (0, 3) 2008 | Dyna'r cyfan a allwn ni ei wneud. |
| (Dionysos) Rwy'n cytuno'n llwyr. | |
| (Dionysos) Diolch yn fawr am dy gydweithrediad. | |
| (0, 3) 2011 | Wn i ddim beth fydd ateb yr arwyr. |
| (0, 3) 2012 | Ond mae hyn yn sicr: fe fydd yn rhaid iti ei dderbyn a gweithredu arno. |
| (0, 3) 2013 | Gobeithio dy fod yn deall hynny? |
| (Dionysos) Rwy'n deall yn berffaith. | |
| (Dionysos) Rwy'n deall yn berffaith. | |
| (0, 3) 2015 | O'r gorau. |
| (0, 3) 2017 | Gynghorwyr, prysured rhai ohonoch i'r Cyntedd Anrhydedd. |
| (0, 3) 2018 | Rhowch eich cenadwri yn ôl cais Dionysos, i'r Gwrol Arwyr, a dowch yn ôl yn ddiymdroi gyda'r ateb a gewch chi ganddyn nhw. |
| (0, 3) 2020 | Yn y cyfamser, awgrymaf fod y gweddill ohonom yn ymroi yn llwyr i'n dwfn-fyfyrdod arferol. |
| (Nicias) Wel, myn uffern! | |
| (Nicias) Helo, mae yma rywbeth yn digwydd rwan! | |
| (0, 3) 2051 | Croeso'n ôl, Gynghorwyr. |
| (0, 3) 2052 | Rwy'n gweld ichi gael derbyniad gan y Gwroniaid. |
| (0, 3) 2053 | Ac iddyn nhw wrando'n astud ar eich neges. |
| (0, 3) 2054 | Beth oedd eu hadwaith? |
| (0, 3) 2055 | Pa ateb a gawsoch ganddyn nhw? |
| (Côr A) Fel y dywedaist, Plwton, cawsom gan y Gwrol Rai | |
| (Côr A) Mae tynged Athen, bellach, yn ei dwylo hi ei hun." | |
| (0, 3) 2087 | Wel, dyna ni. |
| (0, 3) 2088 | Gobeithio nad wyt ti'n teimlo'n rhy siomedig. |
| (Dionysos) {Codi ei esgwyddau.} | |
| (Dionysos) I fod yn onest, roeddwn i'n ei sylweddoli cyn cychwyn yma, ond fy mod i'n ofni. | |
| (0, 3) 2096 | Ofni? |
| (Dionysos) Na fyddai Athen ddim yn fodlon — neu ddim yn abl i'w wynebu. | |
| (0, 3) 2099 | Be sy'n mynd i ddigwydd i'r truan yna? |
| (Dionysos) Fy mwriad oedd iddo fo fynd â'r cewri yn ôl i Athen — petaen nhw wedi cytuno. | |
| (Dionysos) Fy mwriad oedd iddo fo fynd â'r cewri yn ôl i Athen — petaen nhw wedi cytuno. | |
| (0, 3) 2101 | Ond rwan? |
| (Dionysos) Rhaid iddo fo fynd yn ôl ei hun. | |
| (Dionysos) Dyletswydd bwysig arall. | |
| (0, 3) 2105 | Hanner munud, mi wyddost fod hynna'n amhosibl, Dionysos. |
| (0, 3) 2106 | Rwy'i wedi ystumio'r Rheolau yn fwy na ddyliwn yn barod. |
| (0, 3) 2107 | Ond fedra i ddim caniatâu i feidrolyn fel hwn fynd yn ôl i Fyd y Byw. |
| (Dionysos) Beth petawn i'n dweud na fyddai'n cofio dim oll o'i ymweliad â Hades? | |
| (Dionysos) Beth petawn i'n dweud na fyddai'n cofio dim oll o'i ymweliad â Hades? | |
| (0, 3) 2109 | Sut fedri di sicrhau hynny? |
| (Dionysos) Rwy' i wedi cymryd yr hyfdra i ystumio un arall o'r mân-reolau. | |
| (Dionysos) Rwy' i wedi cymryd yr hyfdra i ystumio un arall o'r mân-reolau. | |
| (0, 3) 2111 | Beth? |
| (0, 3) 2112 | P'run? |
| (Dionysos) Mi ydw i wedi rhoi diferyn o ddŵr Afon Lethe yn y botel win sy ganddo yn ei boced. | |
| (Dionysos) Yn ebargofiant llwyr. | |
| (0, 3) 2116 | Dionysos, rwyt ti'n gastiog i'w ryfeddu! |
| (0, 3) 2117 | Ond trosedd cymharol ddibwys ydy hynna, dan yr amgylchiadau... |
| (0, 3) 2118 | Ond mi fyddi di'n ei hebrwng rhan o'r ffordd? |
| (Dionysos) Byddaf, wrth gwrs. | |
| (Dionysos) Rhaid iddo osgoi Cerberws ar bob cyfri! | |
| (0, 3) 2121 | Ond beth am y Stycs? |
| (Dionysos) Popeth yn iawn, rwy'n credu. | |
| (Dionysos) Mi wnes i drefniant amodol efo Charon ar y ffordd yma. | |
| (0, 3) 2124 | Dim ond amodol? |
| (0, 3) 2125 | Dydy hynna ddim yn ddigon. |
| (0, 3) 2126 | Tyrd, rhaid inni wneud trefniadau pendant rhag blaen. |