| (Robert) Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam? | |
| (1, 0) 289 | Sut rydech chi yma heno i gyd, deulu diddan? |
| (McLagan) Sit ich chi pawb? | |
| (Robert) Cadwch ych hetiau, ddynion. | |
| (1, 0) 296 | Foneddigion a boneddigesau, nid hel at y Gymdeithas Feiblau ryden ni'r tro yma,—ond yma ar berwyl y gyfraith ryden ni. |
| (1, 0) 297 | Fel hyn y bu pethau—yr oedd y bonheddwr hwn, sef Mr. Alexander McLagan, (mae'n wir ddrwg gennyf nad ydyw ei Gymraeg yn deilyngach o'i gwmni), a minnau wrth ein post heno tuag ugain munud wedi wyth yn gwylio am |boachers|, ac wedi aros wyth munud wrth fy oriawr... |
| (Robert) Wats y mae o'n feddwl, Mr. McLagan. | |
| (Robert) Wats y mae o'n feddwl, Mr. McLagan. | |
| (1, 0) 299 | Yr oeddwn i yn mynd i ddweud, Mr. Williams, pan welsoch chi'n dda dorri ar draws fy sgwrs, ini weled dyn tua phum troedfedd deng modfedd o hyd yn dod allan o Winllan y Coetmor ac yn cerdded yn bwyllog tuag atom. |
| (1, 0) 300 | Pan welodd ni, trodd yn ei ol, gan daflu rhywbeth ar y clawdd a rhedeg i ffwrdd. |
| (1, 0) 301 | Wedi i ni fyned tua'r fan a'r lle, |to wit|, y clawdd, daethom o hyd i |game| wedi ei adael yno. |
| (1, 0) 302 | Barnasom yn ddoeth, wedi cydymgynghori, adael y |game| yno i edrych a ddeuai yn ol i'w gyrchu. |
| (1, 0) 303 | Cyn hir gwelsom rywun yn dod—y cyhuddedig yn ddiameu—a chymerodd arno oleu'i bibell wrth ymyl y |game|, ond pan oeddem ar fyned i afael ynddo, clywsom dwrw ymhen draw'r winllan, ac ergid o ddryll... |
| (McLagan) Ti'n missio 'rwan, Roberts, hergid o gwn oedd o,—fi'n nabod |sound| gwn. | |
| (McLagan) Ti'n missio 'rwan, Roberts, hergid o gwn oedd o,—fi'n nabod |sound| gwn. | |
| (1, 0) 305 | Dryll, machgen i, dryll,—neu yn iaith y werin, gwn.... |
| (1, 0) 306 | Erbyn ini droi i chwilio am achos yr ergid, yr oedd y |poacher| wedi diflannu'n hollol gyda'r |game|,—ond ar ol dilyn ol ei draed yn y gors y mae'n ddiameu gennym mai i'r tŷ hwn—y Sgellog Fawr—neu i rywle cyfagos yr aeth. |
| (1, 0) 307 | Yn awr, yr wyf yn eich tynghedu nad atalioch oddiwrthyf ddim os gwyddoch! |
| (Robert) Diar annwyl bach, Robaits, rydech chi'n glasurol ofnatsan lâs. | |
| (Elin) Naddo. | |
| (1, 0) 316 | Wel, dyna ni wedi colli'n deryn eto, McLagan. |
| (1, 0) 317 | Dowch ar unwaith i chwilio am dano. |
| (1, 0) 318 | Nos da, deulu,—roedd yn ddrwg genni'ch trwblo. |
| (Emrys) Rhoswch funud. | |
| (1, 0) 322 | Gadael beth, deudsoch chi? |
| (Emrys) Wel, y ddau ffesant, siwr—y—y—hynny yw, y gêm. | |
| (Emrys) Roedd yno ddau, on'd oedd? | |
| (1, 0) 326 | Pwy ddeudodd wrthych chi mai dau ffesant oedden nhw? |
| (Emrys) {Yn gynhyrfus.} | |
| (Emrys.) Y fi! | |
| (1, 0) 331 | Fuoch chi allan heno? |
| (Emrys.) Do. | |
| (1, 0) 334 | Ym mhle, mor hy a gofyn? |
| (Emrys) Dim o'ch busnes chi, Roberts. | |
| (1, 0) 349 | Mae'n rhaid imi eistedd i gymryd |notes|. |
| (1, 0) 350 | Mae mwy yma nag sy yn y golwg. |
| (1, 0) 351 | Yn awr, Mr. Emrys Williams,—newch chi ddweud wrthyf beth welsoch chi pan oeddech chi'n hel y baw coch yna ar ych esgidia?—er mwyn helpu gwâs y gyfraith, wrth gwrs. |
| (Emrys) {Yn eistedd ar gongol y bwrdd mawr,—y Plisman yn troi ato.} | |
| (McLagan) Fi gneud |note| o'r peth. | |
| (1, 0) 360 | Gadewch ef i mi, gyfaill McLagan. |
| (1, 0) 361 | Prin rydech chi eto'n feistr ar yr hên Gymraeg. |
| (1, 0) 363 | Mae hon ar fy ffordd i. |
| (1, 0) 365 | Maddeuwch i mi, Mrs. Williams. |
| (1, 0) 367 | Oho! felly wir! |
| (1, 0) 368 | 'Rydw i'n gweld 'rwan. |
| (1, 0) 369 | |To be sure|, doedd ryfedd wir ych bod chi'n gwbod am danyn nhw! |
| (1, 0) 370 | |Dear, dear|! mi 'roedd y Sgweier yn ameu'i denantiaid. |
| (1, 0) 372 | Gellwch chi'i chymryd hi fel ffaith, Mr. Williams, y bydd gwarant yn ych erbyn chi, bore fory. |
| (1, 0) 373 | Os ydw i—{yn torsythu}—dipin yn raenus fy nghâs, mi fedrai ddal |poacher| cystal ag undyn. |
| (1, 0) 374 | Hefyd, rhaid imi'ch rhybuddio y bydd popeth a ddywedwch yn cael ei godi i'ch erbyn eto. |
| (1, 0) 375 | Dowch, gyfaill McLagan. |
| (1, 0) 376 | Mi gawn ni orffen hyn eto! |
| (1, 0) 377 | Nos da, deulu, nos da. |
| (McLagan) Whiskers lliw baw, medda ti. | |
| (Elin) Dydi Emrys ddim wedi gorfod arfer deud celwydd wrth gribddeilio, fel rhai pobol, Miss Vaughan. | |
| (1, 0) 391 | Peidiwch a chynhennu, wragedd! |
| (1, 0) 392 | Caiff Mr. Williams bob chware teg i ddeud y gwir wrth yr ustusiaid ddydd Sadwrn, a chaiff sôn faint fynno fo am ymddanghosiad personol swyddogion y gyfraith. |
| (1, 0) 393 | Dowch, McLagan. |
| (Ann) {Yn dyfod ymlaen yn wylaidd.} | |
| (Ann) Rydw i'n dymuno rhoi f'hunan i fyny i'r gyfraith. | |
| (1, 0) 399 | O, aie wir? |
| (1, 0) 400 | Ond sut y medrwch chi gysoni'r ffaith i mi weld dyn yn i cymryd nhw? |
| (Ann) Cariad... i mi... oedd o... gwâs fferm heb fod ymhell oddiyma, a mi rhoth nhw i mi gynted ag yr oeddech chi wedi troi'ch cefn. | |
| (Emrys) Beth sy arnoch chi, Ann? | |
| (1, 0) 404 | Lle ar glawdd pella'r Coetmor roedd y ffesants, meddwch chi? |
| (Ann) Wrth... wrth y... wrth y goeden fala surion... 'rydw i'n cofio'n iawn rwan. | |
| (Robert) Am y tro, am y tro! | |
| (1, 0) 412 | Dim iws, Robert William,—dyledswydd, dyledswydd. |
| (1, 0) 413 | Nos da. |
| (1, 0) 415 | Mi fydda i'n cadw golwg arnoch chi, nes bydd y papur yn ych llaw chi. |