| (0, 1) 4 | Lei. |
| (0, 1) 6 | Lei. |
| (0, 1) 8 | Lei! |
| (Lei) Be rŵan? | |
| (Lei) Be rŵan? | |
| (0, 1) 10 | Witshad eiliad. |
| (Lei) Eto? | |
| (Lei) Eto? | |
| (0, 1) 12 | Dwi'n |knackered|. |
| (Lei) Ar siwrne bach fel hyn? | |
| (Lei) Ar siwrne bach fel hyn? | |
| (0, 1) 14 | Swirne bach? |
| (0, 1) 15 | Dani ar y 20ed-rywbeth llawr. |
| (Lei) Dani bron yno. | |
| (Lei) Dani bron yno. | |
| (0, 1) 17 | Oni'm yn gwbod mai'r llawr ucha' oedd o. |
| (Lei) Penthouse suite ddim yn rhoi cliw i chdi? | |
| (Lei) Penthouse suite ddim yn rhoi cliw i chdi? | |
| (0, 1) 19 | Ddylsa ni 'di cymryd y lifft. |
| (Lei) Mae na gamerâu yn y lifft. | |
| (Lei) Mae na gamerâu yn y lifft. | |
| (0, 1) 21 | Fysa ni'm 'di medru malu nhw? |
| (Lei) Mae nhw 'di cysylltu i'r wê, y twpsyn. | |
| (Lei) Dora gynnig arna fo. | |
| (0, 1) 30 | Dwi'n hanner marw. |
| (0, 1) 31 | Dora funud i mi ddal yng ngwynt! |
| (Lei) Fedri di ddal dy wynt tra ti'n pigo'r clo. | |
| (Lei) Dio'm yn cymryd fawr o ymdrech. | |
| (0, 1) 34 | Gwna di fo 'ta! |
| (0, 1) 36 | Mae'n llaw i'n crynu. |
| (0, 1) 37 | Sbia. |
| (0, 1) 38 | Dwi'n chwysu fel y diawl! |
| (0, 1) 39 | Dauddeg saith llawr! |
| (0, 1) 40 | Dwi 'rioed 'di bod mor bell fyny a hyn. |
| (Lei) Cachwr! | |
| (Lei) Gymrodd oes i mi gyrradd nôl. | |
| (0, 1) 53 | Odd fy nhŷ i draws y lôn o'r ysgol. |
| (Lei) Dim syndod bod ti'n lwmp fawr dew. | |
| (Lei) |Corwynt Bach|! | |
| (0, 1) 59 | 'Swn i 'di gallu dewis y cymeriad mwya cyflym ond wnes i ddim naddo! |
| (0, 1) 60 | Dwi'm yngalw'n hun y |Teithiwr Hudol|. |
| (Lei) Pwy ffwc 'di'r |Teithiwr Hudol|? | |
| (Lei) Ti'n |obsessed|. | |
| (0, 1) 64 | Dai Zong ydi'r |Teithiwr Hudol|. |
| (0, 1) 65 | Y Meistr Dai. |
| (Lei) Reit. | |
| (Lei) Reit. | |
| (0, 1) 67 | Mae'n gallu rhedeg 400 cilomedr mewn diwrnod! |
| (Lei) Pwy sa'n ennill mewn ffeit - |Corwynt Bach| neu'r |Teithiwr Hudol|? | |
| (Lei) Pwy sa'n ennill mewn ffeit - |Corwynt Bach| neu'r |Teithiwr Hudol|? | |
| (0, 1) 69 | |Teithiwr Hudol|. |
| (0, 1) 70 | Heb os nac oni bai. |
| (0, 1) 71 | Ond … y |Corwynt Bach| tisio bod yn ffrindiau efo. |
| (0, 1) 72 | Mae o'n cynnal y partis gorau yn y byd a'n gwahodd bobl i giniawa a dathlu a dawnsio, |
| (0, 1) 73 | byw bywyd go iawn! |
| (Lei) A be am y cymeriad arall odda ti'n sôn am gynna? | |
| (Lei) Shi — rwbath. | |
| (0, 1) 76 | Shi Qian. |
| (Lei) Ia, fysa fo'n curo y |Teithiwr Hudol|? | |
| (Lei) Ia, fysa fo'n curo y |Teithiwr Hudol|? | |
| (0, 1) 78 | Nasa, Dai y |Teithiwr Hudol| 'sa'n ennill eto. |
| (0, 1) 79 | Mae gyn y Meistr Dai kung fu gora'n y wlad. |
| (0, 1) 80 | A mae'n ardderchog am redeg. |
| (0, 1) 81 | Yr unig beth gallith Shi Qian wneud sy'n dda ydi dringo coed a to tai. |
| (0, 1) 82 | Mae'n ysgafn a chwim fel llygoden fach. |
| (0, 1) 83 | Ti di darllen y bennod amdano fo'n dwyn yr arfwisg aur? |
| (Lei) Ocê, dyna ddigon o frêc dwi'n meddwl. | |
| (Lei) Ocê, dyna ddigon o frêc dwi'n meddwl. | |
| (0, 1) 85 | O, mae Shi Qian yn anhygoel. |
| (0, 1) 86 | Mor ddyfeisgar yn dwyn yr arfwisg, rêl meistrolaeth o'i grefft. |
| (Lei) Ti'n medru meistroli'r clo 'ma ar agor ti'n meddwl? | |
| (Lei) Ti'n medru meistroli'r clo 'ma ar agor ti'n meddwl? | |
| (0, 1) 89 | Fedrai ddim. |
| (Lei) Eh? | |
| (Lei) Eh? | |
| (0, 1) 91 | 'Rioed 'di pigo math yma o glo. |
| (Lei) Ti'n malu cachu? | |
| (Lei) Oni'n meddwl wnes di ddeud does n'am clo ar y planed fedri di'm agor. | |
| (0, 1) 94 | Do, ag echddoe pan odda ti'm yn siarad efo fi, 'di pwdu'n llwyr, wnes i ddeud bod ti |
| (0, 1) 95 | di llyncu mul. |
| (0, 1) 96 | Ffor' o siarad. |
| (Lei) Paid a deutha fi bod ni 'di dringo'r holl risiau 'ma am ddim byd! | |
| (Lei) Tria eto! | |
| (0, 1) 99 | Dwi yn trio. |
| (0, 1) 100 | Ond os fedrai'm agor o, fedrai'm agor o. |
| (Lei) Am faint odda ti'n brentis saer cloeon? | |
| (Lei) Am faint odda ti'n brentis saer cloeon? | |
| (0, 1) 102 | Blwyddyn a hanner. |
| (0, 1) 103 | Ella 'chydig llai. |
| (Lei) Digon hir. | |
| (Lei) Digon hir. | |
| (0, 1) 106 | Ti'n meddwl |ddylsa| ni fynd mewn? |
| (Lei) Be ti'n feddwl? | |
| (Lei) Be ti'n feddwl? | |
| (0, 1) 108 | Ti'n siwr bod o ddim i fewn? |
| (Lei) Y, yndw. | |
| (Lei) Y, yndw. | |
| (0, 1) 110 | Sut? |
| (Lei) Newyddion. | |
| (Lei) Mae o ffwrdd ar fusnes swyddogol yn y brifddinas. | |
| (0, 1) 114 | Be os mae rywun arall fewn? |
| (Lei) Fydd 'na ddim. | |
| (Lei) Fydd 'na ddim. | |
| (0, 1) 116 | Sut, ga'i ofyn, wyt ti mor sicr? |
| (Lei) Dani 'di gweld o'r tu allan bod y goleuadau i gyd 'di diffodd. | |
| (Lei) Dani 'di gweld o'r tu allan bod y goleuadau i gyd 'di diffodd. | |
| (0, 1) 118 | Be os mae'n galw'r heddlu pan mae'n cyrraedd yn ôl? |
| (0, 1) 119 | Fydden nhw'n ffindio ni a cymryd ni lawr i'r stasion a pwy a wyr be' ddigwyddith. |
| (Lei) Faint o weithiau 'dwi gorfod deutha ti? | |
| (Lei) Meddylia am y peth - os fase ti'n lywodraethwr, a ma gyn ti gesyn llawn arian yn dy dŷ, a ti'n colli o, faset ti'n mynd i'r heddlu? | |
| (0, 1) 124 | Ella. |
| (Lei) Wrth gwrs faset ti ddim! | |
| (Lei) Os mae o'n cymryd |backhanders|, dio'm am redeg i grio i'r heddlu na'di. | |
| (0, 1) 128 | Na' di, debyg. |
| (0, 1) 129 | Pan dani'n gadael efo'r pres, be os mae'r heddlu'n stopio ni ar y stryd? |
| (0, 1) 130 | Sut ar y ddaear wnawn ni egluro'r peth? |
| (0, 1) 131 | Fydda ni'n |fucked|. |
| (Lei) Stop. | |
| (Lei) Stopia hyn rŵan, y cachwr. | |
| (0, 1) 134 | Just deud ydw i. |
| (0, 1) 135 | Mae'n beryglus. |
| (Lei) Wyt ti di anghofio be ddudis di ddoe? | |
| (Lei) Ti wedi llwyr anghofio, do, y ffordd wnes di roi dy law ar frest Dan Bach a tyngu llw am ddialedd? | |
| (0, 1) 139 | Naddo. |
| (Lei) 'Na fo 'ta. | |
| (Lei) O'r diwedd. | |
| (0, 1) 146 | Haws nag oedd o'n edrych. |
| (Lei) Ti'n dwad? | |
| (Lei) Ti'n dwad? | |
| (0, 1) 150 | Dwi'm yn siwr. |
| (Lei) Iesgob annwyl! | |
| (Lei) Dani bron yno! | |
| (0, 1) 153 | Be fysa 'nhad yn deud? |
| (0, 1) 154 | Pan adawis i adre a dod i'r ddinas, wnaeth o ddeud wrtha i: |
| (0, 1) 155 | 'Mab, f'unig fab, fedri di wneud beth fyd bynnag tisio yn y ddinas fowr 'na. |
| (0, 1) 156 | Ond paid byth, erioed a dwyn.' |
| (Lei) Dyda ni'm yn dwyn. | |
| (Lei) Dani'n cymryd o'r cyfoethog a rhoi i'r tlawd. | |
| (0, 1) 159 | Dwyn. |
| (Lei) Dwyn nath o. | |
| (Lei) Does gynna fo ddim hawl i gadw o. | |
| (0, 1) 164 | Dio'm yn pia i ni chwaith. |
| (Lei) Dim i ni 'da ni'n ei gymryd o, Ping. | |
| (Lei) Dim i ni 'da ni'n ei gymryd o, Ping. | |
| (0, 1) 166 | Dwi'n gwbo' hynna. |
| (Lei) Mi yrrodd y bastun barus yma syth mewn i Dan Bach a wantho'm poeni dim. | |
| (Lei) Cymryd ei arian poced yda ni i roi i deulu Dan. | |
| (0, 1) 173 | Dwi'n gwbo' hyn i gyd, ond … |
| (Lei) Be ffwc sy'n bod efo ti? | |
| (Lei) 'Da ni chydig o gamau ffwrdd o ffortiwn a ti'n cael ail feddyliau? | |
| (0, 1) 176 | Shh, bydd ddistaw! |
| (Lei) Allai'm diodda bobl fel ti. | |
| (Lei) Wnai'r peth fy hun. | |
| (0, 1) 182 | Addo i fi. |
| (Lei) Be? | |
| (Lei) Be? | |
| (0, 1) 184 | Addo wnawn ni'm cymryd mwy na' 'da ni angen. |
| (Lei) Dani'n gwastraffu amser. | |
| (Lei) Dani'n gwastraffu amser. | |
| (0, 1) 187 | Lei. |
| (Lei) Ocê. | |
| (Lei) |Shit|! | |
| (0, 2) 202 | Be? |
| (Lei) Ma rywun yma. | |
| (Lei) Ma rywun yma. | |
| (0, 2) 204 | Pwy? |
| (Lei) Dwn 'im! | |
| (Lei) Bachgen o ryw fath. | |
| (0, 2) 208 | Be wnawn ni? |
| (Lei) Ga'd mi feddwl am eiliad. | |
| (Lei) Ga'd mi feddwl am eiliad. | |
| (0, 2) 210 | Be am i ni guddiad yma ag aros i weld os mae'n gadael. |
| (Lei) Cau hi! | |
| (Lei) Cau hi! | |
| (0, 2) 212 | Neu fedra ni snecio heibio fel y |Teithiwr Hudol|. |
| (Lei) Dyna'r ffenest. | |
| (Lei) Dyna'r ffenest. | |
| (0, 2) 216 | Lle? |
| (Lei) Ochr arall i'r ffŵl 'ma. | |
| (Lei) Ochr arall i'r ffŵl 'ma. | |
| (0, 2) 218 | Blydi briliant. |
| (Lei) Faint gymrith i ti bigo'r clo yna? | |
| (Lei) Faint gymrith i ti bigo'r clo yna? | |
| (0, 2) 220 | Mae'n dibynnu. |
| (Lei) Achos gymrith yr un dwytha blydi oes mul. | |
| (Lei) Achos gymrith yr un dwytha blydi oes mul. | |
| (0, 2) 222 | Dio'm yn bosib rhuthro'r pethe 'ma. |
| (Lei) Wnai distractio fo, tra ti'n pigo'r clo. | |
| (Lei) Wnai distractio fo, tra ti'n pigo'r clo. | |
| (0, 2) 224 | Be, ti ffansi sgwrs bach efo fo? |
| (Lei) Sut arall? | |
| (Lei) Sut arall? | |
| (0, 2) 226 | A wedyn fydd o'n gweld ein gwynebau ni a mynd i'r heddlu. |
| (Lei) Cau dy drap am y blydi heddlu! | |
| (Lei) Gweld be' mae'n da 'ma. | |
| (0, 2) 230 | Ocê. |
| (0, 2) 231 | Merched gynta. |
| (Lei) Iawn boi? | |
| (Lei) Iawn boi? | |
| (0, 2) 236 | Noswaith hyfryd. |
| (Lei) Ga'd y siarad i mi. | |
| (Lei) Felly, os ti'm yn meindio, dwi'n meddwl bod o'n amser i ti fynd adre. | |
| (0, 2) 245 | Fydd dy deulu yn poeni amdana ti. |
| (Lei) Dio'm yn sâff fyny famma. | |
| (Shujun) Wel diolch am eich consyrn, ond dwi'n fine. | |
| (0, 2) 263 | Jyst yn gwneud ein job. |
| (Shujun) Cariwch ymlaen. | |
| (Shujun) Dwi'm yn stopio chi. | |
| (0, 2) 268 | Be ti'n yfed? |
| (0, 2) 270 | Fawr o hwyl yfed ar ben dy hun. |
| (Shujun) Tisio peth? | |
| (Shujun) Tisio peth? | |
| (0, 2) 272 | Na, diolch. |
| (0, 2) 275 | Ti'n gwbo' be dwi'n feddwl? |
| (0, 2) 276 | Dwi'n meddwl na fedr person sy'n yfed ar ben ei hun fod yn berson hapus. |
| (Shujun) Ydi hynna'n ffaith? | |
| (Shujun) Ydi hynna'n ffaith? | |
| (0, 2) 278 | Dwi'n meddwl bod person sy'n yfed fel'na yn yfed tristwch. |
| (Shujun) Diddorol iawn. | |
| (Shujun) Diddorol iawn. | |
| (0, 2) 280 | Ond mae 'na un peth fedrai'm dalld. |
| (Shujun) A be 'di hynna? | |
| (Shujun) A be 'di hynna? | |
| (0, 2) 282 | Pam ar y ddaear mae bachgen ifanc fel ti yn drist? |
| (0, 2) 283 | Eh? |
| (0, 2) 284 | Sbia ar lle ti'n byw. |
| (0, 2) 285 | Ti'n hogyn digon golygus. |
| (0, 2) 286 | Ma' siwr bod gyn ti ffrindiau. |
| (Shujun) Di'r pethau yna'n golygu dim. | |
| (Shujun) Di'r pethau yna'n golygu dim. | |
| (0, 2) 288 | Fedra di roi nhw i fi felly. |
| (0, 2) 289 | Os 'swn i'n ti, 'swni'n dathlu efo'r botel fodca 'na, yn lle pwdu. |
| (Shujun) 'Sgyn ti'm clem. | |
| (Shujun) 'Sgyn ti'm clem. | |
| (0, 2) 292 | Eglura i mi 'ta. |
| (0, 2) 293 | Be sy'n bod? |
| (0, 2) 294 | Ffeit efo dy gariad? |
| (0, 2) 295 | Di hi'm yn ffansio ti bellach? |
| (0, 2) 296 | Ti'n gwbo' be ddylsa ti neud? |
| (0, 2) 297 | Dos i dy wely am dridiau, binge-ia ar Netflix, a cria mewn i dy glustog. |
| (0, 2) 298 | Ma puncho'r clustog yn help weithiau hefyd. |
| (0, 2) 299 | Gwely am dridiau, Netflix, puncho clustog. |
| (0, 2) 300 | Trystia fi. |
| (Shujun) Dwi heb gael ffeit efo nghariad. | |
| (Shujun) Sgynnai'm cariad. | |
| (0, 2) 303 | A! |
| (0, 2) 304 | Dyna di'r broblem felly. |
| (Shujun) Naci. | |
| (Lei) 'Dani'n trio bod yn gyfeillgar. | |
| (0, 2) 311 | Warth i ti ddeutha ni. |
| (0, 2) 312 | Sgynna ni'm clem pwy wyt ti, dani'm yn mynd i ddeutha dy ffrindiau. |
| (0, 2) 313 | A ti byth yn gwbo', ella fydd o'n bosib i ni helpio chdi. |
| (0, 2) 314 | Rhoi cyngor i rywun mewn cyfyng gyngor. |
| (Lei) Be ti'n trio - cynghanedd? | |
| (Shujun) Oes rywun erioed 'di dy siomi? | |
| (0, 2) 318 | Ein bos. |
| (0, 2) 319 | Wnaeth o addo |pay rise| i ni flwyddyn diwethaf. |
| (0, 2) 320 | 'Da ni dal i ddisgwyl. |
| (Shujun) Dim fel'na. | |
| (Shujun) Oes na rywun ti'n rili edmygu, a wedyn ti'n darganfod bod nhw da i ddim? | |
| (0, 2) 323 | Um... dwi'n trio meddwl... oes. |
| (0, 2) 324 | Oedd 'na ferch yn ysgol bach, yn eistedd ar y run un desg a fi. |
| (0, 2) 325 | Odd hi'n gret. |
| (0, 2) 326 | Clyfar. |
| (0, 2) 327 | Hardd. |
| (Shujun) Be wnaeth hi? | |
| (Shujun) Be wnaeth hi? | |
| (0, 2) 329 | Un diwrnod, wnaeth yr athrawes adael y stafell ddosbarth, oni'n chwarae'n wirion efo |
| (0, 2) 330 | rywun ar y ddesg gyferbyn. |
| (0, 2) 331 | Pawb yn wneud run peth, pawb yn siarad pan odda ni fod yn astudio mewn distawrwydd - yn cynnwys y ferch 'ma ar y run desg a fi. |
| (0, 2) 332 | Pan ddoth Miss yn ôl mi ofynnodd pwy dorrodd y rheolau? |
| (0, 2) 333 | Mi gododd y ferch 'ma ei llaw. |
| (0, 2) 334 | 'Plis Miss, mi oedd o'n torri'r rheolau'. |
| (0, 2) 335 | Dobio fi fewn. |
| (0, 2) 336 | Torri 'nghalon. |
| (Shujun) Be oedd y gosb? | |
| (Shujun) Be oedd y gosb? | |
| (0, 2) 339 | Rhedeg 3 lap o'r trac traws gwlad, trwy'r blydi slwj, wedyn odd raid i mi helpu'r |
| (0, 2) 340 | adeiladwyr gario brics trwy'r pnawn. |
| (Shujun) Be wnes di iddi, yr hogan? | |
| (Shujun) Be wnes di iddi, yr hogan? | |
| (0, 2) 342 | Be ti'n feddwl? |
| (Shujun) I dalu hi'n nôl. | |
| (Shujun) I dalu hi'n nôl. | |
| (0, 2) 344 | Dim byd. |
| (0, 2) 345 | Be fedrwn i wneud? |
| (0, 2) 346 | Hogan fach odd hi, hogan delia'n byd. |
| (0, 2) 348 | Pwy sy'n creu dy broblem di? |
| (Shujun) Rywun ddylsa wybod yn well. | |
| (Shujun) Rywun ddylsa wybod yn well. | |
| (0, 2) 350 | Dachi'n agos? |
| (Shujun) Agos iawn. | |
| (Shujun) Neu, mi odda ni. | |
| (0, 2) 353 | Odd y person 'ma'n gas efo ti? |
| (Shujun) Dim efo fi. | |
| (Shujun) mewn ffyrdd cyfiawn. | |
| (0, 2) 395 | Um, ga'i just ddeud, sgynnai'm clem be ti'n sôn am. |
| (Shujun) Wrth gwrs bod gyn ti. | |
| (Shujun) Wnaeth ei ddyweddi adael o am ddyn mwy cyfoethog reit? | |
| (0, 2) 398 | Reit. |
| (Shujun) Achos roedd hi'n dymuno bywoliaeth mwy cyfforddus. | |
| (Shujun) Ddaru dy ffrind yn 'rysgol reportio ti i'r athrawes achos oedd hi isio—be? | |
| (0, 2) 402 | Dwn i'm. |
| (Shujun) Isio'r athrawes licio hi. | |
| (Shujun) Roedd hi'n dymuno ei sylw. | |
| (0, 2) 405 | Ella. |
| (Shujun) Dydi pawb ddim isio pres. | |
| (Shujun) Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist, iawn? | |
| (0, 2) 423 | Ydi dy gariad di'n artist? |
| (Shujun) Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist. | |
| (Shujun) Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist. | |
| (0, 2) 425 | Sgynnai ddim though. |
| (Shujun) Cogio, ddudis i. | |
| (Shujun) Cwestiwn damcaniaethol ydi hwn, iawn? | |
| (0, 2) 428 | Dam can - be? |
| (0, 2) 429 | Dam can |thank you mam|! |
| (0, 2) 430 | Ocê. |
| (0, 2) 431 | Cogio, cogio. |
| (0, 2) 432 | Sori. |
| (0, 2) 433 | Dos yn dy flaen. |
| (Shujun) Cau dy lygaid. | |
| (Shujun) Dychymga bod gyn ti gariad. | |
| (0, 2) 436 | Dwi'n dychmygu! |
| (Shujun) A dychmyga bod hi'n actores. | |
| (Shujun) A dychmyga bod hi'n actores. | |
| (0, 2) 438 | Ie. |
| (0, 2) 439 | Dwi'n gallu gweld hi rŵan. |
| (Shujun) A dychmyga bod hi'n hynod dalentog a bod hi'n gweithio'n galetach na neb. | |
| (Shujun) A dychmyga bod hi'n hynod dalentog a bod hi'n gweithio'n galetach na neb. | |
| (0, 2) 441 | Wrth gwrs. |
| (Shujun) Ond dydi hi ddim isio enwogrwydd neu unrhyw fath o ffortiwn. | |
| (Shujun) Ond dydi hi ddim isio enwogrwydd neu unrhyw fath o ffortiwn. | |
| (0, 2) 443 | 'Di ddim? |
| (Shujun) Na. | |
| (Shujun) Cwbwl ma'i isio ydi bobl i werthfawrogi ei gwaith. | |
| (0, 2) 446 | Reit. |
| (Shujun) Ond 'di ddim yn medru ffindio gwaith. | |
| (Shujun) Ond does neb yn ei chastio hi achos does neb yn sylweddoli faint mor dalentog ydi hi. | |
| (0, 2) 450 | Dydyn nhw'm yn gwbo be mae nhw'n golli. |
| (Shujun) Cwbwl ma'i angen ydi un brêc. | |
| (Lei) Shagio'r cyfarwyddwr. | |
| (0, 2) 458 | Na! |
| (Lei) Mae pawb arall yn gwneud o. | |
| (Shujun) Fysa ti'm iso'r cyfan ddod i ben? | |
| (0, 2) 480 | Dio'm werth o mêt. |
| (0, 2) 481 | Coelia fi. |
| (0, 2) 482 | Dos i dy wely ar ôl byta llond oergell o fwyd, a cysga am dridiau. |
| (0, 2) 483 | Fyddi di 'di anghofio'r cwbwl lot. |
| (Shujun) Dwi'n meddwl os mae rhywun yn gadael chi lawr fel'na, does 'na'm point byw. | |
| (Lei) Chwinc yn ei ben! | |
| (0, 2) 494 | Go iawn rŵan — bwyd, gwely, anghofio. |
| (Shujun) Ond be os tisio anfon neges? | |
| (Lei) Ddaru hi fyw, ond o'dd o'n ufflon o noson. | |
| (0, 2) 511 | Be ddigwyddodd wedyn? |
| (Lei) Dodd 'na'm 'wedyn'. | |
| (Lei) Pwy 'sa'n priodi merch fel'na? | |
| (0, 2) 514 | 'Di'n iawn rŵan? |
| (Lei) {codi ei ysgwyddau} Heb siarad efo hi. | |
| (Shujun) Fysat ti'n marw er mwyn amddiffyn rywun ti'n caru? | |
| (0, 2) 539 | Er enghraifft? |
| (Shujun) I helpu dy deulu allan o broblemau ariannol. | |
| (Shujun) Neu i achub ffrind. | |
| (0, 2) 542 | Eto, sut mae lladd eich hun yn helpu? |
| (Shujun) Wel be os wyt ti'n credu mewn karma. | |
| (Shujun) Felly ti'n cymryd dy fywyd er mwyn atal cosbedigaeth i rywun ti'n garu. | |
| (0, 2) 547 | Fedrai weld pam ti'n yfed ar ben dy hun, os mai dyma di'r math o banter ti'n roi allan |
| (0, 2) 548 | yn y pub. |
| (0, 2) 550 | 'Ti bach yn ifanc i'r holl ofid a gwae 'ma dwyt? |
| (Lei) Mae'n hwyr. | |
| (Shujun) Be os fedri di'm dioddef byw cam ymhellach achos bod y byd yn fucked up. | |
| (0, 2) 556 | Os mae'r byd yn fucked up, dyna reswm da i fyw! |
| (0, 2) 557 | I wneud pethe'n well. |
| (0, 2) 558 | I roi pethe yn ei le. |
| (Shujun) Dwn im. | |
| (Shujun) Fel lleidr penffordd, herwr o hogyn. | |
| (0, 2) 564 | Finna 'fyd! |
| (Shujun) Ti'n gweld y byd fel lle creulon? | |
| (Shujun) Ti'n gweld y byd fel lle creulon? | |
| (0, 2) 566 | Wrth gwrs. |
| (0, 2) 567 | Sbia o gwmpas, cym' famma. |
| (0, 2) 568 | Dani'n gweithio i'r bôn i adeiladu rhain, ond |
| (0, 2) 569 | yn y diwedd, fedra ni'm eu cyffwrdd. |
| (Lei) Fyswn i'm yn gadael ti'n agos i le fel hyn! | |
| (Lei) Fyswn i'm yn gadael ti'n agos i le fel hyn! | |
| (0, 2) 571 | Fyswn i'm yn gadael tithau chwaith! |
| (Lei) Ond ma hynna'n wir. | |
| (Shujun) Does 'na'm tâl da i gael am waith caled yn y byd yma. | |
| (0, 2) 577 | Gwaith caled sy'n cael ei dalu lleiaf. |
| (Lei) Bod yn ddigywilydd ydi'r swydd gorau. | |
| (Shujun) Hyd nod yn fy mhrifysgol, adeg etholiad llywydd undeb y myfyrwyr, mae pawb yn defnyddio perthnasoedd a presantau i brynu pleidleisiau. | |
| (0, 2) 583 | Mae o fel'na ym mhob man. |
| (0, 2) 584 | Echddoe roedd Yang yn deud, fy mos, bod y siawns o gael contract prosiect yn dibynnu yn llwyr ar swyddogion uchel. |
| (0, 2) 585 | Os dydi Yang ddim yn chwarae eu gêm, fydd o allan yn y rownd gyntaf. |
| (Lei) Dros ben llestri dydi. | |
| (Shujun) Pan oeddwn i'n fach, oni'n gobeithio dysgu Kung-Fu i helpu'r gwan a'r tlawd, a gwaredu'r byd o anghyfiawnder. | |
| (0, 2) 596 | Finna' 'fyd! |
| (Shujun) Wedyn oeddwn i isio bod yn fardd. | |
| (Shujun) Plygu mhen fel ychen fodlon, dwi'n gwasanaethu'r plant." | |
| (0, 2) 601 | Da rŵan. |
| (Shujun) Roedd fy nhad yn arfer dweud mai'r peth mwya gwirion ydi gwario amser efo boblgyda diddordebau main, a hefyd bod angen bod bob amser yn ddyfal - mae camgymeriadaubach yn gallu difetha bywyd. | |
| (Shujun) 'Os na fedr person waredu syniadau sy'n llenwi'r meddwl a'i feichio'n barhaus, mi fydd o'n rwymedig â grymoedd cyferbyniol.' | |
| (0, 2) 607 | Dwi'n cytuno. |
| (0, 2) 608 | Ond b'un ofalus, nei di. |
| (0, 2) 609 | Mae'n wyntog fyny famma. |
| (Shujun) Sut allith o fod yn gymaint o hypocrite? | |
| (Shujun) Sut allith o fod yn gymaint o hypocrite? | |
| (0, 2) 612 | Tyd o'r ymyl. |
| (0, 2) 613 | Ti 'di meddwi. |
| (0, 2) 614 | Dio'm yn sâff. |
| (Shujun) Sut fedra i orfodi fo i weld ei gam? | |
| (Shujun) Dwi'n casau'r … |bullshit| 'ma! | |
| (0, 2) 622 | Hei! |
| (Shujun) Chwilio a chwilio a methu ffindio prawf bywyd | |
| (Shujun) yn anadlu yn rhydd awyr y môr. | |
| (0, 2) 631 | Mae'r cân yna'n |classic|! |
| (0, 2) 634 | Deudodd be di'r ots am y clwyf bach hwn yn y storm |
| (0, 2) 635 | Dagrau ond dim ofn, o leiaf mae gynnon freuddwydiau |
| (0, 2) 636 | Deudodd be di'r ots am y clwyf bach hwn yn y storm |
| (Lei) Hei. | |
| (Lei) Odda ti'n bwriadu gwneud hynna? | |
| (0, 2) 645 | Be? |
| (Lei) Anfon o i'w drwmgwsg. | |
| (Lei) Anfon o i'w drwmgwsg. | |
| (0, 2) 648 | Wel, mae'n amlwg bod pŵer hudol yn fy llais. |
| (0, 2) 649 | Ella dyna'n alwedigaeth, gyrfa newydd i mi. |
| (Lei) Gyrfa fel paldareiwr. | |
| (Lei) Gyrfa fel paldareiwr. | |
| (0, 2) 651 | Byd-enwog. |
| (Lei) Ti di meddwi? | |
| (Lei) Ti di meddwi? | |
| (0, 2) 653 | Dwi braidd yn chwil. |
| (Lei) Finna' 'fyd. | |
| (Lei) Reit, tyd 'laen. | |
| (0, 2) 657 | Be am |sleeping beauty|? |
| (Lei) Gad o yna. | |
| (Lei) Fydda ni di hen adael cyn iddo ddeffro. | |
| (0, 2) 660 | Ti'n meddwl odd o am neidio go iawn? |
| (Lei) Na. | |
| (Lei) Mi ddeutha i ti hyn, fydd gynno fo goblyn o gur pen yn bora. | |
| (0, 2) 666 | Bechod drosta fo. |
| (Lei) Awê! | |
| (Lei) Lle mae'r blydi gola? | |
| (0, 3) 673 | Waw. |
| (0, 3) 674 | Sbia ar y lle 'ma. |
| (0, 3) 675 | Mae'n anferthol! |
| (Lei) Gwneud fi'n sâl. | |
| (Lei) Gwneud fi'n sâl. | |
| (0, 3) 677 | Be ti'n ddeud? |
| (0, 3) 678 | 30 medr sgwâr? |
| (Lei) O leia. | |
| (Lei) A dim ond y stafell gynta' 'di hwn. | |
| (0, 3) 681 | Iesgob. |
| (0, 3) 682 | Sbia ar yr holl betha' 'ma. |
| (Lei) Hei, dani'n edrych am y pres. | |
| (Lei) Hei, dani'n edrych am y pres. | |
| (0, 3) 685 | Be ti'n meddwl 'di hwn? |
| (Lei) Ceffyl. | |
| (Lei) Ceffyl. | |
| (0, 3) 687 | Mae'r lliw'n anhygoel. |
| (0, 3) 688 | |Emerald| ella. |
| (Lei) |Jade|. | |
| (Lei) |Jade|. | |
| (0, 3) 690 | Sut ti'n gwbo? |
| (Lei) |Emerald| yn fwy golau. | |
| (Lei) 'Run lliw. | |
| (0, 3) 694 | Mae'n |amazing|. |
| (Lei) Llygaid ar y pres. | |
| (Lei) Llygaid ar y pres. | |
| (0, 3) 697 | Dwi'n edrych, dwi'n edrych. |
| (Lei) Wel ti'n gwneud job wael iawn hyd yn hyn. | |
| (Lei) Wel ti'n gwneud job wael iawn hyd yn hyn. | |
| (0, 3) 700 | Faint 'da ni'n edrych am? |
| (Lei) Un neu ddau filiwn. | |
| (Lei) Un neu ddau filiwn. | |
| (0, 3) 702 | Mewn |cash|? |
| (0, 3) 703 | Toman anferthol felly. |
| (Lei) Ie, a dau ddyn anferthol hefyd i'w gario fyny. | |
| (Lei) Ie, a dau ddyn anferthol hefyd i'w gario fyny. | |
| (0, 3) 705 | Pwy ddudodd hynna i ti? |
| (Lei) Nghefnder i. | |
| (Lei) Mi welodd o'r dynion mawr ma yn cario'r cesys mewn i'r lifft heb ddeud gair, yng ngolau dydd. | |
| (0, 3) 709 | Wel fydd o'n hawdd i ffindio felly bydd. |
| (0, 3) 710 | Alli di'm stwffio hynna gyd dan fatràs! |
| (Lei) Dwi'n cadw ti fyny? | |
| (Lei) Dwi'n cadw ti fyny? | |
| (0, 3) 714 | Sori. |
| (0, 3) 715 | Y fodca 'na'n gwneud fi'n gysglyd. |
| (Lei) Finna' 'fyd. | |
| (Lei) Cyn gynted dani'n ffindio'r cash cyn gynted gawn i gysgu. | |
| (0, 3) 719 | Lei, ti'n siwr bod gyn ti'r un iawn? |
| (Lei) Yndw tad. | |
| (Lei) Coelia fi, hwn di'r fflat iawn. | |
| (0, 3) 724 | Na, y person iawn. |
| (0, 3) 725 | Ti'n siwr na fo darrodd Dan Bach? |
| (Lei) Weles di'r fideo do? | |
| (Lei) Natho'm cyffwrdd y brêcs. | |
| (0, 3) 730 | Wnes i'm gweld o! |
| (0, 3) 731 | Odd o mond ar-lein am ddwy awr. |
| (0, 3) 732 | Wnes i redeg i'r caff wê i weld be odd yr holl ffws. |
| (0, 3) 733 | Erbyn fi gyrradd, odd y fideo lawr. |
| (0, 3) 734 | Fedra di'm agor y lincs rŵan. |
| (Lei) Wel welis i. | |
| (Lei) Numberplate, gwyneb, popeth fo oedd o. | |
| (0, 3) 739 | Anifail de. |
| (0, 3) 740 | Pwy ddyn go iawn sa'n gwneud hynna? |
| (0, 3) 741 | A mae mor ffeind ar y teledu dydi, un o'r bobl gyffredin - ond sbia ar famma. |
| (Lei) Dyna lle mae'r dywediad yn dod o: 'nabod ei wyneb, ddim run fath a nabod ei galon'. | |
| (Lei) Dyna lle mae'r dywediad yn dod o: 'nabod ei wyneb, ddim run fath a nabod ei galon'. | |
| (0, 3) 744 | Wel fedrai'm gweld y pres de. |
| (Lei) Tria drws nesa. | |
| (0, 3) 752 | Sbia ar hwn! |
| (Lei) Paid a gwaeddi, naci! | |
| (Lei) Paid a gwaeddi, naci! | |
| (0, 3) 755 | Dwi newydd ffindio 'hein yn y stafell wely. |
| (0, 3) 757 | Be ti'n gwneud? |
| (Lei) Dim byd. | |
| (Lei) Os fedra ni'm ffindio'r pres, o leia fedra ni werthu rywfaint o'r petha 'ma. | |
| (0, 3) 761 | Dim dyna wnaethon ni gytuno. |
| (Lei) Sut ti'n meddwl gafodd o'r holl ornaments a'r offer technegol ma? | |
| (Lei) Arian drwg. | |
| (0, 3) 764 | Dani'm yn gwbod hynna. |
| (Lei) Dwi'n gwrthod dychwelyd yn waglaw. | |
| (Lei) Mae angen o leia digon i gyfro costau'r angladd. | |
| (0, 3) 767 | Ma gynnai deimlad drwg am hyn. |
| (0, 3) 768 | Os fysa'n nhad yn 'ngweld i... |
| (Lei) Ie, ie. | |
| (Lei) Fysa fo'n cael hartan a marw, os fysa fo'm 'di marw'n barod. | |
| (0, 3) 771 | Fydd o'n troi yn ei fedd. |
| (Lei) Cau dy drap a dora hand i mi wnei di? | |
| (Lei) Be sgyn ti'n fanna eniwe? | |
| (0, 3) 775 | Llun o'r teulu. |
| (Lei) Y Llywodraethwr? | |
| (Lei) Y Llywodraethwr? | |
| (0, 3) 777 | A'i fab. |
| (Lei) Ga'mi weld. | |
| (Lei) |Shit|! | |
| (0, 3) 781 | Ia. |
| (Lei) |Bastard|! | |
| (Lei) |Bastard|! | |
| (0, 3) 783 | Byw efo fo'n ddigon i wneud i rywun drio lladd ei hun. |
| (Lei) Wnaeth o'm sôn dim am hyn. | |
| (Lei) Wnaeth o'm sôn dim am hyn. | |
| (0, 3) 785 | Mae 'na lythyr hefyd. |
| (Lei) Dora fo i mi. | |
| (Shujun) Ti sy'na? | |
| (0, 3) 792 | |Shit|! |
| (Shujun) Be sy'n mynd 'mlaen 'ma? | |
| (Shujun) Be sy'n mynd 'mlaen 'ma? | |
| (0, 3) 795 | Fedra ni egluro popeth. |
| (Shujun) Be ffwc dachi'n neud 'ma? | |
| (Shujun) Be ffwc dachi'n neud 'ma? | |
| (0, 3) 797 | Aros eiliad. |
| (Shujun) |Security guards| newydd. | |
| (Shujun) Sleifio gwmpas y to ganol nos, ddylswn i 'di meddwl. | |
| (0, 3) 801 | Dani'm yma i ddwyn dy betha di. |
| (Shujun) O na? | |
| (Shujun) O na? | |
| (0, 3) 803 | 'Chydig bach dani'n cymryd, fel iawndal. |
| (Shujun) Fedrai'm credu hyn. | |
| (Shujun) |Scum| dachi! | |
| (0, 3) 807 | Plis gwranda. |
| (Lei) |Scum|? | |
| (Lei) Nola'r rhaff o'r bag. | |
| (0, 3) 825 | Pa râff? |
| (Lei) Yn y bag! | |
| (Lei) Yn y bag! | |
| (0, 3) 828 | Well i ni heglu hi cyn i'r heddlu gyrraedd. |
| (Lei) Mae'n malu cachu. | |
| (Lei) Mae'n amhosib bod o 'di cael drwodd i'r heddlu mor gyflym a hynna. | |
| (0, 3) 831 | Tisio aros i ffindio allan? |
| (Lei) Arosa lle wyt ti. | |
| (Lei) Ti'n mynd i lem byd tan i ni gael be 'dan isio. | |
| (0, 3) 835 | A be yda ni isio yn union? |
| (0, 3) 837 | Be ti'n wneud? |
| (Lei) Be mae'n edrych fel? | |
| (Lei) Tisio deud hynna eto? | |
| (0, 3) 848 | Paid! |
| (0, 3) 849 | G'ad o lonydd. |
| (Lei) Mae'r bachgen yn haeddu gwers, neu fydd o byth yn dysgu. | |
| (Lei) Dipyn o addysg i wneud y boi yn fwy clyfar na mae o rŵan. | |
| (0, 3) 852 | Cofia dyma'r un hogyn wnaetho ni rannu botel fodca efo. |
| (Lei) Os fyswn i'n gwbod pwy odd ei dad, fyswn i 'rioed 'di cyffwrdd yn y botal 'na. | |
| (Lei) Os fyswn i'n gwbod pwy odd ei dad, fyswn i 'rioed 'di cyffwrdd yn y botal 'na. | |
| (0, 3) 855 | Beth am gymryd y petha 'ma a mynd. |
| (Lei) Be? | |
| (Lei) Di heina ddim byd bellach. | |
| (0, 3) 858 | Mae nhw'n fwy na digon i Hen Liu. |
| (Lei) Na, na, na, ma gynno ni wobr gwell. | |
| (Lei) Na, na, na, ma gynno ni wobr gwell. | |
| (0, 3) 860 | Wnawn ni 'rioed ffindio'r pres! |
| (0, 3) 861 | Wneith o gymryd rhy hir. |
| (Lei) Dim y pres. | |
| (Lei) Paid a chwarae lol. | |
| (0, 3) 891 | Pa |hard drive|? |
| (Lei) Mae'n deud bod gynno fo gopi o'r fideo. | |
| (Lei) Yr un oedd ar-lein. | |
| (0, 3) 894 | Oni'n meddwl bod nhw gyd 'di'w distriwio. |
| (Lei) Dim i gyd, yn ôl bob golwg. | |
| (Lei) Dora'r hard drive i ni! | |
| (0, 3) 907 | Am be? |
| (0, 3) 908 | Dani'm angen o. |
| (0, 3) 909 | Oni'n meddwl ddotha ni yma am iawndal. |
| (0, 3) 910 | Pres! |
| (Lei) Yn union. | |
| (Lei) Efo'r fideo fedra ni gael llif o arian pryd bynnag dani angen. | |
| (0, 3) 914 | Ti'n golygu fedra ni...? |
| (0, 3) 916 | Fedra ni'm gwneud hynna, Lei. |
| (Lei) Cau hi. | |
| (Lei) Gynta, oeddet tisio achub ei enaid, rŵan ti'n trio amddiffyn y llofrudd. | |
| (0, 3) 923 | Ddylsa ni roi'r fideo 'ma i'r heddlu. |
| (0, 3) 924 | Sicrhau bod o'n cael ei arestio. |
| (Shujun) Damwain oedd o. | |
| (Shujun) Dwi mor sori. | |
| (0, 3) 978 | Ty'd laen, Lei. |
| (0, 3) 979 | Awê! |
| (Lei) Na. | |
| (Lei) Lle mae'r fideo? | |
| (0, 3) 986 | Paid! |
| (0, 3) 987 | Ga'd i mi siarad efo fo. |
| (0, 3) 990 | Pan odda ni'n yfad gynna, cyn i mi wybod pwy oeddet ti, oni'n meddwl dy fod di'n foi iawn. |
| (0, 3) 991 | Gonest a dibynadwy. |
| (Shujun) Dim yn union. | |
| (Shujun) Dim yn union. | |
| (0, 3) 993 | Mae gyn ti freuddwydion o leiaf, a calon clên. |
| (0, 3) 994 | Dwi'n meddwl, mewn amgylchiadau gwahanol, fysa ni'n ffrinidau. |
| (0, 3) 996 | Ti a fi run fath. |
| (0, 3) 997 | Dani isio gwneud y peth iawn. |
| (0, 3) 998 | Ti'n teimlo'n euog am weithrediadau dy dad, yndwyt? |
| (0, 3) 999 | Tisio gwneud i fyny amdano fo. |
| (0, 3) 1001 | Rho dy hyn yn sgidiau rywun arall. |
| (0, 3) 1002 | Ti'n gweithio fel cogydd ar safle adeiladu. |
| (0, 3) 1003 | Ti'm yn ennill fawr o bres. |
| (0, 3) 1004 | Roeddet ti'n meddwl y base ti'n unig yn dy hen oed. |
| (0, 3) 1005 | Wedyn ti'n cael dy fendithio gyda plentyn, mab. |
| (0, 3) 1006 | A mae'n gwneud ti'n hapusach nag unrhyw beth yn y byd. |
| (0, 3) 1007 | Ond mae rhywun yn cymryd y bachgen oddi wrtha ti. |
| (0, 3) 1008 | Dy unig blentyn. |
| (0, 3) 1009 | Lle mae'r cyfiawnder yn hynny? |
| (Shujun) Dwi wedi rhoi arian i'r elusen sy'n gweithio efo'r teulu. | |
| (Shujun) Yr arian dachi'n chwilio amdano, wnes i roi o i gyd. | |
| (0, 3) 1012 | Welais i hynna'n y llythyr. |
| (0, 3) 1013 | Ti'n hogyn da. |
| (Shujun) Dwisio gwneud y peth iawn. | |
| (Shujun) Dwisio gwneud y peth iawn. | |
| (0, 3) 1015 | Y peth iawn fydd rhoi'r fideo i ni. |
| (Shujun) Wyt tisio anfon fy nhad i'w farwolaeth? | |
| (Shujun) Wyt tisio anfon fy nhad i'w farwolaeth? | |
| (0, 3) 1017 | Nac ydw, ond mae angen talu am gamgymeriadau. |
| (0, 3) 1018 | Rho gyfiawnder i deulu Dan Bach. |
| (Shujun) Dan oedd ei enw? | |
| (Shujun) Dan oedd ei enw? | |
| (0, 3) 1020 | Ia, pump oed. |
| (Shujun) Wnai siarad efo nhad. | |
| (Shujun) Ro'i mwy o arian i'r teulu. | |
| (0, 3) 1028 | Dani'm isio dy arian. |
| (0, 3) 1029 | Danisio'r tystiolaeth. |
| (Lei) Y fideo! | |
| (Lei) Mae raid i rywun dalu am droseddau dy dad. | |
| (0, 3) 1034 | A dwi'm isio ti fod y person yna. |
| (Shujun) Mae gynno fo gynlluniau mawr i'r dyfodol. | |
| (Shujun) Does dim gwobr am waith caled. | |
| (0, 3) 1045 | Nag oes. |
| (Shujun) Ond mae gwobr am gywilydd. | |
| (Lei) Ti mor ddiegwyddor a ddigwilydd a dy dad! | |
| (0, 3) 1051 | Lei! |
| (Lei) Be? | |
| (Lei) Be? | |
| (0, 3) 1053 | Ti'n un da i siarad! |
| (0, 3) 1054 | Ti yma i ddwyn pres. |
| (Lei) |So|? | |
| (Lei) Geiriau mawr yn golygu dim. | |
| (0, 3) 1113 | Fedrai'm diodda hyn. |
| (0, 3) 1114 | Plis dora'r |hard drive| i ni! |
| (Shujun) Oni'n arfer adrodd rhain pan oni'n ifanc, fy nhad yn dysgu nhw i mi. | |
| (Shujun) Oni'n arfer adrodd rhain pan oni'n ifanc, fy nhad yn dysgu nhw i mi. | |
| (0, 3) 1116 | Gwranda. |
| (0, 3) 1117 | Gwranda rŵan. |
| (Shujun) Pennillion bythgofiadwy. | |
| (Shujun) Pennillion bythgofiadwy. | |
| (0, 3) 1119 | Mae'n bosib i ti roi stop i hyn i gyd — |
| (Shujun) Be di'r pwynt? | |
| (Shujun) Dachi'n benderfynol i'm lladd. | |
| (0, 3) 1122 | Nac ydan. |
| (0, 3) 1123 | Y fideo. |
| (0, 3) 1124 | Dyna'r cwbwl dani isio. |
| (Shujun) Iawn. | |
| (Shujun) Iawn. | |
| (0, 3) 1126 | Be? |
| (Shujun) Wnai roi'r |hard drive| i chi. | |
| (Shujun) Wnai roi'r |hard drive| i chi. | |
| (0, 3) 1128 | Diolch i Dduw! |
| (0, 3) 1129 | O'r diwedd! |
| (Shujun) 'Edifarhau y pechodau mawr'. | |
| (Shujun) 'Edifarhau y pechodau mawr'. | |
| (0, 3) 1131 | Ia, ia. |
| (0, 3) 1132 | Lle mae o ta? |
| (Shujun) Datglymwch fi. | |
| (Lei) Tric 'dio. | |
| (0, 3) 1136 | Sbia arna fo, dio'm yn |fighting fit| ar ôl be ti di neud iddo fo. |
| (Lei) Dani'n delio efo celwyddgi. | |
| (Lei) Dani'n delio efo celwyddgi. | |
| (0, 3) 1138 | Mae o ar ein ochr ni. |
| (0, 3) 1139 | Mae'n gweld trwy'r drwg. |
| (Shujun) Diolch. | |
| (Shujun) Diolch. | |
| (0, 3) 1143 | Brysia rŵan. |
| (Shujun) Mae o yn fy stafell wely. | |
| (Shujun) Mae o yn fy stafell wely. | |
| (0, 3) 1145 | Tyd 'laen 'ta. |
| (Lei) Cymera hwn. | |
| (Lei) Dwi'm yn trystio'r hogyn. | |
| (0, 3) 1150 | Ti'n gwbo be di dy broblem di, Lei. |
| (0, 3) 1151 | Ti'm yn meddwl fedrith unrhyw un newid. |
| (Shujun) Sefwch yn ôl! | |
| (Shujun) Sefwch yn ôl! | |
| (0, 3) 1156 | Y bastard diegwyddor! |
| (Shujun) Pediwch â symud modfedd. | |
| (Shujun) Pediwch â symud modfedd. | |
| (0, 3) 1158 | Pam? |
| (Shujun) Dachi'm yn ymwybodol o be dachi'n neud. | |
| (Shujun) Am be? | |
| (0, 3) 1163 | Cyfiawnder. |
| (Shujun) Dialedd! | |
| (Lei) Fedri di ddim, sgyn ti'm y gyts. | |
| (0, 3) 1180 | Paid a gwneud rywbeth gwirion. |
| (Shujun) Mae angen iddo wybod be mae'n teimlo fel i golli rywun mae'n caru. | |
| (Shujun) Mae angen iddo wybod be mae'n teimlo fel i golli rywun mae'n caru. | |
| (0, 3) 1183 | Na! |
| (Dyn Heddlu) {off} Dani 'di cael |reports| bod rhywun wedi torri mewn. | |
| (Dyn Heddlu) Agorwch y drws neu fydden ni'n agor y drws i chi. | |
| (0, 3) 1189 | Be dani 'di gwneud? |
| (Lei) Mab am fab. | |
| (Lei) Karma. | |
| (0, 3) 1192 | Ddylsa ni 'rioed wedi dod yma. |