| (Adroddwr 1) Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea. | |
| (Mam) Dewis dy grefft, dewis dy grefft, dewis dy grefft! | |
| (1, 0) 82 | Crochennydd — Cigydd — Pibydd — Pobydd — Teiliwr — Sowldiwr — C'weiriwr crwyn — Llongwr — Lledrwr — Llifiwr — Lloffwr — Creigiwr — Crymanwr — Cerfiwr coed. |
| (1, 0) 161 | Proffwyd! |
| (1, 0) 162 | Proffwyd! |
| (1, 0) 163 | Mae Jonah bach yn Broffwyd! |
| (1, 0) 164 | ~ |
| (1, 0) 165 | Cryned y mynyddoedd, echryded y moroedd, |
| (1, 0) 166 | Arswyded holl genhedloedd y ddaear, |
| (1, 0) 167 | Mae Jonah bach yn Broffwyd! |
| (1, 0) 168 | Chwi chediaid y nefoedd, chwi bysgod y môr, |
| (1, 0) 169 | Chwi fwystfilod ac ymlusgiaid oll, |
| (1, 0) 170 | Deuwch ac ymgrymwch mewn parchus ofn, |
| (1, 0) 171 | I Jonah bach y Proffwyd! |
| (1, 0) 172 | Jonah bach y Proffwyd! |