| (Ned) Dewch fechgyn, rhaid mynd â'r bywyd-fad mâs. | |
| (Nel) A welwch chi Capten Jones wrth y llyw, fel mae e' wedi bod pob tro mae'r bad wedi mynd allan am yn agos i ugain mlynedd? | |
| (1, 0) 71 | Y nefoedd a'u hachub hwynt! |
| (1, 0) 72 | Mae Huw ni yn y bad. |
| (1, 0) 74 | Welsoch chi fe? |
| (Gwenno) Do, a Dic. | |
| (Sali) Na wir, byddai cywilydd arna i edrych yn wyneb yr un o honoch petai Dai ni adre, yn lle bod yn y bad heno. | |
| (1, 0) 148 | Fe ddeuant 'nol, fe gewch weld, wedi achub pob un sydd yn y llong. |
| (1, 0) 149 | Onid yw Capten Jones wrth y llyw? |
| (1, 0) 150 | Sawl gwaith mae dy dad wedi bod mâs â'r bad, Jenny? |
| (Jenny) {Merch fach, tua naw oed, sydd newydd ddod at y gwragedd.} | |
| (Mary Jane) Arglwydd grasol, cadw hwynt! cadw hwynt! | |
| (1, 0) 206 | B'le mae'r bad? |
| (1, 0) 207 | Welwch chi e'? |
| (Nel) Na, mae'r cyfan wedi ei guddio gan y tonna'. | |
| (1, 0) 409 | Ydi e'n fyw? |
| (Bess) O, odi; ond mae wedi cael dolur mawr ar ei fraich dde a'i ysgwydd. | |
| (Shan) Yr ydym i gyd wedi anghofio am bawb, ond am Bess a Mari. | |
| (1, 0) 434 | O, nid ydynt damaid gwaeth; maent wedi newid 'nawr, ac yn cael tamaid o fwyd. |