| (Beelzebub) Tân brwmstan gwyllt, darperwch fflamllyd Gethern, | |
| (Beelzebub) Rhagorol iawn. | |
| (1, 1) 288 | Rhagorol iawn. |
| (Beelzebub) Ardderchog! | |
| (Beelzebub) A rhoddwch groesaw heb ei ail i'r Cymro! | |
| (1, 1) 295 | Awn, awn. |
| (1, 1) 297 | Poenau dirdynol, |
| (1, 1) 298 | Gwaeau tragwyddol, |
| (1, 1) 299 | Brysiwch, dilynwch ni! |
| (1, 1) 300 | Melldith a dychryn |
| (1, 1) 301 | Clywch ein gorchymyn |
| (1, 1) 302 | Trefnwch beirianau cri. |
| (1, 1) 303 | ~ |
| (1, 1) 304 | Llîd a chynddaredd, |
| (1, 1) 305 | Gwarth a dialedd, |
| (1, 1) 306 | Gwenwyn a chwerwedd chwith; |
| (1, 1) 307 | Gwyniau a chynen, |
| (1, 1) 308 | Dinystr anorphen, |
| (1, 1) 309 | Deuwch, brysiwn i'w plith. |
| (1, 1) 310 | ~ |
| (1, 1) 311 | Stormydd ysgythrol, |
| (1, 1) 312 | Tân aniffoddol, |
| (1, 1) 313 | Gwylltiwn, rhoddwn yn rhydd: |
| (1, 1) 314 | Awn vw gynddeiriog, |
| (1, 1) 315 | Poenwn yr euog |
| (1, 1) 316 | Gyda phob arf y sydd. |