| (Roberts) {Gan droi at Parry sydd wrth y drws.} | |
| (Roberts) Maen nhw'n... | |
| (1, 0) 36 | Deall yn iawn. |
| (1, 0) 37 | Deall yn iawn. |
| (Roberts) Steddwch. | |
| (Roberts) Steddwch. | |
| (1, 0) 39 | Diolch o galon. |
| (1, 0) 40 | Caredig iawn. |
| (1, 0) 41 | Caredig iawn. |
| (Roberts) Y peth lleia' medra dyn ei wneud ar ôl cymaint o flynyddoedd. | |
| (Roberts) Y peth lleia' medra dyn ei wneud ar ôl cymaint o flynyddoedd. | |
| (1, 0) 43 | Byw. |
| (1, 0) 44 | Ymddeol i Ynys Môn. |
| (1, 0) 45 | Dyna ydi gwir nefoedd ar y ddaear. |
| (1, 0) 46 | Y peth gwâr i'w wneud ar ôl oes o lafur di-ildio. |
| (1, 0) 47 | Cael lle, stafell, llyfrgell fechan, i freuddwydio, meddwl a chreu. |
| (Roberts) Diferyn bach? | |
| (Roberts) {Yn ymestyn at y wisgi.} | |
| (1, 0) 50 | Caredig iawn. |
| (1, 0) 51 | Caredig iawn. |
| (Roberts) Dŵr? | |
| (Roberts) Dŵr? | |
| (1, 0) 54 | Hanner diferyn. |
| (1, 0) 55 | Dim mwy. |
| (1, 0) 56 | Dim llai. |
| (1, 0) 57 | Dyna fo. |
| (1, 0) 58 | Perffaith. |
| (1, 0) 60 | Diolch. |
| (1, 0) 62 | Mm. |
| (1, 0) 63 | Cael byw efo'ch llyfrau. |
| (1, 0) 64 | A'r fath lyfrau. |
| (1, 0) 65 | Gwerth cannoedd. |
| (1, 0) 66 | Miloedd mae'n siwr. |
| (Roberts) Rhyfedd, taro ar ein gilydd ar ôl yr holl flynyddoedd. | |
| (Roberts) Rhyfedd, taro ar ein gilydd ar ôl yr holl flynyddoedd. | |
| (1, 0) 68 | Digwydd bod yn y gogledd. |
| (1, 0) 69 | Pwyllgor ym Mangor 'fory. |
| (1, 0) 70 | Penderfynu picio i Fôn. |
| (1, 0) 71 | Stopio yn Rhosneigr am betrol; a phwy wel'is i? |
| (Roberts) Bob amser yn mynd am ryw dro bach ar ôl swper, bydda', Emily? | |
| (Roberts) {Nid yw'n ei ateb ond bwrw 'mlaen gyda'i gwnïo.} | |
| (1, 0) 74 | Iach iawn. |
| (Roberts) Rhywun yn cysgu'n well. | |
| (Roberts) Rhywun yn cysgu'n well. | |
| (1, 0) 76 | Ma' rhywun. |
| (Roberts) Awyr môr, ynte Emily? | |
| (Roberts) Dim gormod o ddŵr, gobeithio? | |
| (1, 0) 80 | Na, na. |
| (1, 0) 81 | Na, na. |
| (Roberts) O Ben Llŷn, ynte? | |
| (Roberts) O Ben Llŷn, ynte? | |
| (1, 0) 83 | Eifionydd. |
| (Roberts) Eifionydd. | |
| (Roberts) Wrth gwrs. | |
| (1, 0) 87 | A chitha o...? |
| (Roberts) Fan 'ma. | |
| (Roberts) Môn. | |
| (1, 0) 90 | Gwyn ych byd chi... |
| (1, 0) 91 | Ych tad yn weinidog efo'r Hen Gorff, ynte? |
| (Roberts) Yr Annibynwyr. | |
| (Roberts) Yr Annibynwyr. | |
| (1, 0) 93 | Siwr iawn. |
| (1, 0) 94 | Wedi'i gladdu? |
| (Roberts) Ugain mlynedd yn ôl. | |
| (Roberts) Ugain mlynedd yn ôl. | |
| (1, 0) 96 | Dw i'n siwr mod i wedi darllen am yr angladd. |
| (1, 0) 97 | Ysgolhaig, on'd oedd? |
| (Roberts) Oedd, oedd. | |
| (Roberts) Oedd, oedd. | |
| (1, 0) 99 | Mi sgwennodd esboniad ar Epistol Iago. |
| (Roberts) Epistol cyntaf Pedr. | |
| (Roberts) Epistol cyntaf Pedr. | |
| (1, 0) 101 | Wrth gwrs. |
| (1, 0) 102 | Wrth gwrs. |
| (1, 0) 103 | Be' haru mi? |
| (Roberts) Mi wel'is i gopi ohono fo mewn siop lyfra' ail law ym Mangor ryw fis neu ddau yn ôl. | |
| (Roberts) Mi wel'is i gopi ohono fo mewn siop lyfra' ail law ym Mangor ryw fis neu ddau yn ôl. | |
| (1, 0) 105 | Tewch â deud. |
| (Roberts) Deg ceiniog oedden nhw eisiau amdano fo. | |
| (Roberts) Deg ceiniog oedden nhw eisiau amdano fo. | |
| (1, 0) 107 | Ac mi ddaru chi ei brynu o. |
| (Roberts) O, do. | |
| (Roberts) O, do. | |
| (1, 0) 109 | O barch, fel petai. |
| (Roberts) Hollol. | |
| (Roberts) Hollol. | |
| (1, 0) 111 | A rhoi mwy na deg ceiniog iddyn nhw siwr o fod. |
| (Roberts) Punt. | |
| (Roberts) Punt. | |
| (1, 0) 113 | Chware teg ichi. |
| (Roberts) Nid 'mod i angen copi. | |
| (Roberts) Nid 'mod i angen copi. | |
| (1, 0) 115 | Na, na. |
| (Roberts) Ma' gen i dri. | |
| (Roberts) Ma' gen i dri. | |
| (1, 0) 117 | Fawr o fynd ar esboniada y dyddia' yma. |
| (Roberts) Ma' gen i ddwsina ohonyn nhw. | |
| (Roberts) Pobol glên iawn, cofiwch, a diwylliedig. | |
| (1, 0) 127 | Diwylliedig neu beidio. |
| (1, 0) 128 | Maen nhw'n fwy o werth i chi nag iddyn nhw. |
| (Roberts) Hollol. | |
| (Roberts) Damwain car. | |
| (1, 0) 134 | Mae'n ddrwg gen i. |
| (Roberts) Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. | |
| (Roberts) Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. | |
| (1, 0) 136 | Wel, wel. |
| (Roberts) Wrth Pentrafoelas. | |
| (Roberts) Doeddwn i ddim gwaeth. | |
| (1, 0) 141 | Mae hi'n fyw. |
| (1, 0) 142 | Dyna'r peth mawr. |
| (Roberts) Hollol. | |
| (Roberts) Hollol. | |
| (1, 0) 144 | Ac yn gysur mawr a chwmni ichi. |
| (Roberts) Ydi. | |
| (Roberts) Ydi. | |
| (1, 0) 147 | Môn. |
| (Roberts) {Yn troi yn sydyn.} | |
| (Roberts) Mm? | |
| (1, 0) 150 | Gwneud byd o les i rywun ddwad i Fôn. |
| (1, 0) 151 | Ynys, yn wir, gwlad, ar ei phen ei hun. |
| (1, 0) 152 | Wyddoch chi na wnes i rioed deimlo nac ing na gwewyr ar dir Môn 'ma. |
| (1, 0) 153 | Ac wedi meddwl am y peth, dyna pam na chododd llenor gwir fawr o'r lle 'ma rioed. |
| (1, 0) 154 | Pobol wedi clywed am boen ydi pobol Môn. |
| (1, 0) 155 | Clywed sgrechfeydd o hirbell. |
| (1, 0) 156 | Cael rhyw gip sydyn ar ingoedd Eryri drwy dduwch y Fenai. |
| (Roberts) {Yn estyn paced o fisgedi.} | |
| (Roberts) Bisgedan? | |
| (1, 0) 159 | Caredig iawn. |
| (1, 0) 161 | Caredig iawn. |
| (1, 0) 165 | Digestive. |
| (Roberts) Ia. | |
| (Roberts) Digestive. | |
| (1, 0) 168 | Hyfryd. |
| (1, 0) 170 | Cymaint o flynyddoedd, on'd oes? |
| (Roberts) Oes, mae. | |
| (Roberts) Oes, mae. | |
| (1, 0) 172 | Rywsut mi ddaru ni... golli nabod ar yn gilydd. |
| (Roberts) Meddwl llawer amdanoch chi. | |
| (Roberts) Meddwl llawer amdanoch chi. | |
| (1, 0) 174 | Chwarae teg ichi. |
| (Roberts) Mi gawsoch yrfa brysur? | |
| (Roberts) Ffrwythlon? | |
| (1, 0) 177 | Do... do. |
| (Roberts) Y Cyd-Bwyllgor Addysg, ynte? | |
| (Roberts) Y Cyd-Bwyllgor Addysg, ynte? | |
| (1, 0) 179 | Y Llyfrgell Genedlaethol. |
| (Roberts) Wrth gwrs. | |
| (Roberts) Yr hen go' yn pallu. | |
| (1, 0) 183 | Rwan te, cyn ymddeol roeddech chi yn ochrau Maldwyn? |
| (Roberts) Ddim yn hollol. | |
| (Roberts) Ddim yn hollol. | |
| (1, 0) 185 | O? |
| (Roberts) Mwy tua'r gororau. | |
| (Roberts) Mwy tua'r gororau. | |
| (1, 0) 187 | Wrth gwrs... |
| (1, 0) 188 | Dysgu? |
| (Roberts) Am gyfnod. | |
| (Roberts) Am gyfnod. | |
| (1, 0) 190 | Wedyn? |
| (Roberts) Sgwennu. | |
| (Roberts) Sgwennu. | |
| (1, 0) 192 | Sgwennu... |
| (1, 0) 193 | Gwyn ych byd chi. |
| (Roberts) Un arall? | |
| (Roberts) {Ymestyn at y paced bisgedi.} | |
| (1, 0) 196 | Caredig iawn. |
| (Roberts) Digestive. | |
| (Roberts) Digestive. | |
| (1, 0) 198 | Hyfryd. |
| (Roberts) Y ddau ohonan ni yn mynd drwy baced bob dydd, tydan Emily? | |
| (Roberts) {Nid yw'n ei ateb, ond bwrw mlaen gyda'i gwnïo.} | |
| (1, 0) 201 | Rywsut, am ryw reswm, blerwch ar fy rhan i mae'n debyg, ddois i rioed ar draws eich erthygla chi. |
| (1, 0) 202 | Sgwennu dan ffugenw fyddech chi? |
| (Roberts) Bob amser. | |
| (Roberts) Bob amser. | |
| (1, 0) 204 | Doeth iawn. |
| (1, 0) 205 | Pobol yn medru bod mor greulon. |
| (Roberts) Cenedl fechan. | |
| (Roberts) Cenedl fechan. | |
| (1, 0) 208 | Credu imi'ch gweld chi yn Steddfod Llangefni. |
| (1, 0) 209 | Roeddech chi yno, on'd oeddech? |
| (Roberts) Siwr o fod. | |
| (Roberts) Siwr o fod. | |
| (1, 0) 211 | Yng ngwaelod y cae oeddech chi. |
| (1, 0) 212 | Tu ôl i'r pafiliwn. |
| (1, 0) 213 | Roeddech chi'n eistedd dan sycamorwydden anferth yn darllen y cyfansoddiada'. |
| (1, 0) 214 | Mi godi's i law arnoch chi. |
| (1, 0) 215 | Ond ddaru chi mo 'ngweld i. |
| (1, 0) 216 | Rhy brysur yn darllen yr awdl mae'n siwr... |
| (1, 0) 217 | Welsoch chi fi? |
| (Roberts) Na. | |
| (Roberts) Na. | |
| (1, 0) 219 | Na. |
| (Roberts) Na. | |
| (Roberts) Emily... | |
| (1, 0) 225 | Deall yn iawn. |
| (1, 0) 226 | Deall yn iawn. |
| (Roberts) Un arall? | |
| (Roberts) {Mae'n ymestyn at y botel wisgi.} | |
| (1, 0) 230 | Caredig iawn. |
| (Roberts) Dŵr? | |
| (1, 0) 233 | Hanner diferyn. |
| (1, 0) 234 | Dim mwy. |
| (1, 0) 235 | Dim llai. |
| (1, 0) 236 | Perffaith. |
| (1, 0) 238 | Diolch. |
| (1, 0) 239 | Ma' un peth sy'n ddirgelwch i mi. |
| (1, 0) 240 | Sut ar wyneb y ddaear na wnaethoch chi gipio'r Goron neu'r Gadair neu'r Fedal Ryddiaith. |
| (1, 0) 241 | Chi oedd y llenor yn ein plith ni. |
| (1, 0) 242 | Yr athrylith efo'r gynghanedd a'r mesurau. |
| (1, 0) 243 | Atoch chi y bydden ni i gyd yn dod am gymorth. |
| (1, 0) 244 | Chi fyddai'n cipio'r Goron a'r Gadair yn Steddfod y Colega. |
| (1, 0) 245 | Cofio'r fuddugoliaeth yn Abertawe? |
| (1, 0) 246 | Roeddwn i efo chi yn cael pryd o fwyd ar ôl y seremoni. |
| (1, 0) 247 | Cofio? |
| (1, 0) 248 | Mae gen i ryw frith gof... |
| (Roberts) 'Aberhenfelen'. | |
| (Roberts) 'Aberhenfelen'. | |
| (1, 0) 250 | Testun ych awdl. |
| (Roberts) Ia. | |
| (Roberts) Ia. | |
| (1, 0) 252 | Ia. |
| (1, 0) 253 | Wrth gwrs. |
| (1, 0) 254 | 'Aberhenfelen'. |
| (1, 0) 255 | Cofio rwan. |
| (1, 0) 256 | Ac mi gafodd hi 'i chyhoeddi debyg? |
| (Roberts) Do, do. | |
| (Roberts) Do, do. | |
| (1, 0) 258 | Diolch am hynny. |
| (1, 0) 259 | Mae'n bwysig rhoi ceinder ar gof a chadw. |
| (Roberts) Pryd o fwyd, ddeudsoch chi? | |
| (Roberts) Pryd o fwyd, ddeudsoch chi? | |
| (1, 0) 261 | Ar ôl y seremoni. |
| (1, 0) 262 | Ia. |
| (Roberts) Yng Nghaerdydd? | |
| (Roberts) Yng Nghaerdydd? | |
| (1, 0) 264 | Abertawe. |
| (Roberts) Y ddau ohonan ni. | |
| (Roberts) Y ddau ohonan ni. | |
| (1, 0) 266 | Y ddau ohonan ni. |
| (Roberts) Gwâr. | |
| (Roberts) Gwâr. | |
| (1, 0) 268 | Hynod wâr. |
| (Roberts) Yr awyrennau jet... | |
| (Roberts) Maen nhw'n... | |
| (1, 0) 274 | Deall yn iawn. |
| (1, 0) 275 | Deall yn iawn. |
| (Roberts) {Wrth Emily.} | |
| (Roberts) F'asech chi mor garedig â...? | |
| (1, 0) 283 | Mm? |
| (Roberts) Y drws? | |
| (Roberts) Y drws? | |
| (1, 0) 285 | Wrth gwrs. |
| (1, 0) 286 | Mae'n ddrwg gen i. |
| (Roberts) Abertawe. | |
| (Roberts) Abertawe. | |
| (1, 0) 291 | Abertawe. |
| (Roberts) Aberhenfelen. | |
| (Roberts) Aberhenfelen. | |
| (1, 0) 293 | Aberhenfelen. |
| (1, 0) 297 | Wedi dal ati mae'n siwr? |
| (Roberts) Dal ati? | |
| (Roberts) Dal ati? | |
| (1, 0) 299 | I sgwennu. |
| (Roberts) Do, do...do. | |
| (Roberts) Do, do...do. | |
| (1, 0) 301 | Cerdd? |
| (1, 0) 302 | Nofel? |
| (1, 0) 303 | Ysgrif? |
| (Roberts) Nofel. | |
| (Roberts) Nofel. | |
| (1, 0) 305 | Nofel. |
| (1, 0) 306 | Diddorol. |
| (1, 0) 307 | Edrych ymlaen yn fawr at 'i darllen hi. |
| (1, 0) 308 | Pa bryd wnewch chi 'i chyhoeddi hi? |
| (1, 0) 309 | Eleni? |
| (1, 0) 310 | Y flwyddyn nesaf? |
| (Roberts) Yn fuan. | |
| (Roberts) Yn fuan. | |
| (1, 0) 312 | Ddylai neb ruthro efo nofel. |
| (Roberts) Anfodlon iawn ar rai rhannau. | |
| (Roberts) Anfodlon iawn ar rai rhannau. | |
| (1, 0) 314 | Perffeithydd fuoch chi erioed. |
| (Roberts) Ambell gystrawen ddim yn taro deuddeg. | |
| (Roberts) Ambell gystrawen ddim yn taro deuddeg. | |
| (1, 0) 316 | A 'chydig, gwaetha'r modd, sy'n poeni am hynny heddiw. |
| (Roberts) Ond cystrawen ydi iaith. | |
| (Roberts) Ond cystrawen ydi iaith. | |
| (1, 0) 318 | Hollol. |
| (Roberts) A be' am gywirdeb gramadegol? | |
| (Roberts) A be' am gywirdeb gramadegol? | |
| (1, 0) 320 | Wedi peidio â bod. |
| (Roberts) Dyna chi Gymraeg y to ifanc 'ma. | |
| (Roberts) Dyna chi Gymraeg y to ifanc 'ma. | |
| (1, 0) 322 | Erchyll. |
| (Roberts) Treiglada gwallus. | |
| (Roberts) Treiglada gwallus. | |
| (1, 0) 324 | Diffyg gwybodaeth sylfaenol o amserau'r ferf. |
| (Roberts) A be' am y Modd Dibynnol? | |
| (Roberts) A be' am y Modd Dibynnol? | |
| (1, 0) 326 | Wedi peidio â bod. |
| (Roberts) Ac y mae'n rhaid wrtho fo. | |
| (Roberts) Sut? | |
| (1, 0) 330 | Nid bod y to ifanc heb ddyheadau. |
| (Roberts) Mae'u dyheadau gwleidyddol nhw i'w canmol. | |
| (Roberts) Mae'u dyheadau gwleidyddol nhw i'w canmol. | |
| (1, 0) 332 | Doedd gynnon ni, wel y rhan fwyaf ohonan ni, ddim mo'r... |
| (Roberts) Asgwrn cefn? | |
| (Roberts) Asgwrn cefn? | |
| (1, 0) 334 | Nac oedd. |
| (Roberts) Plant ein hoes. | |
| (Roberts) Plant ein hoes. | |
| (1, 0) 336 | Dau ryfel byd. |
| (Roberts) Roeddech chi yn y rhyfel? | |
| (Roberts) Roeddech chi yn y rhyfel? | |
| (1, 0) 338 | Na. |
| (Roberts) Cydwybod? | |
| (Roberts) Cydwybod? | |
| (1, 0) 340 | Ia. |
| (Roberts) Llawer mwy anodd mynd yn groes i'r llif yr adeg honno, cofio'n iawn. | |
| (Roberts) Llawer mwy anodd mynd yn groes i'r llif yr adeg honno, cofio'n iawn. | |
| (1, 0) 342 | Ac eto, mi fyddai'n teimlo'n aml, o edrych yn ôl, mod i wedi colli rhywbeth mawr. |
| (Roberts) Choll'soch chi ddim. | |
| (Roberts) Dim. | |
| (1, 0) 345 | Na. |
| (1, 0) 346 | Fedra'i ddim cytuno efo chi. |
| (1, 0) 347 | Mi ddylwn i fod wedi mynd. |
| (1, 0) 348 | Roeddwn i'n teimlo mod i'n poeri yn wyneb rhagluniaeth. |
| (1, 0) 349 | Yn bradychu fy oes fy hun. |
| (1, 0) 350 | Gweld y presennol yn toddi yn y fflama a'r sgrechfeydd a finne'n rhythu o hirbell ar y cwbwl. |
| (1, 0) 351 | Gorfod derbyn y byddwn i ar ôl y rhyfel yn ŵr wedi colli'i gyfle. |
| (1, 0) 352 | Yn gachwr ar gyfeiliorn yn chwilio am noddfa. |
| (1, 0) 353 | Rhywun ar ymylon bywyd. |
| (1, 0) 354 | Yn wahanol iawn i chi. |
| (1, 0) 355 | Roeddech chi yno. |
| (1, 0) 356 | Yno, yn creu Ewrop newydd, byd newydd. |
| (1, 0) 357 | Ac o'ch nabod chi, roeddech chi'n ymwybodol o'r peth, yn gwybod eich bod chi'n rhan o rywbeth — be' ydi'r gair? — anorfod? |
| (1, 0) 358 | Mi fedrwch heno, y funud yma, edrych yn ôl a dweud, 'Roeddwn i yno, yn creu Ewrop newydd'. |
| (1, 0) 359 | Teimlad gwefreiddiol dw i'n siwr. |
| (1, 0) 360 | Ydi'r nofel 'ma am y cyfnod hwnnw? |
| (Roberts) Dw i'n oer. | |
| (Roberts) {Mae'n codi a rhoi'r tân trydan ymlaen.} | |
| (1, 0) 364 | Mm. |
| (Roberts) {Yn rhoi'r lamp ymlaen.} | |
| (Roberts) Gweld rhain yn llawer mwy cyfleus. | |
| (1, 0) 369 | Glanach. |
| (Roberts) O lawer. | |
| (Roberts) O lawer. | |
| (1, 0) 371 | Mi fydda'i bob amser yn prynu 'poppy'. |
| (Roberts) 'Poppy'? | |
| (Roberts) 'Poppy'? | |
| (1, 0) 373 | I gofio'r hogia'. |
| (Roberts) O. | |
| (Roberts) O. | |
| (1, 0) 375 | Lleddfu tipyn ar y gydwybod siwr o fod. |
| (1, 0) 376 | Mi ddylwn i fod wedi mynd. |
| (Roberts) Buddug, ynte? | |
| (Roberts) Buddug, ynte? | |
| (1, 0) 379 | Pwy? |
| (Roberts) Ych gwraig. | |
| (Roberts) Ych gwraig. | |
| (1, 0) 381 | Gwenllian. |
| (Roberts) Merch o Abertawe. | |
| (Roberts) Merch o Abertawe. | |
| (1, 0) 383 | Y Drenewydd. |
| (Roberts) Wrth gwrs... | |
| (Roberts) Mae hi efo chi. | |
| (1, 0) 386 | Na. |
| (Roberts) Gartra? | |
| (Roberts) Gartra? | |
| (1, 0) 388 | Wedi'i chladdu. |
| (Roberts) Mae'n ddrwg gen i. | |
| (Roberts) Yn ddiweddar? | |
| (1, 0) 391 | Llynedd. |
| (Roberts) Wel, wel... | |
| (Roberts) Wel, wel... | |
| (1, 0) 393 | Roedd o yn y Daily Post a'r Western Mail. |
| (1, 0) 394 | Doeddwn i ddim eisiau ei roi o yn y papur o gwbwl. |
| (1, 0) 395 | 'I chwaer hi fynnodd mod i'n gwneud. |
| (Roberts) Teulu. | |
| (Roberts) Hardd on'd oedd? | |
| (1, 0) 398 | Pwy? |
| (Roberts) Gwenllian. | |
| (Roberts) Gwenllian. | |
| (1, 0) 400 | Oedd. |
| (1, 0) 401 | Mi oedd hi. |
| (Roberts) Gwallt du. | |
| (Roberts) Gwisgo ffrog goch neu wyrdd bob amser. | |
| (1, 0) 404 | Fydde hi 'dwch? |
| (Roberts) Bydda. | |
| (Roberts) Bydda. | |
| (1, 0) 406 | Mae gynnoch chi go' da. |
| (Roberts) Soprano wefreiddiol. | |
| (Roberts) Tynnu'r lle i lawr. | |
| (1, 0) 410 | Do, mi wnaeth. |
| (Roberts) Wnaeth hi... ddioddef? | |
| (Roberts) Yr hen elyn? | |
| (1, 0) 415 | Ia. |
| (Roberts) Oedd hi ei hun yn gwybod. | |
| (Roberts) Oedd hi ei hun yn gwybod. | |
| (1, 0) 417 | O, oedd. |
| (Roberts) Fyddai hi'n sôn am y peth? | |
| (Roberts) Fyddai hi'n sôn am y peth? | |
| (1, 0) 419 | Byth. |
| (Roberts) Byth? | |
| (Roberts) Byth? | |
| (1, 0) 421 | Byth. |
| (Roberts) Be fyddech chi yn ei drafod? | |
| (Roberts) Be fyddech chi yn ei drafod? | |
| (1, 0) 423 | Ma'n ddrwg gen i? |
| (Roberts) Pan fyddech chi'n galw i'w gweld hi. | |
| (Roberts) Yn y sbyty oedd hi, ia? | |
| (1, 0) 426 | Gartra. |
| (Roberts) Be fyddech chi yn ei drafod? | |
| (Roberts) Be fyddech chi yn ei drafod? | |
| (1, 0) 428 | Sawl peth. |
| (1, 0) 429 | Yr ardd. |
| (1, 0) 430 | Y ci. |
| (1, 0) 431 | Cymru... |
| (1, 0) 432 | Y Steddfod. |
| (Roberts) Y coleg? | |
| (Roberts) Y coleg? | |
| (1, 0) 434 | Y coleg? |
| (Roberts) Fydda hi'n sôn am y coleg? | |
| (Roberts) Sôn am yr hen griw? | |
| (1, 0) 438 | Weithia'. |
| (Roberts) Be fydda' hi'n 'i ddweud? | |
| (Roberts) Be fydda' hi'n 'i ddweud? | |
| (1, 0) 440 | Anodd cofio. |
| (1, 0) 441 | Roedd y beth bach yn mwydro cymaint... cyffuriau. |
| (Roberts) Diolch amdanyn nhw. | |
| (Roberts) Diolch amdanyn nhw. | |
| (1, 0) 443 | Ia... |
| (1, 0) 444 | Mi fyddai hi'n sôn ym aml am ryw bnawn. |
| (1, 0) 445 | Rhyw bnawn yn Llandysilio. |
| (1, 0) 446 | Y Fenai... |
| (1, 0) 447 | Pwy oedd Emlyn? |
| (Roberts) Emlyn? | |
| (Roberts) Emlyn? | |
| (1, 0) 449 | Mi fyddai hi'n sôn yn aml am rywun o'r enw Emlyn. |
| (1, 0) 450 | Pwy oedd o? |
| (1, 0) 451 | Un ohonan ni? |
| (1, 0) 452 | Fawr o go' am neb o'r enw Emlyn. |
| (Roberts) Emlyn?... | |
| (Roberts) Emlyn? | |
| (1, 0) 456 | Ewch drwy'r criw. |
| (Roberts) Dic Roberts. | |
| (Roberts) Dic Roberts. | |
| (1, 0) 458 | Ei gofio fo. |
| (Roberts) Arthur Huws, Tregarth. | |
| (Roberts) Arthur Huws, Tregarth. | |
| (1, 0) 460 | Morris Elis, Rhosesmor. |
| (Roberts) Gwilym bach, Glyn. | |
| (Roberts) Trefor Stiniog. | |
| (1, 0) 463 | Ond Emlyn? |
| (Roberts) Na. | |
| (Roberts) Eto, mae'r enw yn canu cloch. | |
| (1, 0) 469 | Mae o. |
| (1, 0) 470 | Mae o. |
| (Roberts) Oedd hi'n crybwyll ei enw fo efo... tynerwch? | |
| (Roberts) Oedd hi'n crybwyll ei enw fo efo... tynerwch? | |
| (1, 0) 473 | O, oedd. |
| (1, 0) 474 | Oedd. |
| (Roberts) Hynny'n gysur. | |
| (Roberts) Dim byd gwaeth nag edrych yn ôl ar eich bywyd efo... | |
| (1, 0) 477 | Efo be? |