| (Bernardo) Pwy sydd yna? | |
| (Laertes) Na huna ddim. Rho air yn fynych im'. | |
| (1, 3) 605 | A ydwyt ti yn anmheu yn nghylch hyn? |
| (Laertes) Am Hamlet, ac y modd dangosa 'i ffafr, | |
| (Laertes) Un funyd; ond dim mwy. | |
| (1, 3) 613 | Dim mwy na hyn? |
| (Laertes) Na wna ei dybied ef yn fwy, can's pan | |
| (Laertes) Pryd na ddygwyddo arall fod gerllaw. | |
| (1, 3) 659 | Myfi a gadwaf effaith dda dy wers, |
| (1, 3) 660 | Fel gwyliwr ar fy nghalon: ond, frawd da, |
| (1, 3) 661 | Na fydd fel rhai bugeiliad llwyr di-ras, |
| (1, 3) 662 | Yn dangos im' yr erwin, ddreiniog ffordd |
| (1, 3) 663 | I'r nefoedd; tra'n anlladwr gwag ei hun, |
| (1, 3) 664 | Y rhodia ar friallaidd lwybr gwyn, |
| (1, 3) 665 | Heb ddysgu gair o'i foesol wers ei hun. |
| (Laertes) Nac ofna ddim. 'R wy 'n aros yn rhy hir;— | |
| (Laertes) A ddywedais gyneu. | |
| (1, 3) 710 | Mae 'n glöedig yn fy nghof, |
| (1, 3) 711 | A chwi eich hun gaiff gadw ei allwedd ef. |
| (Laertes) Ffarwel. | |
| (Polonius) Pa beth, Ophelia, a ddwedodd wrthych chwi? | |
| (1, 3) 715 | Os boddlawn genych, rhywbeth yn ynghylch |
| (1, 3) 716 | Fy arglwydd Hamlet. |
| (Polonius) Pur feddylgar yw | |
| (Polonius) Pa beth sydd rhyngoch? rho'wch i mi y gwir. | |
| (1, 3) 727 | Fe roes i mi, fy arglwydd, amryw o |
| (1, 3) 728 | Gynygion yn ddiweddar o ei serch. |
| (Polonius) Serch? pw! siaradwch fel genethig ffol, | |
| (Polonius) Fel gelwch hwynt? | |
| (1, 3) 733 | Nis gwn, fy arglwydd, beth |
| (1, 3) 734 | I'w feddwl. |
| (Polonius) Ha! felly 'n siwr! mi'ch dysgaf chwi: | |
| (Polonius) Chwychwi a wnewch gynygiaw, i mi ffŵl. | |
| (1, 3) 743 | Fy arglwydd, fe ymbiliodd â myfi |
| (1, 3) 744 | Mewn cariad pur, ac anrhydeddus ddull. |
| (Polonius) A "dull" y gelwch ef, i ffordd, i ffordd. | |
| (Polonius) A "dull" y gelwch ef, i ffordd, i ffordd. | |
| (1, 3) 746 | Fy arglwydd, rho'dd i'w eiriau gadarnâd, |
| (1, 3) 747 | A holl santeiddiaf addunedau 'r nef. |
| (Polonius) O ïe, maglau i ddal ceiliogod coed. | |
| (Polonius) 'R wyf fi yn eich tyngedu; de'wch i ffordd. | |
| (1, 3) 776 | Myfi a wnaf, fy arglwydd, ufuddâu. |
| (Hamlet) Yr awyr fratha 'n dost; mae 'n erwin oer. | |
| (Polonius) Yw 'r mater? | |
| (2, 1) 1299 | O, fy arglwydd, f' arglwydd, mi |
| (2, 1) 1300 | A ge's fy nychrynu 'n fawr. |
| (Polonius) A pha beth, | |
| (Polonius) Yn enw'r nef? | |
| (2, 1) 1303 | Fy arglwydd, pan yr o'wn |
| (2, 1) 1304 | Yn pwytho yn f' ystafell i fy hun, |
| (2, 1) 1305 | F' arglwydd Hamlet, gyda'i wasgawd oll |
| (2, 1) 1306 | Heb gael ei chau; heb het i guddio 'i ben; |
| (2, 1) 1307 | Hosanau 'n fudron, heb ardysau, ac |
| (2, 1) 1308 | Yn hongian fel cadwyni hyd ei ffêr; |
| (2, 1) 1309 | Yn welw fel ei grys; ei liniau ef |
| (2, 1) 1310 | Yn crynu yn nghyd; a chyda golwg mor |
| (2, 1) 1311 | Druenus yn ei ystyr, a phe b'ai |
| (2, 1) 1312 | Ef newydd d'od o uffern drist ei hun, |
| (2, 1) 1313 | I ddweud ei dychrynfeydd, fe ddaeth o'm blaen. |
| (Polonius) Yn ynfyd am dy serch? | |
| (Polonius) Yn ynfyd am dy serch? | |
| (2, 1) 1315 | Fy arglwydd, nis gwn i; ond wele, yn wir, |
| (2, 1) 1316 | Yr wyf yn ofni hyn. |
| (Polonius) Pa beth a dd'wedodd ef? | |
| (Polonius) Pa beth a dd'wedodd ef? | |
| (2, 1) 1318 | Gafaelodd yn fy ngarddwrn; daliodd fi |
| (2, 1) 1319 | Yn galed; yna tynodd hŷd ei fraich |
| (2, 1) 1320 | Yn ôl, a chyda ei law arall ef |
| (2, 1) 1321 | Fel hyn uwchlaw ei ael, edrychai â |
| (2, 1) 1322 | Y fath fanylrwydd i fy wyneb, fel |
| (2, 1) 1323 | Pe buasai 'n meddwl ei arlunio. Hir |
| (2, 1) 1324 | Arosodd felly; ac o'r diwedd âg |
| (2, 1) 1325 | Ysgydwad ysgafn ar fy mraich, yn nghyd |
| (2, 1) 1326 | A theirgwaith chwyfio i fyny ac i lawr |
| (2, 1) 1327 | Ei ben,—fe ro'dd ochenaid oedd mor ddofn |
| (2, 1) 1328 | A thruan, ag yr ymddangosai fel |
| (2, 1) 1329 | Yn barod i deilchioni ei holl gorff, |
| (2, 1) 1330 | A gorphen ei fodolaeth; wedi hyn |
| (2, 1) 1331 | Gollyngodd fi; ac â'i ben wedi ei droi |
| (2, 1) 1332 | Ar ei naill ysgwydd, ymddangosai fel |
| (2, 1) 1333 | Yn gallu heb ei lygaid fyn'd i'w ffordd; |
| (2, 1) 1334 | Aeth heb ddim cymhorth ganddynt drwy y drws, |
| (2, 1) 1335 | Ac, hyd y diwedd, syllai arnaf fi. |
| (Polonius) Tyrd gyda mi; myfi a geisiaf wel'd | |
| (Polonius) Ei fod yn ymddwyn atoch chwi fel hyn? | |
| (2, 1) 1345 | Na ddo, fy arglwydd da, ond fel y gwnaech |
| (2, 1) 1346 | Orchymyn, felly y gwrthodais ei |
| (2, 1) 1347 | Lythyrau, gyda pheidio 'i dderbyn ef. |