| (Adroddwr 1) Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea. | |
| (Jonah) Pa ddinas ydy' honno? | |
| (1, 0) 74 | Mi ddywedaf wrthyt fy mab, gwrando air dy offeiriad. |
| (1, 0) 75 | Dinas y gwin yw hi, a dinas y gwaed. |
| (1, 0) 76 | Crud paganiaeth a chwter pechod. |
| (1, 0) 77 | Na ato Duw i'th draed sangu ei heolydd, nac i'th lygaid edrych ar ei llygredigaeth. |
| (1, 0) 78 | Hyn o gyngor a roddaf i ti—rho dy law ar gorn y gwŷdd, a dilyn yr ych i ben y gŵys. |
| (1, 0) 79 | Gwêl yn nhyfiant yr egin gynnydd dy deulu a llwyddiant dy wlad. |