| (Malachi) Mari, sychsoch chi ddim o nghefan-i yn hannar sych! | |
| (Jacob) 'Rwy-i yn dymuno cynnyg yn ffurfiol fod Mrs. Williams yn aelod o'r pwyllgor yma i bartoi program ar gyfar eisteddfod fawreddog capal Pisgah. | |
| (1, 0) 136 | Clywch, clywch; 'r wy'n dymuno eilio'r cynyciad. |
| (1, 0) 137 | |Quite right| {yn troi at MATTHEW}, |quite in order|, |co-opted member|, chi'n gweld Mr. |
| (1, 0) 138 | Bifan. |
| (Malachi) Os yn-ni yn mynd i aros yn y gecin, a Mari yn yn plith ni, 'd ôs dim isha i chi chynnyg hi yn aelod o'r pwyllgor,—dyna fi yn roi rypudd teg i chi nawr. | |
| (Jacob) {Codi dwylaw unfrydol.} | |
| (1, 0) 142 | Y peth nesa sy gita ni i nithir yw dewish cadeirydd. |
| (1, 0) 143 | R wy'n dymuno cynnyg Jacob Evans. |
| (Jacob) Ma gen-i welliant: 'r wy-i yn cynnyg fod gwr-y-ty, Malachi Williams, yn cymeryd y gatar. | |
| (Mari) Pwyllgor 'steddfod ne seiat-brofiad sy 'ma, gwetwch? | |
| (1, 0) 195 | |Chair, chair|. |
| (Matthew) Ordor, ordor. | |
| (Jacob) Ta pun, wedi i gapal Salam, perthynol i enwad parchus arall— | |
| (1, 0) 213 | Parchus yn wir! |
| (Mari) Ma nhw lawn mor barchus a ni. | |
| (Mari) Dyna gelwdd. | |
| (1, 0) 218 | |Chair, chair|. |
| (Matthew) Ordor, ordor. | |
| (Mari) Pology a finna'n gwpod gwell! | |
| (1, 0) 228 | Ond chi'n gweld, Mrs. Williams, hyd yn nod os byddwch chi'n gwpod nag yw dyn ddim yn gwêd y gwir, ôs gita chi ddim hawl i wêd, pan fyddwch chi miwn pwyllgor, i fod a'n gwêd celwdd. |
| (Mari) O─h wel, dyna waniath nawr. | |
| (Y Brodyr) {Curo dwylaw.} | |
| (1, 0) 256 | Mr. Cadeirydd, 'r wy-i'n cwnnu ar |boint of ordor|. |
| (Malachi) {Yn hurt.} | |
| (Malachi) Ah? | |
| (1, 0) 259 | 'R wy'n cwnnu ar |boint of ordor|. |
| (Malachi) Obadiah, 'r ych-chi gwpod nag os dim llawar o Sisnag gen-i; gobitho nag ych-chi ddim yn trio'n shimplo-i. | |
| (Malachi) Ond cerwch ymlan i ni gal clwad beth sy gita chi. | |
| (1, 0) 267 | Dyna beth sy gen i: pwy isha i ni gal 'steddfod sy, pwy les ma'r hen 'steddfota bach ma'n nithir? |
| (Jacob) 'Steddfod fach! | |
| (Jacob) 'Steddfod fach! | |
| (1, 0) 269 | Ia, 'steddfod fach. |
| (1, 0) 270 | Ma'r 'steddfod yn mynd mas o'r ffashwn nawr. |
| (1, 0) 271 | 'R wy-i 'n cynnyg yn bod ni yn cal drama. |
| (Malachi) Beth! | |
| (Malachi) Dewch Matthew, chi yw'r dechreuwr canu, beth yw'ch barn chi? | |
| (1, 0) 330 | Mr. Cadeirydd, r'wy-i'n cwnnu lan ar |boint of ordor|. |
| (Malachi) Wel 'tawn i'n marw, rhyw gratur penstiff ych chi Obadiah! | |
| (Malachi) Beth sy'n bod nawr? | |
| (1, 0) 333 | Pwy isha sy i ni roi'r lle blaena i'r hen ganu 'ma? |
| (Matthew) {Yn codi yn gynhyrfus.} | |
| (1, 0) 338 | Jelosi, Matthew, jelosi. |
| (1, 0) 339 | 'R wy-i'n cynnyg yn bod ni yn dechra gita'r ochr lenyddol. |
| (Mari) {Yn ddireidus.} | |
| (Jacob) A finna'n sychu'ch gwynab chi â nishad bocad! | |
| (1, 0) 365 | Mr. Cadeirydd, otyn-ni wedi dod yma heno i glwad hanes caru Jacob Evans? |
| (Malachi) Mari, chi ddechreuws yr hen ddwli-ma. | |
| (1, 0) 381 | Ha, ha! |
| (Matthew) Os ych-chi, Obadiah, yn cretu y gallwch chi guddio'ch hanwybotath wrth wherthin, 'd ych-chi'n twyllo neb. | |
| (Jacob) Ia, dyna fe, shwt beth yw-a? | |
| (1, 0) 390 | Dyna pam ôn-i'n cwnnu. |
| (1, 0) 391 | Fe licswn-i glwad Mr. Bifan yn esbonio'r gair |classical|. |
| (Matthew) Wel, nawr ta, i fi gal sponio. | |
| (1, 0) 396 | Ha, ha! |
| (Mari) Ma na lawar ffordd o ladd ci heblaw i groci-fa, ond ôs a, Matthew. | |
| (Matthew) 'D os dim cerddoriath |glassical| i gal yn Gwmrag. | |
| (1, 0) 430 | Ho! dyna Gymro, dyna Gymro; son am anwybotath! |
| (Mari) |Classical| ne bito, 'r wy-i am gal y dernyn yna. | |
| (1, 0) 436 | Nagos! |
| (Matthew) Mannars, Obadiah, mannars os gwelwch chi'n dda. | |
| (Matthew) Os nagw-i yn cal ym ffordd gita'r gerddoriath, dyma fi'n mynd sha thre. | |
| (1, 0) 441 | Clywch, clywch. |
| (Jacob) Ishteddwch i lawr, Matthew, a pitwch a bod shwt fabi. | |
| (Malachi) Eiliwch-a 'ch hunan. | |
| (1, 0) 463 | Fe eilia-i'r cynyciad. |
| (Malachi) {Yn troi ato.} | |
| (Malachi) Pob un sy'n grôs? | |
| (1, 0) 473 | O'n i'n eilio'r cynyciad er mwyn dangos y dryswch sy'n dilyn o gymeryd yr hen ganu 'ma gynta. |
| (1, 0) 474 | 'R wy-i'n cretu y dylsa-ni fynd ymlan at yr ochor lenyddol. |
| (Malachi) Itha right. | |
| (1, 0) 480 | 'R wy-i'n cynnyg yn ffurfiol yn bod ni'n cymeryd at y farddoniath a'r ryddiath. |
| (Mari) 'R wy-i'n eilio'r cynyciad. | |
| (Malachi) Barddoniath a pheth? | |
| (1, 0) 483 | Barddoniath a ryddiath. |
| (Malachi) {Yn hurt.} | |
| (Jacob) Barddoniath a ryddiath. | |
| (1, 0) 502 | Cyn mynd ymlan, 'r wy-i am ddoti un amod lawr, a dyma fe: yr oll o'r cyfansoddiata miwn barddoniath a ryddiath i'w hysgrifennu yn ol yr orgraff newydd. |
| (Matthew) Ma-fa'n wilia'n gwmws fe tsa fa wedi llyncu dicshnari. | |
| (Matthew) Ma-fa'n wilia'n gwmws fe tsa fa wedi llyncu dicshnari. | |
| (1, 0) 504 | Dyma gyfla bendigetic i ni ddangos yn bod ni'n ddynon gwybotus a diwyllietic. |
| (1, 0) 505 | Otw, 'r wy-i'n cynnyg fod yr oll o'r cyfansoddiata miwn barddoniath a ryddiath i'w hysgrifennu yn ol yr orgraff newydd. |
| (Mari) Beth gynllwn yw orgraff? | |
| (Malachi) Gadewch i bob un spelian fel ma-fa'n dewish, yn enw'r bendith, spelian fel dysgws-a yn yr Ysgol Sul, spelian 'r un ffordd a'r Beibl. | |
| (1, 0) 512 | 'Dyw orgraff y Beibl ddim hannar |right|. |
| (Malachi) {Gyda dwyster.} | |
| (Jacob) Gobitho, Mari, nag ych-chi ddim yn wherthin ar ym mhen i. | |
| (1, 0) 534 | Beth arall allwch-chi erfyn? |
| (1, 0) 535 | Os cewch chi'ch ffordd, fe newch y 'steddfod yn destun sport i'r byd. |
| (1, 0) 536 | Dwli pen hewl, bob tamad. |
| (Jacob) O, felna iefa? | |
| (Jacob) O, felna iefa? | |
| (1, 0) 538 | Ia, Jacob, felna. |
| (1, 0) 539 | 'Dych-chi ddim yn diall ysbryd yr ôs. |
| (1, 0) 540 | Ys gwetws dyn enwog ychydig bach yn ol, fe gas Cymru afal ar 'i henad yn y ddeunawfad ganrif, fe ddath o hyd idd'i meddwl yn y bedwaradd ganrif ar bymtheg, a nawr yn yr ugeinfad ganrif ma-hi'n sylweddoli fod gita-hi gorff. |
| (1, 0) 541 | Gadewch i ni ddewis testun fydd yn trafod petha agosa a mwya cynefin bywyd, testun |realistic|. |
| (1, 0) 542 | Na, 'dychchi ddim yn diall ysbryd yr ôs. |
| (Malachi) {Mewn anobaith.} | |
| (Matthew) A nawr, er mwyn i ni ddangos yn bod ni yn ddynon gwybotus a diwyllietic, yn diall ysbryd yr ôs—er mwyn i ni gal testun |realistic|, ac er mwyn pleso Obadiah, 'rwy-i'n cynnyg gwobor o gini am yr awdl ora ar "Dwlc Mochyn." | |
| (1, 0) 549 | Tsa chi'n wrboneddig, a thicyn o synnwyr cyffretin yn ych pen chi, fe ddiallsach ar unwaith mai nid dyna on-i'n feddwl. |
| (Malachi) {Yn fygythiol.} | |
| (1, 0) 561 | Mr. Cadeirydd, 'r wy-i'n gofyn i Mr. Bifan i nithir |apology| i fi. |
| (Malachi) 'R wy-inna yn gofyn i chitha i ishta lawr. | |
| (1, 0) 602 | Jacob! |