| (Adroddwr 1) Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea. | |
| (Mam) {Exit.} | |
| (1, 0) 87 | Hwyrach yr hoffit ti fynd yn fugail, Jonah? |
| (1, 0) 88 | Dyma ni ar ochr y bryn, a'r dyffryn yn graith ddu oddi tanom. |
| (Jonah) A dacw'r lleuad yn dwad i'r golwg, Nathan, welwch chi? | |
| (Jonah) A dacw'r lleuad yn dwad i'r golwg, Nathan, welwch chi? | |
| (1, 0) 91 | Gwelaf—diolch i'r cymorth amdano! |
| (1, 0) 93 | Tyrd 'r hen leuad, paid ag oedi. |
| (1, 0) 94 | Pwysa d'ên ar figyrnau'r clogwyn, gwna dy hun yn gysurus. |
| (1, 0) 95 | Mi gei aros yma tan y wawr os mynni! |
| (Jonah) Mor agos ydy'r sêr, Nathan! | |
| (Jonah) A dacw linyn arian i'w clymu, draw i'r gorllewin ar y gorwel! | |
| (1, 0) 99 | Pelydrau'r lleuad ar rimyn o fôr, machgen i. |
| (1, 0) 100 | 'Wyt ti wedi penderfynu nad ei di ddim yn llongwr? |
| (Jonah) Ydw'. | |
| (Jonah) 'Wna'i byth adael Gath Heffer. | |
| (1, 0) 103 | Wel'd oes dim amdani felly ond bugail neu ffermwr. |
| (Jonah) 'Fydda'i 'run o'r ddau yna chwaith, Nathan. | |
| (Jonah) 'R wy'n gwybod 'rŵan mai Proffwyd yr hoffwn i fod. | |
| (1, 0) 106 | O? |
| (1, 0) 107 | Canmoladwy iawn. |
| (1, 0) 108 | Ond mi hoffwn i awgrymu'n garedig iti, Jonah, mai prin y gall dyn ddewis bod yn Broffwyd. |
| (1, 0) 109 | Mae hynny yn nwylo'r Bod Mawr, wyddost ti. |
| (Jonah) O mi wn i hynny, ac 'r wy'n teimlo rhywsut y caf i arwydd, cyn bo hir, Ei fod Ef yn cyd-weld. | |
| (Jonah) O mi wn i hynny, ac 'r wy'n teimlo rhywsut y caf i arwydd, cyn bo hir, Ei fod Ef yn cyd-weld. | |
| (1, 0) 111 | Felly? |
| (1, 0) 112 | 'Wn i ddim yn iawn sut i ateb hynna! |
| (Jonah) 'D oes arna'i ddim eisio bod yn Broffwyd mawr 'run fath ag Elias, cofiwch. | |
| (Jonah) Na, na proffwyd bach i wasanaethu pentref ac ardal Gath Heffer yn unig. | |
| (1, 0) 115 | 'Wyt ti'n meddwl y bydd Yr Hollalluog vn barod i dderbyn yr amod yna? |
| (Jonah) 'R wy' i'n meddwl Ei fod yn gweld fy ochor i i'r cwestiwn, Nathan. | |
| (Jonah) 'R wy' i'n meddwl Ei fod yn gweld fy ochor i i'r cwestiwn, Nathan. | |
| (1, 0) 117 | O? |
| (1, 0) 118 | Wel, mae popeth yn iawn felly! |
| (1, 0) 119 | Ond amser a ddengys 'machgen i, amser a ddengys! |
| (1, 0) 121 | Aros! |
| (1, 0) 122 | 'Weli di rywbeth yn symud i fyny acw? |
| (Jonah) Ble? | |
| (Jonah) Ble? | |
| (1, 0) 124 | Draw wrth ymyl y twmpath drain. |
| (Jonah) O dan yr hen gorlan? | |
| (Jonah) O dan yr hen gorlan? | |
| (1, 0) 126 | Ia—cadw dy lygaid yn agored. |
| (1, 0) 127 | Gafr Eliasar wedi crwydro eto, mi ddalia' i am siecel. |
| (1, 0) 128 | Ia—dyna hi'n dwad i'r golwg ar y gair! |
| (Jonah) Mae yna rywbeth yn ci dilyn hi hefyd, welwch chi? | |
| (Jonah) Dyna fe'n llithro allan o'r cysgod! | |
| (1, 0) 132 | Y cnaf mileinig, wedi cripian i lawr o'r ochor arall! |
| (Jonah) Be' wnawn ni? | |
| (Jonah) Be' wnawn ni? | |
| (1, 0) 134 | Fe fydd wedi'i llarpio cyn i mi fynd ganllath. |
| (1, 0) 135 | B'le mae fy ffon i?... |
| (1, 0) 136 | 'Rwan, aros di wrth y gorlan yma rhag bod ei gymar o gwmpas. |
| (Jonah) O'r gora', Nathan. | |
| (Jonah) O'r gora', Nathan. | |
| (1, 0) 138 | Cofia paid â symud ar fôn dy fywyd. |
| (1, 0) 139 | Mi dria' inna 'i ddychryn o i fwrdd, |