| (Sioni) Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un. | |
| (Ffeirad) Ac er mwyn i'r Festri i gael gwybod dy amgylchiadau, dwed faint o blant sydd gyda thi. | |
| (1, 0) 94 | O, syr, mae gyda fi lond y tŷ o blant. |
| (1, 0) 95 | Dyma John Thomas Henry, mae e'n naw; dyma Evan Jenkin Thomas, mae e'n wyth; a Mary Jane, yn saith; a Sarah Ellen, yn whech; a dyma'r un bach 'ma, Lloyd Williams—{yn troi at y SCWEIER gan wenu a rhoi cwtch)—mae e' wedi câl ych enw chi, syr, a dyma'r babi yn y nghôl i, mae e'n wyth mis. |
| (Ffeirad) Dyna hi, llon'd tŷ o blant, a'r tad yn y jâl am botchan. | |
| (Ffeirad) Dyna hi, llon'd tŷ o blant, a'r tad yn y jâl am botchan. | |
| (1, 0) 97 | 'Dyw Jac ddim yn botcher, syr, nag yw, wirione fach annwl. |
| (1, 0) 98 | Yr hen gymdogion 'ma sy wedi gweyd celwy. |
| (1, 0) 99 | Ma' pawb lawr ar bobol dlawd, a ma' nhw lawr ar Jac a finne am yn bod ni'n dlawd. |
| (1, 0) 100 | O, Jac bach, dyna ti yn yr hen jâl heb neud un drwg, a finne a'r plant bach yn starvo. |
| (1, 0) 101 | Beth ddaw o hono ni? |
| (Ffeirad) Y mae Jac wedi torri'r gyfreth drwy botchan, ac y mae'r gyfreth wedi cymeryd gafael arno a'i roi yn y jâl. | |
| (1, 0) 105 | Ond 'dyw Jac ddim wedi bod yn potchan eriod, nag yw, wirione i. |
| (Scweier) O'dd Jac ddim yn potcher, Nansi, a'r bobol yn gweyd celwy ie. | |
| (Scweier) Ma cawl gweningen yn tŷ Nansi, medde fi. | |
| (1, 0) 110 | Cawl gweningen, syr, phrofes i ddim cawl gweningen yn 'y mywyd. |
| (1, 0) 111 | Dodd dim bwyd yn y tŷ, a mi gês asgwrn gyda Roli'r bwtchwr, i neud cawl i'r plant, a mi roes pun bach o deim a phersli o'r ardd yndo fe i neud blâs arno, a dyna beth wech chi'n smelo, syr. |
| (1, 0) 112 | Ie, wirione fach annwl. |
| (Scweier) Paid ti bod mor smart, Nansi. | |
| (Scweier) Ie, Nansi, hen dyn drwg yw Jac, a hen potcher mowr hefyd, a fi'n falch fod e' yn y jâl. | |
| (1, 0) 117 | O, syr, peidiwch bod mor galon galed; ma'r plant a finne heb fwyd yn y tŷ, ac heb dân ar y tywydd oer 'ma. |
| (1, 0) 118 | O beth ddaw ohono ni? |
| (Dafi) Ar dy ffordd adre galw yn ein tŷ ni, a gwêd wrth Marged am roi cwded o flawd i ti, a phishyn o ham y mochyn coch. | |
| (1, 0) 122 | Diolch yn fowr, Dafi; diolch yn fowr. |