| (Syr Tomos) Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni? | |
| (1, 0) 281 | Harri! oddiwrth y Prifweinidog; rwyf wedi ei agor. |
| (1, 0) 286 | Mi fasa dyn yn meddwl oddiwrth eich dull mai teligram oddiwrth ysgubwr simneu yw hwn. |
| (Syr Tomos) Fachgen, fachgen! | |
| (1, 0) 290 | Harri, dyma'ch siawns ar ddechreu. |
| (Harri) Siawns i beth, Nan fach? | |
| (1, 0) 293 | Siawns i ddod ymlaen, bid siwr. |
| (1, 0) 294 | Pan fo pawb yng Nghymru yn crafangu am swyddau, mae'n deg i un sydd wedi gwneud cymaint o waith tawel a chi gael ei gydnabod. |
| (Syr Tomos) Wel di, Harri, mae hwn {yn dal y teligram} naill ai'n em yn dy goron neu'n hoelen yn dy arch. | |
| (1, 0) 299 | Ei fam, ei fam yw popeth. |
| (Syr Tomos) Yn ddistaw bach, mae o'n tynnu ar ôl ei fam mewn rhai pethau─mae o dipyn yn feistrolgar fel petai. | |
| (1, 0) 311 | Raid i chwi ddim ofni hynny, a gwell cyngor iddo heddiw fasa'i annog i gyd-dynnu yn yr un harnis ag eraill. |
| (Harri) {Yn dda ei dymer.} | |
| (1, 0) 319 | Mabli, peth anlwcus iawn yw drain gwynion mewn ty. |
| (Mabli) {Wedi dychryn braidd.} | |
| (Harri) Beth yw'r mater? | |
| (1, 0) 329 | Dim ond fod y ddraenen wedi rhoi pigiad imi. |