| (Syr Tomos) Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni? | |
| (1, 0) 63 | Do, nen tad: coeliwch fi, Mrs. Jones-Roberts, mae parch Mr. Meredith at ŵr a gwraig yr |Hazels| yn ddi-ben-draw ond na fyn o mo'i ganmol yn ei wyneb. |
| (Mrs Jones-Roberts) {Yn frenhinol.} | |
| (Mrs Jones-Roberts) Mi'ch gwelwn chi'ch dau heno. | |
| (1, 0) 108 | Mi gofiwn; mae Olifer a finnau fel arfer yn gwadnu a sodlu sgidiau'r blaid. |
| (Mrs Jones-Roberts) Peidiwch ag anghofio'r |Hazels|─|not later than ten|! | |
| (Mrs Jones-Roberts) Peidiwch ag anghofio'r |Hazels|─|not later than ten|! | |
| (1, 0) 111 | Be sy'n bod? |
| (Syr Tomos) |Atmosphere|─|atmosphere|. | |
| (Olifer) Fasa fo byth ar ben y pôl onibae am danom ni'n tri. | |
| (1, 0) 119 | Wneiff o ddim ohoni yn y senedd efo'i lol am frawdoliaeth y cenhedloedd─|political morality| fy nain: chwi sy'n gyfrifol am i ni ei ddewis. |
| (Syr Tomos) Hogyn braf ydyw er hynny─thyfith o byth yn ddyn call fel ni'n tri. | |
| (Syr Tomos) Roeddwn yn gobeithio dy fod wedi crogi dy hun. | |
| (1, 0) 125 | Mi faddeuwch i ni fel hen ymladdwyr politicaidd, ond rhaid i chwi ddysgu; dioddef ffyliaid, Meredith. |
| (1, 0) 126 | Rhai fel y ddau yna sydd wrth yr ugeiniau ymhob plaid. |
| (Harri) {Yn danllyd.} | |
| (1, 0) 135 | "Yn awr y gollyngi dy was." |
| (Harri) Welwch chi, Syr Tomos, fe welodd rhywrai drwy'ch sebon a'ch── | |
| (1, 0) 144 | Mi ddyffeia i Harri Meredith na neb arall i ddweyd y gwir i gyd; fe âi'r senedd a phopeth yn dipiau mewn mis. |
| (Harri) {Yn wresog.} | |
| (Syr Tomos) |Wrong| eto, chymerais i'r un, roedd digon i'w cael. | |
| (1, 0) 160 | Rwan Meredith─sylwn ni ddim ar goegni Syr Tomos, ond yn sicr i chi y mae llawer gwir yn well o'i gelu ac mi welwch hynny'n fuan ym myd politics. |
| (Harri) {Yn watwarus braidd.} | |
| (Harri) Felly wir. | |
| (1, 0) 163 | Yng nghanol berw politics y mae pob diwygiwr penboeth naill ai'n cael ei rewi allan o'r blaid neu ynteu'n troi'n bolitisian doeth. |
| (Harri) {Yn watwarus.} | |
| (1, 0) 180 | Dyna'r Hercules sy'n mynd i garthu stablau busnes a pholitics─Samson Cristnogol yr ugeinfed ganrif. |
| (Syr Tomos) {Yn ddiniwed iawn.} | |
| (Syr Tomos) Ryda ni i gyd yn Gristnogion, ond y drwg ydi fod Harri o ddifri gyda hi. | |
| (1, 0) 183 | Gwawdiwch ymlaen, ond beth yw Meredith well o fyw bywyd yr Apostolion yn yr ugeinfed ganrif? |
| (Syr Tomos) Dim o gwbl, ond myn einioes Pharo, mae'n drêt gweld rhywun yn ddigon o ffŵl i wneud y cynnig pan mae pawb ar ôl y torthau a'r pysgod ac yn barod i werthu eu nain am daid rhywun arall. | |
| (Syr Tomos) Dim o gwbl, ond myn einioes Pharo, mae'n drêt gweld rhywun yn ddigon o ffŵl i wneud y cynnig pan mae pawb ar ôl y torthau a'r pysgod ac yn barod i werthu eu nain am daid rhywun arall. | |
| (1, 0) 185 | Hylo, a yw Syr Tomos o fewn ychydig─ |
| (Syr Tomos) {Yn esmwyth iawn.} | |
| (Syr Tomos) Chwarter canrif yn ôl euthum i'r Senedd yn benderfynol o beidio dweyd ïe wrth gelwydd a thwyll, ond cyn hir gwelais fod yn rhaid í mi ddweyd celwydd diplomatig, a chan mai brawd tagu yw mygu mi euthum ymlaen o'r celwydd diplomatig at y celwydd noeth─does dim trwch papur sidan rhyngddynt. | |
| (1, 0) 197 | Rhywbeth tebyg fydd profiad Meredith, ond mi ymgynghorwn â'r oracl. |
| (1, 0) 199 | Ôs daw hwn i lawr yn |King| ddwywaith, mae Meredith ar ei ffordd i fyny; os na, i lawr y daw o. |
| (1, 0) 201 | Dyna'i ddyfodol o wedi'i setlo─i lawr y daw o. |
| (Syr Tomos) {Yn ffug-bryderus.} | |
| (1, 0) 205 | Mae'r gwres wedi codi i'ch pen, Syr Tomos: rhowch eich traed mewn dŵr poeth a mwstard cyn mynd i'r gwely a dôs dda o chwŷs. |
| (1, 0) 206 | Wel rwan, Olifer, mi awn. |
| (Harri) Ydach chi'n mynd? | |
| (1, 0) 209 | Rhaid mynd rwan. |
| (1, 0) 210 | Lwc dda i chi, a chyn belled ag y mae a fynno fi â'r Wasg fe ellwch ddibynnu arnaf ond {rhwng difrif a chware ond mwy o'r difrif} i chwi fodloni gweithio yn yr un tresi a'r blaid. |
| (1, 0) 211 | Bûm yn ffrind go lew i'ch rhagflaenydd {gan nodio'i ben ar y SYR}. |