| (1, 0) 2 | 'Rwyt ti wedi dod o'r diwedd, 'te, Dilys fach. |
| (1, 0) 3 | Ti fuost yn hir iawn. |
| (Dilys) Do, 'mam. | |
| (Dilys) Bum am dro hir yn y car gydag 'e. | |
| (1, 0) 7 | 'Roedd e'n falch dy weld ar ôl tri mis, debyg iawn. |
| (Dilys) Oedd. | |
| (Dilys) Mae e'n un sŵn am i mi gwrdd â'i gyfaill, y nofelydd. | |
| (1, 0) 13 | Mae e' wedi siarad llawer yma am John Gray, hefyd. |
| (Dilys) A phrynais i ddim ffrwythau i chi wedi'r cyfan. | |
| (Dilys) Dwedodd yr Athro y daw e â rhai i chi heno. | |
| (1, 0) 16 | Mae e'n garedig iawn. |
| (1, 0) 18 | Paid a smocio, wir, Dilys. |
| (1, 0) 19 | Gwyddost y bydd Jane yn anfodlon iawn dy fod yn gwario ar sigarets. |
| (Dilys) Yr Athro roddodd 'nhw i fi. | |
| (Dilys) Llanwodd y câs yma, chwarae teg iddo. | |
| (1, 0) 22 | Ddylet ti ddim gadael iddo roi popeth i ti, fel yna. |
| (Dilys) Mae e'n gwybod am Jane. | |
| (Dilys) Mae yn fy nharo i'r dim. | |
| (1, 0) 30 | Ydi, mae pinc yn dy weddu di bob amser. |
| (Dilys) A mae eisiau ffrogiau arnaf yn druenus. | |
| (Dilys) 'Does gen i ddim byd i'w wisgo. | |
| (1, 0) 33 | Dilys, Dilys! |
| (1, 0) 34 | Beth oedd yr holl baciau a ddaeth adre ddoe, 'te? |
| (Dilys) Dim ond crugiau o bethau hen-ffasiwn wedi crynhoi er pan wyf yn y Coleg. | |
| (Dilys) {Yn mynd at y fasged-wnio.} | |
| (1, 0) 39 | Ydi Jane wedi ei gweld? |
| (Dilys) Nag yw, eto. | |
| (Dilys) Efallai y byddaf innau'r un fath â hi yn ddeugain oed, ond 'rwy'n meddwl wir y dylwn gael pethau pert yn un-ar-hugain. | |
| (1, 0) 44 | O'r gorau, o'r gorau. |
| (1, 0) 45 | Galw Letitia i ddod â glo ar y tân wir. |
| (1, 0) 47 | Dyma chi ar y gair Letitia.. |
| (1, 0) 48 | Mae hi wedi oeri a... |
| (Dilys) O dyna fwstwr. | |
| (Dilys) Ewch i'w 'nôl ar unwaith. | |
| (1, 0) 57 | Gad iddi, Dilys. |
| (Dilys) Na wna, wir. | |
| (Dilys) Glanhaewch y carped cyn mynd at y tân. | |
| (1, 0) 69 | Onibai fod dy Fodryb Tabitha i ffwrdd, byddai hi'n siŵr o ddod yma ar gyfer dy benblwydd, yfory. |
| (1, 0) 70 | Mae hi'n dy leicio di. |
| (Dilys) Ydi, 'rhen feuden, am fy mod mor debyg iddi hi—yn helpo! | |
| (Dilys) Byddwn wedi fy ngwisgo fel Efa o ran ei meddyliau hi. | |
| (1, 0) 78 | 'Nawr, 'nawr, Dilys! |
| (Dilys) Mae'n eitha gwir. | |
| (Dilys) 'Rown i ddim yn siarad â chi. | |
| (1, 0) 84 | Ddylet ti ddim siarad fel 'na o gwbl, Dilys. |
| (Dilys) Dyna rywun wedi dod. | |
| (Dilys) Mi âf i i'r llofft os mai rhywun i'ch gweld chi, 'mam, sydd yna. | |
| (1, 0) 94 | Tebyg mai gwaith teipio i Jane sydd yna oddi wrth yr Athro. |
| (1, 0) 95 | Mae e'n dod â rhyw waith iddi bob dydd, fynychaf. |
| (Letitia) {Y tu allan.} | |
| (Dilys) Dewch ymlaen. | |
| (1, 0) 108 | Dyma syndod! |
| (1, 0) 109 | Dewch ymlaen, Tabitha. |
| (Tabitha) Meddyliais i na chawn i ddim dod o gwbl gyda'r creadur bach gwirion 'na. | |
| (Dilys) Rhaid iddi gael mynd oddiyma, mam. | |
| (1, 0) 118 | Na, sonia Jane ddim am ei gollwng. |
| (Dilys) Glywsoch chi, Modryb Tabitha? | |
| (Tabitha) Wel, sut y'ch chi Mary ers llawer dydd? | |
| (1, 0) 126 | 'Rwy'n dal yn o debyg, diolch, ond i mi gael bod yn llonydd yn y gadair. |
| (1, 0) 127 | Rych chithau'n iawn? |
| (Tabitha) 'Dwy byth yn caru achwyn, fel y gwyddoch. | |
| (Tabitha) Yr ydych mor debyg i fi. | |
| (1, 0) 144 | Nag ydi, wir, Tabitha, ddim tebyg i chi. |
| (1, 0) 145 | Fe fyn Dilys wario'r geiniog olaf. |
| (Tabitha) O ran golwg, 'rwy'n feddwl. | |
| (Tabitha) O ran golwg, 'rwy'n feddwl. | |
| (1, 0) 147 | O, efallai! |
| (Tabitha) Ac os yw Dilys yn un am wario, pwysica'n y byd iddi ofalu cychwyn ar y ffordd iawn i gael digon o fodd, ynte? | |
| (Dilys) Jane sy'n cadw'r pwrs. | |
| (1, 0) 151 | 'Nawr Dilys, fe gest ti arian i brynu ffrog bert heddiw. |
| (Dilys) Ond oedd dim diolch i Jane. | |
| (Tabitha) Bum bron â phrynu sypyn mawr o grapes hyfryd i chi, ond, dyna fe, aent yn ofer, os yw'r Athro'n dod â rhai, hefyd. | |
| (1, 0) 160 | Ydi, mae'r Athro'n garedig iawn. |
| (Dilys) 'Rych chi, Modryb Tabitha, yn lwcus i gael digon o arian. | |
| (Tabitha) Gweithio'n galed ac ennill dim fynnai ef. | |
| (1, 0) 165 | 'Roedd Mostyn yn ddyn da, Tabitha. |
| (1, 0) 166 | Peidiwch... |
| (Tabitha) Byddai yn ddyn gwell pe bae wedi darparu ar gyfer ei deulu, goelia i, yn lle eu gadael heb ddim. | |
| (Tabitha) Byddai yn ddyn gwell pe bae wedi darparu ar gyfer ei deulu, goelia i, yn lle eu gadael heb ddim. | |
| (1, 0) 168 | 'Dallsai Mostyn ddim help, druan! |
| (Tabitha) Gallsai help yn iawn—mynnu gadael ei swydd a mynd i bregethu! | |
| (Tabitha) Heblaw hynny, faint weithiodd e am ddim, gyda'r hen bapur hynny o dan ei olygiaeth? | |
| (1, 0) 171 | Mostyn wyddai orau, â... |
| (Tabitha) Twt! | |
| (Tabitha) Twt! | |
| (1, 0) 173 | Mae Rhagluniaeth wedi gofalu amdanom. |
| (1, 0) 174 | 'Roedd hi'n dynn ar y dechrau, ond fu dim rhaid derbyn help gan neb... |
| (Tabitha) Wel, oedd dim disgwyl i mi... | |
| (Tabitha) Wel, oedd dim disgwyl i mi... | |
| (1, 0) 176 | Na, na, ond oedd Rhagluniaeth yn gofalu... gweld eisiau dim. |
| (Dilys) Siaredwch drosoch eich hunan, 'mam. | |
| (Jane) Dymuno 'rwyf i dy fod wedi llwyddo yn dy arholiad, fel y gelli sefyll ar dy draed dy hunan, o'r diwedd. | |
| (1, 0) 199 | Tewch 'nawr ferched! |
| (1, 0) 200 | Rhaid i Dilys gael tipyn o wyliau'n gyntaf Jane, ac yna, daw i ennill yn dda i ni. |
| (Dilys) Mae Jane wedi ennill digon hyd yn hyn. | |
| (Tabitha) Mae'n hawdd gweld wrth eich golwg chi, mai i waith y'ch galwyd chi. | |
| (1, 0) 205 | Mae Jane yn gwneud yn dda yn ôl ei gallu, ond cofia di, Dilys, na chafodd Jane dy fanteision di— gadael ysgol yn bymtheg oed i helpu dy dad gyda'i sgrifennu, druan! |
| (Tabitha) Ie, a mawr les a wnaeth ei holl sgrifennu i chi! | |
| (Tabitha) 'Chafodd e' ddim dimai goch erioed. | |
| (1, 0) 208 | Do, do, Tabitha. |
| (1, 0) 209 | 'Rwy'n cofio mor falch oeddem pan enillodd e ddwy gini am stori yn steddfod fawr y Bont, a... |
| (Tabitha) Twt! | |
| (Jane) 'Doedd dim byd yn falchach gen i na dy fod di wedi gallu cael coleg. | |
| (1, 0) 216 | Nag oedd, wir, Dilys. |
| (1, 0) 217 | Dim rhagor o siarad, ferched. |
| (1, 0) 218 | Beth am de, Jane? |
| (1, 0) 219 | Ydi hi ddim yn bryd te? |
| (Jane) Ydi, bron â bod, mam, ond mae Letitia'n gorffen tipyn bach o waith i mi gyntaf. | |
| (Dilys) Na, wnaf i ddim te, wir, i borthi diogi Letitia. | |
| (1, 0) 237 | Tewch, wir, ferched. |
| (Jane) Mi âf i at y bwyd 'nawr, mam. | |
| (Jane) Mi âf i at y bwyd 'nawr, mam. | |
| (1, 0) 239 | O'r gorau Jane. |
| (1, 0) 240 | Bydda' i'n falch i gael cwpanaid. |
| (Tabitha) A finnau hefyd. | |
| (Dilys) 'Rych chi, Modryb, wedi gweld sut y mae arnaf i,—y caf fy ngyrru o gartre'n fuan iawn. | |
| (1, 0) 249 | Na, na, Dilys fach. |
| (1, 0) 250 | Paid â siarad fel yna. |
| (Dilys) Bydd raid i mi chwilio am ŵr cynted â medra i 'te, neu fe wna Jane i mi fynd i ennill fy nhoc. | |
| (Tabitha) Fydd dim rhaid chwilio'n galed goelia 'i, gyda'ch wyncb chi, Dilys. | |
| (1, 0) 253 | Na fydd. |
| (1, 0) 254 | Mae Oswald yma byth a beunydd yn holi ei hynt. |
| (Tabitha) O yn wir! | |
| (Dilys) Mae e'n dlotach na fi, os yw hynny'n bosibl. | |
| (1, 0) 260 | 'Dyw e' naws tlotach nag oedd dy dad ym Moriah. |
| (Tabitha) Tewch, Mary! | |
| (Tabitha) Ydi e'n gwneud cymaint ohonoch ag oedd e'? | |
| (1, 0) 266 | Ydi, mae'n gwneud popeth iddi, o hyd. |
| (1, 0) 267 | Edrychwch ar yr holl flodau a ddaeth e' yma neithiwr. |
| (Tabitha) Dyna'r dyn i chi, 'te, Dilys. | |
| (Dilys) 'Chaf i byth ŵr os y caiff hi ei ffordd. | |
| (1, 0) 285 | Mae Jane a minnau am i ti Dilys wylio rhag tramgwyddo'r Athro. |
| (1, 0) 286 | Wyt ti'n edrych dim am dorri calon dyn, 'rwy'n ofni. |
| (Tabitha) {Yn chwerthin.} | |
| (Dilys) Dyna bechod nad oes gennyf ffrog newydd, | |
| (1, 0) 294 | Ble mae'r un bert hynny gefaist adeg Nadolig? |
| (Dilys) Mae e' wedi gweld honno o'r blaen, a... dyw hi ddim yn bert iawn. | |
| (Dilys) Mae e' wedi gweld honno o'r blaen, a... dyw hi ddim yn bert iawn. | |
| (1, 0) 296 | Ydi wir. |
| (1, 0) 297 | Dangos hi i dy fodryb. |
| (Tabitha) Fe welais i ffrog berta fyddai'n eich taro chi i'r dim, pan own i ffwrdd—un sidan binc a rhubanau felfed. | |
| (Tabitha) Do, 'merch i; ond meddyliais wedyn bod digon i'w cael gennych chi, efallai, a mae dillad yn mynd mor hen-ffasiwn. | |
| (1, 0) 303 | Ydyn, wir. |
| (1, 0) 304 | Cer' di lan i 'nôl yr un sydd gen 'ti, Dilys fach. |
| (Dilys) O'r gorau,—ond nid wyf yn ei leicio o gwbl. | |
| (Tabitha) Nawr y dywedsoch hynny'ch hunan. | |
| (1, 0) 339 | 'Nawr yw ei hamser hi, Jane. |
| (Jane) Beth sydd arnoch chi i gyd, â'ch "'Nawr yw ei hamser hi?" | |
| (1, 0) 545 | Jane fach... annwyl! |
| (1, 0) 546 | Dyna drueni... na fyddai... dy dad yma 'nawr!... |
| (1, 0) 547 | Mac Mostyn yn cael ei dalu... o'r diwedd, Tabitha... |
| (1, 0) 548 | "yn dwyn ffrwyth... ar ei ganfed." |
| (Tabitha) Pwy feddyliai! | |
| (Jane) Peth rhyfedd na fyddech yn deall na allwn i byth gadw cartre fel hyn wrth deipio yn unig. | |
| (1, 0) 552 | Beth oedd yr Athro yn wneud yma bob dydd ynteu? |
| (Tabitha) Oes dim eisiau gofyn wir! | |
| (Jane) Fydd dim eisiau i'r Athro eich cynnal chi, o gwbl. | |
| (1, 0) 560 | Da 'merch i! |
| (1, 0) 561 | Da 'merch i 'to! |
| (1, 0) 562 | Dy dad sy'n fy nghynnal i o hyd. |
| (1, 0) 563 | Fe sy'n cydio'n dy law... |
| (1, 0) 564 | Mae'r Gair yn eitha' gwir, Tabitha—"Ti â'i cei ar ôl llawer o ddyddiau." |
| (Dilys) Mi âf i i'r drws, Letitia... | |
| (1, 0) 572 | Gall, gall. |
| (1, 0) 573 | Nawr yw ei hamser hi. |