| (Hlin) PROLOG | |
| (William) Mae 'r giwed yna wedi bod wrthi eto, Rachel. | |
| 18 | Pwy? |
| 19 | Y Morgansiaid? |
| (William) Pwy ond y nhw? | |
| (William) Pwy ond y nhw? | |
| 21 | Beth maen nhw wedi'i wneud? |
| (William) Saethu Rofer. | |
| (William) Saethu Rofer. | |
| 23 | Beth? |
| 24 | Ble cawsant gyfle? |
| 25 | Pwy gafodd afael arno? |
| (William) Ifan gadd afael arno—yn tynnu ei anadl ola yn y Waun Fawr. | |
| (William) Druan o Rofer! | |
| 29 | Ond beth wnaeth e iddyn nhw ei saethu? |
| (William) Roedd Ifan yn meddwl ei fod wedi dilyn cwningen i mewn i gaeau Rhydyfran ac i un ohonynt ei saethu yno. | |
| (William) Fe glywodd ergyd yn gynnar yn y prynhawn, medde fe. | |
| 32 | Ond tadcu, wyddoch chi ddim yn iawn ai bechgyn Rhydyfran a'i saethodd ai peidio. |
| (William) Gwybod! | |
| (William) Gwn yn iawn, cystal a phetawn i wedi'i gweld nhw wrth yr anfadwaith. | |
| 35 | Pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud? |
| (William) Wnaeth e ddim drwg i neb—ei unig fai oedd mai ein ci ni ydoedd. | |
| (William) Wnaeth e ddim drwg i neb—ei unig fai oedd mai ein ci ni ydoedd. | |
| 37 | O'r annwyl, roeddwn i'n dechrau meddwl bod pawb wedi anghofio'r hen gynnen erbyn hyn. |
| 38 | Roedd pethau wedi bod mor dawel y chwe mis diwetha. |
| (William) Fydd yma ddim anghofio fyth, Rachel, ac fe ddylit ti o bawb wybod hynny. | |
| (William) Fydd yma ddim anghofio fyth, Rachel, ac fe ddylit ti o bawb wybod hynny. | |
| 40 | Dydw i ddim wedi anghofio, ac nid yw'n debyg y gwna i. |
| 41 | Ond rwy wedi sylweddoli nad yw cadw'r hen gynnen yn fyw yn gwneud lles i neb—dim ond magu gofid i ni fel teulu. |
| (William) {Yn araf a phendant.} | |
| (William) Ac nid yw Rofer druan, ond un marc arall i'w roi yn y cownt gyferbyn â'u henwau. | |
| 45 | Meddyliwch am y plant—dyna'r etifeddiaeth y byddwch yn ei throsglwyddo iddynt. |
| (William) Mae'n gymaint i'r plant ag yw e i ti a minnau. | |
| (William) Mae'n gymaint i'r plant ag yw e i ti a minnau. | |
| 47 | Ond dydy e'n ddim i'r plant eto—pam na allant dyfu i fyny heb gysgod yr hen gweryl a'r hen elyniaeth drostynt. |
| (William) Ni all neb o'r teulu hwn edrych ar wŷr Rhydyfran ond fel gelynion, Rachel. | |
| 51 | Dydych chi ddim i ddweud wrtho beth sydd wedi digwydd i Rofer. |
| (William) Fe fynn gael gwybod. | |
| (William) Ei gi ef oedd Rofer. | |
| 55 | Ie, ond peidiwch â dweud wrtho pwy a'i saethodd. |
| 56 | Dwedwch mai anlwc oedd, dwedwch rywbeth, rhywbeth ond y gwir. |
| 57 | Peidiwch â'i dynnu ef i mewn i'r gynnen ac yntau'n ddim ond deg oed. |
| 58 | Dydy hi ddim ond creulondeb i'w dynnu ef ac Olwen i mewn i'r gynnen—rydw i wedi gofalu nad oes neb wedi sôn dim am y peth wrth y ddau—gadewch iddynt fod yn eu diniweidrwydd. |
| 59 | Fy mhlant i ydyn nhw ac y mae gen i hawl i'w magu nhw fel yr ydw i am. |
| (William) Wyt ti'n anghofio beth a ddigwyddodd i'w tad? | |
| (William) Wyt ti'n anghofio beth a ddigwyddodd i'w tad? | |
| 61 | Nac ydw i ddim yn anghofio. |
| 62 | Roedd e'n ŵr i mi yn ogystal â bod yn fab i chi—sut galla i anghofio fyth? |
| 63 | Ond rydw i am i'r plant dyfu i fyny yn eu hanwybodaeth. |
| 64 | Maent mor hapus ac yr ydw i am iddynt gadw'r hapusrwydd yna cyhyd ag sy'n bosibl. |
| (William) Dydw i ddim yn gweld bai arnat ti, Rachel. | |
| 70 | Dydych chi ddim yn gwybod mai'r Morgansiaid a ddaeth ar ei draws. |
| 71 | Ni wyddoch chi ddim beth a ddigwyddodd. |
| 72 | A does gennych chi run hawl i ddweud wrth y plant mai'r Morgansiaid oedd yn gyfrifol am farwolaeth eu tad. |
| (William) Rydw i mor sicr mai un o'r Morgansiaid a ollyngodd ergyd ar ôl yr ebol yr oedd Dafydd yn ei farchogaeth... | |
| (William) Rydw i mor sicr mai un o'r Morgansiaid a ollyngodd ergyd ar ôl yr ebol yr oedd Dafydd yn ei farchogaeth... | |
| 74 | Efallai mai rhedeg i ffwrdd a wnaeth yr ebol. |
| (William) Rydw i wedi dweud wrthyt ganwaith, fe saethwyd ergyd ar ôl yr ebol i godi ofn arno ac fe daflodd Dafydd ar ei ben. | |
| (William) A phan fydda i a thithau wedi mynd, fe fydd Dafydd ac Olwen yn cofio'r hyn a wnaethpwyd i'w tad, a'u plant hwy yn cofio hefyd, a thra bo Morgansiaid yn Rhydyfran, fe fydd rhywun yn gallu pwyntio bys atynt a'u hatgoffa o'r hyn a wnaethant y noson honno. | |
| 78 | Beth gwell fyddwch chi a hwythau a phawb arall o hynny? |
| 79 | Ni wnaeth gelyniaeth a digofaint fel hyn les i neb erioed. |
| 80 | Ceisiwch sylweddoli beth a fyddwch yn ei wneud. |
| 81 | Chwerwi ysbryd a natur y plant—rhoi baich ar eu hysgwyddau—baich i'w gario drwy eu hoes. |
| 82 | Dau sydd mor hapus a llon bob amser. |
| (William) Rhaid i ti gofio y gofala gwŷr Rhydyfran na chânt fod yn eu hanwybodaeth yn hir. | |
| 86 | Tadcu, dewch i ffwrdd, dewch i ffwrdd tra bo'r plant yn ifainc, cyn iddynt sylweddoli'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol. |
| (William) Symud o Gwmhelyg? | |
| (William) Symud o Gwmhelyg? | |
| 88 | Ie, pam lai? |
| 89 | Mae fferm yn rhydd nawr yn ymyl lle Marged fy chwaer yn Lloegr—rhywle ymhell, bell oddi yma—lle na bydd sôn am dylwyth Rhydyfran—lle geill y ddau blentyn dyfu i fyny heb yr hen gynnen yma yn bla ar eu heneidiau. |
| 90 | Dechrau bywyd newydd, a hyd yn oed os na allwn ni anghofio yr hyn a fu, ni fydd eisiau i'r plant fyth ddod i wybod. |
| (William) Dwyt ti ddim ddim yn un o'r tylwyth, Rachel, neu ni fuasit yn meddwl am y fath ynfydrwydd. | |
| (William) A wyt ti am i Dafydd allu dannod i mi pan fydd e'n ugain oed fy mod i'n credu na fyddai'n ddigon o ddyn i wrthsefyll gelyniaeth y Morgansiaid? | |
| 95 | Be waeth am hynny? |
| 96 | Ni ddaw i wybod am y gynnen. |
| 97 | Rydw i am fagu fy mhlant yn rhywle heb gysgod y cwmwl hwnnw yno. |
| (William) Mae gwaed fy mab yng ngwythiennau Dafydd ac ni fuaswn i ddim yn gwneud fy nyletswydd tuag ato petawn i ddim yn dweud wrtho am yr hyn a ddigwyddodd i'w dad. | |
| (William) Mae gwaed fy mab yng ngwythiennau Dafydd ac ni fuaswn i ddim yn gwneud fy nyletswydd tuag ato petawn i ddim yn dweud wrtho am yr hyn a ddigwyddodd i'w dad. | |
| 99 | Ond ni ddaw hynny â'i dad yn ôl. |
| 100 | Pa lesâd â fydd y cwbl? |
| 101 | Roedd colli ei dad yn fwy o golled i mi nag i neb, ond... |
| (William) Rachel fach, ddoi di fyth i deimlo tuag at y tylwyth yna fel yr ydym ni fel teulu yn teimlo ac fel y bydd Dafydd ac Olwen yn teimlo ar ôl cael gwybod y cwbl. | |
| (William) A wyt ti'n meddwl y bydd Dafydd yn fodlon colli Rofer? | |
| 104 | Tadcu, rwy'n erfyn arnoch chi, gwnewch addo peidio â dweud y gwir wrtho heno. |
| (William) Mae'n rhaid iddo gael gwybod rywbryd, Rachel. | |
| (William) Mae'n rhaid iddo gael gwybod rywbryd, Rachel. | |
| 106 | Rwy'n gofyn i chi er mwyn y plant ac er eich mwyn chithau. |
| 107 | Rydych ar y groesffordd heno. |
| 108 | Os gwrthodwch chi ddilyn y llwybr a ofynnais i chi ei ddilyn, fe ddanfonwch y ddau blentyn yna ar lwybr sy'n arwain i atgasedd a dialedd, a chymylu eu holl fywyd. |
| 109 | Rydych chi'n hen, ond y mae gan y ddau yna flynyddoedd Ìawer o'u blaen. |
| 110 | Eu mam sy'n erfyn arnoch chi—nid er fy mwyn fy hun, ond er eu mwyn hwy. |
| (Dafydd) {Wrth ddod trwy'r drws.} | |
| (Dafydd) Beth ddigwyddodd iddo fe, tadcu? | |
| 119 | Rhaid i ti beidio â holi beth a ddigwyddodd i Rofer, Dafydd. |
| (Dafydd) Ond pam, mam? | |
| (Dafydd) Ond pam, mam? | |
| 121 | Fe gei di gi arall yn ei le. |
| (Dafydd) Dydw i ddim am gi arall—eisiau Rofer sydd arna i. | |
| 136 | Dafydd, os cei di boni i'w marchogaeth, a wyt ti'n fodlon peidio â gofyn rhagor sut y cafodd Rofer ei ddiwedd? |
| (Dafydd) {Yn troi ac wynebu ei dadcu.} | |
| (William) Cael ei saethu wnaeth e, Dafydd; Ifan a'i cafodd yn gorwedd yn... | |
| 144 | Dafydd, cerdd allan am funud at Ifan. |
| (Dafydd) {Yn cydio'n dynn yn eì dadcu.} | |
| (William) Ei gi ef oedd Rofer. | |
| 151 | Nac oes ganddo, ddim hawl. |
| 152 | Ni ŵyr beth y mae'n ei ofyn. |
| 153 | Arnoch chi mae'r cyfrifoldeb i gyd. |
| 154 | Peidiwch â cheisio ei daflu ar ei ysgwyddau ef. |
| (Dafydd) {Yn siglo braich ei dadcu.} | |
| (William) Mae'n rhaid iddo gael gwybod, Rachel. | |
| 158 | Arnoch chi mae'r cyfrifoldeb, cofiwch. |
| 159 | Chi yn unig. |
| (William) Mae'r cyfrifoldeb am farwolaeth ei dad arnom ni i gyd. | |
| (Dafydd) Ydych chi ddim yn mynd i saethu eu ci nhw? | |
| 174 | Dafydd! |
| 175 | Dwyt ti ddim i ddweud pethau felna. |
| (Dafydd) Ydych chi ddim, tadcu? | |
| 179 | Rhaid i ti addo i mi nawr, Dafydd, na ddwedi di ddim peth fel yna eto. |
| (Dafydd) {Yn ei wynebu.} | |
| (Dafydd) Doedd ganddyn nhw ddim hawl i'w saethu e. | |
| 183 | Fe gei di gi eto... |
| (Dafydd) Dydw i ddim eisiau ci arall. | |
| 189 | A ydych chi'n sylweddoli nawr beth yr ydych wedi'i wneud? |
| (William) {Yn codi ac yn mynd al y drws chwith.} | |
| (William) Dere allan gen i, Dafydd. | |
| 192 | Rydych wedi cynnau tân na welwch chi na minnau mo'i ddiffodd. |