| (Syr Tomos) Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni? | |
| (Mr Jones-Roberts) Dyma goncwest nad anghofia'r blaid mohoni'n hir, Mr. Meredith─yn─hir; ac os ca i ddweyd─a'i ddweyd yn ostyngedig,─rwy'n cymryd tipyn o'r clod am dani. | |
| (1, 0) 15 | Nid yw wedi cysgu─noson o gysgu, wyddoch─ers tair wsnos. |
| (Syr Tomos) {Wrth weld Harri'n araf yn cyrchu'r sebon meddal.} | |
| (1, 0) 22 | Wrth gwrs, fe allwn fforddio bod yn fwy |homely| mewn cwmpeini bach fel hyn nag ymysg dieithriaid. |
| (Syr Tomos) {Ei glust yn merwino ond ei dafod yn llyfn.} | |
| (1, 0) 26 | Nid |stalwarts| y blaid, Mr. Meredith, sy'n cael eu cydnabod bob amser. |
| (Harri) {Yn drwsgl.} | |
| (Harri) Wel, wir, fûm i 'rioed yn meddwl dim o'r |honours| yma. | |
| (1, 0) 29 | |Oh, you musn't say that|, Mr. Meredith; "teilwng i'r gweithiwr"─rych yn cofio'r adnod. |
| (Syr Tomos) {Yn ddifrif.} | |
| (Mr Jones-Roberts) Wel, dyna fo, yntê? | |
| (1, 0) 35 | Rwan, Mrs. Meredith─ |
| (1, 0) 37 | Petasa Mrs. Meredith yma, mi faswn yn dweyd wrthi─rwy'n un o'r |Veterans| bellach─ |
| (Syr Tomos) {Yn rhagrithiol.} | |
| (1, 0) 41 | |O you flatterer|─ie, mi faswn yn dweyd wrth Mrs. Meredith, |
| (1, 0) 42 | |Make it your duty to get Mr. Meredith to attend all the functions of the party in this Constituency|. |
| (1, 0) 44 | O, mae hynny'n bwysig. |
| (Mr Jones-Roberts) Mae Mrs. Jones-Roberts─os gweddus i ddyn siarad am ei wraig─ | |
| (1, 0) 65 | Rwan, Mr. Meredith─pan yn galw y yn Sir─a gobeithio y bydd hynny'n aml─|for the good old flag|─cofiwch fod ty agored yn yr |Hazels|, a chofiwch ddod ag |M.P.| neu ddau hefo chwi─{gyda gwên} yn enwedig y stars, yntê? |
| (Harri) {Yn anesmwyth.} | |
| (Harri) Gwelaf fod f'eisiau islaw. | |
| (1, 0) 70 | Good-bye, a chofiwch fod yr |Hazels| yn agored bob amser. |
| (Mr Jones-Roberts) {Y spectol yn awgrymu'r gweddill.} | |
| (1, 0) 76 | Ymhle y buo fo yn y coleg─Oxford neu Cambridge? |
| (Syr Tomos) Prifysgol Cymru. | |
| (1, 0) 79 | I told you so. |
| (Mr Jones-Roberts) {Yn ysgwyd ei ben mewn edmygedd.} | |
| (Mr Jones-Roberts) Mae hi'n graff─craff, Syr Tomos─ | |
| (1, 0) 82 | Mi wyddwn y tro cyntaf i mi siarad â Mr. Meredith fod rhywbeth─yn eisiau. |
| (Mr Jones-Roberts) Do, mi ddwedodd y tro cyntaf fod rhywbeth─ | |
| (Mr Jones-Roberts) Dim o touch Oxford a Cambridge. | |
| (1, 0) 86 | Wedi'r cwbl, Syr Tomos, 'dyw Prifysgol Cymru ddim yn rhoi─|it doesn't give that something, you know|. |
| (Mr Jones-Roberts) |Atmosphere|, Syr Tomos, |atmosphere|. | |
| (Syr Tomos) Ie, prifysgol i blant y werin─ | |
| (1, 0) 91 | Cofiwch nid ym yn dweyd dim am y werin. |
| (Syr Tomos) {Yn ddramatig.} | |
| (Syr Tomos) Ie, oes y byd i'r iaith Gymraeg! | |
| (1, 0) 106 | |Good-bye|, Syr Tomos. |
| (1, 0) 107 | Mi'ch gwelwn chi'ch dau heno. |
| (Myrddin) Mi gofiwn; mae Olifer a finnau fel arfer yn gwadnu a sodlu sgidiau'r blaid. | |
| (Myrddin) Mi gofiwn; mae Olifer a finnau fel arfer yn gwadnu a sodlu sgidiau'r blaid. | |
| (1, 0) 109 | Peidiwch ag anghofio'r |Hazels|─|not later than ten|! |