| (Mrs Harris-Jones) {Yn gollwng ei gafael ar ysgwydd ei mab gyda hwrdd bach fel pe bai hi'n cychwyn olwyn i lawr y rhiw.} | |
| (Mrs Harris-Jones) Mr Inskip, ddyweddsoch chi? | |
| (1, 0) 651 | le, Inskip. |
| (1, 0) 652 | Enw Saesneg sydd arna i, ond Cymro wyf i serch hynny. |
| (Mrs Harris-Jones) Oh really. | |
| (1, 0) 659 | Felly wir! |
| (1, 0) 660 | A dyma rwm yr anfarwol Ifan Harris? |
| (Mrs Harris-Jones) Ie siwr. | |
| (1, 0) 664 | Debyg iawn! |
| (1, 0) 665 | Debyg iawn! |
| (1, 0) 666 | Dear me! |
| (1, 0) 667 | Wel, rhaid i chwi fy esgusodi i am daro ar eich traws fel yma... dyn dieithr hollol, ond fedrwn i byth fynd adre heb alw i weld ty yr anfarwol Ifan Harris! |
| (Mrs Harris-Jones) O, rych chi'n welcome. | |
| (Mrs Harris-Jones) Ry ni, - y mab a minnau bob amser yn hoffi croesawu rhai fydd yn dwad yma i weld y ty mewn ysbryd o wir barch at 'y mhriod annwyl. | |
| (1, 0) 671 | Ie siwr, ie siwr, mae e'n gredud mawr i chi. |
| (1, 0) 672 | Arhoswch chi, mae'r mab, Mrs Harris... y... Mrs Jones... y... na sefwch chi... |
| (Mrs Harris-Jones) Mrs Harris-Jones, Mr Inskip. | |
| (1, 0) 675 | Ie siw... |
| (1, 0) 676 | Mrs Harris Jones, mae'r mab gartref, ond ydi e, ar hyn o bryd? |
| (Mrs Harris-Jones) Ydi siwr, Mr Inskip. | |
| (Mrs Harris-Jones) Ydi siwr, Mr Inskip. | |
| (1, 0) 678 | Dear me! Mae e'n siwr o fod a pharch mawr i enw ei dad. |
| (Mrs Harris-Jones) Y... ydi... ydi. | |
| (Mrs Harris-Jones) Mae e'n siarad llawer am i dad. | |
| (1, 0) 681 | Debyg iawn. |
| (1, 0) 682 | Debyg iawn. |
| (1, 0) 683 | Pa ryfedd? |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn ennill gwroldeb.} | |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn taflu cip-drem dros yr ystafell.} | |
| (1, 0) 688 | Ie siwr. |
| (1, 0) 689 | Sefwch chi, Mrs Jones... y... Mrs Harris... |
| (Mrs Harris-Jones) Mrs Harris-Jones. | |
| (1, 0) 692 | Ie siwr, Mrs Harris-Jones. |
| (1, 0) 693 | Sefwch chi, welodd e erioed mo'i dad? |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn tynnu ei hanadl yn drwm.} | |
| (1, 0) 699 | Dear me! |
| (1, 0) 700 | Dear me! |
| (1, 0) 701 | Trist iawn. |
| (1, 0) 702 | A 'dyw 'i dad yn ddim ond enw iddo? |
| (Mrs Harris-Jones) Dim ond enw yn unig, Mr Inskip. | |
| (Mrs Harris-Jones) Dim ond enw yn unig, Mr Inskip. | |
| (1, 0) 704 | Ond enw mawr iawn, serch hynny! |
| (1, 0) 705 | Dim rhyfedd i fod e'n parchu goffadwriaeth e. |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn sydyn.} | |
| (1, 0) 709 | Wel, wel! |
| (1, 0) 710 | A dyma gadair yr anfarwol Ifan Harris? |
| (1, 0) 711 | Wel, wel! |
| (Mrs Harris-Jones) Ie, yn hon yr eisteddodd mhriod bob nos pan oedd e yma. | |
| (Mrs Harris-Jones) Ie, yn hon yr eisteddodd mhriod bob nos pan oedd e yma. | |
| (1, 0) 713 | Wel, wel! |
| (1, 0) 714 | A dyma gadair yr anfarwol ifan Harris? |
| (Mrs Harris-Jones) Ie. | |
| (Mrs Harris-Jones) Yn hon yr eisteddai y mhriod bob nos pan oedd e yma. | |
| (1, 0) 717 | Wel, wel! |
| (1, 0) 718 | A dyma... |
| (Mrs Harris-Jones) Hoffech chi gael eistedd ynddi, Mr Inskip? | |
| (Mrs Harris-Jones) Hoffech chi gael eistedd ynddi, Mr Inskip? | |
| (1, 0) 720 | Mi fyddai'n anrhydedd fawr, Mrs Jones-Harris. |
| (Mrs Harris-Jones) Eisteddwch te, Mr Inskip. | |
| (Mrs Harris-Jones) Eisteddwch te, Mr Inskip. | |
| (1, 0) 724 | Wel, wel! |
| (1, 0) 725 | A dyma gadair yr anfarwol Ifan Harris! |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn mwynhau ei hun.} | |
| (Mrs Harris-Jones) Right opposite i chwi fanna mae pen ysgrifennu Mr Harris. | |
| (1, 0) 729 | 'Dych chi ddim yn dweud mai dyma ysgrifbin yr anfarwol ifan Harris? |
| (Mrs Harris-Jones) A hwnna yr ysgrifennodd e rai o'i bethau goreu i'r Wasg. | |
| (1, 0) 732 | Mrs Jones-Harris, a gaf i... a gaf i ysgrifennu nodyn a'm llaw fy hun a phen yr anfarwol Ifan Harris? |
| (Mrs Harris-Jones) Wel, Mr Inskip, 'does neb wedi cyffwrdd a'r i pen yna ers blynyddau, a neb wedi newid y níb. | |
| (Mrs Harris-Jones) Wel, Mr Inskip, 'does neb wedi cyffwrdd a'r i pen yna ers blynyddau, a neb wedi newid y níb. | |
| (1, 0) 734 | O! |
| (1, 0) 735 | Gwell peidio te, Mrs Jones... y... Mrs Harris... |
| (1, 0) 736 | Gwell peidio. |
| (Mrs Harris-Jones) Ond fe gewch chi... | |
| (1, 0) 739 | Dim. |
| (1, 0) 740 | Dim. |
| (1, 0) 741 | Dim am y byd! |
| (Mrs Harris-Jones) Fe gewch chi, Mr Inskip, ysgrifennu a phen 'y mhriod annwyl. | |
| (Mrs Harris-Jones) Fe gewch chi, Mr Inskip, ysgrifennu a phen 'y mhriod annwyl. | |
| (1, 0) 743 | A gaf i? |
| (Mrs Harris-Jones) Cewch. | |
| (1, 0) 747 | Mrs Jones-Harris. |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn felus.} | |
| (1, 0) 751 | Ie, Mrs Haishjones... |
| (1, 0) 752 | Mi fydda i'n mynd a'r nodyn hyn adre heno at y wraig a mi fydda i'n dweud wrthi... |
| (1, 0) 753 | Mrs Inskip... dyma eiriau i chwì wedi eu hysgrifennu ag ysgrifbin yr anfarwoi Ifan Harris! |
| (1, 0) 755 | A mi fydda i'n galw'r plant ataf i ac yn dweud... |
| (1, 0) 756 | "Cyril"... fydda i'n ddweud... "Eleanor Maude"! |
| (1, 0) 757 | Dewch yma. |
| (1, 0) 758 | Dyma |note| wedi ei ysgrifennu a phen ysgrifennu yr anfarwol Ifan Harris! |
| (1, 0) 762 | Ie siwr, ie siwr. |
| (1, 0) 763 | Ie siwr, quite so. |
| (1, 0) 765 | Mae rhywbeth wedi dyfod i' meddwl i, Mrs Harris... Jones. |
| (1, 0) 766 | Mi leicwn gael gwybod un peth. |
| (Mrs Harris-Jones) Wel? | |
| (Mrs Harris-Jones) Wel? | |
| (1, 0) 768 | Mi fyddai mhleser i lawer yn fwy pe cawn i wybod. |
| (1, 0) 769 | A'i a'r ysgrifbin yma yr ysgrifennodd Ifan Harris y gwaith wyf i, fel un, yn edmygu fwyaf... gwaith wedi rhoi pleser mawr i mi. |
| (1, 0) 770 | Rwy'n cyfeirio at awdl "Dinistr Jerusalem". |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn gwta.} | |
| (1, 0) 775 | O! |
| (1, 0) 777 | Be sy arna i, hawyr bach! |
| (1, 0) 778 | Dear me! |
| (1, 0) 779 | Dear me! |
| (1, 0) 780 | Yr awdl ar "Heddwch" wyf yn feddwl! |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn fwy cwta byth.} | |
| (1, 0) 784 | Wel, "Yr Eneth Gath 'i Gwrthod", te? |
| (Mrs Harris-Jones) Dwy ddim yn meddwl i Evan ysgrifennu llinell o farddoniaeth yn ei fywyd. | |
| (Mrs Harris-Jones) Dwy ddim yn meddwl i Evan ysgrifennu llinell o farddoniaeth yn ei fywyd. | |
| (1, 0) 786 | O! |
| (Mrs Harris-Jones) Prose yw i weithiau fe i gyd. | |
| (Mrs Harris-Jones) Prose yw i weithiau fe i gyd. | |
| (1, 0) 788 | O! |
| (Mrs Harris-Jones) {Yn gwta.} | |
| (Mrs Harris-Jones) Dyna ddesc Mr Harris pan oedd e byw. | |
| (1, 0) 791 | O! |
| (Mrs Harris-Jones) Rhaid i chwi fy esgusodi i am funud, Mr Inskip. | |
| (Mrs Harris-Jones) Mi ddof yn ol ymhen tipyn bach. | |
| (1, 0) 795 | O'r goreu. |
| (1, 0) 796 | Certainly, Mrs Harris... y... Jones. |
| (1, 0) 797 | Mi fyddaf i'n all right. |
| (Ifan) Hylo, hylo! | |
| (Ifan) Hylo, hylo! | |
| (1, 0) 805 | O... y... Mr Inskip wyf i... ynte? |
| (Ifan) Wel, chi ddylai fod yn gwybod. | |
| (Ifan) Wel, chi ddylai fod yn gwybod. | |
| (1, 0) 807 | Y... ie. |
| (1, 0) 808 | Dwad i gael gweld ty Mr Ifan Harris oeddwn i. |
| (1, 0) 810 | Mab Mr Ifan Harris ych chwi? |
| (Ifan) Ie. | |
| (1, 0) 813 | Wel, wel! |
| (1, 0) 814 | A dyma fab yr anfarwol Ifan Harris! |
| (1, 0) 815 | Wel, wel! |
| (Ifan) {Yn ysgwyd llaw yn serchog.} | |
| (Ifan) Rown i'n meddwl i bod hi'n drueni na chawsech chi ngweld innau... un o'r relics goreu adawodd 'y Nhad ar ei ol. | |
| (1, 0) 821 | Y... Ie Siwr. |
| (1, 0) 822 | Dear me. |
| (1, 0) 823 | A dyma fab Ifan Harris? |
| (Ifan) Dyma fe. | |
| (Ifan) Dyma fe. | |
| (1, 0) 825 | Ydych chi'n mynd i fod yn gymaint o ddyn a'ch tad, machgen i? |
| (1, 0) 826 | Rych chi'n siwr o fod yn falch iawn o enw'ch tad. |
| (Ifan) Wel, ambell waith rwy'n cael y cyfle o glywed i enw e, ond pan fydd digwydd i rywun, ar siawns weithiau, wneud rhyw gyfeiriad ato rwy'n pefreiddio drwyddo i gyd a pharchedig ofn! | |
| (Ifan) Wel, ambell waith rwy'n cael y cyfle o glywed i enw e, ond pan fydd digwydd i rywun, ar siawns weithiau, wneud rhyw gyfeiriad ato rwy'n pefreiddio drwyddo i gyd a pharchedig ofn! | |
| (1, 0) 828 | Da iawn, machgen i, da íawn. |
| (1, 0) 829 | Rwy'n falch i glywed hynna. |
| (1, 0) 830 | Rwy'n falch i glywed. |
| (1, 0) 831 | Parchwch i enw e beth bynnag a wnewch chi. |
| (Ifan) Fydda i'n siwr o wneud, Mr Inskip, gan mai chwi sydd yn gofyn... | |
| (Ifan) Nawr, Mr Inskip, a ydyw Mam wedi dangos y relics i gyd i chwi? | |
| (1, 0) 834 | Wel, fe welais i'r gadair... |
| (Ifan) Twt! Twt, twt, twt! | |
| (Ifan) Twt! Twt, twt, twt! | |
| (1, 0) 836 | A'r pen sgrifemnu. |
| (Ifan) Twh! Twt, twt! | |
| (Ifan) A welsoch chwi'r warming-pan? | |
| (1, 0) 839 | Y waming-pan? |
| (Ifan) le, waming-pan 'y Nhad. | |
| (1, 0) 843 | Naddo. |
| (Ifan) O dier, dier. | |
| (Ifan) Ond mae arna i ofn i fod e yn yr iws ar hyn o bryd. | |
| (1, 0) 849 | O, na hidiwch Mr... Harris. |
| (1, 0) 850 | Na nidiwch. |
| (Ifan) Ond fe gewch chi weld yr aser, beth bynnag. | |
| (1, 0) 858 | Y... ydw... y... rhan fwyaf... y... |
| (Ifan) "Llyfr y tri aderyn", Mr Inskip! | |
| (Ifan) "Llyfr y tri aderyn", Mr Inskip! | |
| (1, 0) 860 | Y... ie... |
| (Ifan) "Theomemphus", Mr Inskip? | |
| (Ifan) "Theomemphus", Mr Inskip? | |
| (1, 0) 862 | le siwr... ydw. |
| (Ifan) A Chofiant Dic Aberdaron, | |
| (Ifan) A Chofiant Dic Aberdaron, | |
| (1, 0) 864 | Ie siwr. |
| (Ifan) {Yn beiddio ymhellach.} | |
| (Ifan) A "Drych y Prif Oesoedd", Mr Inskip. | |
| (1, 0) 867 | Yn anghysurus.} |
| (1, 0) 868 | Ie, ie siwr. |
| (1, 0) 869 | A dyma'r aser, ie? |
| (1, 0) 870 | Wel, wel, nid pawb all ddweud i fod e wedi gweld peth fel hwn. |
| (Ifan) Ychydig iawn sydd wedi cael gweld yr aser yna. | |
| (Ifan) Ychydig iawn sydd wedi cael gweld yr aser yna. | |
| (1, 0) 872 | Felly siwr. |
| (1, 0) 873 | Felly siwr. |
| (1, 0) 874 | Rhywbeth rhyfedd yw meddwl mai hon oedd gyda'ch tad yn eillio bob dydd... |
| (Ifan) Eillio! | |
| (Ifan) Eillio!, weddsoch chi? | |
| (1, 0) 877 | Ie. |
| (Ifan) {Yn cymryd yr aser o'i law yn frysiog a'ì gosod yn ol yn y dror.} | |
| (1, 0) 881 | O! |
| (Ifan) Hon oedd ganddo yn torri 'i gyrn. | |
| (1, 0) 884 | O felly, o wir! |
| (1, 0) 885 | Wel mae'n dda cael gweld pethau fel yma... relics un o arwyr Cymru... |
| (1, 0) 886 | Wel, mae'n rhaid i mi fynd i ddal y tren, Mr Harris. |
| (1, 0) 888 | Wel, good-bye, Mr Harris. |
| (Ifan) {Yn sefyll yn ol.} "Mr Harris" wedsoch chi? | |
| (Ifan) {Yn sefyll yn ol.} "Mr Harris" wedsoch chi? | |
| (1, 0) 892 | le... y... ie... Mr Harris, ynte? |
| (Ifan) Pwy Fister Harris? | |
| (1, 0) 895 | Ie... ynte... |
| (1, 0) 896 | Mab Ifan Harris ych chwi? |
| (Ifan) Wel, nage! | |
| (Ifan) Rych chi wedi dwad i'r ty wrong! | |
| (1, 0) 899 | Wel, yn enw'r annwyl, ty pwy yw hwn? |
| (Ifan) Jonathan Thomas. | |
| (Ifan) Jonathan Thomas. | |
| (1, 0) 901 | Pwy Jonathan Thomas? |
| (Ifan) Y trafaeliwr pop. | |
| (1, 0) 904 | Trafaeliwr pop? |
| (Ifan) le. | |
| (Mrs Harris-Jones) Rhag ych cywilydd chwi, Evan! | |
| (1, 0) 915 | O... |
| (1, 0) 916 | O, wel. |
| (1, 0) 917 | 'Dwy ddim yn deall yn hollol... |
| (Mrs Harris-Jones) Mae'n ddrwg gen i am hyn... fod Evan wedi bod mor ddiscourteous. | |
| (Mrs Harris-Jones) Mae'n ddrwg gen i am hyn... fod Evan wedi bod mor ddiscourteous. | |
| (1, 0) 919 | O, wel. |
| (1, 0) 920 | Does dim i wneud... |
| (1, 0) 921 | Mae'n all right, does dim gwahaniaeth. |
| (1, 0) 922 | Mae'n rhaid i fi fynd... |
| (Mrs Harris-Jones) Dwy ddim yn gwybod beth arall ddywedodd e... | |
| (1, 0) 926 | O wel, mae'n all right. |
| (1, 0) 927 | Ond just mod i ddim yn deall... |
| (1, 0) 928 | Wel, good-bye, Mrs Harris...y... Mrs Jones... good-bye. |
| (Mrs Harris-Jones) Good-bye, Mr Inskip, good-bye. | |
| (Mrs Harris-Jones) Mae'n ddrwg gen i am hyn. | |
| (1, 0) 931 | O mae'n all right... popeth yn iawn. |