| (Morus) Be di'r rhif lluosog o'r gair clo, nhad? | |
| (Mari) Da chi, Gruffydd, rhowch ben ar y gwawd annuwiol na; peidiwch a sylwi arno fo, Mr. Evans. | |
| (1, 0) 147 | O, fe wnaf o'r goreu â Gruffydd Huws; does dim ofn i frathiad o arna i. |
| (Gruffydd) Y nghyfarthiad i ydi'r gwaetha, ia, Mr. Evans? | |
| (Gruffydd) Ond be ydi'r si ma sy ar led, Mr. Evans, y'ch bod chi'n |agent| i'r |Auxiliary|? | |
| (1, 0) 152 | O, mae hi wedi'ch cyrraedd chitha felly? |
| (1, 0) 153 | Wel, cael f'annog gan amryw gyfeillion ddaru mi i gymryd |agency| dros y Gymdeithas yn y gymdogaeth hon, ac mi gydsyniais. |
| (1, 0) 154 | Fydd y swydd wrth gwrs yn ymyrryd dim â ngwaith i fel gweinidog Horeb, a wela i ddim fod y ddau waith yn taro chwaith yn erbyn i gilydd yn y gronyn lleia, achos does dim amheuaeth am onestrwydd y Gymdeithas; mae hi fel y banc, ac mae dynion o ymddiried wrth i chefn hi─dynion sydd â'u henwau yn barchus mewn cylchoedd eglwysig. |
| (Dafydd) Does dim dowt nad oes mynd mawr arni hi ar hyn o bryd; ond, a gadael i hynny fod, ofni rydw i, os ca i ddeyd heb y'ch digio chi, nad ydach chi, Mr. Evans, ddim wedi'ch torri ar gyfar y fath waith. | |
| (Gruffydd) Mr. Evans, gofyn y marn i roedd Dafydd rwan, ac i ddeyd y gwir yn onest, mi rydw inna'n ofni'ch gweld chi'n gafael yn y swydd ma. | |
| (1, 0) 162 | Mi wela wrth gwrs ma nid ameu'r Gymdeithas yr ydach chi ond ameu y nghymwyster i i'r swydd yntê? |
| (1, 0) 163 | Wel, mae llu go fawr o weinidogion o bob enwad yn |agents| iddi hi, ac yn sicr mae gen i gystal siawns i lwyddo a llawer ohonyn nhw. |
| (1, 0) 164 | Mi wnaf ddigon ohoni, gobeithio, i gael ambell i lyfr newydd i mi fy hun; anodd ydi cael rheini fel mae petha rwan─''y pris yn rhy fawr a'r pres yn rhy fach." |
| (1, 0) 165 | Heblaw hynny, mi rydw i wedi cael dau'n barod i gymryd |shares| yn y Gymdeithas. |
| (Gruffydd) {Yn fywiog.} | |
| (Gruffydd) Oes drwg gofyn pwy ydy nhw? | |
| (1, 0) 170 | Pirs Davies, Rhyd y Fen, ydi un. |
| (Gruffydd) Rhen Birs yn |shareholder|! | |
| (Gruffydd) Da i byth o'r fan ma. | |
| (1, 0) 174 | Huw Tomos y Ffridd ydi'r llall. |
| (Gruffydd) {Neidia ar ei draed.} | |
| (Dafydd) Mi rowch chitha'ch arian yni hi, Mr. Evans? | |
| (1, 0) 182 | Os na wna i, pwy wnaiff? |
| (1, 0) 183 | Rydw i'n barod wedi rhoi'r geinog bach oedd gen i mewn yn y Gymdeithas. |
| (1, 0) 184 | Be am danoch chi a Mari Huws, Gruffydd Huws? |
| (Mari) Rydw i wedi dilyn hanes y Gymdeithas ers misoedd, ymhell yn wir cyn bod sôn am dani yma hefo ni. | |
| (1, 0) 202 | O'r gora. |
| (1, 0) 203 | Wel, meddyliwch am y Gymdeithas yma'ch dau a chitha hefyd, Dafydd Roberts, mae hi'n camol i hun heb i mi ddeyd dim. |
| (1, 0) 204 | Nos dawch i chi'ch tri. |