| (Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.} | |
| (Doctor Huws) Mae wedi dod yma i weld sut mae Richard Davis. | |
| (3, 0) 936 | Ryw'n gofyn i chi scusio fi'n dod i tŷ chi, Mr. Harris, ond oedd yn ddrwg mawr gen i clywed fod Dic—bod Richard wedi brifo mor dost, ac wrth y cownt ma Doctor yn rhoi, ma fo'n |case serious| iawn. |
| (3, 0) 938 | Merch Richard, yntê? |
| (3, 0) 939 | Ca i deyd gair bach yn |private| â hi, Mr. Harris? |
| (3, 0) 940 | Bydda i dim ond chydig munuda. |
| (Mr Harris) Wrth gwrs, Mr. Blackwell. | |
| (Mr Harris) {A MARGED a Mr. HARRIS a'r DOCTOR i'r chwith.} | |
| (3, 0) 943 | Nel Davis, ma'n drwg gin i dros ti a tad ti. |
| (3, 0) 944 | Oedd o dim yn |friends| â fi ers blynyddoedd, achos ti'n gwbod bod o'n portsio ar tir fi. |
| (Nel) Peidiwch a deyd gair yn erbyn nhad i heno. | |
| (Nel) Peidiwch a deyd gair yn erbyn nhad i heno. | |
| (3, 0) 946 | O dim gair. |
| (3, 0) 947 | Ond dylat ti cofio ma fi daru cadw fo o'r jêl drw'r blynyddoedd. |
| (3, 0) 948 | Basa fo yn jêl cant o weithia ond bod fi yn safio fo. |
| (Nel) Wyddwn i mo hynny. | |
| (Nel) Wyddwn i mo hynny. | |
| (3, 0) 950 | Ma fo'n |right| gwir. |
| (3, 0) 951 | Daru o deyd rhw dro bod fi a fo yn perthynas bychain i'n gilydd? |
| (3, 0) 952 | Wel mi oedd o yn perthyn pell i fi, a fi yn rhoi |job| da iddo fo yn y Plas pan oedd o llanc ifanc, ond fe ath o i meddwi'n |shocking|, a dyna rheswm iddo mynd |off| o'r Plas. |
| (3, 0) 953 | |Pity, Pity!| |
| (3, 0) 954 | Ma Doctor am i fi deyd i ti fod |case| ma yn |serious| iawn. |
| (Nel) {Ar ei thraed.} | |
| (3, 0) 958 | Paid ti torri calon di, Nel Davis, fi gofalu am ti ar ol i tad di mynd. |
| (Nel) {â'i phen ar y bwrdd.} | |
| (Nel) O Nhad! | |
| (3, 0) 961 | Paid ti upseto dy hun—fi gofalu am ti. |
| (3, 0) 962 | Fi'n gyrru di |off| i Liverpool ne London at pobl caredig i dysgu ti bod yn nyrs ne rhwbath. |
| (3, 0) 963 | Cei di dim bod isia dim a fi talu popeth. |
| (3, 0) 964 | Ti dod i'r Plas heno, |housekeeper| fi'n gwbod sut i bod yn garedig. |
| (3, 0) 965 | Mi gnei di dod, Nel Davis, yn gnei di? |
| (3, 0) 966 | Ma |trap| fi wrth y drws i mynd â ti i'r Plas at |housekeeper| fi. |
| (3, 0) 967 | Ti yn gneud dy hun yn parod i dod yn |trap| at |housekeeper| yn y munud a fi yn cael |chat| bychan â Doctor. |