| (John) Byt gaws, bachan, i ti gael dyfod yn gryf i weithio. | |
| (1, 0) 81 | Dydd da, John Jones. |
| (1, 0) 82 | Y mae Ann yn dweyd wrthyf eich bod newydd dderbyn llythyr o'r America a bod iddo ymyl ddu. |
| (1, 0) 83 | Gobeithio nad oes ynddo |bad news|. |
| (John) Lycoch chi, dymafe. | |
| (1, 0) 87 | "Pueblo Colorado, North America. |
| (1, 0) 88 | Annwyl Syr. |
| (1, 0) 89 | Y mae eich brawd William Jones wedi marw, ac wedi gadael ei holl eiddo i chwi. |
| (1, 0) 90 | Daeth drosodd, fel y gwyddoch, i'r rhan o'r wlad yn yr |eighties|, a phrynodd ddarn helaeth o dir yn ymyl y mynyddoedd Creigog. |
| (1, 0) 91 | Trodd yr anturiaeth allan yn hynod lwyddiannus. |
| (1, 0) 92 | Daeth o hyd i wythien o aur." |
| (John) Lycoch chi nawr, |well done| Wil fy mrawd. | |
| (Ann) Gwythien o aur. | |
| (1, 0) 104 | "Heblaw y swm anferth o aur cafodd hefyd ffynhonnau o olew, a llawer iawn o nwy (gas) tra gwerthfawr; fel trwy y cyfan gwnaeth eich brawd William Jones, mewn oes gymharol fer, y swm anferth o dri chan mil o ddoleri, yn ol arian y wlad hon, yn ol arian eich gwlad chwi byddant yn rhyw driugain mil o bunnau." |
| (John) Triugain mil o bynnau, nas cyffra i—dyna waith da! | |
| (1, 0) 114 | "Yr wyf wedi fy mhenodi gan eich brawd yn ymddiriedolwr i'r ewyllys, ac yr wyf wedi cario allan ei ddymuniadau olaf i'r llythyren. |
| (1, 0) 115 | Yr wyf wedi gwerthu yr eiddo, ac yn danfon i chwi |draft| am yr arian yn llawn. |
| (1, 0) 116 | Yr eiddoch, Sam Pritchard." |
| (1, 0) 118 | Gadewch i mi eich llongyfarch, Syr, fel un o'r dynion cyfoethocaf fu erioed yn byw wrth droed y Mynydd Du. |
| (John) {Yn rhwbio eí ddwylaw.} | |
| (John) Ddim mor gyfoethog a Holeford y Dderi. | |
| (1, 0) 122 | Lawer mwy cyfoethog. |
| (Ann) A Jones y Gellideg. | |
| (Ann) A Jones y Gellideg. | |
| (1, 0) 124 | Lawer cyfoethocach. |
| (John) Hwre. | |
| (John) Y mae wedi cael rhyw chwilen yn ei phen heddi eto. | |
| (1, 0) 133 | Quite so. |
| (1, 0) 134 | Quite so. |
| (1, 0) 135 | Ond gaf fi eich atgofio Syr, eich bod yn byw mewn oes y mae arian yn chwarae rhan bwysig iawn ynddi. |
| (1, 0) 136 | Y mae arian heddyw yn gallu agor pob drws ond drws y nef. |
| (1, 0) 137 | Yn rhinwedd y trigain mil yna, Syr, fe fydd safleoedd pwysicaf y wlad yn cael eu cynnyg i chwi. |
| (1, 0) 138 | Yn awr, y mae yn rhaid i chwi ddihuno i'r amgylchiadau─ diacon yn y capel─ |
| (John) {Yn llonni, ac yn rhwbio ei ddwylaw.} | |
| (Ann) Ond pan oeddynt yn dewis diaconiaid yn Salem, bu dim cymaint a son am enw mishtir. | |
| (1, 0) 145 | Quite so. |
| (1, 0) 146 | Quite so. |
| (1, 0) 147 | Ond fe fydd John Jones, coeliwch chwi fi, yn eistedd yn y set fawr yn Salem cyn bo chwech mis arall wedi mynd heibio. |
| (John) Lycoch chi nawr—yn y set fawr yn Salem yn ochor Jones y Gelli. | |
| (John) Lycoch chi nawr—yn y set fawr yn Salem yn ochor Jones y Gelli. | |
| (1, 0) 149 | Quite so, ac nid yw hynny ond dechreu— |
| (1, 0) 150 | Y Cyngor Sirol, Bwrdd y Gwarcheidwaid, Bwrdd yr Ustusiaid, a hyd yn oed Senedd Prydain Fawr, yn agored i'r gwr â'r cyfoeth, dim ond iddo wybod y ffordd i dynnu y |wires| yn iawn, a thalu eraill am wneud hynny. |
| (John) {Yn gwenu ac yn rhwbio eî ddwylaw.} | |
| (John) Ie, lycoch chi nawr. | |
| (1, 0) 153 | Ac ymhellach, fe ellwch brynu llaw a chalon y ferch lanaf yn nyffryn Tywi am drigain mil o bunnau, a'i chael yn wraig yn y Tyddyn Llwyd, |
| (Ann) {Yn gwylltio ac yn taro ei throed yn erbyn y llawr.} | |
| (John) Lycoch chi, peidiwch a gwneud sylw o Ann, Mr. Morris, y mae ei thafod yn hir ar brydiau. | |
| (1, 0) 159 | Quite so. |
| (1, 0) 160 | Quite so. |
| (1, 0) 161 | Yr ydych yn awr yn byw mewn byd hollol newydd, Mr. Jones—byd y trigain mil. |
| (1, 0) 162 | Ac y mae yn rhaid i chwi fyw i fyny â'r amgylchiadau. |
| (1, 0) 163 | Gosodwch y trigain mil yn y banc, a byddwch fyw bywyd fel o'r blaen, a pha leshad fyddant i chwi. |
| (1, 0) 164 | Na, na, y mae yn rhaid i chwi weithian fyw bywyd gwr bonheddig. |
| (1, 0) 165 | Byw a thorri |stroke| nes bo Jones y Gelli a Holeford y Dderi yn mynd na fydd dim son am danynt, a chyda y fath swm o gyfoeth fe allwch yn hawdd wneud hynny. |
| (John) Nas cyffra i. | |
| (John) Yr wyf yn gallu gwerthu moch yn Llandilo, a menyn ym Mrynaman, ond nas cyffra i, wn i ddim o'r ffordd i weithredu yn y cylch y mae Holeford a Jones yn troi ynddo. | |
| (1, 0) 171 | O, y mae yn rhaid i chwi gael |Private Secretary|, Mr. Jones, a does dim a rydd mwy o bleser i mi na'ch gwasanaethu fel y cyfryw. |
| (1, 0) 172 | Yr wyf wedi cael profiad helaeth o'r byd yma. |
| (1, 0) 173 | Yr wyfyn gwybod am y |wheels bach| yma sydd yn troi. Yr wyf yn gwybod y ffordd i dynnu y |wires| yn amser etholiadau. |
| (1, 0) 174 | Mi a'ch cynorthwyaf i dorri y fath |stroke| nes synnu gwlad gyfan, a'ch gwneuthur yn deilwng o'ch safle fel y gwr bonheddig pennaf fagwyd erioed wrth droed y Mynydd Du. |
| (John) Lycoch chi, nawr. | |
| (John) Fi gwr bonheddig mawr a tithau yn |Private Secretary|. | |
| (1, 0) 180 | Quite so. |
| (1, 0) 181 | Quite so. |
| (1, 0) 182 | Honour bright. |
| (1, 0) 183 | Os caf fi fy ffordd, chwi fyddwch y dyn pwysicaf ac yn llanw y safleoedd uwchaf yn y wlad ymhen ychydig iawn o amser. |
| (John) {Yn rhwbio ei ddwylaw.} | |
| (John) Lycoch chi nawr. | |
| (1, 0) 186 | Ond y mae yn rhaid i chwi wrth lawer iawn o gyfnewidiadau, Syr. |
| (1, 0) 187 | Rhaid i chwi wrth bethau ac wrth arferion fyddant yn eich gweddu fel gwr bonheddig mawr yn yr ardal. |
| (1, 0) 188 | Yn gyntaf, y mae yn rhaid i chwi ordro |suit| o ddillad |of the very latest cut|, oherwydd y mae dillad yn oll bwysig yn yr oes hon. |
| (1, 0) 189 | Os na fydd eich |suit| yn y |latest fashion|, cred neb eich bod yn wr bonheddig, a pharcha neb chwi fel y cyfryw ychwaith. |
| (Ann) Ie, y mae eisiau dillad newydd ar mishtir. | |
| (Ann) Yr unig tro y mae mishtir yn gwisgo colar yw pan bo |meeting| rhent, neu gymanfa bregethu yn Salem. | |
| (1, 0) 194 | Quite so. |
| (1, 0) 195 | Quite so. |
| (1, 0) 196 | Wedyn, y mae yn rhaid cael |motor car|. |
| (1, 0) 197 | Y mae |motor car| yn anhepgorol angenrheidiol i wneud gwr bonheddig. |
| (John) Lycoch chi nawr, pwy fydd yn drifo rhyw greadur fel hynny. | |
| (John) Alla i ddrifo Darby a'r cart am y goreu ag undyn, ond, nas cyffra i, wn i ddim y ffordd i ddrifo rhyw greadur fel yna, na wrandawa fe ddim ar "Gee," a "Come here," a "Woa." | |
| (1, 0) 200 | Fe wna Wil Sais Bach y tro fel |chaffeur|. |
| (1, 0) 201 | Gydag ychydig bach o bractis fe ddaw Wil bach ati yn iawn. |
| (Ann) Ie, ma ishe rhywbeth ar mishtir yn lle Darby a'r cart. | |
| (Ann) Rhyng bod Darby dipyn yn gloff a mishtir yn galw yn y tafarnau mae e byth a hefyd ar yr hewl, ond chware teg i mishtir, mae e yn mynd i'r cwrdd bore dy' Sul wedyn. | |
| (1, 0) 205 | Quite so. |
| (1, 0) 206 | Wedyn Mr. Jones y mae yn rhaid defnyddio iaith fo yn gweddu gwr bonheddig, iaith hanner Gymraeg a hanner Saesneg, a thipyn bach o lediaith. |
| (1, 0) 207 | Nid yw yn digymod â'ch anrhydedd chwi, Syr, i ddweyd: "Lycoch chi nawr." |
| (1, 0) 208 | Y mae yn rhaid i chwi osod hwnna o'r neilltu, ac os bydd rhaid i chwi gael rhyw |slang word|, wel, dywedwch "|Snakes and Fiddlesticks|," y mae yn gweddu yn well i wr bonheddig. |
| (John) Lycoch chi nawr. | |
| (John) Bachan helyg wyt ti, Morris, hefyd. | |
| (1, 0) 212 | Fe gawn ni weld ymhellach eto ynghylch hyn Syr. |
| (1, 0) 213 | Ac mi rof y |tips| i chwi eto yn ol fel bydd yr amgylchiadau yn galw. |
| (1, 0) 214 | Gwell i ni fynd yn awr i ordro y dillad a'r |motor|, ac efallai i gael dropin bach ym mharlwr y Red Lion i ddathlu yr amgylchiad ac i yfed llongyfarchiadau i John Jones Esquire, a'r trigain mil. |