| (Negeswyr) Gosteg! | |
| (Harbona) Mi fydda' i yno'n gweini. | |
| (1, 0) 304 | Harbona! |
| (Harbona) Wel, wel! | |
| (Harbona) Dyna ryfedd, amdanat ti 'roedden ni'n sgwrsio. | |
| (1, 0) 308 | 'Synnwn i fawr. |
| (Harbona) 'Glywaist ti? | |
| (Harbona) Mae'r gweinidog yn selog dros y codiad hefyd. | |
| (1, 0) 312 | Rhaid imi ofyn cymwynas gennyt ti, Harbona. |
| (Harbona) Un arall eto! | |
| (Harbona) Rydw i newydd ddarllen y Proclamasiwn. | |
| (1, 0) 315 | Awgrymu 'rwyt ti mai fi yw achos y Proclamasiwn? |
| (1, 0) 316 | Ie, mi all hynny fod. |
| (Harbona) Pa gymwynas arall a fedra' i? | |
| (Harbona) Pa gymwynas arall a fedra' i? | |
| (1, 0) 318 | Dos at y Frenhines Esther, dywed wrthi fy mod i yma wrth y porth ac yn gofyn am gael gair gyda hi. |
| (Harbona) Y Frenhines? | |
| (Harbona) Y Frenhines? | |
| (1, 0) 320 | Ie. |
| (Harbona) Wyt ti wedi dy weld dy hun, ddyn? | |
| (Harbona) Y sach yna amdanat ti? | |
| (1, 0) 324 | Sachliain a lludw. |
| (1, 0) 325 | Arwyddion ymostyngiad a gweddi fy mhobol i. |
| (1, 0) 326 | Rhaid imi gael gair gyda'r Frenhines. |
| (Harbona) 'Fedra i ddim gofyn i'r Frenhines ddod atat ti fel yna. | |
| (Harbona) 'Fedra i ddim gofyn i'r Frenhines ddod atat ti fel yna. | |
| (1, 0) 328 | Mi fyddi di'n digio'r Frenhines os gwrthodi. |
| (Harbona) 'Does neb heb achos mawr yn gweld y Frenhines. | |
| (Harbona) 'Does neb heb achos mawr yn gweld y Frenhines. | |
| (1, 0) 330 | Y tro dwaetha, trwy ddeud wrth y Frenhines yr achubais i fywyd y Brenin. |
| (Harbona) Ydy'r Brenin mewn perigl eto? | |
| (Harbona) Ydy'r Brenin mewn perigl eto? | |
| (1, 0) 332 | Mae'r Frenhines mewn perigl. |
| (Harbona) Y Frenhines mewn perigl? | |
| (Harbona) 'Wyt ti'n siŵr? | |
| (1, 0) 335 | Mor siŵr â phan grogwyd Bigthana a Theres am fwriadu llofruddio'r Brenin. |
| (Harbona) Y Frenhines mewn perigl! | |
| (Esther) Beth ydy' ystyr hyn? | |
| (1, 0) 346 | O na bai fy mhen i'n ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau. |
| (Esther) Harbona, 'rydw i'n dymuno ymddiddan gyda'r Iddew hwn heb i neb ddyfod ar fy nhraws i. | |
| (Harbona) Mi drefna'i, Arglwyddes, na ddaw neb oll ar eich cyfyl chi. | |
| (1, 0) 350 | 'Glywaist ti'r Proclamasiwn? |
| (Esther) 'Rydw' i wedi ei ddarllen o. | |
| (Esther) 'Rydw' i wedi ei ddarllen o. | |
| (1, 0) 352 | Dy genedl di, Esther. |
| (Esther) Fy nghenedl i. | |
| (Esther) Mae'n dda gen' i dy fod ti'n cydnabod hynny. | |
| (1, 0) 356 | 'Wyt ti'n deall be' mae'r Proclamasiwn yn ei i olygu? |
| (Esther) Angau'n dringo i'n ffenestri ni i ddinistrio'r rhai bychain? | |
| (Esther) Ydw', 'rydw' i'n deall. | |
| (1, 0) 359 | Mae hynny'n digwydd o hyd, ym mhob rhan o'r byd. |
| (1, 0) 360 | Lle bynnag y mae dynion, fe geir lladd plant bach a babanod. |
| (1, 0) 361 | Mae hwn heddiw yn wahanol iawn. |
| (Esther) Ein cenedl |ni|? | |
| (Esther) Dyna wyt ti'n ei feddwl? | |
| (1, 0) 364 | Nage. |
| (1, 0) 365 | Pa ots am hynny? |
| (1, 0) 366 | Ond cenedl Duw, Esther, cenedl Duw. |
| (Esther) Duw Abraham, Duw Isaac, Duw Jacob. | |
| (Esther) Duw'r addewid. | |
| (1, 0) 369 | Yr unig Dduw. |
| (1, 0) 370 | Y Duw byw. |
| (1, 0) 371 | Duw Israel. |
| (1, 0) 372 | Ni yw ei dystion o. |
| (1, 0) 373 | Yr unig dystion sy ganddo drwy'r byd. |
| (1, 0) 374 | Dyna'n swydd ni, dyna'n gorchwyl ni ar y ddaear,─deud ei fod o'n bod. |
| (1, 0) 375 | Mae'r Proclamasiwn yma'n dileu hynny. |
| (Esther) Ti ddaru fy magu i, Mordecai, ti ddaru fy nysgu i. | |
| (Esther) Fedr y Proclamasiwn ddileu hynny? | |
| (1, 0) 380 | Pwy all ateb? |
| (1, 0) 381 | Mae'n amhosib ateb. |
| (Esther) Mae O'n dibynnu arnon |ni|? | |
| (Esther) Mae O'n dibynnu arnon |ni|? | |
| (1, 0) 383 | Cyfamod ydy' hi. |
| (1, 0) 384 | Trwom ni mae O'n gweithredu. |
| (1, 0) 385 | Ein tasg ni yw atal y perig. |
| (1, 0) 386 | Ni sy'n gyfrifol. |
| (Esther) Ti sy'n gyfrifol. | |
| (Esther) Ti sy'n gyfrifol. | |
| (1, 0) 388 | Fi'n gyfrifol? |
| (Esther) Dy waith di yw'r Proclamasiwn hwn. | |
| (Esther) Dy waith di yw'r Proclamasiwn hwn. | |
| (1, 0) 390 | Esther! |
| (Esther) Morynion y palas sy'n deud hynny. | |
| (Esther) Dyna holl sgwrs y gweision ym mhorth y palas. | |
| (1, 0) 393 | Sut hynny? |
| (Esther) Oblegid dy fod ti'n anufuddhau i orchymyn y Brenin. | |
| (Esther) Oblegid dy fod ti'n anufuddhau i orchymyn y Brenin. | |
| (1, 0) 395 | Mi wela' i. |
| (1, 0) 396 | Haman? |
| (Esther) Prif weinidog y Brenin. | |
| (Esther) Dial Haman, mae'r gweision yn deud, ydy'r Proclamasiwn hwn. | |
| (1, 0) 401 | Maen' nhw'n iawn. |
| (1, 0) 402 | Dial Haman ydy' hwn. |
| (1, 0) 403 | Hen, hen gas. |
| (1, 0) 404 | Hen, hen ddial. |
| (1, 0) 405 | Y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt. |
| (Esther) Wyt ti'n dal i ddeud mai trwom ni y mae O'n gweithredu? | |
| (Esther) Wyt ti'n dal i ddeud mai trwom ni y mae O'n gweithredu? | |
| (1, 0) 407 | Be arall y galla' i ddeud? |
| (Esther) Os felly, mi fedri di rwystro'r dinistr yma. | |
| (Esther) Os felly, mi fedri di rwystro'r dinistr yma. | |
| (1, 0) 409 | Er mwyn hynny yr ydw' i yma. |
| (Esther) Y cwbwl sy raid yw derbyn gorchymyn y Brenin. | |
| (Esther) Y cwbwl sy raid yw derbyn gorchymyn y Brenin. | |
| (1, 0) 411 | Sut? |
| (Esther) Cymodi â Haman. | |
| (1, 0) 415 | Esther! |
| (1, 0) 416 | 'Wyt ti'n wallgo? |
| (Esther) Gwallgo? | |
| (Esther) Pam? | |
| (1, 0) 419 | Wyt ti wedi anghofio'r holl draddodiadau? |
| (1, 0) 420 | Popeth a ddysgais i iti? |
| (1, 0) 421 | Ymgrymu i Haman yr Agagiad? |
| (Esther) 'Ydy hynny'n ormod i'w ofyn er mwyn achub cenedl Israel? | |
| (Esther) 'Ydy hynny'n ormod i'w ofyn er mwyn achub cenedl Israel? | |
| (1, 0) 423 | 'Wyt ti'n meddwl mai o falchter neu o genfigen neu o chwant gogoniant i mi fy hunan y gwnes i hyn, gwrthod anrhydeddu Haman? |
| (Esther) Nid fi sy'n dy gyhuddo di. | |
| (Esther) Nid fi sy'n dy gyhuddo di. | |
| (1, 0) 425 | 'Rydw i'n galw Duw yn dyst y byddwn i'n barod i gusanu ôl ei draed o er mwyn iachawdwriaeth i Israel. |
| (Esther) Mi allai llai na hynny ennill ei gymod o. | |
| (Esther) Mi allai llai na hynny ennill ei gymod o. | |
| (1, 0) 427 | Rhyngddo fo a Duw Israel mae cymod yn amhosib. |
| (1, 0) 428 | Rhyngddo fo a minnau mae cymod yn amhosib. |
| (1, 0) 429 | Y Duw byw ydy' ei elyn o. |
| (1, 0) 430 | Disodli Duw ydy' ergyd y Proclamasiwn yma. |
| (1, 0) 431 | Tewi'r dystiolaeth. |
| (1, 0) 432 | Dial a dileu cosb Duw ar Agag. |
| (1, 0) 433 | Dyna'r pam na fedra' i fyth ymgrymu iddo. |
| (1, 0) 434 | Mi fyddai ymgrymu iddo'n frad. |
| (1, 0) 435 | Mi wyddost ti hynny. |
| (Esther) Fy enaid sydd ym mysg llewod: dynion poethion sy'n fy llyncu i. | |
| (Esther) Fy enaid sydd ym mysg llewod: dynion poethion sy'n fy llyncu i. | |
| (1, 0) 437 | lddewes wyt tithau, fy nghyfnither. |
| (Esther) Ddaru 'mi 'rioed wadu hynny. | |
| (Esther) Fel merch ufudd, Mordecai. | |
| (1, 0) 443 | A heddiw 'rwyt ti'n frenhines yn gwisgo coron yr ymerodraeth. |
| (Esther) 'Does dim coron ar fy mhen i 'rwan. | |
| (Esther) 'Fydda' i byth yn ei gwisgo hi ond pan ga' i 'ngalw at y Brenin. | |
| (1, 0) 446 | 'Ydy dy ddyrchafiad di wedi dy wneud di'n rhy falch i hitio am dynged dy bobl? |
| (Esther) 'Welaist ti fi'n falch? | |
| (Esther) 'Rydw i'n alltud ymhlith alltudion Judah. | |
| (1, 0) 452 | 'Wyt ti'n barod i arddel dy genedl yn awr ei chyfyngder? |
| (Esther) Dy bobl di yw fy mhobl i a'th Dduw di fy Nuw innau. | |
| (Esther) Dy bobl di yw fy mhobl i a'th Dduw di fy Nuw innau. | |
| (1, 0) 454 | Pwy sy'n gwybod nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost ti i'th frenhiniaeth? |
| (Esther) Be' fedra'i ei wneud? | |
| (Esther) Be' fedra'i ei wneud? | |
| (1, 0) 456 | Mi gefais i freuddwyd neithiwr. |
| (Esther) Breuddwyd? | |
| (Esther) O'r gora', dywed dy freuddwyd. | |
| (1, 0) 460 | 'Roedd 'na dwrw t'ranau a diwrnod tywyll, niwlog, cystudd ac ing, a thrallod mawr ar y ddaear. |
| (1, 0) 461 | A dyma ddwy ddraig yn dyfod allan i ymladd ac yn gwneud sŵn i ddychryn y byd. |
| (1, 0) 462 | Ac wrth y sŵn dacw'r holl genhedloedd yn paratoi i ymladd yn erbyn y genedl santaidd i'w difetha hi. |
| (1, 0) 463 | Gwaeddodd hithau ar ei Duw, ac ar hynny mi darddodd ffynnon fechan, ac o'r ffynnon fe ddaeth afon fawr a goleuni a chodiad haul, a'r rhai isel yn cael eu dyrchafu ac yn difa'r rhai mawrion trahaus. |
| (1, 0) 464 | Dyna fy mreuddwyd i. |
| (Esther) 'Oes gennyt ti ddawn Joseff? | |
| (Esther) 'Fedri di ddeud ystyr dy freuddwyd? | |
| (1, 0) 467 | Y ddwy ddraig ydw' i a Haman. |
| (1, 0) 468 | Y cenhedloedd ydy'r rheini ym mhob cwr o'r ymerodraeth sy'n paratoi 'rwan i ddifetha cenedl Duw. |
| (1, 0) 469 | Heddiw ydy'r diwrnod tywyll niwlog a'r Proclamasiwn y bore 'ma ydy'r sŵn t'ranau. |
| (Esther) A'r ffynnon fechan a aeth yn afon fawr nes dyfod goleuni a chodiad haul? | |
| (Esther) A'r ffynnon fechan a aeth yn afon fawr nes dyfod goleuni a chodiad haul? | |
| (1, 0) 471 | Y ffynnon fechan honno wyt ti, Esther. |
| (Esther) Fi? | |
| (Esther) Sut y gall hynny fyth fod? | |
| (1, 0) 476 | Trwy iti fynd i mewn at y Brenin a chyffesu mai Iddewes wyt ti, ac ymbil dros einioes dy bobl. |
| (1, 0) 477 | Ti'n unig 'fedr ein hachub ni. |
| (Esther) {Yn bendant.} | |
| (Esther) Na!... Na! | |
| (1, 0) 480 | Esther! |
| (Esther) Na! | |
| (Esther) Na! | |
| (1, 0) 482 | Pam na? |
| (Esther) Mi wyddost y gyfraith. | |
| (Esther) 'Rwyt ti dy hun yn un o weision y Brenin yn y porth. | |
| (1, 0) 485 | Ti yw'r Frenhines. |
| (Esther) Mae'r ddeddf yn bendant: pwy bynnag sy'n mynd i mewn at y Brenin heb ei alw, gŵr neu wraig, brenhines neu arall, fe'i rhoir i farwolaeth. | |
| (Esther) Mae'r ddeddf yn bendant: pwy bynnag sy'n mynd i mewn at y Brenin heb ei alw, gŵr neu wraig, brenhines neu arall, fe'i rhoir i farwolaeth. | |
| (1, 0) 487 | Dyna lythyren y gyfraith. |
| (1, 0) 488 | Ac yn y ddeddf ei hunan y mae eithriad. |
| (Esther) Fod y Brenin yn estyn ei deyrn-wialen aur tuag ato mewn maddeuant? | |
| (Esther) 'Does neb yn cofio fod yr eithriad erioed wedi digwydd. | |
| (1, 0) 492 | Ond mi all ddigwydd. |
| (1, 0) 493 | Mae'r gyfraith yn darpar ar gyfer hynny. |
| (Esther) Mi all beidio â digwydd. | |
| (Esther) Mi all beidio â digwydd. | |
| (1, 0) 495 | Ac y mae arnat ti ofn colli dy goron? |
| (Esther) Mae'r goron ohoni ei hun mor ffiaidd gen' i â chadach misglwyf. | |
| (Esther) Mae'r goron ohoni ei hun mor ffiaidd gen' i â chadach misglwyf. | |
| (1, 0) 497 | 'Rwyt ti'n meddwl y gelli di ddianc rhag angau yn nhŷ'r Brenin. |
| (1, 0) 498 | Mi fydd calaneddau dy genedl yn syrthio fel tom ar wyneb y tir, a thithau yng ngwely'r ymerawdwr. |
| (Esther) Nid fi a guddiodd mai Iddewes ydw' i. | |
| (Esther) Nid fi a guddiodd mai Iddewes ydw' i. | |
| (1, 0) 500 | 'Fedri di ddim dianc. |
| (1, 0) 501 | Os tewi wnei di a chuddio dy dras 'rwan, fe ddaw ymwared i'r Iddewon o rywle arall, ac fe'th gollir dithau a thŷ dy dad am byth. |
| (Esther) Mordecai, mae arna' i ofn marw fel pawb arall. | |
| (Esther) Nid mwy na phawb arall. | |
| (1, 0) 504 | Mae'r Proclamasiwn yn glir a phendant. |
| (1, 0) 505 | 'Chaiff neb Iddew ddianc. |
| (Esther) lddew ydw' i. | |
| (Esther) lddew ydw' i. | |
| (1, 0) 507 | Felly rhaid iti farw |heb| fynd at y Brenin. |
| (1, 0) 508 | 'Does gennyt ti ddim i'w golli. |
| (Esther) Mwy, mwy nag a freuddwydiaist ti. | |
| (Esther) Mwy, mwy nag a freuddwydiaist ti. | |
| (1, 0) 510 | Rhaid iti farw heb fynd ato. |
| (1, 0) 511 | O fentro a mynd ato, y mae siawns, siawns, iti achub dy fywyd dy hun ac einioes dy genedl. |
| (1, 0) 512 | Hynny yw, y mae siawns iti achub popeth. |
| (1, 0) 513 | 'Fedri di ddim colli ond yr hyn sy eisoes wedi ei golli. |
| (1, 0) 514 | 'Wyt ti ddim yn gweld? |
| (1, 0) 515 | 'Does gennyt ti ddim i'w golli, ac fe elli ennill dy fywyd dy hun a'r ddaear i bobl Dduw. |
| (Esther) Mordecai, mae 'na bethau nad oes gan neb hawl i'w gofyn gan ferch, hyd yn oed yn enw Duw. | |
| (Esther) Mordecai, mae 'na bethau nad oes gan neb hawl i'w gofyn gan ferch, hyd yn oed yn enw Duw. | |
| (1, 0) 517 | Beth ydyn' nhw? |
| (Esther) Wyddost ti fod mis cyfan a rhagor er pan alwodd y Brenin fi ato? | |
| (Esther) Deng noson ar hugain. | |
| (1, 0) 521 | 'Rwyt ti'n cyfri'r nosweithiau? |
| (Esther) Ydw', yn eu cyfri nhw. | |
| (Esther) Fel unrhyw wraig briod. | |
| (1, 0) 524 | Nid unrhyw ŵr priod ydy' yntau. |
| (1, 0) 525 | Brenin ac ymerawdwr. |
| (Esther) 'Does neb yn ymerawdwr rhwng llieiniau'r gwely. | |
| (Esther) 'Does neb yn ymerawdwr rhwng llieiniau'r gwely. | |
| (1, 0) 527 | Mae ganddo lond tŷ o gariadon a gordderchadon. |
| (Esther) 'Rwyt ti'n siarad fel un o ferched y palas. | |
| (Esther) Maen' nhw wrth eu bodd yn edliw hynny imi. | |
| (1, 0) 530 | Cystal i tithau ddygymod. |
| (Esther) Ond fi yw ei wraig briod o. | |
| (Esther) Ond fi yw ei wraig briod o. | |
| (1, 0) 532 | Dyna'r pam y mae siawns iddo estyn y deyrn-wialen tuag atat. |
| (Esther) A siawns, siawns arswydus, iddo beidio. | |
| (Esther) A siawns, siawns arswydus, iddo beidio. | |
| (1, 0) 534 | 'Rydw i'n cydnabod hynny. |
| (Esther) Mae'r gyfraith a'r traddodiad o blaid iddo beidio, yn enwedig ar ôl anufudd-dod Fasti. | |
| (Esther) Mae'r gyfraith a'r traddodiad o blaid iddo beidio, yn enwedig ar ôl anufudd-dod Fasti. | |
| (1, 0) 536 | 'Dydw i ddim yn gwadu. |
| (1, 0) 537 | Yr ydyn ni i gyd, bob Iddew byw, dan ddedfryd marwolaeth. |
| (Esther) Nid dyna'r pwynt o gwbwl. | |
| (Esther) Mi allwn i ddiodde hynny. | |
| (1, 0) 540 | Be sy arnat ti ei ofn? |
| (1, 0) 541 | Beth na fedri di ddim ei ddiodde? |
| (Esther) Oes rhaid deud wrthyt ti? | |
| (Esther) Petaut ti'n ferch, mi fuasit wedi deall ers talwm. | |
| (1, 0) 544 | Nid merch ydw' i. |
| (1, 0) 545 | Rhaid deud. |
| (Esther) Bod yn fyw hyd yn oed am eiliad ar ôl iddo fo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i. | |
| (Esther) Bod yn fyw hyd yn oed am eiliad ar ôl iddo fo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i. | |
| (1, 0) 547 | 'Fedra'i mo'th ddilyn di. |
| (Esther) Mordecai, nid fy newis i oedd priodi'r Brenin. | |
| (Esther) Y diwrnod wedyn mi roes o ei law imi'n ffurfiol o flaen y llys, fy mhriodi a rhoi'r goron ar fy mhen, ac fe fu gwledd i'r holl deyrnas am wythnosau. | |
| (1, 0) 556 | A rwan? |
| (Esther) Mae mis o nosweithiau er pan welais i o. | |
| (Esther) A rhwng ei balas o a'm palas innau 'does ond hanner canllath o lwybr. | |
| (1, 0) 562 | 'Wyt ti'n poeni? |
| (Esther) Lliw nos yn fy ngwely y ceisia' i'r hwn a hoffa fy enaid. | |
| (Esther) 'Rydw i'n fy ngorfodi fy hun i edrych yn frenhines, ac mae arna' i eisiau beichio crio fel babi ar goll. | |
| (1, 0) 566 | Fy merch fach i, beth arall oedd i'w ddisgwyl? |
| (Esther) 'Rydw i ar goll, Mordecai, ar goll. | |
| (Esther) Nid ei fawredd o, na dim byd sy'n perthyn iddo fo, ond fo'i hunan, y dyn sy'n ŵr priod imi. | |
| (1, 0) 573 | Pam felly nad ei di ato? |
| (1, 0) 574 | Pa raid iti ofni angau ar ei law o? |
| (Esther) Nid ofni angau yr ydw' i. | |
| (Esther) Ond ofni iddo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i. | |
| (1, 0) 577 | Angau ydy ystyr hynny. |
| (Esther) Yr ail angau, yn dwad cyn yr angau cynta'. | |
| (Esther) Angau'r galon, angau enaid, y siom sy'n farwolaeth fyw, y gallai o edrych o'i orsedd arna' i─a pheidio. | |
| (1, 0) 580 | Esther druan, peth ynfyd, peth disynnwyr ydy rhoi dy galon i frenin. |
| (Esther) 'Oes gen' i help? | |
| (Esther) 'Oes gen' i help? | |
| (1, 0) 582 | Pethau sy'n mynd a dwad yw merched yn ei fywyd o, a llond palas o gariadon at ei alw. |
| (Esther) Mordecai, paid â bod mor ddwl. | |
| (Esther) Fi mae o'n caru. | |
| (1, 0) 589 | Pam na wnei di wynebu ffeithiau? |
| (1, 0) 590 | 'Rwyt ti'n deud hynny er mwyn dy gysuro dy hun ac er mwyn dy argyhoeddi dy hun. |
| (1, 0) 591 | A 'dwyt ti ddim yn ei gredu o. |
| (Esther) Ydw, mi 'rydw i'n ei gredu o. | |
| (Esther) Mac 'mywyd i'n dibynnu ar ei fod o'n wir. | |
| (1, 0) 596 | Mae bywyd dy genedl di, mae'r addewid i'r byd, mae gobaith, unig obaith y ddynoliaeth, yn dibynnu ar ei fod o'n wir. |
| (1, 0) 597 | Rydw i'n dy herio di i brofi ei fod o'n wir. |
| (Esther) Mae o'n fy ngharu i. | |
| (Esther) Rhywbeth rhyngddo fo a minnau ydy o. | |
| (1, 0) 601 | 'Rwyt ti'n deud celwydd wrth dy galon dy hun. |
| (1, 0) 602 | Y mae prawf. |
| (1, 0) 603 | Mi wyddost tithau fod prawf. |
| (1, 0) 604 | Cariad neu angau. |
| (Esther) Angau yw'r ddeddf. | |
| (Esther) Angau yw'r ddeddf. | |
| (1, 0) 606 | A 'dyw cariad ddim dan y ddeddf. |
| (1, 0) 607 | Mae cariad yn rhydd o'r ddeddf. |
| (Esther) 'Docs gen' i ddim hawl i gamblo ar ei gariad o. | |
| (Esther) 'Docs gen' i ddim hawl i gamblo ar ei gariad o. | |
| (1, 0) 609 | Oes, mae gen' ti hawl, gan dy fod ti'n mentro dy fywyd. |
| (1, 0) 610 | Ond 'does gen' ti mo'r ffydd. |
| (1, 0) 611 | 'Dwyt ti ddim yn credu yn ei gariad o. |
| (1, 0) 612 | 'Feiddi di ddim. |