| (Gwladys) Y mae'r postmon yn hwyr iawn heddyw. | |
| (Gwladys) A bydd fy modryb yma cyn hynny, y mae'n debyg! | |
| (1, 0) 161 | Ac wedi mynd allan y mae Mrs. Owen felly? |
| (Marged) le, ma'm. | |
| (Marged) Fydd hi ddim yn arfer mynd allan mor gynnar. | |
| (1, 0) 165 | O. |
| (1, 0) 166 | Ac i ba le yr aeth Mr. Owen, ynteu? |
| (Marged) Yr ydw i yn credu mai allan yr aeth yntau hefyd. | |
| (Marged) Ni ddywedodd o ddim wrthyf i ble'r oedd o yn mynd, dim ond peri i mi, os doe yma ryw wr bonheddig i holi amdano, ofyn i hwnnw fod mor garedig a galw eilwaith, neu ynte aros hyd nes y doe o yn ei ôl. | |
| (1, 0) 169 | Wel, ni welais i erioed beth rhyfeddach na bod y ddau wedi mynd allan fel hyn, a minnau wedi gyrru i ddywedyd fy mod yn dyfod. |
| (1, 0) 170 | Wrth gwrs, mi gyrhaeddais yma yn gynt nag yr oeddwn yn disgwyl fy hun. |
| (1, 0) 171 | Ac y mae arnaf eisiau bwyd. |
| (1, 0) 172 | A fyddech chwi cystal a gwneud cwnaned o de i mi? |
| (Marged) Ar unwaith, ma'm, wrth gwrs. | |
| (Marged) Dacw'r gloch, os bydd arnoch eisiau rhywbeth arall, ma'm. | |
| (1, 0) 189 | O, diolch i chwi! |
| (1, 0) 191 | Arhoswch funud, Ers pa faint yr ydych chwi yma? |
| (1, 0) 192 | Yr wyf yn credu fy mod wedi eich gweled pan oeddwn i yma ryw ddeufis yn ol? |
| (Marged) Do, ma'm. | |
| (Marged) Rydw i hefo Mrs. Owen er pan ddaethon nhw i fyw i'r ty yma gyntaf. | |
| (1, 0) 195 | O, da iawn. |
| (1, 0) 196 | Yr ydych yn fodlon ar eich lle felly? |
| (1, 0) 197 | Y mae'n anodd cael merched i aros yn hir yn yr un lle yn awr. |
| (Marged) O, ydw, ma'm, yn ddigon bodlon ar fy lle. | |
| (Marged) Wyddwn i ddim cyn dwad yma fod pobl 'run fath a nhw i'w cael. | |
| (1, 0) 202 | Y mae'n dda gennyf glywed hynny. |
| (1, 0) 203 | Y mae Mr. Owen yn gweithio yn galed onid yw? |
| (Marged) Yn galed iawn ma'm. | |
| (Marged) Yn wir, mae o wedi dechreu eisoes, mi fyddaf yn gorfod eistedd iddo fo. | |
| (1, 0) 214 | Felly yn wir. |
| (1, 0) 215 | Wel, y mae'n sicr fod Mr. Owen yn ennill arian mawr, gan ei fod mor brysur o hyd? |
| (Marged) {Gan ysgwyd ei phen.} | |
| (Marged) Nid yw pobl yn leicio 'i baent o, medde fo─ond ni welais i ddim byd clysach erioed. | |
| (1, 0) 219 | O, pam, tybed, nad ydynt yn leicio 'i baent o? |
| (Marged) Wn i ddim, ond mi clywais o'n deyd y base fo'n gwneud yn llawer gwell 'tase fo wedi dysgu paentio â'i dafod. | |
| (Marged) O! un digri ydi o! | |
| (1, 0) 225 | Wel, feddyliwn i mai e! |
| (1, 0) 226 | Yr ydych yn forwyn werthfawr iddynt, ac y mae'n sicr eich bod yn cael cyflog da. |
| (Marged) {Gan ysgwyd eí phen.} | |
| (Marged) Hwyrach fy mod i yn wirion, ond mi fydde'n well gen i fod yma am ddim na chael cyflog mawr mewn rhai lleoedd y gwn i amdanynt, lle na chaiff rhywun barch mwy na phe tae o gi ac na welwch chi ddim byd clws ddydd mewn blwyddyn! | |
| (1, 0) 233 | Wel, wel. |
| (1, 0) 234 | Hwyrach mai chwi sydd yn iawn yn wir. |
| (1, 0) 235 | Peth ardderchog ydyw bod yn hapus ac yn fodlon. |
| (1, 0) 236 | Diolch i chwi. |
| (Marged) Wn i ar y ddaear beth i'w wneud ma'm, os maddeuwch i mi am ddwad atoch chi fel hyn. | |
| (Marged) Wn i ar y ddaear beth i'w wneud ma'm, os maddeuwch i mi am ddwad atoch chi fel hyn. | |
| (1, 0) 242 | Beth sydd? |
| (Marged) Wel, mi ddaeth rhyw ddyn dieithr at y drws, a holi am Mr. Owen. | |
| (Marged) Ac y mae o yrwan yn sefyll yn y lobi, ac ni wn i ar y ddaear beth i'w wneud ag o, ma'm. | |
| (1, 0) 249 | A oes yma ddim ystafell arall y gallech ei droi iddi i aros? |
| (Marged) Wel, oes, ma'm, ond, nid oes─'rydym ar ganol glanhau, fel tae, ac y maent yn o annhrefnus, felly, i gyd ond hon, ma'm. | |
| (Marged) Wel, oes, ma'm, ond, nid oes─'rydym ar ganol glanhau, fel tae, ac y maent yn o annhrefnus, felly, i gyd ond hon, ma'm. | |
| (1, 0) 251 | O, wel, os ydyw yn ddyn a golwg parchus arno, dowch ag ef i mewn yma, wrth gwrs─nid oes gennyf i ddim yn erbyn. |
| (Marged) Diolch yn fawr i chi, ma'm. | |
| (1, 0) 260 | Peidiwch â son. |
| (1, 0) 261 | Am weled Mr. Owen yr oeddych chwithau, y mae'n debyg? |
| (Morgan) Ie, ma'm. | |
| (Morgan) Ac y mae hon yn biano ardderchog hefyd, onid yw? | |
| (1, 0) 271 | Ydyw. |
| (1, 0) 274 | Ah! diolch i chwi, syr. |
| (1, 0) 275 | Ni chlywais i mo'r miwsig yna ers llawer blwyddyn! |
| (Morgan) Wel, na minnau chwaith. | |
| (Morgan) Rhaid i chwi f'esgusodi i am chwerthin, ond ni fedrwn i yn fy myw beidio. | |
| (1, 0) 281 | Popeth yn iawn. |
| (1, 0) 282 | Daw miwsig â phob math o bethau i gof dyn, oni ddaw? |
| (Morgan) Pob math. | |
| (Morgan) Mi welaf eich bod chwithau 'n deall miwsig, ma'm. | |
| (1, 0) 285 | Ychydig. |
| (1, 0) 286 | Mi fyddwn gynt yn hoff ryfeddol o ganu ac o'r piano hefyd. |
| (Morgan) Wel, mi ddylwn esbonio i chwi pam y chwerddais innau. | |
| (Morgan) Felly fu, ond yr oedd y gynulleidfa o'n plaid, a rhoes y cadeirydd wobr arbennig i ni. | |
| (1, 0) 302 | Doniol iawn! |
| (1, 0) 304 | Ac felly, John Morgan yw eich henw chwi? |
| (Morgan) {Gan gyfodi.} | |
| (1, 0) 309 | le! |
| (Morgan) {Yn estyn ei law.} | |
| (Morgan) Euthum i ffwrdd i'r America, fel y gallai eich bod yn cofio, yn union deg wedyn. | |
| (1, 0) 315 | Ydwyf, yr wyf yn cofio. |
| (Morgan) A dyma chwi─wel, erbyn sylwi, rhaid i mi ddywedyd nad ydych wedi altro cymaint, ond bod eich gwallt wedi troi ei liw, fel fy ngwallt innau. | |
| (Morgan) Wel, y mae'n dda gennyf eich gweled, yn wir. | |
| (1, 0) 318 | Fel yr oeddych yn canu'r piano daeth y cwbl yn ol i'm cof innau, ond ni feddyliais ddim unwaith mai chwi oedd yna hyd nes i chwi ddechreu dywedyd yr hanes. |
| (Morgan) Wel, yn wir, peth rhyfedd yw bywyd! | |
| (Morgan) A pha beth yn y byd a barodd i mi ganu'r dernyn yna ar y piano? | |
| (1, 0) 322 | Pwy ŵyr? |
| (Morgan) le, pwy ŵyr! | |
| (Morgan) Clywais ddarlithiwr yn America yn dywedyd fod greddf dyn yn ateb i filoedd o fân bethau na ŵyr ei ymwybod ddim yn y byd amdanynt. | |
| (1, 0) 325 | Digon tebyg. |
| (1, 0) 326 | Pwy ŵyr? |
| (Morgan) {Yn fyfyrgar.} | |
| (Morgan) Ond ym mha le yr ydych yn byw─yn yr hen gartref o hyd? | |
| (1, 0) 330 | Nage. |
| (1, 0) 331 | Yr wyf yn byw yn Llundain ers blynyddoedd, ond fy mod yn digwydd bod yng Nghymru ers tro, ac wedi dyfod yma i edrych am fy nith cyn mynd yn f'ôl. |
| (Morgan) Mrs. Owen─a yw hi yn nith i chwi? | |
| (Morgan) Mrs. Owen─a yw hi yn nith i chwi? | |
| (1, 0) 333 | Ydyw, merch Dafydd fy mrawd. |
| (Morgan) Dyn byw! | |
| (Morgan) A yw Dafydd yn fyw o hyd?─mi garwn ei weled. | |
| (1, 0) 338 | Nag ydyw─wedi ei gladdu ers blynyddoedd, druan. |
| (Morgan) Felly yn wir, y mae'n chwith gennyf feddwl, Ni chlywswn i ddim o'r hanes. | |
| (Morgan) A! yr hen amser gynt! | |
| (1, 0) 344 | Dowch i mewn! |
| (Marged) Maddeuwch i mi ma'm. | |
| (Marged) Mae rhyw ddynion wrth y drws yn holi am─am─am ryw Mr. Morgan─ | |
| (1, 0) 348 | le─ |
| (Morgan) O, myfi yw hwnnw. | |
| (Morgan) Esgusodwch fi funud, Miss Jones, mi af atynt. | |
| (1, 0) 352 | Wrth reswm, Morgan. |
| (1, 0) 355 | Marged! |
| (Marged) Wel, ma'm. | |
| (Marged) Wel, ma'm. | |
| (1, 0) 357 | Dau funud! |
| (1, 0) 358 | Dywedwch y gwir wrthyf yn awr─raid i chwi ddim ofni, cofiwch, ond dywedwch y gwir plaen wrthyf. |
| (Marged) le ma'm, wrth gwrs─debyg iawn─mewn ffordd o siarad─fel tae─ | |
| (Marged) le ma'm, wrth gwrs─debyg iawn─mewn ffordd o siarad─fel tae─ | |
| (1, 0) 360 | Beth yw'r helynt? |
| (1, 0) 361 | Dywedasoch wrthyf fod Mr. Morgan─y dyn a aeth allan yn awr─wedi gofyn i chwi a oedd yma biano yn y ty? |
| (Marged) Do, ma'm─o leiaf, felly y deallais i─ | |
| (Marged) Do, ma'm─o leiaf, felly y deallais i─ | |
| (1, 0) 363 | Wel, pwy sydd wrth y drws yn awr? |
| (Marged) Dau ddyn, ma'm, yn holi am Mr. Morgan. | |
| (Marged) Dau ddyn, ma'm, yn holi am Mr. Morgan. | |
| (1, 0) 365 | Rhywbeth arall? |
| (Marged) {Yn edrych yn gymysglyd.} | |
| (Marged) Deyd yr oedden nhw, ma'm, eu bod wedi dwad, ma'm, i nôl y piano, ma'm, os gwelwch yn dda. | |
| (1, 0) 369 | O, mi welaf. |
| (1, 0) 370 | Diolch i chwi, Marged. |
| (1, 0) 371 | Gellwch fynd yn awr, ac ni raid i chwi boeni dim eich bod wedi dywedyd i gwir wrthyf i. |
| (Marged) Diolch i chi, ma'm. | |
| (1, 0) 375 | Wel, wel! |
| (1, 0) 376 | Yr oeddwn i yn ofni, yn wir! |
| (Morgan) Maddeuwch i mi am eich gadael chwi. | |
| (Morgan) Daethant yma ar f'ôl i holi, yn lle gwrando pan oeddwn yn dywedyd wrthynt pa beth i'w wneud. | |
| (1, 0) 382 | Ai siop fiwsig sydd gennych, Morgan? |
| (Morgan) Ie, siwr─dyna fy mhethau hyd heddyw, welwch chwi. | |
| (Morgan) Ie, siwr─dyna fy mhethau hyd heddyw, welwch chwi. | |
| (1, 0) 384 | Ac yn eich siop chwi, y mae'n ddiameu, y prynodd Mr. a Mrs. Owen y piano yna? |
| (Morgan) Ie, siwr, ac un o'r rhai goreu ydyw hefyd. | |
| (Morgan) Byddai'n bleser anghyffredin gennyf pe doech, yn wir. | |
| (1, 0) 393 | Wel, diolch yn fawr i chwi, Morgan. |
| (1, 0) 394 | Ni waeth i mi heb ddisgwyl yn y fan yma am wn i. |
| (1, 0) 395 | Dont yn eu holau cyn y nos hwyrach. |
| (1, 0) 396 | A bydd yn hyfryd cael sôn am yr hen amser, oni bydd? |
| (Morgan) Bydd, yn wir. | |
| (Gwladys) Ni byddaf i ddim yn hir, Merfyn! | |
| (1, 0) 543 | Merfyn! |
| (Merfyn) {Yn neidio ar ei draed yn sydyn.} | |
| (Merfyn) {Gan rwbio ei lygaid.} | |
| (1, 0) 547 | A ydych yn sal, Merfyn? |
| (1, 0) 548 | Y mae golwg wael arnoch, fy machgen i. |
| (Merfyn) {Gan dynnu ei law dros ei dalcen.} | |
| (Merfyn) Maddeuwch i mi. | |
| (1, 0) 561 | Ble y mae Gwladys? |
| (Merfyn) Wedi mynd allan ar neges. | |
| (Merfyn) Bu raid ini fynd allan ein dau, ac fel y digwyddodd, cawsom ein cadw yn o hir cyn dyfod yn ôl. | |
| (1, 0) 566 | O, na phoenwch am hynny; digwyddais daro ar Mr. Morgan, sy'n hen gydnabod i mi, a chefais ginio gydag ef.. |
| (1, 0) 567 | Buom yn son am yr hen amser, onid do, Morgan? |
| (Morgan) Do, yn wir, ac yn cofio hen ganeuon─ni chefais i gymaint o bleser ers blynyddoedd lawer! | |
| (Morgan) Do, yn wir, ac yn cofio hen ganeuon─ni chefais i gymaint o bleser ers blynyddoedd lawer! | |
| (1, 0) 569 | Wel, na minnau chwaith, dywedyd y gwir. |
| (1, 0) 570 | Felly, ni raid i chwi boeni dim, Merfyn. |
| (1, 0) 571 | Yr wyf yn gobeithio bod Gwladys yn iach─ |
| (Gwladys) {Yn rhedeg i mewn.} | |
| (Gwladys) O! O! 'modryb! | |
| (1, 0) 579 | Beth sydd wedi digwydd? |
| (1, 0) 580 | Y mae rhywbeth o'i le amoch eich dau, goeliaf i? |