| (Efa) {Try edrych am foment.} | |
| (Efa) Hst! | |
| (1, 0) 21 | Bob tro y do' i adre, dim ond yr un sŵn o hyd! |
| (1, 0) 22 | A thithau wedi dianc i fyd breuddwyd! |
| (Efa) Paid! | |
| (1, 0) 25 | 'Rwy' wedi blino. |
| (Efa) Ble'r wyt ti wedi bod? | |
| (Efa) Ble'r wyt ti wedi bod? | |
| (1, 0) 27 | Yn y labordy. |
| (1, 0) 28 | Ble arall! |
| (Efa) Rwyt ti'n hwyrach nag erioed... | |
| (Efa) Mae hi'n wych. | |
| (1, 0) 32 | 'Rwyf heb fwyta ers hanner dydd. |
| (1, 0) 33 | Pam nad ei di i'r gegin fach i baratoi rhywbeth, yn lle segura fan hyn! |
| (Efa) {Edrych ar y llall foment.} | |
| (1, 0) 37 | Ie... pam lai! |
| (1, 0) 39 | Yn yr un man y byddwn i. |
| (Efa) Os yw hyn'na'n wir, 'wela' i fawr iawn o synnwyr dy fod ti'n lladd dy hunan yn y labordy. | |
| (Efa) A minnau. | |
| (1, 0) 44 | Ond mae'r arbrofion yn galw! |
| (Efa) Ydyw dy waith di mor bwysig â hyn'na? | |
| (Efa) Ydyw dy waith di mor bwysig â hyn'na? | |
| (1, 0) 46 | Yn aruthrol bwysig. |
| (Efa) {Yn dawel.} | |
| (1, 0) 50 | Ydyw pethau cynddrwg â hyn'na? |
| (Efa) Nid fel hyn oedd hi 'r blynyddoedd cyntaf. | |
| (Efa) Yn yr amser hwnnw fe roddet sylw i mi, yn ogystal ag i'r labordy. | |
| (1, 0) 53 | Rwy'n gorfod talu'n ddrud am y camgymeriad a wnes i bedair blynedd yn ôl. |
| (Efa) Paid â gofidio cymaint. | |
| (Efa) Yr wyt ti'n rhy athrylithgar iddyn' nhw dy anwybyddu di o hyd. | |
| (1, 0) 57 | Tybed? |
| (1, 0) 58 | I feddwl 'u bod nhw wedi fy nghadw i i weithio ar bethau dibwys ers dros dair blynedd, a hynny, dim ond am i mi agor fy ngheg mewn parti. |
| (1, 0) 59 | 'Ddywedais i ddim byd nad oedd yn hysbys i bawb. |
| (1, 0) 60 | Dim ond bod un o'r mân swyddogion wedi fy nghlywed i. |
| (1, 0) 61 | Mae'r peth yn ynfyd. |
| (Efa) Yr wyt ti'n rhy ddiamynedd. | |
| (Efa) 'Rwy' wedi bod yn unig trwy'r dydd. | |
| (1, 0) 67 | Mae gen ti dy ddiddordebau. |
| (Efa) Efallai. | |
| (Efa) Sut wyt ti'n teimlo'n nawr? | |
| (1, 0) 71 | Yn well. |
| (1, 0) 72 | Efallai mai ti sy'n iawn wedi'r cyfan. |
| (1, 0) 73 | Efallai nad yw fy ngwaith i'n cyfri' o gwbl. |
| (1, 0) 74 | Does dim yn aros heddi'. |
| (1, 0) 75 | Mae dyn yn dod ar draws rhywbeth newydd, yn cael rhyw weledigaeth, ac mae hyn yn ei wefreiddio. |
| (1, 0) 76 | Ond 'dyw'r cyffro ddim yn aros. |
| (1, 0) 77 | Mae problemau newydd yn codi, ac mae'n rhaid mynd ar ôl y rheiny. |
| (Efa) Dyna ti o hyd. | |
| (Efa) 'Rwy' i'n dy gael di'n ddigon, fel ag yr wyt ti. | |
| (1, 0) 83 | Diolch. |
| (1, 0) 85 | 'Rwy'n teimlo weithiau nad oes angen mwy... |
| (1, 0) 86 | Ond mae rhyw ysfa yn fy ngorfodi i i weithio ymlaen, a churo'r lleill. |
| (Efa) Ac ennill beth? | |
| (Efa) Ac ennill beth? | |
| (1, 0) 88 | Yr hen glod. |
| (Efa..) A hynny sy'n bwysig? | |
| (Efa..) A hynny sy'n bwysig? | |
| (1, 0) 90 | A thi! |
| (1, 0) 91 | Mi fyddi dithau ar dy ennill pan fydda' i ar fy nhraed unwaith eto. |
| (Efa) Tybed? | |
| (Efa) Dim ond dy gwmni. | |
| (1, 0) 95 | Fe ddaw hynny eto... ar ôl y llwyddiant. |
| (Efa) Yfory yw hi o hyd. | |
| (Efa) Gwell i mi fynd i'r gegin. | |
| (1, 0) 99 | 'Does dim chwant bwyd arna' i erbyn hyn. |
| (Efa) Lol! | |
| (1, 0) 104 | 'Ddaw e' ddim draw heno? |
| (Efa) Mae e'n siwr o ddod. | |
| (Efa) Fe wyddost yn burion fel mae e'n hoffi dod draw am sgwrs bob nos cyn mynd i'r gwely? | |
| (1, 0) 107 | Mae e'n ddigon o farn! |
| (Efa) Rwy'n teimlo trueni drosto. | |
| (Efa) Mi fyddi di'n gwrtais os daw e'? | |
| (1, 0) 111 | Mae dyn yn blino ar drafod yr un hen bethau o hyd. |
| (Efa) {Yn araf.} | |
| (Efa) Yr wyf i'n hoffi'r dyn. | |
| (1, 0) 114 | Fe ddylai fod cywilydd arnat ti dy fod ti'n barod i gyfaddef hynny! |
| (Efa) Pam na all dau berson fod yn gyfeillgar? | |
| (Efa) Pam na all dau berson fod yn gyfeillgar? | |
| (1, 0) 116 | Mae dynion yn siarad. |
| (1, 0) 117 | Tref fach yw hon. |
| (Efa) Gad iddyn' nhw siarad! | |
| (Efa) Yr wyt ti'n deall yn iawn y berthynas sydd rhyngof i a Josef, a dim ond hynny sy'n cyfrif. | |
| (1, 0) 121 | Ni hoffais i mo'th ffrindiau di erioed. |
| (Efa) Naddo. | |
| (Efa) Mae nhw'n perthyn i'm byd i, ac yn anffodus mae hwnnw allan o'th gyrraedd di. | |
| (1, 0) 124 | Am dy fod ti'n dymuno hynny. |
| (Efa) Nage. | |
| (Efa) Yr ŷm ni'n dau wedi bod yn briod wyth mlynedd... wyth mlynedd i heddi'. | |
| (1, 0) 132 | Efa! |
| (1, 0) 133 | Maddau i mi! |
| (1, 0) 134 | Anghofiais yn llwyr! |
| (1, 0) 135 | Dyna ffŵl! |
| (1, 0) 136 | Y labordy 'na. |
| (Efa) Dyna oedd dy esgus di y llynedd hefyd. | |
| (Efa) Fe ges un anrheg i'm hatgoffa i o'r diwrnod braf hwnnw, wyth mlynedd yn ôl. | |
| (1, 0) 140 | Beth? |
| (Efa) Y record. | |
| (Efa) Y record. | |
| (1, 0) 142 | Fe roddodd Josef anrheg i ti, i ddathlu dydd dy briodas! |
| (Efa) Anrheg i ni'n dau. | |
| (Efa) Anrheg i ni'n dau. | |
| (1, 0) 144 | Fe ŵyr yn burion nad wyf i'n hoffi miwsig! |
| (1, 0) 146 | Pwy ddywedodd wrtho mai heddi' oedd y dydd? |
| (Efa) Efallai mai fi. | |
| (Efa) Rhaid dy fod ti neu fi wedi cyfeirio at y dyddiad rywbryd neu'i gilydd yn ei gwmni. | |
| (1, 0) 150 | Nid y fi. |
| (Efa) Beth yw'r ots pwy? | |
| (Efa) Beth yw'r ots pwy? | |
| (1, 0) 152 | Yr wyt ti'n dweud popeth wrth Josef. |
| (1, 0) 153 | Pob cyfrinach fach. |
| (1, 0) 154 | Yn cyfathrachu â rhyw grachach o estron sebonllyd. |
| (Efa) 'Dyw hyn'na ddim yn wir! | |
| (Efa) 'Dyw hyn'na ddim yn wir! | |
| (1, 0) 156 | Wyt ti'n gwadu mai estron yw e'? |
| (Efa) Nag wyf. | |
| (Efa) Yn awr yn condemnio dyn, a hynny dim ond achos dy anallu di i ffrwyno teimladau ynfyd. | |
| (1, 0) 163 | Nage! |
| (Efa) {Ei llais yn newid.} | |
| (Efa) Fe gredais hynny wyth mlynedd yn ôl. | |
| (1, 0) 168 | Yr wyt ti fel plentyn o hyd, yn byw ym myd breuddwydion. |
| (Efa) Yr unig fyd o werth. | |
| (Efa) Hynny efallai? | |
| (1, 0) 178 | Mae Josef yn ddiweddar. |
| (Efa) Fe ddaw 'nawr. | |
| (Efa) Paid â dweud dy fod ti'n awyddus i'w weld e'? | |
| (1, 0) 181 | Ydwyf. |
| (1, 0) 182 | Mi fydd ei bresenoldeb yn help i'th dawelu. |
| (1, 0) 183 | 'Rwyf wedi sylwi, mai dim ond dy gynhyrfu di mae fy mhresenoldeb i. |
| (1, 0) 184 | A hynny ers misoedd bellach. |
| (Efa) A hynny am nad ydym yn siarad yr un iaith. | |
| (Efa) Yr wyt ti'n byw ym myd gwyddoniaeth a dinistr, a minnau ym myd celfyddyd,—y byd creadigol. | |
| (1, 0) 187 | Ond heb lwyddo i greu dim. |
| (1, 0) 188 | Pe bai gennyt blentyn efallai na chawn glywed y siarad hwn. |
| (Efa) Meurig! | |
| (Efa) Meurig! | |
| (1, 0) 190 | Wel? |
| (1, 0) 191 | Wyt ti'n ofni cael dy ddadansoddi, a chael gwybod mor ddiffrwyth dy fywyd? |
| (1, 0) 192 | Yr wyt ti wedi sôn am dy ffrindiau. |
| (1, 0) 193 | Wfft i'r fath ffrindiau! |
| (1, 0) 194 | Pob un ohonynt yn freuddwydiwr a pharaseit. |
| (1, 0) 195 | Ac yr oedd yn rhaid i Josef Lobbock ddianc o'i wlad ei hun, a dod yma i freuddwydio. |
| (Efa) Dianc i chwilio am ryddid! | |
| (Efa) Dianc i chwilio am ryddid! | |
| (1, 0) 197 | Stori ramantus... i ferch anwadal. |
| (1, 0) 198 | Mi ddylai Josef fod wedi dal ei dir. |
| (Efa) A chael ei ladd! | |
| (Efa) Fe wyddost mai carchar neu farwolaeth sy'n aros Josef os aiff e 'nôl! | |
| (1, 0) 201 | Efallai nad efe yw'r unig un sydd am ddianc. |
| (1, 0) 202 | Beth amdanat ti? |
| (1, 0) 204 | Beth yw hwn'na ond offeryn dianc! |
| (1, 0) 205 | Ond mae'n amheus gen i a yw e'n ddigon iti. |
| (1, 0) 206 | Eto, paid â phryderu. |
| (1, 0) 207 | Mae'r cyfle wedi dod i ti gael dianc yn gyfangwbl. |
| (Efa) {Yn bryderus.} | |
| (Efa) Beth... beth wyt ti'n feddwl? | |
| (1, 0) 210 | Bûm yn gweithio'n hwyrach nag arfer heno. |
| (1, 0) 211 | A wyddost ti pam? |
| (1, 0) 212 | Am fod fy ngwaith yn y labordy wedi gorffen. |
| (Efa) Yr wyt ti wedi colli dy swydd! | |
| (Efa) Yr wyt ti wedi colli dy swydd! | |
| (1, 0) 214 | Pam wyt ti'n dweud hyn'na? |
| (1, 0) 216 | Ateb! |
| (Efa) Dim... | |
| (Efa) Dim ond dy fod ti'n grwgnach weithiau, dy fod ti'n cael cam. | |
| (1, 0) 219 | Ac mae hynny'n wir. |
| (Efa) Beth sydd yn mynd i ddigwydd i ti 'nawr? | |
| (Efa) Beth sydd yn mynd i ddigwydd i ti 'nawr? | |
| (1, 0) 221 | 'Rwyf wedi ymddeol. |
| (Efa) I ble'r ei di? | |
| (Efa) I ble'r ei di? | |
| (1, 0) 223 | 'Rwyf heb benderfynu'n iawn. |
| (Efa) A 'nawr 'rwy' i'n cael gwybod! | |
| (Efa) Yr wy' i'n hapus 'ma. | |
| (1, 0) 227 | Yn chwarae gyda'th deganau! |
| (Efa) Bod gyda'n gilydd. | |
| (Efa) Bod gyda'n gilydd. | |
| (1, 0) 229 | Na. |
| (1, 0) 230 | 'Choelia i fawr! |
| (1, 0) 231 | 'Dŷm ni'n dau ddim yn symud yn yr un byd. |
| (1, 0) 233 | Rwy'n dy ryddhau di, Efa fach. |
| (1, 0) 234 | Fe gei di aros 'ma gyda'th ffrindiau... gyda Josef, ramantus, sebonllyd. |
| (1, 0) 236 | Beth sy'n bod arnat ti? |
| (1, 0) 237 | Paid ag edrych mor ddigalon. |
| (1, 0) 238 | Beth am y record? |
| (1, 0) 239 | Gad i ni 'i chlywed hi gyda'n gilydd... am y tro cyntaf... a'r tro olaf. |
| (1, 0) 240 | Mi fydda' i'n mynd odd'ma. |
| (1, 0) 243 | Josef. |
| (1, 0) 244 | Paid â'i gadw i aros ar garreg y drws. |
| (1, 0) 245 | Pam wyt ti'n oedi? |
| (1, 0) 246 | Cer! |
| (1, 0) 252 | Noswaith dda, Josef. |
| (1, 0) 253 | Yr ŷm ni wedi bod yn 'ch disgwyl chi. |
| (Josef) {Erys heb symud.} | |
| (Josef) Ie... godidog. | |
| (1, 0) 260 | A ga'i 'i chwarae hi eto? |
| (1, 0) 261 | Mae Efa yn 'i hoffi hi'n fawr. |
| (Josef) Mae Efa yn deall. | |
| (Josef) Mae e'n dod yr un ffordd â ni. | |
| (1, 0) 268 | Dim eto, Josef. |
| (Josef) {Yn siomedig.} | |
| (Josef) Mae'r miwsig hwn yn wir o bob oes. | |
| (1, 0) 274 | Yn wir? |
| (Josef) Ydy'. | |
| (Josef) Os oes yna un gair yn arbennig yn nodweddu Ewrop heddiw, y gair dianc yw hwnnw. | |
| (1, 0) 278 | Fe ddylech chi fod yn gwybod, Josef. |
| (1, 0) 279 | Yr ych chi'n arbenigwr ar y cwestiwn, hynny yw, os yw ffoi a dianc yn gyfystyr. |
| (Josef) {Yn dawel.} | |
| (Josef) Mae rhywbeth yn aros o'r hen fywyd ac yn gafael ynddo o hyd. | |
| (1, 0) 287 | Cydwybod efallai? |
| (Efa) Beth am dy swper, Meurig? | |
| (Josef) Does neb arall yng Nghymru cystal â'ch gwraig chi am wneud coffi. | |
| (1, 0) 297 | 'Dwy i byth yn 'i yfed e. |
| (1, 0) 298 | Chi'r estroniaid sy'n hoff o goffi. |
| (1, 0) 300 | Paid ti â ffwdanu am fy swper i. |
| (1, 0) 301 | Mae gen i waith arall i'w wneud gynta'. |
| (1, 0) 302 | Gwaith pacio. |
| (Josef) Yr ych chi'n mynd i ffwrdd? | |
| (Josef) Yr ych chi'n mynd i ffwrdd? | |
| (1, 0) 304 | Mae'r gwaith yn galw am hynny. |
| (Josef) Dyna'r gwaetha' o ddal swydd o dan y Weinyddiaeth. | |
| (Josef) Dyna'r gwaetha' o ddal swydd o dan y Weinyddiaeth. | |
| (1, 0) 308 | Paid ti â dod. |
| (1, 0) 309 | Does dim angen. |
| (1, 0) 310 | Aros i drafod y record 'na gyda dy gyfaill. |
| (1, 0) 311 | Mae'r thema yn un mor addas i chi'ch dau. |
| (Josef) I ni'n tri. | |
| (Josef) Mae si yn y pentref fod y sateleit nesaf yn mynd i gario dynion. | |
| (1, 0) 316 | Mae trigolion y pentref hwn yn rhy hoff o glebran. |
| (Josef) Felly 'dyw'r stori ddim yn wir? | |
| (Josef) Felly 'dyw'r stori ddim yn wir? | |
| (1, 0) 318 | Amser a ddengys. |
| (Josef) Chwarae teg i chi. | |
| (Josef) Eto... yn hwyr neu'n hwyrach, fe welwn ddynion yn mentro i'r gwagle... i ddianc. | |
| (1, 0) 322 | I ddarganfod rhyfeddodau newydd. |
| (Josef) A thrwy hynny... yn dianc oddiwrth y presennol sydd yn gwasgu. | |
| (Josef) Ond 'rwyf heb eich llongyfarch chi eto. | |
| (1, 0) 328 | Ar beth? |
| (Josef) Dydd eich priodas. | |
| (Josef) Yr ych chi'n ddyn lwcus iawn. | |
| (1, 0) 337 | 'Rwyf yn eich dyled. |
| (Josef) Sut hynny? | |
| (Josef) Sut hynny? | |
| (1, 0) 339 | Fe anghofiais i ba ddydd oedd e' heddi'. |
| (1, 0) 340 | Mi fyddai hwn wedi bod yn ddiwrnod siomedig iawn i Efa, onibai i chi gofio amdani. |
| (Josef) {Yn gwenu.} | |
| (Josef) Dyw hi ddim am 'ch condemnio chi'n gyfangwbl chwaith. | |
| (1, 0) 348 | Efallai mai i'r miwsig 'rwy'n ddyledus am hynny. |
| (1, 0) 350 | A gaf i chwarae'r record i chi 'to? |
| (1, 0) 351 | Beth wyt ti'n ddweud, Efa? |
| (Efa) Mae gen i ben tost. | |
| (Efa) Mae gen i ben tost. | |
| (1, 0) 353 | Fe wellith hwn ben tost. |
| (1, 0) 355 | Ac yn awr rhaid i chi'ch dau esgusodi i. |
| (1, 0) 356 | 'Rwy'n mynd i fod yn brysur. |
| (Josef) Beth sy'n bod? | |
| (1, 0) 552 | Beth sy' wedi digwydd i'r miwsig? |
| (1, 0) 553 | Ond efallai nad yw'r miwsig mor bwysig wedi'r cyfan! |
| (Josef) 'Roeddwn ar fynd. | |
| (1, 0) 556 | Go dda! |
| (1, 0) 557 | Mynd a dod yn ôl 'ch mympwy. |
| (1, 0) 558 | Byd braf! |
| (Efa) M... mae brys ar Josef. | |
| (Efa) M... mae brys ar Josef. | |
| (1, 0) 560 | Amhosibl! |
| (1, 0) 561 | Ni fu arno frys erioed! |
| (1, 0) 562 | Dim ond pan ffodd allan o'i wlad... ac o berygl! |
| (Efa) Paid, Meurig! | |
| (Efa) Paid, Meurig! | |
| (1, 0) 564 | Oes gen i ddim hawl i'm barn? |
| (1, 0) 565 | Ac ar fy aelwyd fy hun! |
| (1, 0) 566 | Aelwyd pwy yw hon, Josef? |
| (Josef) {Yn dawel.} | |
| (Josef) 'Ch aelwyd chi... ac Efa. | |
| (1, 0) 569 | lefe? |
| (1, 0) 570 | 'Rwy'n amau! |
| (1, 0) 571 | Bob tro y do i adre mae rhyw ddieithryn wedi cydio yn y lle. |
| (Josef) Nagoes, Meurig. | |
| (Efa) Yr wyt ti allan mor amal. | |
| (1, 0) 575 | Duw Mawr! |
| (1, 0) 576 | Mae gen ti a'r crachach hwn y wyneb i gyfathrachu â'ch gilydd, ac yna fwrw'r bai arna' i. |
| (Efa) Nid hynny, Meurig. | |
| (Josef) Rwy'n cydnabod fy mod i'n ymwelwr cyson, ond 'roedd y tŷ hwn yn noddfa. | |
| (1, 0) 580 | Gadewch y siarad sentimental er mwyn popeth! |
| (Josef) Credais fy mod i'n cael croeso. | |
| (Josef) Credais fy mod i'n cael croeso. | |
| (1, 0) 582 | Ac fe gawsoch. |
| (1, 0) 583 | Gyda hon! |
| (Josef) Gyda'r ddau ohonoch chi. | |
| (Josef) Gyda'r ddau ohonoch chi. | |
| (1, 0) 585 | Dyna gelwydd! |
| (1, 0) 586 | Ni feddylioch y fath beth. |
| (1, 0) 587 | Fe ddangosais i f'ochor i o'r dechrau. |
| (1, 0) 588 | Ni fu gen i erioed amynedd i ddelio â llwfrgwn. |
| (1, 0) 589 | Ydych chi am ddweud na sylwoch chi ar hynny? |
| (Josef) Efallai fe fûm i'n ddall. | |
| (Josef) Efallai fe fûm i'n ddall. | |
| (1, 0) 591 | Mi ddyweda' i pam! |
| (Efa) Gad lonydd i bethau 'nawr, Meurig! | |
| (1, 0) 595 | Fe gawsoch 'ch dallu gan Efa! |
| (Josef) Fe fu 'ch gwraig yn help mawr i mi, yn gyfrwng i mi anghofio hylltra'r byd. | |
| (Josef) Fe fu 'ch gwraig yn help mawr i mi, yn gyfrwng i mi anghofio hylltra'r byd. | |
| (1, 0) 597 | Dyma chi eto. |
| (1, 0) 598 | Yr un hen siarad arwynebol! |
| (1, 0) 599 | Pam na gyfaddefwch chi'r gwir! |
| (1, 0) 600 | Dim ond fel merch y gwelsoch chi Efa'n ddiddorol. |
| (1, 0) 601 | A ellwch chi wadu? |
| (Josef) {Nid yw yn ateb.} | |
| (Josef) {Nid yw yn ateb.} | |
| (1, 0) 603 | Pam nad atebwch chi? |
| (1, 0) 604 | Ond beth wy'n ddisgwyl? |
| (1, 0) 605 | Fel i bob estron seimllyd arall, rhywbeth i'w ddiystyru yw'r gwir i chi. |
| (1, 0) 607 | Ac fe roist dithau bob anogaeth iddo. |
| (Efa) Naddo, Meurig... | |
| (Efa) M... mae Josef yn mynd odd'ma. | |
| (1, 0) 610 | Fe ddaw 'nôl. |
| (Josef) Dim y tro hwn. | |
| (Josef) Dim y tro hwn. | |
| (1, 0) 612 | Dyma newydd sydyn! |
| (Josef) Mor sydyn â'ch penderfyniad chi. | |
| (Josef) Mor sydyn â'ch penderfyniad chi. | |
| (1, 0) 614 | Ai hwnnw yw'r symbyliad? |
| (Josef) {Erys.} | |
| (1, 0) 618 | Diddorol. |
| (1, 0) 619 | Felly, dyma ni wedi cyrraedd y groesffordd. |
| (1, 0) 620 | Un yn mynd ffordd 'na. |
| (1, 0) 622 | Y llall, y ffordd acw. |
| (1, 0) 624 | A beth amdanat ti, Efa. |
| (1, 0) 626 | Llwybr Josef? |
| (Efa) 'Rwy'n aros fan hyn. | |
| (Efa) 'Rwy'n aros fan hyn. | |
| (1, 0) 628 | A pham? |
| (1, 0) 629 | Rho dy resymau. |
| (1, 0) 630 | Carwn 'u clywed. |
| (1, 0) 631 | Beth ych chi'n ddweud, Josef? |
| (Josef) Mae f'amser i'n rhy brin, Meurig. | |
| (Josef) {Yn cerdded i gyfeiriad y drws.} | |
| (1, 0) 634 | Beth yw'r brys mawr ar ôl misoedd o oedi? |
| (Josef) Misoedd o waith ymchwil manwl, ac yna'r fflach a'r symud mawr. | |
| (Josef) A chithau'n wyddonydd? | |
| (1, 0) 638 | Beth a wyddoch chi am fywyd y labordy? |
| (Josef) {Erys foment, ac yna'n dawel.} | |
| (Josef) {Edrych y ddau arall arno'n syn.} | |
| (1, 0) 643 | Anwiredd! |
| (Josef) Nage, Meurig. | |
| (Josef) Offeryn heb enaid. | |
| (1, 0) 649 | Pam nad ych chi'n dal swydd yn y wlad hon? |
| (1, 0) 650 | Mae prinder gwyddonwyr. |
| (Josef) Onid yw gwyddoniaeth yn cael ei phuteinio ymhob gwlad? | |
| (Efa) Meurig! Dwed wrtho am aros! | |
| (1, 0) 661 | Ei ddyletswydd yw dychwelyd adre. |
| (1, 0) 662 | Gad iddo wneud un tro da yn ei fywyd! |
| (Efa) Meurig! | |
| (1, 0) 673 | Wyt ti'n siŵr nad wyt ti ddim am fynd ar 'i ôl e'? |
| (Efa) {Llais blinedig.} | |
| (Efa) Yn eitha' siŵr. | |
| (1, 0) 676 | Ond yr wyt ti 'n 'i garu e'. |
| (1, 0) 678 | 'Rwy' wedi ymddwyn fel ffŵl! |
| (1, 0) 680 | Dyw' hi ddim yn rhy ddiweddar. |
| (1, 0) 681 | Mi alla' i fod yn wahanol o hyn allan. |
| (1, 0) 682 | Fe oedd yn fy nghynddeiriogi i. |
| (1, 0) 684 | Gwrando, Efa. |
| (1, 0) 685 | Mae'n rhaid i mi fynd i ffwrdd. |
| (1, 0) 686 | 'Rwyf wedi ymddeol ar gais yr Awdurdodau! |
| (1, 0) 687 | 'Dŷn' nhw erioed wedi ymddiried yno' i. |
| (1, 0) 688 | Digon da fy mod i'n mynd. |
| (1, 0) 689 | Fe ga' i ddigon o swyddi,—yn talu'n well hefyd. |
| (1, 0) 690 | Mewn diwydiant! |
| (Efa) Cei. | |
| (Efa) Cei. | |
| (1, 0) 692 | Dere gyda mi! |
| (1, 0) 693 | Dechrau o'r newydd. |
| (Efa) Na, Meurig. | |
| (Efa) Na, Meurig. | |
| (1, 0) 695 | Josef! |
| (Efa) Nid Josef. | |
| (Efa) Ar ôl dy siarad di gynnau fach, 'rwy'n dy gasâu di fel dyn! | |
| (1, 0) 700 | Nid oedd Josef yn haeddu gwell! |
| (Efa) Dyna'n union pam yr wy'n dy gasâu di! | |
| (1, 0) 705 | Mi fydda' i'n symud heno, Efa. |
| (1, 0) 707 | Ac mi fydda' innau'n aros. |