| (Gwladys) Y mae'r postmon yn hwyr iawn heddyw. | |
| (Gwladys) Y mae'r postmon yn hwyr iawn heddyw. | |
| (1, 0) 17 | Goreu yn y byd. |
| (1, 0) 18 | Yr wyf i wedi blino ar filiau i frecwest. |
| (Gwladys) Wel, beth a wyddoch na ddaw â hanes cwsmer ì chwi? | |
| (Gwladys) Wel, beth a wyddoch na ddaw â hanes cwsmer ì chwi? | |
| (1, 0) 20 | Cwsmer? |
| (1, 0) 21 | Dim perigl fy nghariad i! |
| (1, 0) 23 | Fydd pethau felly ddim yn digwydd yn y byd sy'r awr hon─ |
| (Gwladys) O, rhag cywilydd i chwi, Merfyn─dynwared ych tad fel yna o hyd! | |
| (Gwladys) O, rhag cywilydd i chwi, Merfyn─dynwared ych tad fel yna o hyd! | |
| (1, 0) 25 | Ar "y byd sy'r awr hon" yr oedd y bai, fy nghariad i. |
| (1, 0) 26 | Ond dywedyd yr oeddwn i na bydd cwsmeriaid ddim yn─ddim yn dyfod gyda'r post, na chyda dim arall. |
| (1, 0) 27 | Yr wyf i wedi hen roi'r goreu i ddisgwyl am bethau felly. |
| (1, 0) 28 | Yn wir, mi welaf bellach mai fy nhad druan oedd yn iawn. |
| (1, 0) 29 | Mi wneuthum gamgymeriad ofnadwy─ |
| (Gwladys) {Yn oeraidd.} | |
| (Gwladys) Beth oedd hwnnw? | |
| (1, 0) 33 | Dysgu trin paent─hynny ydyw, paent fel hyn {gan estyn ei fys at un o'r lluniau}. |
| (1, 0) 34 | Ni fedraf i yn fy myw roi paent ar fy ngeiriau, a dyna lle y methais i {mewn ton hwyliog eto} ie, siwr, fy mhobl i, y paent! y paent, fy mhobl i! |
| (Gwladys) O, Merfyn, Merfyn! | |
| (Gwladys) O, Merfyn, Merfyn! | |
| (1, 0) 36 | Digon gwir, fy nghariad i. |
| (1, 0) 37 | Ond pe bawn i wedi dysgu trin paent mewn ffordd haws, buasai yn well i mi─dysgu paentio drysau a ffenestri, llidiardau, certi, a─a gwalltiau merched gweini─ |
| (Gwladys) O, Merfyn! | |
| (Gwladys) Yr ydych yn rhy gas! | |
| (1, 0) 40 | Wel, mi sylwais fod gwallt Marged yn rhyw fath o felyn ddoe, cyn belled ag y gwn i rywbeth am liwiau. |
| (1, 0) 41 | Yr wyf yn credu mai lliw llygoden─ |
| (1, 0) 43 | Yr wyf yn credu mai lliw llygoden ydyw erbyn heddyw. |
| (1, 0) 44 | Ac er nad oes nemor gamp arnaf i fel artist, yr wyf yn ddigon hy i gredu y gallswn baentio 'i gwallt iddi yn wastatach o leiaf am ryw hanner coron─ |
| (Gwladys) Tewch, Merfyn, da chwithau. | |
| (Gwladys) Dowch i mewn! | |
| (1, 0) 51 | Yn awr ynteu, a welsoch chwi'r lliw? |
| (1, 0) 52 | Rhywbeth rhwng melyn a choch a du a llwyd ydyw, cyn belled ag y gwn i─ |
| (Gwladys) O twt, lol! | |
| (Gwladys) Edrychwch ar y llythyrau, a gadewch lonydd iddi hi a'i gwallt─hi pia fo. | |
| (1, 0) 55 | Ie, diolch am hynny {mewn ton hwyliog} o drugaredd yn yr hen fyd yma! |
| (1, 0) 56 | Ond y llythyrau, ynteu. |
| (1, 0) 57 | O'r goreu. |
| (1, 0) 59 | Dyma un i chwi. |
| (1, 0) 61 | Bil y teiliwr─dyma'r seithfed tro iddo gymryd y drafferth, druan. |
| (1, 0) 63 | Bil y miliner, am y fasged ddillad honno─hynny ydyw, am yr het fach glws honno a gawsoch chwi. |
| (1, 0) 64 | Dyma'r pumed tro iddi hithau ddifetha papur. |
| (1, 0) 65 | Ac inc. |
| (1, 0) 66 | A stamp. |
| (1, 0) 68 | Bil y glo. |
| (1, 0) 69 | Rhaid bod ganddynt ddigon o amser i'w golli─dyma'r pedwerydd cynnyg. |
| (1, 0) 71 | Bil y groser─yr ail. |
| (1, 0) 72 | Wel y mae hwn ar ddechreu ei yrfa {gyda hwyl} yn y byd helbulus hwn! |
| (Gwladys) {Yn codi ei golwg oddiar ei llythyr.} | |
| (Gwladys) Y mae fy modryb yn dyfod heddyw─ | |
| (1, 0) 76 | Fo'n gwarchod! |
| (1, 0) 77 | Pa fodryb? |
| (Gwladys) Modryb Elin─hyhi a roes y piano i ni yn hytrach, hyhi a roes ddeugain punt i ni brynu piano, fel y gwyddoch yn dda, Merfyn. | |
| (1, 0) 80 | A dyma lythyr oddiwrth bobl y siop fiwsig yn dwedyd bod dyn yn dyfod i fynd â'r piano i ffwrdd heddyw am na thalwyd mo'r arian oedd yn ddyledus ddechreu'r mis diweddaf─ |
| (Gwladys) O, Merfyn, peidiwch â dywedyd y fath beth! | |
| (Gwladys) O, Merfyn, peidiwch â dywedyd y fath beth! | |
| (1, 0) 82 | Y mae'n ddrwg gennyf orfod dywedyd, ond dyma lythyr y cnafon i chwi, ynteu. |
| (1, 0) 89 | Yn awr, Gwladys fach, peidiwch âg wylo fel yna. |
| (1, 0) 90 | Ni fedraf i ddim dioddef eich gweled! |
| (Gwladys) Ond beth a wnawn ni? | |
| (Gwladys) {Yn wylo.} | |
| (1, 0) 97 | Wel, peidiwch âg wylo, beth bynnag. |
| (1, 0) 98 | Mi ddyfeisiwn rywbeth yn union deg. |
| (Gwladys) Ond yr wyf i wedi blino ar ddyfeisio a dyfeisio pethau o hyd ac o hyd i'w dywedyd wrth bobl! | |
| (Gwladys) Ond yr wyf i wedi blino ar ddyfeisio a dyfeisio pethau o hyd ac o hyd i'w dywedyd wrth bobl! | |
| (1, 0) 100 | Felly finnau hefyd, mi rof fy ngair i chwi! |
| (1, 0) 101 | Ond gan na fynnant luniau, rhaid iddynt gymryd esgusion! |
| (Gwladys) Yr ydych yn cymryd popeth yn ysgafn, Merfyn! | |
| (Gwladys) Fyddwch chwi byth o ddifrif! | |
| (1, 0) 104 | Dim perigl i mi gymryd pobl o ddifrif a hwythau yn fy nghymryd innau o fregedd! |
| (1, 0) 105 | Prynant hwy luniau gennyf i, ac mi dalaf innau eu biliau iddynt hwythau. |
| (1, 0) 106 | Y mae hynny yn deg. |
| (Gwladys) Ond ni waeth heb siarad fel yna. | |
| (Gwladys) Rhaid i ni wneud rhywbeth heb law siarad. | |
| (1, 0) 109 | Rhaid, y mae'n wir. |
| (1, 0) 110 | Ond pa peth? |
| (Gwladys) Wn i ddim. | |
| (Gwladys) Wn i ddim. | |
| (1, 0) 112 | Na minnau! |
| (Gwladys) Pa faint oedd i'w dalu am y piano y mis diweddaf? | |
| (1, 0) 115 | Pedair punt─ |
| (Gwladys) Pedair punt? | |
| (Gwladys) Wel, dylem fedru cael cymaint a hynny rywsut─ | |
| (1, 0) 118 | Am y mis diweddaf, a phedair am y mis cynt─ |
| (Gwladys) O, Merfyn, 'does bosibl!─ | |
| (Gwladys) O, Merfyn, 'does bosibl!─ | |
| (1, 0) 120 | Feddyliwn fod, fy nghariad i. |
| (1, 0) 121 | A phedair am y mis cyn hynny. |
| (Gwladys) O, drugaredd fawr! dyna ddeuddeg punt. | |
| (1, 0) 124 | Y mae'n gas gennyf ffigyrau fel y gwyddoch. |
| (1, 0) 125 | Ie, deuddeg. |
| (Gwladys) Â pha faint yr ydym wedi eu talu eisoes? | |
| (Gwladys) Â pha faint yr ydym wedi eu talu eisoes? | |
| (1, 0) 127 | Dim ceiniog, gobeithio, gan fod yn rhaid iddi fynd! |
| (Gwladys) {Gan darawo ei throed yn y llawr.} | |
| (Gwladys) Beth a ddywedwn ni wrth fy modryb? | |
| (1, 0) 131 | Wel, arhoswch funud─ |
| (1, 0) 133 | Dywedyd nad ydym eto wedi trawo ar biano wrth ein bodd─ |
| (Gwladys) A hithau wedi bod yma ddeufis yn ol, ac wedi gweld hon! | |
| (Gwladys) A hithau wedi bod yma ddeufis yn ol, ac wedi gweld hon! | |
| (1, 0) 135 | O, fu hi? |
| (1, 0) 136 | Nid oeddwn i yn cofio hynny. |
| (1, 0) 137 | Wel, ni thal y celwydd yna ddim, felly. |
| (1, 0) 138 | Wn i ddim beth a ddywedwch, os na rowch gynnyg ar y gwir am unwaith─ |
| (Gwladys) O, Merfyn! | |
| (Gwladys) {Yn wylo.} | |
| (1, 0) 141 | Gwladys fach, maddeuwch i mi. |
| (1, 0) 142 | Nid oeddwn yn meddwl dywedyd dim byd cas, nag oeddwn yn wir. |
| (1, 0) 143 | Yr wyf wedi cellwair cymaint i geisio fy mherswadio fy hun na waeth gennyf pa beth a ddigwyddo, fel yr wyf wedi mynd i ddywedyd pethau heb ystyried. |
| (1, 0) 144 | Dowch, dyna eneth dda. |
| (1, 0) 145 | Rhaid i ni wneud rhywbeth, wrth gwrs. |
| (Gwladys) {Gan sychu ei llygaid.} | |
| (Gwladys) Wel, mi af at fy nghyfnither i edrych a fedr hi ddim rhoi benthyg deuddeg punt i ni─ni fedraf i feddwl am ddim arall. | |
| (1, 0) 148 | le. |
| (1, 0) 149 | Da iawn. |
| (1, 0) 150 | Dyna eneth dda. |
| (1, 0) 151 | Mi af innau at y cebyst gan Smith yna, i edrych a fedraf gael rhywfaint ganddo ar y lluniau hynny a adewais yn ei siop. |
| (Gwladys) O'r goreu. | |
| (Gwladys) Rhaid i ni fod yn ein holau cyn canol dydd yn sicr. | |
| (1, 0) 155 | Rhaid, achos bydd pobl y piano yma yn union ar ol deuddeg o'r gloch. |
| (Gwladys) A bydd fy modryb yma cyn hynny, y mae'n debyg! | |
| (Morgan) Eisieu bod yn fawr oedd arnom y pryd hwnnw, onid e, ond erbyn hyn─yr hen amser gynt! | |
| (1, 0) 411 | Gwladys! dyna flodau tlysion! |
| (1, 0) 412 | Ble y cawsoch hwy? |
| (Gwladys) Yn siop Edwards─dau swllt oeddynt. | |
| (Gwladys) Ac mi ddaethoch o'm blaen i. | |
| (1, 0) 415 | Do, fy ngeneth i, yr wyf i yn sicr o ddyfod yn f'ôl fel arian drwg! |
| (Gwladys) {Yn eistedd gyferbyn ag ef, gan dynnu ei het a'i menig.} | |
| (Gwladys) Wel, a gawsoch chwi rywfaint? | |
| (1, 0) 418 | Dim ceiniog goch, wrth gwrs. |
| (1, 0) 419 | A'r catffwl gan Smith yna─mi allwn ei saethu fo! |
| (Gwladys) Pam? | |
| (Gwladys) Beth a wnaeth o? | |
| (1, 0) 422 | Wel, dim; cafodd gynnyg decpunt am un o'r pictiwrs, a gwrthododd y ffwl gwirion ei werthu am na chai bymtheg amdano, fel yr oeddwn i wedi dywedyd wrtho. |
| (Gwladys) Ond, beth a wnai 'r dyn, a chwithau wedi dywedyd pymtheg wrtho? | |
| (Gwladys) Ond, beth a wnai 'r dyn, a chwithau wedi dywedyd pymtheg wrtho? | |
| (1, 0) 424 | O, y penbwl ganddo, dylasai wybod y buaswn yn falch o ddeg─o bump─ie, o bum swllt! |
| (1, 0) 425 | O! mi af yn labrwr, myn f'enaid i! |
| (1, 0) 426 | Yr wyf wedi darfod â'r busnes yma! |
| (1, 0) 427 | Dim chwaneg o baent i mi! |
| (Gwladys) Dowch, yn awr, Merfyn, ni thâl peth fel yna ddim─ | |
| (Gwladys) Dowch, yn awr, Merfyn, ni thâl peth fel yna ddim─ | |
| (1, 0) 429 | Mi dâl yn well na'r busnes sy' gennyf i, beth bynnag! |
| (1, 0) 430 | Sut y daeth hi ymlaen gyda chwi, ynteu? |
| (Gwladys) O, yn ofer, wrth gwrs. | |
| (Gwladys) Nid oedd gan fy nghyfnither ddim ond ychydig arian gwynion yn y ty, ac ni ddaw'r gwr adref tan yr wythnos nesaf. | |
| (1, 0) 433 | Dyna'r hwch drwy'r siop yma ynteu. |
| (1, 0) 434 | Ond {gan godi ar ei draed ac edrych o'i gwmpas yn syn} ni chofiais i ddym byd─ |
| (Gwladys) Cofio beth? | |
| (Gwladys) Cofio beth? | |
| (1, 0) 436 | Ond eich modryb! |
| (1, 0) 437 | Dylasai fod yma cyn hyn. |
| (Gwladys) Wel, dylasai yn sicr! | |
| (Gwladys) Un go lew yw'r hen fodryb, calon iawn ganddi─buasai'n ddrwg gennyf─ | |
| (1, 0) 442 | Ble mae Marged? |
| (1, 0) 443 | Dylai hi fod yn gwybod, os daeth eich modryb at y drws. |
| (Gwladys) Wn i ddim. | |
| (Gwladys) Mi af i edrych amdani yn awr. | |
| (1, 0) 451 | Onid yw hi yna? |
| (Gwladys) Na, 'does dim golwg arni. | |
| (Gwladys) Na, 'does dim golwg arni. | |
| (1, 0) 453 | Popeth o chwith! |
| (Gwladys) Popeth o chwith! | |
| (Gwladys) Popeth o chwith! | |
| (1, 0) 455 | Wel, aed popeth yn yfflon ynteu! |
| (Gwladys) {Yn ddifrif.} | |
| (Gwladys) Yr ydym wedi chwarae fel dau löyn byw ddigon o hyd! | |
| (1, 0) 459 | Digon gwir, Gwladys fach. |
| (1, 0) 460 | Ond cofiwch,; yr wyf i wedi cymryd arnaf fy mod yn ddidaro ugeiniau o weithiau pan fyddwn i yn llawer parotach i eistedd i lawr a thorri fy nghalon. |
| (Gwladys) Mi wn hynny, fy machgen i, bellach─yr wyf yn dechreu deall; ond dylasem fod wedi meddwl am y pethau hyn yn gynt. | |
| (Gwladys) Mi wn hynny, fy machgen i, bellach─yr wyf yn dechreu deall; ond dylasem fod wedi meddwl am y pethau hyn yn gynt. | |
| (1, 0) 462 | Dylasem, hwyrach. |
| (1, 0) 463 | Ond beth a wnaem ni? |
| (1, 0) 465 | Gwladys, a yw'n edifar gennyt? |
| (Gwladys) Am ba beth? | |
| (Gwladys) Am ba beth? | |
| (1, 0) 467 | O! am y cwbl! |
| (1, 0) 468 | Mi ddodais ormod o baent ar y llun, mi wn! |
| (Gwladys) Beth yw dy feddwl di? | |
| (Gwladys) Beth yw dy feddwl di? | |
| (1, 0) 470 | O! wyt ti ddim yn cofio am y ty bychan hwnnw yn y wlad, briallu cochion, botwm gwr ifanc, balchder Llundain a chenin Pedr yn tyfu ar y lawnt; coeden ywen o flaen y ty, a mainc yn ei chysgod, dau bren rhosyn, un o bobtu i'r drws, a rhosynnau bach cochion arnynt. |
| (1, 0) 471 | O, Gwladys! |
| (1, 0) 472 | A'r lluniau oedd yn mynd i werthu cyn gynted ag y medrwn i eu paentio, a bywyd yn mynd i fod yn haf ar ei hyd─yr holl wagedd melys y buom yn byw arno gynt? |
| (Gwladys) {Gan fyned ato, a dodi ei dwylaw ar ei ysgwyddau.} | |
| (1, 0) 477 | Gwladys! |
| (Gwladys) Wyt ti'n deall bellach? | |
| (1, 0) 480 | Ydwyf, fy nghariad, yr wyf i yn deall. |
| (Gwladys) Ac eto, y mae'n gas gennyf dy weled ti mor drist. | |
| (Gwladys) Ni welais i erioed monot ti fel hyn o'r blaen, Merfyn! | |
| (1, 0) 483 | Naddo. |
| (1, 0) 484 | Pan fyddit ti yn cysgu y byddwn i yn cael rhyw byliau fel hyn─ |
| (Gwladys) O, Merfyn, pe taswn i yn gwybod! | |
| (Gwladys) O, Merfyn, pe taswn i yn gwybod! | |
| (1, 0) 486 | Y mae'n ddrwg gennyf dy fod ti wedi dyfod i wybod. |
| (1, 0) 487 | Yr oeddwn yn gobeithio y gallwn ddal ati fel glöyn byw nes bod yr haul wedi tywynnu arnom. |
| (1, 0) 488 | Ond yn awr, dyma fo yn mynd i lawr heb dywynnu, a'r byd i gyd yn llwyd ac yn oer. |
| (1, 0) 489 | A gwae'r glöyn byw! |
| (Gwladys) {Gan edrych ym myw ei lygaid.} | |
| (Gwladys) Yn awr, ynteu! | |
| (1, 0) 497 | O, Gwladys! |
| (Gwladys) {Gan godi ei gwallt.} | |
| (Gwladys) Cawn ddeuddeg punt amdani, beth bynnag─y mae hi yn werth mwy na hynny─petae ddim ond y garreg. | |
| (1, 0) 505 | Na, ni chei di ddim mynd, Gwladys. |
| (1, 0) 506 | Melltith ar y byd i gyd! na chei! |
| (1, 0) 507 | Paid, dyro hi am dy wddw yn ôl, Gwladys, Gwladys! |
| (Gwladys) {Gan gydio yn y cwlwm blodau ac ysgoi i'w taflu i'r tân.} | |
| (1, 0) 512 | Gwladys! |
| (1, 0) 514 | O! paid, paid! |
| (1, 0) 515 | Edrych ar liw hwn! |
| (Gwladys) {Gan eu dodi yn ôl ar y bwrdd.} | |
| (Gwladys) Ond y mae un peth gwell gennyf na'r cwbl. | |
| (1, 0) 521 | Beth yw hynnw? |
| (Gwladys) Tydi! | |
| (Gwladys) Pwy ŵyr? | |
| (1, 0) 526 | Na chawn byth! |
| (1, 0) 527 | Breuddwyd oedd! |
| (Gwladys) Eistedd di i lawr yn dawel─paid â dywedyd gair─dim un gair! | |
| (1, 0) 545 | O! |
| (1, 0) 550 | Wn i ddim. |
| (1, 0) 551 | Na, 'rwy'n well, yn well o lawer─yn iawn, yn wir. |
| (1, 0) 552 | Wedi blino, wedi rhyw hanner cysgu. |
| (1, 0) 553 | Teimlo dipyn yn & hurt... |
| (1, 0) 554 | Maddeuwch i mi. |
| (Miss Jones) Ble y mae Gwladys? | |
| (Miss Jones) Ble y mae Gwladys? | |
| (1, 0) 562 | Wedi mynd allan ar neges. |
| (1, 0) 563 | Bydd yn ei hôl yn union deg. |
| (1, 0) 564 | Y mae'n ddrwg gennyf, fy modryb, os buoch wrth y drws a neb yn ateb. |
| (1, 0) 565 | Bu raid ini fynd allan ein dau, ac fel y digwyddodd, cawsom ein cadw yn o hir cyn dyfod yn ôl. |
| (Miss Jones) O, na phoenwch am hynny; digwyddais daro ar Mr. Morgan, sy'n hen gydnabod i mi, a chefais ginio gydag ef.. | |
| (1, 0) 595 | Morgan! |
| (1, 0) 598 | Gwladys, edrych! |
| (1, 0) 600 | Wn i ddim pa beth sydd wedi digwydd, na pha beth i'w ddywedyd! |