| (Blank) Ledrithion gwelwon! wele chwi'n dynesu, | |
| (Y Tri) Megys y diwrnod cyntaf fu. | |
| (0, 2) 68 | A thithau, Arglwydd, eto'n agoshau, |
| (0, 2) 69 | A'n holi ni sut hwyl sydd ar yr yrfa, |
| (0, 2) 70 | A chan y byddi'n rhwydd yn caniatâu, |
| (0, 2) 71 | Fe'm gweli yma, finnau, gyda'r dyrfa; |
| (0, 2) 72 | Maddeu, ni allaf innau ddim gwenhieithio, |
| (0, 2) 73 | A phawb o'th osgordd i'm dirmygu i,— |
| (0, 2) 74 | Fe chwerddit, ped amcanwn ddwys areithio, |
| (0, 2) 75 | Pe na bai chwithig chwerthin gennyt Ti; |
| (0, 2) 76 | Am haul na byd, 'does gennyf ddim i'w haeru, |
| (0, 2) 77 | Ni welaf ddim ond dynion yn ymdaeru! |
| (0, 2) 78 | Duw bach y ddaear, tebyg yw o hyd, |
| (0, 2) 79 | Rhyfedded yw â'r diwrnod cynta i gyd; |
| (0, 2) 80 | Buasai beth yn well ei fuchedd ef |
| (0, 2) 81 | Ond it ei wisgo â gwawr goleuni'r nef! |
| (0, 2) 82 | Rheswm y geilw'r peth, a'i droi a fynn |
| (0, 2) 83 | I fyw yn waeth na'r bwystfil gwyllt, er hyn! |
| (0, 2) 84 | Tra thebyg yw—os rhoddi gennad tirion— |
| (0, 2) 85 | I'r ceiliog rhedyn bach, a'i heglau hirion, |
| (0, 2) 86 | Yn hedeg ac yn neidio bob yn ail, |
| (0, 2) 87 | A'i drydar hen yn debyg rhwng y dail; |
| (0, 2) 88 | A drwg nad yn y dail o hyd yr ery!— |
| (0, 2) 89 | Ei drwyn ynghanol pob rhyw dail a dery. |
| (Yr Arglwydd) Ai dyna'r cwbl oedd gennyt i'w lefaru? | |
| (Yr Arglwydd) A oes ar wyneb daear ddim yn iawn? | |
| (0, 2) 93 | Na, Arglwydd, drwg digymysg yno a gawn. |
| (0, 2) 94 | Druaned gennyf ddyn yn nydd trallodion |
| (0, 2) 95 | Na allaf boeni mo'r creaduriaid tlodion! |
| (Yr Arglwydd) Ai hysbys iti Faust? | |
| (Yr Arglwydd) Ai hysbys iti Faust? | |
| (0, 2) 97 | Y Doethur? |
| (Yr Arglwydd) Ie, fy ngwas! | |
| (Yr Arglwydd) Ie, fy ngwas! | |
| (0, 2) 99 | Diau! Fe'th wasanaetha'n anghymharol— |
| (0, 2) 100 | Ym mwyd a llyn y ffŵl, 'does dim daearol! |
| (0, 2) 101 | Gyrr ei ddychmygion hyd y maith bellterau, |
| (0, 2) 102 | Mae'n hanner ameu ei ffolineb mawr; |
| (0, 2) 103 | Mynnai'r disgleiriaf sêr o'r uchelderau, |
| (0, 2) 104 | A holl fwyniannau pennaf daear lawr; |
| (0, 2) 105 | A phell ac agos, waeth pa un a fyddant, |
| (0, 2) 106 | Ei wyllt anesmwyth galon, nis llonyddant. |
| (Yr Arglwydd) Os croes yw ei wasanaeth ef a'i ffyrdd, | |
| (Yr Arglwydd) Y daw y ffrwyth yn dâl am lafur blwyddyn. | |
| (0, 2) 111 | Pa faint a ddeli? Colli wnei er hynny!— |
| (0, 2) 112 | O rhoddi dithau gennad, fel y bo |
| (0, 2) 113 | I minnau'n dawel fach i'm ffordd ei dynnu— |
| (Yr Arglwydd) Cyd ag y byddo fyw'n y byd efô, | |
| (Yr Arglwydd) Tra brwydro dyn, fe dripia ambell dro. | |
| (0, 2) 117 | Diolchaf iti! Am y rhai trengedig, |
| (0, 2) 118 | Ni cheisiais i yn rhwydd erioed eu denu— |
| (0, 2) 119 | Gwell gennyf wyneb crwn a hwnnw'n gwenu; |
| (0, 2) 120 | Am gelain oer, nid mawr y prisiaf hi— |
| (0, 2) 121 | Fel cath ar ôl llygoden, dyna fi! |
| (Yr Arglwydd) O'r goreu! bydded iddo fel y mynni! | |
| (Yr Arglwydd) Er brithed fydd ei dueddiadau fo. | |
| (0, 2) 129 | Da iawn! Nid hir y pery ei ffyddlondeb, |
| (0, 2) 130 | Ac am a wystlais innau, ni phetrusaf. |
| (0, 2) 131 | Os caf fy nod, bydd dithau o'r hwylusaf |
| (0, 2) 132 | I roddi imi'r fuddugoliaeth lawn; |
| (0, 2) 133 | Caiff yntau fwyta pridd, yn awchus iawn, |
| (0, 2) 134 | Megys y sarff, fy modryb glodforusaf! |
| (Yr Arglwydd) Bydd rydd it ddyfod yma ac ymado, | |
| (Yr Arglwydd) Gosodwch mewn meddyliau a barhäo! | |
| (0, 2) 150 | O bryd i bryd, da gweld hen arglwydd nef, |
| (0, 2) 151 | A rhaid yw gwylio rhag ei droi'n elynol; |
| (0, 2) 152 | Bu'n dirion iawn, o un mor fawr ag ef, |
| (0, 2) 153 | Ymddiddan gyda'r diawl ei hun mor ddynol! |