| (Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon | |
| (1, 0) 431 | O! Duw a dalo |
| (1, 0) 432 | Dy fwynder im, arglwyddes... Wedi'r daith |
| (1, 0) 433 | Hyd yma gyda'r Capten 'rwyf mor flin, |
| (1, 0) 434 | A'r haul fel gwayw tanbaid trwy fy mhen. |
| (Abisâg) Does dim fel sudd y grawnwin i'th adfywio. | |
| (Abisâg) {Gan eistedd wrth ei ochr a rhoddi ei llaw ar ei dalcen i'w oeri.} | |
| (1, 0) 440 | Diolch, arglwyddes—ond nid tywysog wyf. |
| (Abisâg) {Gan wenu arno.} | |
| (1, 0) 444 | Na minnau'n arglwydd, ond ar gerfio coed. |
| (Abisâg) 'Rwyt tithau'n grefftwr?... Dwed im beth a gerfi. | |
| (Abisâg) 'Rwyt tithau'n grefftwr?... Dwed im beth a gerfi. | |
| (1, 0) 446 | Llun carw a ddihangodd rhac y cŵn |
| (1, 0) 447 | At draed bugeiles deg, tan ddail y gwinwydd, |
| (1, 0) 448 | Ac a orweddodd yno heb ofni angau |
| (1, 0) 449 | O deimlo'i thyner law ar gur ei ben... |
| (1, 0) 450 | Arglwyddes Telyn, a gaf i wneud it gist? |
| (Beneia) Rhaid iti frysio, 'r cyw! Oherwydd sydyn | |
| (Solomon) Dos at y morgrug... | |
| (1, 0) 480 | Maddau im, Dywysog, |
| (1, 0) 481 | Yr wyf yn gloff o'm deudroed, a'm dwy faglan |
| (1, 0) 482 | O'm cyrraedd tan y fainc. Crymais fy mhen |
| (1, 0) 483 | I gyfarch mab y brenin. Ni allwn fwy. |
| (Solomon) {Wrth Abisâg.} | |
| (Solomon) Nes eu dinistrio? | |
| (1, 0) 509 | Nid ymleddais i. |
| (1, 0) 510 | Ac ni bu cweryl rhwng fy nhad a'th dad. |
| (Solomon) Ai gŵr heddychol oedd? | |
| (Solomon) Ai gŵr heddychol oedd? | |
| (1, 0) 512 | Yng nghanol rhyfel |
| (1, 0) 513 | Y cwympodd-ô, ar bentwr cyrff Philistiaid, |
| (1, 0) 514 | A phedair saeth trwy'i fron. |
| (Abisâg) Mab ydyw hwn | |
| (Solomon) Beth hefyd, ddwedaist-ti, oedd enw dy dad? | |
| (1, 0) 524 | Ei enw, Fab y Brenin, ydoedd Jonathan. |
| (Solomon) {Yn ysgrifennu.} | |
| (Solomon) A fedri |di| sgrifennu? | |
| (1, 0) 529 | Ni ddysgwyd imi grefft ond cerfio coed |
| (1, 0) 530 | Yn ddail a blodau... |
| (Solomon) O! ni fedri ddarllen | |
| (Solomon) A thithau'n fab Tywysog? | |
| (1, 0) 533 | Petai 'nhad... |
| (Solomon) Ond o ran hynny, nid oedd sgrifennu a darllen | |
| (Beneia) A dyna ddiwedd arnynt! | |
| (1, 0) 599 | Trugarha, |
| (1, 0) 600 | Frenhines hawddgar, nid oes ynof golyn, |
| (1, 0) 601 | Na gwenwyn at dy fab, na chwant gorseddfainc, |
| (1, 0) 602 | Na had gwrthryfel. Edrych ar fy nhraed. |
| (1, 0) 603 | Pwy a'm cyfodai i i arwain byddin? |
| (1, 0) 604 | Tosturia wrthyf! |
| (Bathseba) {Yn meddalhau beth.} | |
| (Bathseba) Ai yn gloff y'th aned? | |
| (1, 0) 607 | Nage, arglwyddes:—Maddau 'mod i'n eistedd |
| (1, 0) 608 | I ddweud fy stori wrthyt—Wedi brwydr |
| (1, 0) 609 | Mynydd Gilboa, pan gwympodd Saul a Jonathan, |
| (1, 0) 610 | Rhuthrodd yr haid Philistaidd hyd at blas |
| (1, 0) 611 | Fy nhad i ladd a llosgi ac ysbeilio. |
| (1, 0) 612 | Fe ffodd fy mamaeth gyda minnau'n faban |
| (1, 0) 613 | A'r fflamau'n lliwio'r nos; ond yn ei brys |
| (1, 0) 614 | A'i dychryn fe'm gollyngodd ar y cerrig; |
| (1, 0) 615 | Torrwyd fy fferau. Cawsom loches gudd |
| (1, 0) 616 | Yn nhŷ Machir, un o dyddynwyr Saul. |
| (1, 0) 617 | Eithr o ddiffyg meddyg yn ein cuddfan |
| (1, 0) 618 | Asiodd fy fferau'n gam. Ni cherddais byth |
| (1, 0) 619 | Heb help ffyn baglau. |
| (Abisâg) {A'i llygaid yn llaith gan y stori.} | |
| (1, 0) 679 | O, Frenhines Rasol, |
| (1, 0) 680 | Yn fy ngweddïau beunydd cofiaf di... |
| (1, 0) 681 | Yn fy rhyfeddod 'mod i eto'n fyw. |
| (1, 0) 682 | Rhoed Duw i'r Brenin estyn edau f'einioes. |
| (1, 0) 684 | Mae ar gardotyn efrydd eisiau byw! |
| (Bathseba) {Yn edmygu ei ddewrder, er gwaethaf ei llid at Dŷ Saul.}: | |
| (1, 0) 760 | Trugaredd, Frenin grasol! |
| (Dafydd) Mab Jonathan mewn carpiau! Gapten Beneia! | |
| (1, 0) 766 | O Frenin mawr a grasol, beth wyf fi |
| (1, 0) 767 | It edrych ar gi marw, cloff, o'm bath? |
| (Dafydd) {A'r dagrau yn ei lais yntau.} | |
| (Dafydd) Hyn oll, fy machgen, er mwyn Jonathan. | |
| (1, 0) 791 | Tad pob amddifad tlawd a dalo iti. |
| (1, 0) 792 | Gwelodd fy llygaid heddiw fawredd Dafydd, |
| (1, 0) 793 | A Duw a sicrha dy orsedd byth. |
| (Dafydd) {Gan amneidio ar Abisâg, sy'n aros o hyd yn ymgrymw'n isel ar ris yr esgynlawr gerllaw'r delyn.} | |
| (Solomon) O ddenu'r werin. | |
| (2, 1) 970 | Pam? Pa beth a wnaeth? |
| (Solomon) Cyfododd eisoes blasty iddo'i hun | |
| (Solomon) Sy'n well na'r plasty hwn. | |
| (2, 1) 973 | Gŵr celfydd yw, |
| (2, 1) 974 | A noddwr i wŷr celfydd; ato y tyn |
| (2, 1) 975 | Talentau newydd y genhedlaeth ifanc |
| (2, 1) 976 | Yn reddfol, fel y darnau dur at dynfaen, |
| (2, 1) 977 | — Penseiri, cerfwyr, a dodrefnwyr gwych, |
| (2, 1) 978 | Rhoes Absalom siawns iddynt... |
| (2, 1) 979 | — Ti sy i fynd. |
| (Solomon) {Yn cofio'n sydyn.} | |
| (Solomon) Gerbyd tywysog? | |
| (2, 1) 989 | Gwêl,—mi symudaf i |
| (2, 1) 990 | Fy marchog. |
| (Solomon) Ac mae o'n farchog campus. | |
| (2, 1) 996 | Campus! A'r Brenin |
| (2, 1) 997 | Yn ymfalchïo'n llon fod ei etifedd |
| (2, 1) 998 | Yn arwr cenedl. |
| (Solomon) "Balchder o flawn cwymp"— | |
| (Solomon) Â gwên a geiriau gwag. | |
| (2, 1) 1013 | Gwarchod dy frenin! |
| (Solomon) Does ganddo byth na gair na gwên i'm mam. | |
| (Solomon) Does ganddo byth na gair na gwên i'm mam. | |
| (2, 1) 1015 | 'Wyt ti am symud? |
| (Solomon) Dyna! | |
| (Solomon) {Yn symud darn.} | |
| (2, 1) 1018 | Tsiec! Rhy wyllt |
| (2, 1) 1019 | Oedd dy symudiad. |
| (Solomon) Yna, mi symudaf hwn. | |
| (Solomon) {Yn ofnus.} 'Faint glywaist-ti? | |
| (2, 1) 1041 | 'Faint glywodd f'arglwydd dwysog |
| (2, 1) 1042 | O'n siarad gwag? |
| (Absalom) {Tan wenu.} | |
| (Absalom) Meffiboseth? | |
| (2, 1) 1115 | Tegwch bro, a serch ei llwythau'n clymu |
| (2, 1) 1116 | Fel y winwydden am y tegwch hwn,— |
| (2, 1) 1117 | Ei choed, ei bryniau, ei hafonydd clir. |
| (2, 1) 1118 | Y tad yn dysgu i'w fab ar gân ei charu, |
| (2, 1) 1119 | A'r fam yn dysgu i'r ferch,—a'r gân a'r iaith |
| (2, 1) 1120 | A'r tegwch yn ymdoddi'n un dreftadaeth, |
| (2, 1) 1121 | Mor gyfrin, o genhedlaeth i genhedlaeth, |
| (2, 1) 1122 | Fe fyddai'n wiw gan ddyn gael marw drosti. |
| (Absalom) Beth sydd yn uno cenedl, F'arglwydd Joab? | |
| (2, 1) 1167 | O rhowch i minnau'r fraint o gerfio'i chedrwydd |
| (2, 1) 1168 | Yn gnapïau addurn ac yn flodau lili. |
| (Dafydd) Gwyn fyd pob tad â meibion fel y rhain, | |
| (2, 2) 1765 | O, Frenin mawr a thirion, |
| (2, 2) 1766 | Pa beth a wnaf os collaf wedd dy wyneb? |
| (2, 2) 1767 | Heb wên y gŵr fu'n codi'r tlawd o'r llwch |
| (2, 2) 1768 | Syrthiodd yr haul o'r wybren. Beth a wnaf? |
| (Abisâg) Dangos dy rodd i'r Brenin. | |
| (Abisâg) Dangos dy rodd i'r Brenin. | |
| (2, 2) 1770 | Mae'n rhy hwyr! |
| (Abisâg) Bu'n cerfio cist, i'w Frenin gadw'r goron | |
| (2, 2) 1778 | Taw! Bellach mae'n rhy hwyr. |
| (Dafydd) {Yn dyner iawn, gan estyn ei ddwylo allan ato.} | |
| (2, 2) 1792 | Ffarwel, fy Nhad! |
| (Ahimâs) {Yn dyner wrth Abisâg ger y Porth, wedi i'r lleill gilio.} | |
| (2, 3) 1855 | O! lleddwch fi! |
| (2, 3) 1856 | Paham y byddaf byw i weld eich gwarth, |
| (2, 3) 1857 | Y bradwyr? Lleddwch fi wrth orsedd Dafydd. |
| (Absalom) {Wrth Ahitoffel.} | |
| (Absalom) Â thi fy mrawd-dywysog. | |
| (2, 3) 1863 | O! paham |
| (2, 3) 1864 | Y rhoddaist glust, fy mrawd, i'r dyn drwg hwn? |
| (Ahitoffel) Dy frawd, ai e?... Penlinia i Frenin Israel. | |
| (Ahitoffel) Dy frawd, ai e?... Penlinia i Frenin Israel. | |
| (2, 3) 1866 | Ni allaf i benlinio; a phe gallwn |
| (2, 3) 1867 | Ni phlygwn namyn i Eneiniog Duw. |
| (Absalom) Ond llawn o dwyll a dichell yw'r Frenhines. | |
| (2, 3) 1874 | Hi a fu'n pledio drosof. |
| (Ahitoffel) Rhagor o'i dichell, | |
| (Ahitoffel) Er cael cefnogaeth gan Dŷ Saul i'w mab. | |
| (2, 3) 1877 | O mor ddaionus ydoedd trigo o frodyr |
| (2, 3) 1878 | Ynghŷd yn Llys y Brenin. |
| (Absalom) Yr wyt ti'n | |
| (Absalom) Mor enbyd cyflwr Israel. | |
| (2, 3) 1882 | Mi wn hyn, |
| (2, 3) 1883 | Mai Dafydd yw fy mrenin i, a'm tad. |
| (Absalom) Ac ni niweidiwn innau ef er dim; | |
| (Absalom) A wyt-ti'n fodlon? | |
| (2, 3) 1889 | Nes dychwelo ef. |
| (Absalom) O'r gorau... Ple mae'r goron... Wyddost ti? | |
| (2, 3) 1892 | Yr oedd hi yma cyn imi syrthio i gysgu. |
| (Ahitoffel) {Yn gafael yn ei fraich a'i throi.} | |
| (2, 3) 1896 | Nid oes dim celwydd ynof, fel tydi: |
| (2, 3) 1897 | Yr oedd hi yma cyn imi syrthio i gysgu, |
| (2, 3) 1898 | Ac fe ddiflannodd. |
| (Absalom) Wyddost ti ddim mwy? | |
| (Absalom) Wyddost ti ddim mwy? | |
| (2, 3) 1900 | Dim mwy. Mi gerfiais gist o dderw i'w chadw. |
| (2, 3) 1901 | Diflannodd hi a'r gist; ond sut ni wn. |
| (Absalom) Na phoena ragor. Fe ddown ni o hyd i'r goron. | |
| (Absalom) Ond edrych—gwna gymwynas â mi, 'wnei-di? | |
| (2, 3) 1904 | Os yw'n fy ngallu, heb wneud drwg i'r Brenin. |
| (Absalom) Llychlyd y ffordd wrth deithio yma o Hebron, | |
| (2, 3) 1908 | Fynni-di win? |
| (Ahitoffel) Na! Paid â'i yfed... Dichon bod gwenwyn ynddo. | |
| (2, 3) 1911 | Nid ydyw gwenwyn yn un o arfau Dafydd. |
| (2, 3) 1912 | Edrychwch. |
| (2, 3) 1922 | Mi af, wrth gwrs. |
| (2, 3) 1923 | Ni fynnai'n Tad fod croeso'i fab yn brin. |
| (Ahitoffel) Sut yr wyt ti'n ei oddef? | |
| (Absalom) Ai un o'm milwyr i...? | |
| (2, 3) 2216 | Acw...yn yr ardd... |
| (2, 3) 2217 | Rhedais i'w erbyn... 'Roedd yr haul wrth fachlud |
| (2, 3) 2218 | Yn dallu fy llygaid... Rhedais i'w erbyn... O! |