| (1, 1) 16 | Dyma Bob wedi colli eì waith, a Rhys yn cael dim ond digon i'w gadw mewn 'sgidiau. |
| (1, 1) 17 | Mae'r streics 'ma yn bethe creulon. |
| (1, 1) 18 | Dyden nhw ddim yn perthyn i ni,—y Cymry. |
| (1, 1) 19 | Pethe wedi dwad oddiwrth y Saeson yde nhw. |
| (1, 1) 20 | Fu 'rioed son am streics yma cyn i Abram Jones gael ei droi i ffwrdd. |
| (1, 1) 21 | Wn i ddim be oedd yn corddi Bob ni i fynd i'r row heddyw o gwbl. |
| (1, 1) 22 | Mae Bob yn rhy ddiniwed o lawer. |
| (1, 1) 23 | Mae y lleill yn 'i stwffio fo ymlaen, ond Bob sydd yn colli ei waith, nid y nhw; a dyma ninne yn gorfod diodde. |
| (1, 1) 24 | Oni bai mod i'n gwybod b'le i droi, wn i ddim be wnawn i, na wn i yn wir. |
| (Marged) Sut yr ydach chi, Mari Lewis? | |
| (Marged) Sut yr ydach chi, Mari Lewis? | |
| (1, 1) 27 | Yr ydw i yn reit fflat, Marged Pitars, ydw'n wir. |
| (1, 1) 28 | Steddwch i lawr. |
| (Marged) Na, rhaid i mi fynd, ond mod i jest yn troi i mewn i weld sut yr oeddech chi yn yr helynt yma, Mi na'th y dynion yn riol â Mr. Strangle. | |
| (Marged) Dase nhw wedi hanner 'i ladd o, fase o niwed yn y byd—— | |
| (1, 1) 31 | Be ydi'ch meddwl chi, Marged Pitars? |
| (Marged) Dim; ond fod yn hen bryd ì rywun godi row, fod y cyflogau mor fychain, fel nad yw yn bosib cadw teulu; ond, yn wir, yr oeddwn wedi siarsio y |gwr acw| i beidio dweyd yr un gaìr, nac i wneyd ei hun |yn amlwg| mewn ffordd yn y byd. | |
| (Marged) Dim; ond fod yn hen bryd ì rywun godi row, fod y cyflogau mor fychain, fel nad yw yn bosib cadw teulu; ond, yn wir, yr oeddwn wedi siarsio y |gwr acw| i beidio dweyd yr un gaìr, nac i wneyd ei hun |yn amlwg| mewn ffordd yn y byd. | |
| (1, 1) 33 | Felly, Marged Pitars, yr ydach chi yn awyddus i Bob ni ac ereill ymladd y frwydr, ac i |Wmphre|, eich gwr, a phawb arall sydd yn perthyn i chwi, fod fel y Dan hwnnw gynt, yn aros mewn llongau, a dyfod i mewn am ran o'r anrhaith wedi i'r rhyfel fynd drosodd. |
| (1, 1) 34 | Mae yna lawer Dan yn ein dyddiau ninnau, fel yr oedd Mr. Davies, Nerquis, yn deyd. |
| (Marged) Gobeithio na chollith |Wmphra| mo'i waith, beth bynnag. | |
| (Marged) Nos da. | |
| (1, 1) 38 | Nos da, a diolch i chi am alw. |
| (Bob) Wel, mam, mae yn debyg eich bod wedi cael hanes yr helynt? | |
| (Bob) Wel, mam, mae yn debyg eich bod wedi cael hanes yr helynt? | |
| (1, 1) 42 | Do, machgen i; ond wyt tì yn meddwl dy fod wedi gwneyd dy ddyledswydd? |
| (1, 1) 43 | Mi ddaru mi dy siarsio di lawer gwaith i adael i'r lleill godlo hefo'r helynt, onid o? |
| (1, 1) 44 | Mi wn o'r gore fod genoch chi, fel gweithwyr, le i gwyno, ac fod yn gywilydd fod rhyw Sais yn dwad ar draws gwlad i gym'ryd lle dyn duwiol fel Abram Jones, na fu 'rioed helynt efo fo; ond 'dwyt ti ddim ond ifanc, a pham na faset ti yn gadael i rywun fel Edward Morgan siarad a chodlo,—dyn sydd ganddo dy iddo fo'i hun, a buwch, a mochyn? |
| (1, 1) 45 | Ond waeth tewi. |
| (1, 1) 46 | Beth ddaw o honom ni ydi'r pwnc 'rwan? |
| (Bob) Mam! nid fel yna ddaru chi nysgu i. | |
| (Bob) Mae y'ch Llyfr chi,—y Beibl,—yn son llawer am aberthu er mwyn ereill— | |
| (1, 1) 54 | Taw a dy lol; fedra i ddim diodde dy glywed di yn siarad. |
| (1, 1) 55 | 'Does ene ddim son am streics coliars yn y Beibl; ac os wyt ti yn mynd i gymharu y row ene â dim sydd yn y Beibl, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan y mynnost. |
| (Bob) Cymerwch bwyll, mam; os nad oes cymhariaeth, y mae yna gyfatebiaeth, ac am gyfatebiaeth yr ydw i yn son. | |
| (Bob) Cymerwch bwyll, mam; os nad oes cymhariaeth, y mae yna gyfatebiaeth, ac am gyfatebiaeth yr ydw i yn son. | |
| (1, 1) 57 | Hwde di, paid di hel dy eirie mawr efo fi; dydi y gair cyfatebiaeth ddim yn y Beibl nac yn |'Fforddwr| Mr. Charles. |
| (Bob) Mi wn, mam, nad ydych wedi darllen 'Butler' ar Gyfatebiaeth. | |
| (Bob) Mi wn, mam, nad ydych wedi darllen 'Butler' ar Gyfatebiaeth. | |
| (1, 1) 59 | 'Bwtler!' |
| (1, 1) 60 | Be wyt ti yn son am dy fwtler wrthai? |
| (1, 1) 61 | Rhyw bagan fel ene, nad ydi o byth yn mynd i le o addoliad, ond i'r Eglwys, ac na ŵyr o ddim ond am gario gwin i'w feistar. |
| (Bob) {yn chwerthin} Nid bwtler y Plas oeddwn yn feddwl, ond yr Esgob Bwtler,—dyn da a duwiol. | |
| (Bob) {yn chwerthin} Nid bwtler y Plas oeddwn yn feddwl, ond yr Esgob Bwtler,—dyn da a duwiol. | |
| (1, 1) 63 | Wel, sut bynnag, yr wyt ti wedi ei gwneyd hi heddyw. |
| (1, 1) 64 | Welest ti mo John Powell? |
| (1, 1) 65 | Be oedd o yn feddwl o'r helynt? |
| (Bob) Roedd o yn ofnì y cai rhai o honom ein cospi. | |
| (Bob) Roedd o yn ofnì y cai rhai o honom ein cospi. | |
| (1, 1) 67 | Wel, mae arna i ofn y canlyniadau. |
| (Bob) Beth bynnag fyddant, dydi ddim yn 'difar gen i mod i wedi gwneyd yr hyn nes i, a dase y dynion wedi cadw at fy nghyngor i, fuase'r ynfydwaith hwn ddim wedi ei wneyd. | |
| (Bob) Beth bynnag fyddant, dydi ddim yn 'difar gen i mod i wedi gwneyd yr hyn nes i, a dase y dynion wedi cadw at fy nghyngor i, fuase'r ynfydwaith hwn ddim wedi ei wneyd. | |
| (1, 1) 70 | Mi ges brofedigaeth fawr hefo dy dad, ond yr oedd yn dda gen i 'i weld o'n ffoi o'r ardal, er mai 'y ngwr i oedd o; ond wn i ddim be wnawn i daset ti yn gorfod ffoi rhag dwad i helynt. |
| (Bob) 'Na i ddim, a 'na i mo'ch gadel chi chwaith, tra y caf aros. | |
| (1, 2) 110 | Be wyt ti'n ddeyd ddeydodd Abel Hughes wrthat ti neithiwr, Rhys? |
| (Rhys) Deyd y cawn i beidio mynd i'r siop heddyw, am fod Bob yn dwad allan o'r jail. | |
| (Rhys) Deyd y cawn i beidio mynd i'r siop heddyw, am fod Bob yn dwad allan o'r jail. | |
| (1, 2) 112 | Mae'n dda gen i fod Abel Hughes yn dal i gredu mai ar gam yr anfonwyd Bob i'r jail. |
| (Rhys) 'Roedd mistar yn deyd ddoe yn y siop ei fod ef yn credu erbyn hyn fod Bob wedi cael dau fis o jail yn hollol ar gam. | |
| (Rhys) 'Roedd mistar yn deyd ddoe yn y siop ei fod ef yn credu erbyn hyn fod Bob wedi cael dau fis o jail yn hollol ar gam. | |
| (1, 2) 114 | Yr ydw i yn synnu fod Mr. Brown, y Person, yn gallu pregethu am gyfiawnder a thrugaredd, ac ynta'i hun wedi bod ar y fainc yn cytuno efo gwr y Plas i weinyddu anghyfiawnder. |
| (Wil) Pregethu? | |
| (Marged) Wel, hwyrach na feder Mr. Brown ni wneyd fawr o'r pregethu 'ma, ond mae o'n berson da, anwedd. | |
| (1, 2) 119 | Mae hynny yr un peth yn union, Marged Pitars, a bydae chi'n deyd fod James Pwlffordd yn deiliwr da, ond na feder o ddim pwytho. |
| (1, 2) 120 | Mi fydda i yn diolch llawer mai efo crefydd yr ydw i, ac nid yn Eglwys Loegr. |
| (Marged) Wel, gadewch iddo; mae Mr. Brown yn dda iawn wrtha i, yn neilltuol oddeutu'r Nadolig 'ma; a mi 'rydw i yn reit hapus yn yr Eglwys. | |
| (Wil) Un gwahaniaeth mawr rhwng yr Eglwys a'r capel, Mari Lewis, yw fod pobol yr Eglwys yn meddwl eu hunain yn dda, a phawb yn gwybod eu bod yn ddrwg; a phobol y capel yn meddwl eu hunain yn ddrwg, a phawb yn credu eu bod yn dda, wyddoch. | |
| (1, 2) 124 | Wel, William, rhaid i ti gael cellwair efo popeth. |
| (1, 2) 125 | Mi wnei di lawer o dda neu ddrwg yn y byd yma. |
| (1, 2) 126 | Gobeithio'r 'ranwyl y cei di dipyn o ras. |
| (Wil) Mae digon o hono i'w gael, on' does, Mari Lewis? | |
| (Wil) —ond fydda i byth yn leicio cymyd fwy na fy share o ddim, wyddoch. | |
| (1, 2) 129 | Paid a siarad yn ysgafn, William. |
| (1, 2) 130 | Fedri di byth gael gormod o ras. |
| (Wil) Felly bydd y gaffer acw yn deyd. | |
| (Wil) Felly bydd y gaffer acw yn deyd. | |
| (1, 2) 132 | Pwy ydi dy gaffer di, dywed? |
| (Wil) Ond "yr hen law" acw,—y nhad, —wyddoch. | |
| (Wil) Ond "yr hen law" acw,—y nhad, —wyddoch. | |
| (1, 2) 134 | Wil, yr ydw i yn dy siarsio i beidio galw dy dad yn "gaffer" ac yn "hen law." |
| (1, 2) 135 | Weles i 'rioed ddaioni o blant fydde'n galw eu tad a'u mam yn "hwn acw,' ac yn "hon acw," neu y "gaffer," "y gyfnor," ac enwau cyffelyb. |
| (1, 2) 136 | Paid di a gadael i mi dy glywed di yn galw dy dad ar yr enwau gwirion ene eto, cofia di. |
| (Wil) All right. | |
| (Wil) Ddaru mi ddim lladd neb, ai do? | |
| (1, 2) 144 | Naddo; ond mae eisio i ti ladd "yr hen ddyn." |
| (Wil) Pwy ydach chi'n feddwl, Mari Lewis? | |
| (Wil) Mi fyddwn wedi llwgu. | |
| (1, 2) 150 | Nage, William, nid dy dad yr ydw i'n feddwl, ond yr "Hen Ddyn" sydd yn dy galon di." |
| (Wil) Does yma'r un, mi gymra fy llw. | |
| (Wil) Does yma'r un, mi gymra fy llw. | |
| (1, 2) 152 | Oes, William bach, ac mi wyddost o'r gore mai yr "Hen Ddyn," —ydwpechod,—ydw i'n feddwl. |
| (Wil) O! yr ydw i'n y'ch dallt chi 'rwan. | |
| (Wil) Ond dydi pechod yn y'n c'lonne ni i gyd, medde'r hen——y nhad acw. | |
| (1, 2) 156 | Ydi, machgen i, ac mae o'n dwad allan yn dy ben di hefo'r "Q.P." gwirion yna. |
| (1, 2) 157 | Yr ydw i'n synnu fod dy dad yn gadael i ti droi dy wallt oddiar dy dalcen fel ene, a synnwn i ddim nad wyt ti'n mynd i edrach arnat dy hunan yn y glass bob dydd i borthi dy falchder. |
| (1, 2) 158 | Diolch na fu yr un looking glass 'rioed yn ein teulu ni nes i Bob ddod ag un yma; a mi fase'n dda gan y nghalon í bydase hwnnw 'rioed wedi dwad dros y rhiniog. |
| (1, 2) 159 | Mi fydde mam yn deyd fod pobl, wrth edrach i'r glass, yn gweld y gwr drwg, ac mi greda i hynny yn hawdd. |
| (1, 2) 160 | Wn i ddim be' ddaw o'r bobl ifinc yma sydd yn gwneyd cymaint o shapri o'u gwalltie a'u dillad. {Y cloc yn taro un-arddeg; yn edrych at y cloc.} |
| (1, 2) 161 | Mae hi yn un-ar-ddeg o'r gloch, a rhaid i mi dendio, ne mi ddaw Bob adre' cyn y bydd genna i damad yn barod iddo fo. |
| (1, 2) 162 | Mae yn rhaid iddo gael rhyw amheuthyn. |
| (1, 2) 163 | Be' na i iddo fo, Rhys? |
| (Rhys) Mi fydda Bob yn ffond iawn o gacen gyrans. | |
| (Rhys) Mi fydda Bob yn ffond iawn o gacen gyrans. | |
| (1, 2) 165 | Ie, dyna hi; wneiff honno ddim pwyso arno fo. |
| (1, 2) 166 | Mae nhw yn deyd os caiff rhwfun fydd newydd ddwad o'r jail fwyd rhy drwm, yr aiff o'n sâl. |
| (1, 2) 167 | Yr ydw i'n meddwl na cheiff o ddim byd gwell na phaned o de a chacen. |
| (1, 2) 168 | Os rhedi di i Siop {gellir enwi siop rhywun yn yr ardal lle y perfformir "Rhys Lewis"} i nol gwerth tair ceiniog o'r peilliad gore, dimeiwerth o gapten soda, a chwarter o gyrans, fydda i dro yn 'i gneyd hi. |
| (1, 2) 170 | Wyt ti'n meddwl, William, y bydd Bob yn edrach yn go dda? |
| (Wil) Wn i ddim, ond mae ene un fantais wrth i goliar gael ei gymryd i'r jail. | |
| (Wil) Wn i ddim, ond mae ene un fantais wrth i goliar gael ei gymryd i'r jail. | |
| (1, 2) 172 | Be' ydi hwnnw, William? |
| (Wil) Fedra nhw ddim rhoi y County crop iddo fo, achos mi ddyffeia i nhw i dorri 'i wallt o yn fyrrach nag ydi o. | |
| (Wil) Fedra nhw ddim rhoi y County crop iddo fo, achos mi ddyffeia i nhw i dorri 'i wallt o yn fyrrach nag ydi o. | |
| (1, 2) 175 | Well i chi'ch dau fynd i'r relwe 'rwan i gyfarfod Bob. |
| (Marged) Yr ydw i'n disgwyl fod dydd eich trafferthion chwithau wedi darfod pan ddaw Bob adref. | |
| (1, 2) 179 | Wedi i mi ddeall fod pawb yn credu fod Bob yn ddi-euog, yr wyf yn berffaith dawel. |
| (Marged) Mae'r tren wedi dwad bellach, a dylai y bechgyn fod wedi cyrraedd y ty. | |
| (Marged) Mae'r tren wedi dwad bellach, a dylai y bechgyn fod wedi cyrraedd y ty. | |
| (1, 2) 181 | O, mae'n debyg fod Bob yn gorfod siarad gydag amryw ar ei ffordd o'r relwe, ond dyma nhw'n dwad—— |
| (Wil) {yn sefyll} Nyth caseg, Mari Lewis! | |
| (Wil) Dydi Bob ddim wedi dwad! | |
| (1, 2) 185 | Mi wyddwn na ddoi o ddim. |
| (1, 2) 186 | 'Roedd rhwbath yn deyd wrtha i. |
| (1, 2) 187 | Mi wn fod rhwbeth wedi hapio iddo fo. |
| (Wil) Mae'r bechgyn yn deyd y daw o yn siwr efo'r tren nesa. | |
| (Wil) Ty'd, Rhys, gad i ni fynd i'r stesion, mae hi jest yn amser. | |
| (1, 2) 191 | Wel, do's mo'r help; fel hyn mae pethe i fod, a rhaid i ni ymostwng. |
| (Marged) Dase Mr. Brown yma, mi fase fo yn gallu'ch cysuro chi,—mae gyno fo ddigon i ddeyd ar adeg fel hyn. | |
| (Marged) Dase Mr. Brown yma, mi fase fo yn gallu'ch cysuro chi,—mae gyno fo ddigon i ddeyd ar adeg fel hyn. | |
| (1, 2) 193 | Marged Pitars, peidiwch a son am y'ch Mr. Brown wrtha i. |
| (1, 2) 194 | Dydw i yn gwybod am yr un dyn feder roi briw a'i wella fo, feder daflu i lawr a chodi i fyny,—cic a chusan ydw i'n galw peth fel ene. |
| (1, 2) 195 | Fase Bob 'rioed wedi ei anfon i'r jail tase Mr. Brown wedi gwneyd ei ddyledswydd." |
| (Desc.) Re-enter Wil a Rhys. | |
| (Wil) {wrth RHYS} Mae'r hen wraig yn sticio i fyny fel brick. | |
| (1, 2) 198 | Mi welaf mai newydd drwg sy gennoch chi eto, ond dydi o ddim ond y peth oeddwn i yn ei ddisgwyl. |
| (1, 2) 199 | Mae rhwbeth wedi hapio iddo fo, ne mi fase adref cyn hyn. |
| (Wil) Peidiwch a rhoi'ch calon i lawr, Mari Lewis. | |
| (Wil) Yr ydw' i yn credu y troiff Bob i fyny o rywle toc. | |
| (1, 2) 202 | Do's gennat ti ddim sail i obeithio am hynny, William. |
| (1, 2) 203 | Y mae hi yr un fath arna i ag oedd hi ar Job. |
| (Wil) Ond doedd y pregethwr yn deyd y Sul o'r blaen, Mari Lewis, fod hi wedi dwad yn all right ar Job yn y diwedd, er yr holl hymbygio fu arno fo, ond oedd o? | |
| (Wil) Ond doedd y pregethwr yn deyd y Sul o'r blaen, Mari Lewis, fod hi wedi dwad yn all right ar Job yn y diwedd, er yr holl hymbygio fu arno fo, ond oedd o? | |
| (1, 2) 205 | Oedd, William. |
| (1, 2) 206 | A daswn inne cystal a Job, mi ddeuthai yn ol reit arna inne hefyd, wel di. |
| (Wil) Mae hi yn siwr o ddwad yn all right arnoch chi, Mari Lewis, achos yr ydach mor dduwiol a Job, mi gymra fy llw. | |
| (Wil) Mae hi yn siwr o ddwad yn all right arnoch chi, Mari Lewis, achos yr ydach mor dduwiol a Job, mi gymra fy llw. | |
| (1, 2) 208 | Paid a rhyfygu a chablu, William. |
| (Wil) Yr ydw i yn deyd y gwir o nghalon; ac yn ol fel yr oedd y pregethwr yn deyd hanes Job, yr ydw i yn y'ch gweld chi'ch dau yn debyg iawn i'ch gilydd. | |
| (Wil) Mi ddaru chi y'ch dau sticio at y'ch cylars yn first class, ac mae hi yn siwr o ddwad yn all right arnoch chithe. | |
| (1, 2) 211 | Yr ydw i yn begio arnat ti i dewi. |
| (1, 2) 212 | Mi ddylet wybod nad ydw i ddim mewn tymer heno i wrando ar dy lol di. |
| (Wil) Lol! Nid lol ydyw at all. | |
| (Wil) Mi fetia,—hynny ydi, mi gymra fy liw, y bydd hi yn all right arnoch chi yn y diwedd. | |
| (1, 2) 215 | William, oedd ene lawer o'r coliars yn y relwe? |
| (Wil) Miloedd ar filoedd. | |
| (Wil) Miloedd ar filoedd. | |
| (1, 2) 217 | Dene ti eto; 'does dim ond tri chant yn gweithio yn y Caeau Cochion. |
| (Wil) Wel, ie, mewn ffordd o siarad, wyddoch, Mari Lewis. | |
| (Wil) Yr ydw i yn siwr fod yno just i gant. | |
| (1, 2) 220 | Ddaru un o honoch chi ddim digwydd siarad efo John Powell? |
| (1, 2) 221 | Beth oedd o yn 'i feddwl am fod Bob heb ddwad? |
| (Rhyshys a Wil) Doedd John Powell ddim yno! | |
| (Rhyshys a Wil) Doedd John Powell ddim yno! | |
| (1, 2) 223 | Ddim yno! |
| (1, 2) 224 | John Powell ddim yno! |
| (Wil) 'Roedd o'n gweithio stem y dydd. | |
| (Wil) 'Roedd o'n gweithio stem y dydd. | |
| (1, 2) 226 | Pwy oedd yn deyd hynny wrthat ti, William? |
| (Wil) Neb, ond 'y mod i yn meddwl hynny. | |
| (Wil) Neb, ond 'y mod i yn meddwl hynny. | |
| (1, 2) 228 | William, fyddet ti fawr o dro yn rhedeg can belled a thy John Powell, a deyd wrtho, os ydi o i mewn, y baswn i'n leicio 'i weld o. |
| (Wil) No sooner said than done. | |
| (Wil) No sooner said than done. | |
| (1, 2) 230 | Mae hi yn dywyll iawn, William, ac mae o braidd yn ormod i mi ofyn i ti ddwad yn ol. |
| (1, 2) 231 | Mi ddaw Rhys efo ti i gael gwybod rhywbeth gan John Powell, ac er mwyn i tithe gael mynd adre. |
| (Wil) Stand at ease; as you were! | |
| (Wil) Os bydd y twllwch yn dew iawn, mi torra fo efo nghyllell. {Exit.} | |
| (1, 2) 234 | Mae ene rwbeth yn garedig iawn ac yn glen yn y bachgen ene, a fedra i yn y myw beidio'i hoffi o; ond mi hoffwn o yn fwy pydae o dipyn yn fwy difrifol ac yn siarad llai o Saesneg. |
| (1, 2) 235 | Mi fydda i'n ofni llawer iddo fo dy neyd di, Rhys, yr un fath a fo'i hun; ac eto, dydw i ddim yn meddwl fod dichell yn 'i galon o. |
| (Wil) {wrth Rhys} Mi alwes i ddeyd wrth y gaffer acw mod i'n mynd i aros hefo ti heno. | |
| (Wil) Rydan ni wedi colli sport iawn. | |
| (1, 2) 239 | Be' ddeydodd John Powell, William? |
| (Wil) Dydi o ddim gartre'. | |
| (Wil) Mae ene gryn dair batel wedi bod, a Ned-un-llygad wedi ei gymryd i'r Rowndws; ond mi 'mladdodd fel llew efo'r plisman—— | |
| (1, 2) 243 | William, mae'n amser i ti fynd adre, machgen i. |
| (Wil) Ddim yn mynd adre heno,—wedi deyd wrth y gaffer—— | |
| (James) {wrth y drws} Wel, Mari, sut yr ydach chi ers talwm? | |
| (1, 2) 247 | James, yr ydw i wedi deyd wrtho chi laweroedd o weithiau nad oedd gen i byth eisie gweld y'ch gwyneb chi, ac nad ydach chi ddim i ddwad i'r ty yma. |
| (James) Onid bachgen Hugh Bryan ydi o? | |
| (James) Onid bachgen Hugh Bryan ydi o? | |
| (1, 2) 249 | Ie. |
| (James) Roeddwn i'n meddwl hynny ar 'i drwyn o. | |
| (Wil) Be' ydach chi'n weld ar y nhrwyn i, yr angau pheasant gennoch chi? | |
| (1, 2) 254 | William, taw y munud yma, gore i ti. |
| (Wil) {wrth Rhys} Gai roi noled iddo fo? | |
| (Rhys) Cymer ofal, Wil. | |
| (1, 2) 257 | Cerwch i ffwrdd, James, fel 'rydw i yn gofyn i chi. |
| (James) Feder o ddal 'i dafod ar ol heno? | |
| (James) Feder o ddal 'i dafod ar ol heno? | |
| (1, 2) 259 | O, meder, ond gore po leiaf weliff o arnoch chi. |
| (1, 2) 260 | Well i chi fynd, mae rhywun arall yn siwr o ddwad—— |
| (Bob) Holo! Gamekeeper, beth ydach chi eisio yma? | |
| (Tomos) Hynny ydi, os daru o drawo arno fo, achos mae yno gymin o honyn nhw i fyny ene, onid oes? | |
| (2, 1) 294 | Am wn i, hwyrach i fod o, Tomos. |
| (Tomos) Wel, 'does bosib na thrawan nhw ar 'u gilydd ryw dro. | |
| (Tomos) Mari, dyma'r moch gore fu gen i 'rioed am ddwad yn 'u blaene. | |
| (2, 1) 298 | Mae nhw yn edrach yn farus iawn, Tomos. |
| (Tomos) Rown i 'run ffig am fochyn os na fydde fo yn farus. | |
| (Tomos) Ma nhw yn edrach mor gysetlyd wrth droi 'u penne yn gam. | |
| (2, 1) 320 | Mae'ch ffowls chi yn edrach yn dda, beth bynnag. |
| (Barbara) Dowch, tipyn o'r ham a'r wye 'ma, Mari Lewis. | |
| (Tomos) Wn i ddim sut yr ydach chi yn teimlo, ond rydw i'n teimlo y medrwn i fyta penne pryfed. | |
| (2, 1) 324 | Mae'r ham yma yn dda iawn, Tomos. |
| (Tomos) Bwyd cry' anwedd ydi ham a wye, os cewch chi'r quality. | |
| (Tomos) Wyddoch chi be glywes i Ned 'y nghefnder yn deyd, welodd o a'i lygaid 'i hun un tro mewn ty reit spectol yn Llundain? | |
| (2, 1) 328 | Na wn i. |
| (Tomos) Wel, ar amser brecwast, mi fydde'r forwyn yn dwad a chryn ddwsin o wye wedi 'u berwi ar ddesgil, ac yn 'u gosod nhw ar y bwrdd, a denne lle bydde'r teulu yn 'u torri nhw un ar ol y llall, ac yn 'u hogle nhw; a'r forwyn yn 'u cario nhw yn 'u hole ffastied y medre hi; ac o'r diwedd hwyrach y caen nhw ddau neu dri allan o'r dwsin yn ffit i'w byta. | |
| (Tomos) Wel, wfft i'w c'lonne nhw, meddwn inne. | |
| (2, 1) 333 | Bobol bach! mae hi yn amser y capel! |