| (Malachi) Mari, sychsoch chi ddim o nghefan-i yn hannar sych! | |
| (1, 0) 9 | Chi a'ch hen gefan! |
| (1, 0) 10 | Dewch, mwstrwch-hi, ne ewch chi ddim i'r pwyllgor heno. |
| (Malachi) {Yn tynnu yn rhy egniol gan dorri y garai.} | |
| (Malachi) Go, darro! | |
| (1, 0) 13 | Nawr, Malachi, beth wetsoch-chi! |
| (Malachi) {Yn syllu yn ofidus ar y darn yn ei law.} | |
| (Malachi) Beth wetas-i, yn wir! | |
| (1, 0) 16 | Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chi, dyn o'ch oetran chi, i reci felna. |
| (Malachi) Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chitha i ddod â shwd Iassis a hyn i'r ty. | |
| (Malachi) Welas-i shwt beth ariod, os bydd ast arno-i i fynd i rwla, wy-i mor wirad o dorri lassan ne golli bwtwn, a mod i'n ddyn. | |
| (1, 0) 20 | Otych, otych, 'r'ych-chi mor wyllt. |
| (1, 0) 21 | Torri lassis a cholli bwtwna wy-i yn ych cofio chi. |
| (1, 0) 22 | Wn-i ar y ddaear ble ma'ch |front| chi. |
| (Malachi) |Front|! | |
| (Malachi) Dewch â'r grafat goch 'na yma. | |
| (1, 0) 26 | Na chewch—crafat goch yn wir—a phob dyn decha arall yn gwishgo colar gwyn. |
| (1, 0) 27 | Ble dotsoch-chi'r |front| 'na nos Sul? |
| (Malachi) Dyna wyr. | |
| (Malachi) Mari, os dim lassan letar yn y ty 'ma rwla? | |
| (1, 0) 34 | Lassan letar yn ych sgitsha dwetydd, ys clwas-i shwt gownt! |
| (1, 0) 35 | Tasa |chi|'n cal ych ffordd, fe wishgsach fel |navvy|. |
| (1, 0) 36 | Ma 'na ddwsan o lassis duon yn nror y ford. |
| (Jacob) Malachi, machgan annwl-i, 'dych-chi ddim yn meddwl dod i'r pwyllgor heno? | |
| (Jacob) Dewch, ma-hi'n mhell wedi'r amsar yn barod. | |
| (1, 0) 40 | Dewch miwn, Jacob, dewch miwn, fe fydd Malachi yn barod nawr miwn hannar munad, |
| (Malachi) Mari, lassis lletar sy gita Jacob. | |
| (1, 0) 46 | D'ôs gen-i ddim lassan letar yn y ty nawr. |
| (1, 0) 47 | Cerwch o'r ffordd. |
| (1, 0) 49 | Jacob, oti'ch gwraig chi yn gorffod lasso'ch scitsha chi fel hyn? |
| (Jacob) {Yn eistedd mewn cadair freichiau wrth y tân.} | |
| (Jacob) Oti, fe 'llwch fentro; fe gelswn-i fynd heb scitsha cyn y plygsa Sarah o mlan i felna. | |
| (1, 0) 52 | Ma Malachi wastod ar ol, cwympo i gysgu lwchi ar ol cal bwyd, yn lle mynd i wmolch ar unwaith, a dyma fi a'r hen gecin yn sang-di-fang, hen dwbin brwnt ar yr aelwyd. |
| (Jacob) Pitwch a wilia yn fach am y twbin, Mari; llestar o barch yw hwnna cofiwch. | |
| (1, 0) 56 | Dyna. |
| (1, 0) 58 | Nawr, y |front|, nesa. |
| (Malachi) Mwfflar sy am wddwg Jacob! | |
| (Malachi) Mwfflar sy am wddwg Jacob! | |
| (1, 0) 62 | Ma brest Jacob yn wan. |
| (1, 0) 64 | Sefwch yn llonydd, y dyn; beth sy arno-chi! |
| (Malachi) O'r arswd, ddaw hi ddim, ma-hi lawar rhy fach! | |
| (Malachi) O'r arswd, ddaw hi ddim, ma-hi lawar rhy fach! | |
| (1, 0) 66 | Rhy fach, dyma'r |front| fwya ôdd yn y shop—17½. |
| (1, 0) 67 | Well i chi gal colar ceffyl. |
| (1, 0) 68 | Dyna {wedi llwyddo ar ol tipyn o drafferth i osod y |front|}, 'r ych chi'n dishgwl rwpath yn depyg i Gristion nawr. |
| (Malachi) Fe fysa'n well gen i ddishgwl yn depyg i rwpath arall, wath felny wy'i'n teimlo. | |
| (Jacob) Ma'n well i ni fynd. | |
| (1, 0) 72 | Dewch nawr, Malachi, {yn dal i fyny ei got a'i wasgod iddo gyda'i gilydd} mwstrwch, 'r ych-chi'n symud fel anglodd. |
| (Malachi) {Yn ofidus.} | |
| (Jacob) Clwad beth? | |
| (1, 0) 77 | Beth sy'n bod nawr? |
| (1, 0) 78 | Y nefoedd annwl, bwtwn arall eto! |
| (Malachi) {Yn alarus, ar ol gosod ei law dde tu cefn, ac yn dangos bwtwm ar gledr ei law.} | |
| (Malachi) Jacob Evans, 'r wy-i 'n gallu godda profedigitha mawr bywyd yn weddol iawn, ond ma rwpath fel hyn yn strain ofnadw ar y ticyn crefydd sy gen i. | |
| (1, 0) 81 | O'r mowradd, ôn-i 'n son am golar ceffyl, fe ddylsach wishgo arnas cyfan, a nid shwt o ddillad. |
| (Malachi) Dewch a'm strapan i 'ma. | |
| (Malachi) Dewch a'm strapan i 'ma. | |
| (1, 0) 83 | Na chewch; fydda-i ddim wincad yn gwinio bwtwn arall. |
| (Jacob) Pwy isha bwtwn arall sy? | |
| (1, 0) 98 | Presant pen-blwydd helws Lisa Jane iddo-fa o Aberystwyth. |
| (Malachi) Wfft shwt bresant weta-i. | |
| (1, 0) 106 | Dewch miwn, Matthew, fydd Malachi ddim hannar munad cyn dod. |
| (1, 0) 109 | O, 'r ych-chi Obadiah 'na hefyd. |
| (1, 0) 110 | Dewch miwn, dewch miwn. |
| (Matthew) 'D yw Mrs. Evans, Ty-capal, ddim wedi cynnu tamad o dân yn y vestry, na gola chwaith, ag on ni'n meddwl, os nag os gwaniath gita chi, y celsa-ni gynnal y pwyllgor yma. | |
| (Malachi) Ishteddwch Obadiah, dewch ymlan. | |
| (1, 0) 115 | O ble galla-nhw ddod ymlan, a'r hen dwbin brwnt ar yr aelwyd. |
| (Jacob) Pitwch chi gofitio dim am y twbin, Mari, fe ddota-i bobpath yn daclus i chi. | |
| (1, 0) 122 | Llaw futur yw Jacob, ontefa? |
| (1, 0) 123 | Dyna, os collwch chi'r bwtwn yna eto, fe'i gwinia fa â chordyn y tro nesa. |
| (1, 0) 125 | Ishteddwch lawr am funad, fe gynna-i dân yn y rwm genol nawr. |
| (Malachi) Ia, ia, fe fyddwn yn fwy cysurus manny. | |
| (Jacob) A pheth arall, 'dyw dyn ddim yn licio poeri yn y rwm genol. | |
| (1, 0) 132 | Allwch-chi ddim bod yn y gecin, ne fydd gen i ddim un lle i fynd. |
| (1, 0) 133 | Ble 'r af fi? |
| (Jacob) 'D ôs dim isha i chi fynd i unman. | |
| (1, 0) 164 | Ma Malachi yn mynd i gynnal gwasanath. |
| (Malachi) {Yn ddigofus.} | |
| (Malachi) Ma'n raid i chi acto'n weddus miwn pwyllgor. | |
| (1, 0) 173 | Gadewch ych hen foddar, da chi, a cherwch mlaen â'r gwaith. |
| (Malachi) 'R yn-ni wedi cwrdd... 'r yn-ni wedi cwrdd yma heno... ond yn-ni? | |
| (Malachi) 'R yn-ni wedi cwrdd... 'r yn-ni wedi cwrdd yma heno... ond yn-ni? | |
| (1, 0) 175 | Otyn, otyn. |
| (Malachi) Jacob, Matthew, dyna ddangos i chi faint o wara teg wy-i 'n gal yn y ty ma. | |
| (Malachi) Jacob, Matthew, dyna ddangos i chi faint o wara teg wy-i 'n gal yn y ty ma. | |
| (1, 0) 178 | Malachi, ngariad annwl-i, ôn-i'n meddwl dim drwg, trio'ch helpu chi ôn i. |
| (Matthew) Ia, ia, Malachi, trio'ch helpu chi ôdd hi. | |
| (1, 0) 185 | O, 'r wy'n gweld. |
| (Matthew) Dewch mlan, Malachi, dechreuwch eto. | |
| (Malachi) Wel, 'r ych chi gyd yn gwpod nag wy-i ddim llawar o sharatwr. | |
| (1, 0) 189 | Clywch, clywch! |
| (Malachi) Dyna chi 'to! | |
| (Malachi) 'R wy wedi bod gita chrefydd nawr ers dros ddeugain mlynadd... | |
| (1, 0) 194 | Pwyllgor 'steddfod ne seiat-brofiad sy 'ma, gwetwch? |
| (Obadiah) |Chair, chair|. | |
| (Jacob) Fel ych chi gyd yn gwpod, fe benderfynws eclws Pisgah, fishodd ynol, i gynnal 'steddfod dydd Calan nesa. | |
| (1, 0) 207 | Naddo, phenderfynws yr eclws ddim shwt beth. |
| (Matthew) Wel, os na phenderfynws yr eclws, fe fuws sharad ymhlith y brotyr. | |
| (Matthew) Wel, os na phenderfynws yr eclws, fe fuws sharad ymhlith y brotyr. | |
| (1, 0) 209 | Do, dair wthnos i bora Sul dwetha yn y cwrdd brotyr buws son gynta am 'steddfod, ontefa Malachi? |
| (Malachi) {Yn anghysurus.} | |
| (Obadiah) Parchus yn wir! | |
| (1, 0) 214 | Ma nhw lawn mor barchus a ni. |
| (Malachi) Ordor, Mari. | |
| (Jacob) Wedi i gapal Salam glwad beth ôn-ni'n feddwl nithir, am ryw reswm ne gilydd, fe benderfynson fynd yn grôs i ni. | |
| (1, 0) 217 | Dyna gelwdd. |
| (Obadiah) |Chair, chair|. | |
| (Malachi) Nawr, Mari, tynnwch ych geira nol, gwnewch |apology| ar unwaith. | |
| (1, 0) 226 | O'n wir, a phwy ych-chi'n wilia, Malachi? |
| (1, 0) 227 | Pology a finna'n gwpod gwell! |
| (Obadiah) Ond chi'n gweld, Mrs. Williams, hyd yn nod os byddwch chi'n gwpod nag yw dyn ddim yn gwêd y gwir, ôs gita chi ddim hawl i wêd, pan fyddwch chi miwn pwyllgor, i fod a'n gwêd celwdd. | |
| (Obadiah) Ond chi'n gweld, Mrs. Williams, hyd yn nod os byddwch chi'n gwpod nag yw dyn ddim yn gwêd y gwir, ôs gita chi ddim hawl i wêd, pan fyddwch chi miwn pwyllgor, i fod a'n gwêd celwdd. | |
| (1, 0) 229 | O─h wel, dyna waniath nawr. |
| (1, 0) 230 | Wyddwn i ddim o hynny. |
| (1, 0) 231 | O'r gora, er mwyn mynd ymlan, 'r wy'n folon tynnu'r gair 'celwdd' yn ol, ond... ôdd Jacob ddim yn gwêd y gwir. |
| (Matthew) Cerwch mlan Jacob. | |
| (Y Brodyr) Clywch, clywch! | |
| (1, 0) 241 | 'D yn-nhw damad gwath na thacla eclws Pisgah, ond falla 'u bod nhw dicyn yn fwy |cute|. |
| (Jacob) 'D yn-ni ddim yn mynd i ffraeo â aelota Salam. | |
| (Malachi) 'R wy-i wedi bod ar gannodd o bwyllgora— | |
| (1, 0) 264 | O—h! |
| (Malachi) Wel, fe alla wêd ma nid dyma'r tro cynta i fi fod ar bwyllgor, ond chlywas i ariod son am |boint of ordor| miwn pwyllgor Cwmrag o'r blan. | |
| (1, 0) 282 | Mr. Cadeirydd, |point of ordor|. |
| (Malachi) O, beth wyddoch chi am beth felny? | |
| (Malachi) O, beth wyddoch chi am beth felny? | |
| (1, 0) 284 | Ma gen-i gystal hawl a neb arall i wêd gair, nagos-a? |
| (Jacob, Matthew, Obadiah) Os, ôs. | |
| (Jacob, Matthew, Obadiah) Os, ôs. | |
| (1, 0) 286 | Wel, ma Jacob Evans wedi gwêd fod aelota Salam wedi mynd yn grôs i ni yn Pisgah. |
| (Jacob) Pwy isha i chi 'mhela â'r hen grachan yna nawr sy? | |
| (Jacob) Fel gwetas-i, "Parhaed brawdgarwch." | |
| (1, 0) 289 | Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch," dim ond i chi gal ych ffordd. |
| (Malachi) Dyna i gyd sy gita-chi i wed? | |
| (Malachi) Dyna i gyd sy gita-chi i wed? | |
| (1, 0) 291 | Nace, dyma beth sy gen i: os ôs un wedi croesi'r nall, ni yn Pisgah sy wedi mynd yn grôs i aelota Salam. |
| (Y Brodyr) {Yn codi fel un.} | |
| (1, 0) 295 | 'Dos dim isha i chi waeddi, 'dos dim tamad o'ch hofan chi arno-i, dim un o chi. |
| (1, 0) 296 | Y gwir yn erbyn y byd, myn brain-i, Jacob. |
| (Malachi) {Yn annerch y tri gwr.} | |
| (Malachi) Fe roias i rypudd teg i chi; fe wyddwn-i o'r gora y gnelsa Mari gawl o'r cwbwl. | |
| (1, 0) 301 | Otw; 'r wy-i'n mynd i nithir cawl, a ma raid i chi ifad-a, bob un o chi. |
| (1, 0) 302 | Fe naiff les i chi lyncu tipyn o wirionadd. |
| (1, 0) 304 | Fuws dim son am 'steddfod yng nghapal Pisgah cyn tair wthnos i bora dydd Sul dwetha—all un o chi watu hynna? |
| (1, 0) 306 | Wel, ôdd capal Salam wedi penderfynu dros bump wthnos yn ol. |
| (Matthew) O ble 'r ych-chi yn gallu gwêd 'na? | |
| (Matthew) O ble 'r ych-chi yn gallu gwêd 'na? | |
| (1, 0) 308 | 'D yw-a ddim ond peth glwas-i â'm clusta 'm hunan, Matthew. |
| (1, 0) 309 | On-i yn shop y Coparetif, fish i nos Satwn dwetha, a fe glwas Ifan Twm Shon yn gwêd wrth Shân Ty-Cornal fod y brotyr yn eclws Salam yn meddwl cal 'steddfod dydd Calan nesa, a wetyn, o ble gallwch chi wêd 'u bod nhw wedi mynd yn grôs i chi? |
| (Jacob) Falla 'u bod nhw wedi meddwl, ond ôn-nhw ddim wedi penderfynu dim. | |
| (Jacob) Os gita chi ddim hawl i wêd yn bod ni wei mynd yn grôs iddyn nhw. | |
| (1, 0) 312 | 'D wy-i ddim am wed shwt beth. |
| (1, 0) 313 | Falla ma wedi dicwdd yn lletwith ma petha, falla nace-fa hefyd. |
| (1, 0) 315 | Ta pun, dyna'r gwirionadd. |
| (Matthew) 'D yn-ni ariod wedi cal unrhyw gymwynas oddiwrth aelota Salam. | |
| (Jacob) Nagw inna chwaith. | |
| (1, 0) 319 | O'r gora, a dyma finna yn roi rypudd i chi. |
| (1, 0) 320 | Cerwch chi mlan â'r program, ond os gnewch chi ffwliad o chi 'ch hunen, arno-chi bydd y bai. |
| (Matthew) 'R yn-ni yn fwy tebyg o nithir ffwliad o aelota Salam o beth dychrynllyd. | |
| (Malachi) Dos dim isha mynd i'r shop arno-chi, ne rwpath? | |
| (1, 0) 325 | Nagos, 'r wy-i'n itha cysurus man hyn. |
| (1, 0) 326 | A fel gwetws Matthew, falla galla-i fod o help mawr i chi. |
| (Malachi) Wel, beth gymerwn ni gynta? | |
| (1, 0) 341 | 'R wy inna yn eilio'r cynyciad. |
| (Malachi) Na, na, fe gymerwn y prif-ddarn gynta. | |
| (Jacob) "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd." | |
| (1, 0) 347 | Chi ithoch â'r gair oddiar flan y nhafod-i Jacob. |
| (1, 0) 348 | 'R wy-i'n dwli 'n lân ar y pishin bach yna. |
| (1, 0) 349 | Chi'n cofio côr Panteg yn cystadlu? |
| (Jacob) Cofio, wel am otw. | |
| (Jacob) Cofio, wel am otw. | |
| (1, 0) 351 | Fe geson-ni lawar i rali fach prynny, ondofa Jacob? |
| (1, 0) 352 | Deryn doniol och-chi'n arfadd bod yn grotyn. |
| (Jacob) A thwisan ofnatw och chitha, Mari. | |
| (Matthew) Ordor, ordor. | |
| (1, 0) 355 | Der, der, fel ma'r hen fyd 'ma; ôn-i'n meddwl dim am gysgod Malachi prynny. |
| (1, 0) 356 | Chi'n cofio'r noswaith 'ny ithoch chi a fi— |
| (Malachi) Ho'n wir, dyma hanas blasus i ddoti o mlan i, ontefa? | |
| (1, 0) 360 | Plant ia, beth ôn-ni? |
| (1, 0) 361 | Rhyw un ar bymtheg ôn-i, a 'd och-chitha, Jacob, ddim yn ddeunaw. |
| (1, 0) 362 | A chi'n cofio'r tro arall 'ny, y noswaith lyb 'ny ar y ffordd 'n ol o 'steddfod Merthyr ôch chi a fi yn cysgoti o dan y dderwen? |
| (Jacob) {Yn mwynhau'r atgof.} | |
| (Malachi) Mari, chi ddechreuws yr hen ddwli-ma. | |
| (1, 0) 367 | Ond plant ôn-ni, Malachi bach, plant ôn-ni. |
| (1, 0) 368 | O gadewch i ni gal "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd." |
| (1, 0) 369 | 'R wy-i'n dymuno cynnyg y dernyn yna. |
| (Jacob) 'R wy inna yn 'i eilio fa. | |
| (Obadiah) Ha, ha! | |
| (1, 0) 397 | Ma na lawar ffordd o ladd ci heblaw i groci-fa, ond ôs a, Matthew. |
| (Jacob) Allwch chi ddim roi engraifft i ni, pwy ddernyn ôdd ar ych meddwl chi? | |
| (Jacob) {Yn ddwys iawn.} | |
| (1, 0) 409 | Wel, 'dwy inna ddim yn gyfarwydd iawn â cherddoriath {gan droi at MATTHEW}, yn enwetig 'r hen nodiant, ond ma 'na ddernyn ar ym meddwl i, wn-i ddim os yw-a'n |glassical| ne bito, "Y don o flan y gwyntodd." |
| (Malachi) {Yn nwyfus.} | |
| (Malachi) Mari, chi'n cofio 'steddfod Aberdar! | |
| (1, 0) 412 | Cofio, ddala-i mod-i! |
| (Malachi) {Yn annerch JACOB a MATTHEW bob yn ail.} | |
| (Malachi) Fuas-i fawr o dro cyn dala 'i llycad hi, a fe ddath rwpath drosto-i bob tamad, do; "Dyna ngwraig i," myntwn-i, "dyna ngwraig i." | |
| (1, 0) 417 | Chi'n cofio'r dwarnod, Jacob? |
| (1, 0) 418 | Gita chi yr itho-i i'r 'steddfod. |
| (Malachi) Ia, ia, ond, ha! ha!—gita fi yr ithoch chi sha thre. | |
| (Malachi) Dyna chi, Mari, arnoch chi ma'r bai, chi ddechreuws, cofiwch—ond fe licswn i gal "Y don o flan y gwyntodd " yn 'stedfod Pisgah. | |
| (1, 0) 423 | Licswn inna hefyd, fe ddaw'r hen amsar 'nol mor felys. |
| (Malachi) Daw-a, daw; Matthew, ma'r "Don o flan y gwyntodd " yn |glassical|, on'd yw hi? | |
| (Obadiah) Ho! dyna Gymro, dyna Gymro; son am anwybotath! | |
| (1, 0) 431 | |Classical| ne bito, 'r wy-i am gal y dernyn yna. |
| (Matthew) Ma'n ddrwg gen-i fynd yn ych herbyn chi, ond fel cerddor ma'n rhaid i fi fod yn gydwybotol. | |
| (Malachi) Os yma rywun yn ddicon dwl i eilio hwnna? | |
| (1, 0) 445 | Os; 'r wy-i yn 'i eilio-fa. |
| (Malachi) Mari! | |
| (1, 0) 458 | Mr. Cadeirydd, 'r wy-i'n dymuno cynnyg "Y don o flan y gwyntodd." |
| (Malachi) Wel, 'tawn-i heb gyffro o'r fan! | |
| (Malachi) Wel, 'tawn-i heb gyffro o'r fan! | |
| (1, 0) 460 | Eiliwch-a, Malachi, eiliwch-a. |
| (Malachi) {Yn sarrug.} | |
| (Malachi) O'n wir; ym mhwy 'steddfod buoch |chi|, Obadiah? | |
| (1, 0) 466 | Lan âg ê, lan âg ê. |
| (Malachi) {Yn anfoddlon.} | |
| (Obadiah) 'R wy-i'n cynnyg yn ffurfiol yn bod ni'n cymeryd at y farddoniath a'r ryddiath. | |
| (1, 0) 481 | 'R wy-i'n eilio'r cynyciad. |
| (Malachi) Barddoniath a pheth? | |
| (Malachi) Faint o wobor gynycwn-ni? | |
| (1, 0) 494 | Otych-chi'n cofio'r llythyron caru o'ch chi'n arfadd hela ato-i, Malachi? |
| (Matthew) Ordor, ordor. | |
| (Matthew) Ordor, ordor. | |
| (1, 0) 496 | Der, der, dyna garwr ôdd Malachi, a'r llythyron ta, 'rwy-i'n cretu y gallaswn-i atrodd rai o honyn nhw nawr air am air. |
| (Malachi) {Yn bybyr.} | |
| (Malachi) Ma ryw wendid ryfadd wedi dod drosto chi yn ych henaint, nagos-a? | |
| (1, 0) 499 | Os falla'n wir, nawr wy-i yn 'i gal-a, lwchi, fe'i cesoch chitha fa yn ifanc iawn. |
| (Jacob) Dewch mlan, Malachi, ne man hyn y byddwn-ni. | |
| (Obadiah) Otw, 'r wy-i'n cynnyg fod yr oll o'r cyfansoddiata miwn barddoniath a ryddiath i'w hysgrifennu yn ol yr orgraff newydd. | |
| (1, 0) 506 | Beth gynllwn yw orgraff? |
| (Matthew) Orgraff—O, ffordd smala o spelian y Gwmrag. | |
| (Matthew) Orgraff—O, ffordd smala o spelian y Gwmrag. | |
| (1, 0) 508 | Wel, ma'n raid gen-i ta orgraff ôdd gita Malachi yn 'i lythyron caru. |
| (Matthew) |Chair|, |chair|. | |
| (Malachi) Testun hyfryd. | |
| (1, 0) 529 | Ma gen-i welliant at y testun yna. |
| (Malachi) Wel? | |
| (Malachi) Wel? | |
| (1, 0) 531 | "Noah yn dod mas o'r arch." |
| (Jacob) {Yn cynhyrfu.} | |
| (Jacob) Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch." | |
| (1, 0) 555 | Wel, wel, a dyma shwt beth yw pwyllgor o ddynon. |
| (1, 0) 556 | Druan a chi! |
| (Malachi) Ag ar bwy ma'r bai. | |
| (Malachi) Fe fysan-ni'r dynon wedi nithir gwaith onibai amdano chi. | |
| (1, 0) 559 | 'R un hen gân o hyd: y wraig hon a roddaist i mi. |
| (Obadiah) {Yn parhau ar ei draed.} | |
| (Malachi) Fyddwn ni'n tri ddim wincad yn partoi program: fe gewch chi, Matthew, ych ffordd gita'r gerddoriath, fe gaiff Jacob drefnu'r farddoniath a'r—a'r peth arall 'na, a fe ofala inna am yr amrywiath. | |
| (1, 0) 575 | Pwyllgor o ddynon, wel, wel! |
| (1, 0) 576 | A dyma beth sy'n dod o gal 'steddfod miwn |spite| yn erbyn capal arall. |
| (Matthew) Nid 'steddfod |spite| fydd hi. | |
| (Matthew) Ma gita ni gystlad hawl a nhw i gynnal 'steddfod ar ddydd Calan. | |
| (1, 0) 579 | Fuoch chi'n gofyn i aelota Salam i gynnal 'u 'steddfod ar ryw ddwarnod arall? |
| (Malachi) Y |ni| yn mynd i ofyn iddyn |nhw|! | |
| (Jacob) Mlan â'r program, mlan â'r program, er mwyn i ni gal 'i ddosparthu fa dydd Sul nesa; a fel gwetas-i, os bydd aelota Salam yn ddicon digwiddyl i gynnal 'steddfod wetyn, wel, wfft idd 'u crefydd nhw, weta-i. | |
| (1, 0) 583 | Beth wetsa-chi nawr, tsa aelota Salam yn dod â'u program mas cyn dydd Sul? |
| (Malachi) Dim |fear|, ma nhw lawar rhy gysglyd. | |
| (1, 0) 586 | Malachi, fe ddath papur yma i chi cyn i chi ddod nol o'r gwaith, ond fe anghofias 'i ddangos-a i chi. |
| (1, 0) 587 | Ma 'r un man i chi gal i weld-a nawr. |
| (1, 0) 588 | Desc |
| (1, 0) 589 | (Y gwyr yn edrych ar ei gilydd yn anesmwyth. |
| (1, 0) 590 | Mari yn tynnu allan raglen fawr o ddror y ford ac yn ei dadlennu o flaen eu llygaid. |
| (1, 0) 591 | Gwelir yn eglur mai poster capel Salem ydyw yn cyhoeddi eisteddfod ar ddydd Calan. |
| (1, 0) 592 | ~ |
| (1, 0) 593 | CAPEL SALEM |
| (1, 0) 594 | ~ |
| (1, 0) 595 | EISTEDDFOD FAWREDDOG |
| (1, 0) 596 | ~ |
| (1, 0) 597 | DYDD CALAN |
| (1, 0) 598 | ~ |
| (1, 0) 599 | Saif y gwyr yn syfrdan am ychydig gan syllu ar y rhaglen. |
| (1, 0) 600 | Dyma fe, lwchi: ac os bydd aelota Pisgah yn ddicon digwyddil i gynnal 'steddfod nawr, wel,— |