| (Ned) Dewch fechgyn, rhaid mynd â'r bywyd-fad mâs. | |
| (Ned) Dymunwch bob lwc i ni, wnewch chi? | |
| (1, 0) 16 | Gwnawn, yn wir. |
| (1, 0) 17 | Dewch â nhw i gyd 'nol yn y bad. |
| (1, 0) 18 | Druan o'r llong! |
| (1, 0) 19 | Mae ar ben arni. |
| (1, 0) 20 | Dyna'r don wedi golchi drosti! |
| (Shan) Nage─mae yn dal i fyny eto. | |
| (Gwenno) O diar! mae'r gwynt yn ofnadwy! | |
| (1, 0) 65 | Lwc dda i'r bechgyn, weda i. |
| (Shan) Maent wedi mynd allan lawer tro o'r blaen, ac wedi gwneuthur gwaith da. | |
| (Shan) Na, allai hi ddim, er ei bod dros ei phedwar ugain a dwy oddiar Calan Mai. | |
| (1, 0) 111 | Wel, Sali fach, dyma ti wedi dod unwaith eto. |
| (Sali Wat) Odi'r bad wedi mynd? | |
| (Beti) O, mam fach annwyl! | |
| (1, 0) 143 | Dim ond gweddïo yn ddistaw bach alla i wneud 'nawr, a'r un geiriau o hyd, "Duw, cadw hwynt." |
| (1, 0) 144 | Dyna gyd, ond fe ddealla Ef beth wy'n geisio ddweyd. |
| (Sali) Byddant yn eitha diogel, fe gei weld. | |
| (Sal) 'Nawr maent yn dod, ar ol i'r bad fynd mâs. | |
| (1, 0) 174 | A dyma Sam Caleb yn mynd atynt 'nawr. |
| (1, 0) 175 | Ach-a-fi. |
| (1, 0) 177 | Dynion yn wir! |
| (1, 0) 178 | Beth ydych chi'n feddwl wrth sefyll fanna a'r bad y fan draw? |
| (Lisa Jones) Ond mae yna ddigon yn y bad. | |
| (Lisa Jones) Does dim eisieu rhagor ynddo. | |
| (1, 0) 181 | Na, diolch i'r Arglwydd, yr oedd yna fwy na digon yn barod, ond wyddai y crachod yna ddim o hynny. |
| (Shan) Weli di b'le maent 'nawr, Nel? | |
| (Nel) Ust! clywch, maent yn canu. | |
| (1, 0) 189 | Nage, sŵn y tonnau yn taro ar y graig wyt ti'n glywed. |
| (Nel) Canu maent yn wir. | |
| (Sal) Rhywbeth! | |
| (1, 0) 217 | O, dyna'r bad wedi mynd yn ganddryll ar y creigiau. |
| (1, 0) 218 | Mae ar ben arnynt! |
| (1, 0) 219 | O, 'mechgyn bach i! |
| (1, 0) 220 | Ow! Ow! |
| (Shan) Welwch chi rywun yn y dŵr? | |
| (Shan) O! druan bach! | |
| (1, 0) 238 | Mae ei nerth yn pallu. |
| (1, 0) 239 | Mae yn boddi yn ymyl y lan! |
| (1, 0) 240 | Allwn ni wneuthur dim i'w achub! |
| (1, 0) 242 | O! mi af yn ddwl, af yn wir! |
| (Nel) Dewch, chi'r dynion! | |
| (1, 0) 268 | Dyma fi yn dod gyda thi. |
| (Sal) {Yn torri ei ffedog ac yn clymw'r darnau fel y ddwy arall} | |
| (Jenny) {Yn mynd i chwilio.} | |
| (1, 0) 280 | Un clwm eto! |
| (1, 0) 281 | Dyna fe! |
| (1, 0) 282 | 'Nawr am fy nghanol i. |
| (Sal) Weli di e' 'nawr, Bess? | |
| (Nel) Dyna fe! | |
| (1, 0) 292 | Cofiwch roi clwm cryf iddi. |
| (1, 0) 294 | Dyna fe! |
| (1, 0) 295 | Rho dy law i fi, Bess, a fe gydiwn yn y rhaff â'r llaw arall. |
| (1, 0) 296 | Dyma ni yn mynd, ferched. |
| (Bess) O, odi; ond mae wedi cael dolur mawr ar ei fraich dde a'i ysgwydd. | |
| (1, 0) 411 | 'Roedd e' bron a threngi pan gawsom afael ynddo, â'i fraich am damaid o'r bad. |
| (1, 0) 412 | Dyna'i cadwodd e' i'r lan neu fe fuasai wedi boddi. |