| (Morus) Be di'r rhif lluosog o'r gair clo, nhad? | |
| (Gruffydd) O, nag ydw; ond cofia di ma na rai tatws drwg yn sach Horeb heblaw Huw. | |
| (1, 0) 76 | Mi feddylis mod i'n clywad sŵn ych llais chi, Dafydd. |
| (1, 0) 78 | Hylo, be di'r matar arnoch chi heno? |
| (1, 0) 79 | Ma'ch gwynab chi cyn goched a chrib ceiliog; be sy wedi codi'ch gwrychyn chi rwan? |
| (Gruffydd) Dim, dim: ymresymu dipyn hefo Dafydd yr oeddwn i. | |
| (Gruffydd) Dim, dim: ymresymu dipyn hefo Dafydd yr oeddwn i. | |
| (1, 0) 81 | Wel, yn wir, o'r holl greduriaid sydd ar y ffarm chi'r dynion ydi'r rhai rhyfedda! |
| (1, 0) 82 | Chi ddynion yn fodau rhesymol─chi sy'n colli'ch tempar y funud yr ewch i drio ymresymu? |
| (Gruffydd) Doedd yma neb yn colli'i dempar cyn i ti ddwad i mewn beth bynnag. | |
| (Dafydd) Na, fi oedd yn ceisio perswadio Gruffydd i ddod yn aelod o Horeb acw. | |
| (1, 0) 85 | Felly wir; mi fuoch, decini, yn deyd wrtho fo'r fath golled i'r eglwys ydi bod heb ddyn fel y fo? |
| (Dafydd) Wel ia─ | |
| (Dafydd) Wel ia─ | |
| (1, 0) 87 | Mi fuoch yn dangos y fath fraint i'r eglwys fasa medru bachu samon mawr fel Gruffydd ni? |
| (1, 0) 88 | Begera aeloda y galwa i beth fel na; fasa Paul byth yn plygu i gardota pobol i'r eglwys yn y ffordd yna; ac er bod Gruffydd ma'n burion dyn, nid wrth i gosi o a phorthi i falchtar o y medrwch chi i gael o i mewn i'r eglwys; y gwir plaen ydi─ |
| (Gruffydd) {Ar ei draed.} | |
| (Gruffydd) Hannar munud, Mari: ma dy wir cyffredin di'n ddigon crafog, os doi di a dy wir plaen allan, mi mlingi fi i'r asgwrn. | |
| (1, 0) 91 | Y gwir plaen ydi─ma Gruffydd yn credu i fod o'n ddigon o eglwys i hunan. |
| (Gruffydd) Ar y ngair i, os ydw i'n eglwys ti ydi'r person a'r clochydd arni hi; brensiach fawr, Dafydd, pam na rowch chi Mari ni yn y sêt fawr? | |
| (Gruffydd) Ar y ngair i, os ydw i'n eglwys ti ydi'r person a'r clochydd arni hi; brensiach fawr, Dafydd, pam na rowch chi Mari ni yn y sêt fawr? | |
| (1, 0) 93 | Peidiwch a chellwar hefo petha na wyddoch chi ddim am danyn nhw; byddwch yn fodlon i fod yn awdurdod ar fenyn a chaws a ffowls. |
| (1, 0) 95 | Dafydd, glywsoch chi fod Mr. Evans yn |agent| dros y cwmni na yn Llunden? |
| (Dafydd) Pa gwmni? | |
| (Dafydd) Pa gwmni? | |
| (1, 0) 97 | Yn eno'r tad, y cwmni mawr sydd a chymin o sôn am dano'n talu'r llog arian uchel. |
| (Dafydd) O! 'r |Auxilary Society|? | |
| (Dafydd) O! 'r |Auxilary Society|? | |
| (1, 0) 99 | Dyna fo. |
| (Dafydd) {Mewn syndod.} | |
| (Dafydd) Mr. Evans, y gweinidog, yn |agent| iddyn nhw? | |
| (1, 0) 102 | Ia, pam lai? |
| (1, 0) 103 | Does dim o le yn y swydd, oes yna? |
| (1, 0) 104 | Mi wyddoch fod dega lawer o weinidogion y gwahanol enwada yn |agents| i'r |Auxiliary|. |
| (Dafydd) Eitha gwir; ond fedra i yn y myw rywsut feddwl am Mr. Evans yn |agent|: fel myfyriwr a phregethwr y bydda i'n arfar edrach arno fo. | |
| (Gruffydd) Be di enw llyfr Tomos Binney hefyd─y llyfr na fuost ti'n ddarllen chydig yn ol, Mari? | |
| (1, 0) 114 | "Pa fodd i wneud y goreu o'r ddau fyd." |
| (Gruffydd) Dyna fo. | |
| (Gruffydd) Wel, dyma deitl i lyfr Huw─"Pa fodd y ces i'r goreu ar y byd hwn," sef, arna i, Gruffydd Huws, wyddost. | |
| (1, 0) 117 | Peidiwch a boddro am Huw mor amal; mi rydw i wedi laru'ch clywad chi byth a hefyd yn barnu crefyddwyr wrth Huw, a chitha'n gwbod ma un o chwyn yr eglwys ydi o. |
| (Gruffydd) {Yn danllyd.} | |
| (Dafydd) Gawsoch chi'r newydd o le go saff, Mari Huws? | |
| (1, 0) 125 | Morus, y bachgan ma, roth hum i mi. |
| (Dafydd) Ha, mi gwela hi rwan; Gwen Evans ddeydodd wrth Morus am i thad; ma Morus a hitha'n caru'n o glos, yn tydy nhw? | |
| (Dafydd) Ha, mi gwela hi rwan; Gwen Evans ddeydodd wrth Morus am i thad; ma Morus a hitha'n caru'n o glos, yn tydy nhw? | |
| (1, 0) 127 | Felly ma nhw'n deyd. |
| (1, 0) 128 | Mi fydd Morus yn lwcus i chael hi, achos mi ŵyr sut i gadw tŷ; dyma hi wedi cadw'r tŷ i'w thad byth er pan bu farw i mam. |
| (Gruffydd) Mi ddeydist rwan, Mari, ma Morus roth hum i ti; ddeydith yr hen walch yr un pwmp wrtho i; ond rwyt ti'n medru cocsio i secrats o i gyd. | |
| (1, 0) 133 | Cnafon twyllodrus, yn wir! |
| (1, 0) 134 | Ma'r cwmni'r un mwya parchus yn y wlad, ac ma rhai o'r bobol ora ynglŷn a fo. |
| (1, 0) 135 | Dyna'r pen dyn, Mr. Francis, yn aelod seneddol ac yn proffesu crefydd, a mawr o arian mae o'n gyfrannu o hyd at achosion crefydd. |
| (Gruffydd) Wyt ti dy hun, Mari, yn peidio bod yn |agent| ar y slei dywad? | |
| (Gruffydd) Da i byth o'r fan ma, nid peth dwl fasa cael plat melyn ar y lidiart o flaen y tŷ: "|Mari Huws, Agent for the Auxiliary Society|." | |
| (1, 0) 139 | Wfft fawr i'ch coegni chi. |
| (1, 0) 140 | Mi wn be ydw i'n ddeyd; ma'r papura newydd yn llawn o'r gymdeithas bob wsnos. |
| (1, 0) 141 | Mi welis yn "Utgorn Cymru'' y dydd o'r blaen fod Mr. Francis yn rhoi pum mil o bunnau at wahanol gymdeithasa cenhadol, roedd o hefyd yn gosod carreg sylfaen dau ne dri o gapeli yn Llunden chydig yn ol. |
| (Gruffydd) {Dan wincio ar DAFYDD.} | |
| (Gruffydd) Dyma'r dyn fedar sponio'r dirgelwch i ni; Mr. Evans, i ba enwad ma Francis, pen manijar yr |Auxiliary Society| yn perthyn? | |
| (1, 0) 146 | Da chi, Gruffydd, rhowch ben ar y gwawd annuwiol na; peidiwch a sylwi arno fo, Mr. Evans. |
| (Mr Evans) O, fe wnaf o'r goreu â Gruffydd Huws; does dim ofn i frathiad o arna i. | |
| (Dafydd) Wel ia, hwyrach; ond rho di dy farn, Gruffydd. | |
| (1, 0) 159 | Dafydd, dydw i ddim o gwbl o'r un farn a chi. |
| (Gruffydd) Dyma ti eto, Mari, yn taflu dy gribin i mewn o mlaen i. | |
| (Gruffydd) Huwcyn wedi credu yn sicrwydd y |six per cents|; mi fasa'n mynd i'r nefoedd yn i grynswrth tasa gyno fo chwarter cymin o grêd yn i grefydd, y lluman cyfrwys. | |
| (1, 0) 179 | Rhag cywilydd i chi Gruffydd!─yn siarad fel pagan yng ngŵydd Mr. Evans fel hyn. |
| (Gruffydd) Mae ceffyl castiog Huw yn y nghroen i o hyd, Mari bach; ond yn wirionadd i mi, fydd yn hwb da ymlaen i'r Gymdeithas yn yr ardal ma fod Huw wedi credu yni hi efo'i dafod ac hefo'i boced. | |
| (Mr Evans) Be am danoch chi a Mari Huws, Gruffydd Huws? | |
| (1, 0) 185 | Rydw i wedi dilyn hanes y Gymdeithas ers misoedd, ymhell yn wir cyn bod sôn am dani yma hefo ni. |
| (1, 0) 186 | Mae gen i frawd yn Lerpwl fentrodd arni'n bur ddwfn, ac mae'r lloga'n dwad i mewn yn gyson fel y cloc. |
| (1, 0) 187 | A dydi Gruffydd ma chwaith wedi cael fawr o lonydd ers plwc byd, mi rydw i'n gneud y ngora i gael ganddo roi deucant ne dri i mewn yni hi. |
| (1, 0) 188 | Pam y rhaid i ni golli petha gora'r byd a chrafu a chynhilo a phinsio'n hunain a dim uwch bawd troed yn y diwedd? |
| (Gruffydd) Wn i ddim yn iawn beth i ddeyd ar ol yr araith na─prun ai "Amen,'' ne "Clywch, clywch"; ond myn gafr, un dda oedd hi. | |
| (1, 0) 198 | Go lew wir, thenciw; newch chi ddim eista funud? |
| (Gwen) Na wir, rhaid mynd. | |
| (1, 0) 211 | Tewch, y Iolyn gwirion. |
| (1, 0) 212 | Nos dawch, Miss Evans. |
| (Gruffydd) Ma'r gloch bach yn canu yn y nghlust inna fel Dafydd, gresyn fod Mr. Evans yn codlo efo'r Gymdeithas ma. | |
| (1, 0) 216 | Cloch bach yn canu yn ych clust chi, wir! |
| (1, 0) 217 | Canu yn ych stumog chi y bydd hi amlaf. |
| (1, 0) 218 | Wn i ar y ddaear fawr pam rydach chi'n petruso, achos ma'r Gymdeithas fel y Banc o Ingland, ac mi gewch weld y gnaiff Mr. Evans |agent| rhagorol. |