| (Robert) Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam? | |
| (Robert) Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam? | |
| (1, 0) 24 | Hitia befo. |
| (1, 0) 25 | Rydw i'n hen gynhefin â bod yn unig, weldi; a mi fedra i weld llawn cymint yn y twllwch, am wn i wir,—a mwy. |
| (Robert) Wel, rhaid ini gael lamp i'ch gweld chi beth bynnag, rhag ofn ych bod chi ar rhyw berwyl drwg. | |
| (Robert) Mae hi'n wyth o'r gloch, ac yn dywyll fel bol buwch. | |
| (1, 0) 33 | Wyth o'r gloch! Wyth o'r gloch! |
| (Robert) Welis i rioed siwn beth ag Elin yma ar ol i Emrys ddwad adre. | |
| (Elin) Ydi'r golau'n rhy gry i chi, nain? | |
| (1, 0) 41 | Mae'r golau'n rhy gry i mi bob amser, weldi. |
| (1, 0) 42 | Rydw i jest a darfod hefog o. |
| (Elin) Peidiwch a chyboli wir, nain bach. | |
| (Elin) Ond oeddech chi'n deud, os ydech chi'n cofio, pan oedd Emrys yn mynd i ffwrdd i'r ysgol am y tro cynta na chaech chi byth i weld o wedyn,—a dyma fo wedi gorffen ac wedi cael i radd,—a chitha ddim blewyn gwaeth. | |
| (1, 0) 46 | Amal gnoc, y ngeneth i, dyrr yr hen garreg... |
| (1, 0) 47 | Mae Emrys yn ymdroi'n hir iawn yn rhywle. |
| (Elin) Chware teg i'r hogyn; ceisio meddwl y mae o'n rhywle: fedar neb feddwl dim yn y tŷ yma,—a Robert yn clebran o hyd fel prep melin, ag Ann a finna'n clocsio o gwmpas hefo'r llaeth i'r lloiau. | |
| (Robert) Rhyngoch chi i gyd—mam yn gweld petha yn y tân, ag Ann yn stydio Geiriadur Charles, ag Emrys yn mynd i wneud tŵr melin ag eglwys, a chitha eto Elin yn siarad fel Llyfr y Diarhebion, does gen ddyn glân o Gymro ddim siawns i roi'i big i fewn. | |
| (1, 0) 53 | Taw, Robert bach. |
| (1, 0) 54 | Yr ydyn ni i gyd wedi bod yn cysgu'n rhy hir,—mae Elin yn iawn... |
| (1, 0) 55 | Yr hên a ŵyr, a mi leiciwn i cyn marw weld Emrys bach yn rhoi tro yng nghynffon y bobol yma sy'n yn cadw ni i lawr. |
| (Robert) Pam na fasa fo'n mynd yn brygethwr ynte os ydi o mor awyddus am roi tro yng nghynffona pobol? | |
| (1, 0) 74 | ~ |
| (1, 0) 75 | "Un clefyd mewn dwy galon |
| (1, 0) 76 | Yrrodd lawer tŷ yn yfflon." |
| (1, 0) 78 | Mae Ann yn rhy ddistaw i wneud morwyn dda, Elin. |
| (1, 0) 79 | Mae hi cyn ddyfned a'r Llyn Du. |
| (1, 0) 80 | Wyddost ti ar y ddaear beth sydd ar waelod y llyn,—faint o esgyrn pobl wedi boddi... |
| (1, 0) 81 | Mae Emrys yn hir iawn yn rhywle. |
| (Elin) Tewch wir, nain; rydech chi'n 'y ngneud i'n bur drwblus yn i gylch o. | |
| (Elin) Beth rydech chi'n ochneidio, deudwch? | |
| (1, 0) 89 | Gweld petha rhyfedd yn y tân yma. |
| (1, 0) 90 | 'Dwyt ti ddim yn meddwl y bydd yr hen Vaughan yn fodlon i Emrys gael Agnes, wyt ti? |
| (Elin) Waeth gen i o gwbwl—ond dydi hi ddim hanner digon da iddo fo,—yr hen beth larts benchwiban iddi hi. | |
| (Robert) Mam! ydi'ch gwyneb chi'n lân? | |
| (1, 0) 122 | Wyt ti'n gweld y ddwy fflam groes yna yn y tân, Ann? |
| (1, 0) 123 | Dyna nhw, weldi. |
| (Ann.) Ydw, nain. | |
| (Agnes) Mi fyddwn ni fel teulu bron a mynd i'r Eglwys weithia: os ydi'r personiaid yn pregethu'n sal, mae nhw'n wŷr bonheddig, beth bynnag. | |
| (1, 0) 178 | "Gorchest benna gŵr bonheddig |
| (1, 0) 179 | Gwneud y tlawd yn llwm ag unig." |
| (Agnes) Ydech chi ddim yn meddwl peth fel yna, Mali Owen? | |
| (Agnes) Ydech chi ddim yn meddwl peth fel yna, Mali Owen? | |
| (1, 0) 181 | 'Dydw i'n meddwl dim byd, rwan.... Ydi hi'n dywyll o hyd? |
| (Robert) Ydi fel bol—, fel |y tu fewn| i fuwch, Miss Vaughan. | |
| (Agnes) —buan iawn y basa fo yn dwad yn ol. | |
| (1, 0) 196 | Ydech chi'n grefyddol, Miss Vaughan? |
| (Agnes) Ydw, rwy'n gobeithio. | |
| (1, 0) 199 | Ydi'ch tad yn grefyddol? |
| (Agnes) Ydi—o ydi—rwy'n ddigon siwr ohono. | |
| (1, 0) 203 | Mi fydda 'nhad a f'ewyrth yn dwad adre o'r farchnad o'r dre yn feddw gorn bob nos Sadwrn— |
| (1, 0) 205 | —a hen bobol go lew oedd yr hen bobol. |
| (1, 0) 206 | Mae petha wedi newid tipin er hynny, pechoda newydd wedi dwad, a'r hen bechoda ystalwm,—gwenwyn a llid a chelwydd—wedi mynd fa betha i'w canmol. |
| (Elin) {Yn ei chysuro.} | |
| (Elin) Mae Emrys yn deud y basa'n well ini fod yn debycach iddyn nhw, ym mhob peth ond i hanwybodaeth. | |
| (1, 0) 212 | Lle mae Emrys, tybed? |
| (1, 0) 213 | Oes gen ti damad go flasus yn swper iddo, Elin? |
| (Robert) Mi geith mei lord ddwad â'i swper hefog o gen i fod o'n troi 'i draed mor hwyr. | |
| (1, 0) 223 | Dyna ti, wir. |
| (1, 0) 224 | Tyrd i fewn, y machgen i, ac eistedd yn y fan yma wrth ochor dynain. |
| (1, 0) 225 | Mi wnai lei ti. |
| (Emrys) O'r gore, nain—ond 'rhoswch chi yn y lle rydech chi. | |
| (Elin) Lle cest ti rheina? | |
| (1, 0) 237 | Beth sy gen ti, machgen i? |
| (Agnes) |Brace of pheasants!| | |
| (Emrys) Rhaid i chi f'esgusodi i, Miss Vaughan, mi fydda i'n i cael nhw fel hyn weithia. | |
| (1, 0) 263 | Pwy sydd yna? |
| (1, 0) 264 | Clywch! |
| (Robert) Neb. | |
| (Robert) Neb. | |
| (1, 0) 266 | Mae'r ci yma'n anesmwyth iawn. |
| (Robert) {Wrth y ci.} | |
| (Emrys) Wel, Miss Vaughan, gan na fedrwch chi ddim aros, mi ddoi hefo chi dros y gors. | |
| (1, 0) 271 | Mae yna rywbeth yn dwad y tu allan yna. |
| (Robert ac Elin) Meddwl yr ydech chi. | |
| (Agnes) |It's getting so very late|. | |
| (1, 0) 279 | O! |
| (Robert) Pwy gaclwm sy'n tyrfu'r adeg yma o'r nos, tybed? | |
| (1, 0) 409 | Emrys bach! |
| (Robert) {Yn ceisio gwthio rhywbeth i law'r Plisman.} | |
| (1, 0) 417 | Emrys bach! |