| (1, 0) 7 | Mari, sychsoch chi ddim o nghefan-i yn hannar sych! |
| (Mari) {Yn y "rwm-genol".} | |
| (1, 0) 12 | Go, darro! |
| (Mari) Nawr, Malachi, beth wetsoch-chi! | |
| (1, 0) 15 | Beth wetas-i, yn wir! |
| (Mari) Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chi, dyn o'ch oetran chi, i reci felna. | |
| (Mari) Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chi, dyn o'ch oetran chi, i reci felna. | |
| (1, 0) 17 | Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chitha i ddod â shwd Iassis a hyn i'r ty. |
| (1, 0) 19 | Welas-i shwt beth ariod, os bydd ast arno-i i fynd i rwla, wy-i mor wirad o dorri lassan ne golli bwtwn, a mod i'n ddyn. |
| (Mari) Otych, otych, 'r'ych-chi mor wyllt. | |
| (Mari) Wn-i ar y ddaear ble ma'ch |front| chi. | |
| (1, 0) 23 | |Front|! |
| (1, 0) 24 | Pwy isha |front| sy heno? |
| (1, 0) 25 | Dewch â'r grafat goch 'na yma. |
| (Mari) Na chewch—crafat goch yn wir—a phob dyn decha arall yn gwishgo colar gwyn. | |
| (Mari) Ble dotsoch-chi'r |front| 'na nos Sul? | |
| (1, 0) 28 | Dyna wyr. |
| (1, 0) 29 | Ma rhyw hen wynt rhyfadd wedi mynd yndo chi oddiar ath Lisa Jane i'r college. |
| (1, 0) 30 | Beth fydd raid i fi nithir nesa wn-i gwishgo cuffs i fynd i'r seiat falla? |
| (1, 0) 32 | Wel, tawn i'n trico! |
| (1, 0) 33 | Mari, os dim lassan letar yn y ty 'ma rwla? |
| (Mari) Lassan letar yn ych sgitsha dwetydd, ys clwas-i shwt gownt! | |
| (1, 0) 44 | Mari, lassis lletar sy gita Jacob. |
| (Mari) D'ôs gen-i ddim lassan letar yn y ty nawr. | |
| (Mari) Nawr, y |front|, nesa. | |
| (1, 0) 61 | Mwfflar sy am wddwg Jacob! |
| (Mari) Ma brest Jacob yn wan. | |
| (Mari) Sefwch yn llonydd, y dyn; beth sy arno-chi! | |
| (1, 0) 65 | O'r arswd, ddaw hi ddim, ma-hi lawar rhy fach! |
| (Mari) Rhy fach, dyma'r |front| fwya ôdd yn y shop—17½. | |
| (Mari) Dyna {wedi llwyddo ar ol tipyn o drafferth i osod y |front|}, 'r ych chi'n dishgwl rwpath yn depyg i Gristion nawr. | |
| (1, 0) 69 | Fe fysa'n well gen i ddishgwl yn depyg i rwpath arall, wath felny wy'i'n teimlo. |
| (Jacob) {Yn codi.} | |
| (1, 0) 75 | Jacob, glwsoch-chi a'n mynd? |
| (Jacob) Clwad beth? | |
| (1, 0) 80 | Jacob Evans, 'r wy-i 'n gallu godda profedigitha mawr bywyd yn weddol iawn, ond ma rwpath fel hyn yn strain ofnadw ar y ticyn crefydd sy gen i. |
| (Mari) O'r mowradd, ôn-i 'n son am golar ceffyl, fe ddylsach wishgo arnas cyfan, a nid shwt o ddillad. | |
| (Mari) O'r mowradd, ôn-i 'n son am golar ceffyl, fe ddylsach wishgo arnas cyfan, a nid shwt o ddillad. | |
| (1, 0) 82 | Dewch a'm strapan i 'ma. |
| (Mari) Na chewch; fydda-i ddim wincad yn gwinio bwtwn arall. | |
| (Jacob) Fe naiff un bwtwn y tro am heno. | |
| (1, 0) 87 | Gnaiff a! |
| (1, 0) 88 | Dyna i gyd ych-chi'n wpod. |
| (1, 0) 90 | 'D ych-chi ddim wedi gweld y galasis ffashiwn newydd 'ma? |
| (1, 0) 91 | O bobpath dwl welas i ariod, sylwch ar y wheel fach yna, ma-hi fel sheave ingin windo. |
| (1, 0) 92 | Os collwch chi un bwtwn ma'r un man i chi golli dou. |
| (Jacob) Wel, dotwch y ddwy ddolan ar yr un bwtwn, dyna beth nelswn i. | |
| (Jacob) Wel, dotwch y ddwy ddolan ar yr un bwtwn, dyna beth nelswn i. | |
| (1, 0) 94 | Iefa? |
| (1, 0) 95 | Ma gita chi ffydd fawr yn Rhagluniath. |
| (Jacob) Gwetwch chi beth fynnwch-chi, par o galasis pert yn-nhw. | |
| (Mari) Presant pen-blwydd helws Lisa Jane iddo-fa o Aberystwyth. | |
| (1, 0) 99 | Wfft shwt bresant weta-i. |
| (Jacob) Falla nag ych-chi ddim wedi dod i ddeall y wheels bach 'na eto. | |
| (Matthew) 'D yw Mrs. Evans, Ty-capal, ddim wedi cynnu tamad o dân yn y vestry, na gola chwaith, ag on ni'n meddwl, os nag os gwaniath gita chi, y celsa-ni gynnal y pwyllgor yma. | |
| (1, 0) 113 | Itha right, cymerwch gatar. |
| (1, 0) 114 | Ishteddwch Obadiah, dewch ymlan. |
| (Mari) O ble galla-nhw ddod ymlan, a'r hen dwbin brwnt ar yr aelwyd. | |
| (Mari) Ishteddwch lawr am funad, fe gynna-i dân yn y rwm genol nawr. | |
| (1, 0) 126 | Ia, ia, fe fyddwn yn fwy cysurus manny. |
| (Matthew) Pwy ishai chi gynnu tân yn y rwm genol sy? | |
| (Obadiah) Bifan. | |
| (1, 0) 139 | Os yn-ni yn mynd i aros yn y gecin, a Mari yn yn plith ni, 'd ôs dim isha i chi chynnyg hi yn aelod o'r pwyllgor,—dyna fi yn roi rypudd teg i chi nawr. |
| (Jacob) Wedi gynnyg a'i eilio, pob un sy dros y cynyciad? | |
| (1, 0) 158 | Os raid i fi wed rwpath nawr? |
| (Jacob) Wel, os, gair bach yn fyr fel rhagarweiniad i'r gwaith. | |
| (Jacob) Wel, os, gair bach yn fyr fel rhagarweiniad i'r gwaith. | |
| (1, 0) 160 | Hannar munad ta! |
| (1, 0) 162 | Frotyr a chwiorydd,... |
| (Mari) {Yn crechwen.} | |
| (1, 0) 166 | Os ych-chi, Mari, yn mynd i wherthin ar ym mhen i, weta-i ddim gair arall. |
| (Matthew) Galwch hi i gownt, Malachi, galwch hi i gownt; chi yw'r cadeirydd. | |
| (1, 0) 171 | Dyna fe! glywsoch chi! |
| (1, 0) 172 | Ma'n raid i chi acto'n weddus miwn pwyllgor. |
| (Mari) Gadewch ych hen foddar, da chi, a cherwch mlaen â'r gwaith. | |
| (Mari) Gadewch ych hen foddar, da chi, a cherwch mlaen â'r gwaith. | |
| (1, 0) 174 | 'R yn-ni wedi cwrdd... 'r yn-ni wedi cwrdd yma heno... ond yn-ni? |
| (Mari) Otyn, otyn. | |
| (Mari) Otyn, otyn. | |
| (1, 0) 177 | Jacob, Matthew, dyna ddangos i chi faint o wara teg wy-i 'n gal yn y ty ma. |
| (Mari) Malachi, ngariad annwl-i, ôn-i'n meddwl dim drwg, trio'ch helpu chi ôn i. | |
| (1, 0) 188 | Wel, 'r ych chi gyd yn gwpod nag wy-i ddim llawar o sharatwr. |
| (Mari) Clywch, clywch! | |
| (Mari) Clywch, clywch! | |
| (1, 0) 190 | Dyna chi 'to! |
| (Matthew) Ond ych helpu chi ma-hi; cerwch mlan, wr. | |
| (Matthew) Ond ych helpu chi ma-hi; cerwch mlan, wr. | |
| (1, 0) 192 | Fel gwetas i, 'wy-i ddim llawar o sharatwr, ond ma ngalon-i yn y gwaith. |
| (1, 0) 193 | 'R wy wedi bod gita chrefydd nawr ers dros ddeugain mlynadd... |
| (Mari) Pwyllgor 'steddfod ne seiat-brofiad sy 'ma, gwetwch? | |
| (1, 0) 199 | A... a... 'rwy wedi talu'r shop yn gyson pob pythewnos drw'r blynydda... a... a... a os pariff y tywydd fel hyn, fe ddylsan gal steddfod hyfryd. |
| (Y Gwyr) Clywch, clywch. | |
| (Y Gwyr) {Curo dwylaw.} | |
| (1, 0) 202 | Ond... ond, i fynd ymlan... ia... a... i fynd ymlan... ia... {yn troi yn sydyn at JACOB}, Jacob Evans, 'r ych chi'n gwpod beth i wêd yn well na fi, a chitha'n cyoeddi bob Sul─dewch nawr, gair bach yn fyr. |
| (Jacob) Gyfeillion, ar ol sylwata tarawiadol y cadeirydd 'dos gen i fawr i wêd. | |
| (1, 0) 211 | Beth ych-chi'n gofyn i fi! |
| (Jacob) Ta pun, wedi i gapal Salam, perthynol i enwad parchus arall— | |
| (Mari) Ma nhw lawn mor barchus a ni. | |
| (1, 0) 215 | Ordor, Mari. |
| (Jacob) Wedi i gapal Salam glwad beth ôn-ni'n feddwl nithir, am ryw reswm ne gilydd, fe benderfynson fynd yn grôs i ni. | |
| (1, 0) 225 | Nawr, Mari, tynnwch ych geira nol, gwnewch |apology| ar unwaith. |
| (Mari) O'n wir, a phwy ych-chi'n wilia, Malachi? | |
| (Obadiah a Matthew) C'wilydd, c'wilydd! | |
| (1, 0) 236 | Ia, c'wilydd mawr hefyd. |
| (Jacob) Nawr, 'dwy-i ddim am wêd dim byd yn gas, "Parhaed brawdgarwch" weta i. | |
| (1, 0) 258 | Ah? |
| (Obadiah) 'R wy'n cwnnu ar |boint of ordor|. | |
| (Obadiah) 'R wy'n cwnnu ar |boint of ordor|. | |
| (1, 0) 260 | Obadiah, 'r ych-chi gwpod nag os dim llawar o Sisnag gen-i; gobitho nag ych-chi ddim yn trio'n shimplo-i. |
| (Jacob) Nagyw, nagyw, |point of ordor| bachan, |point of ordo|r—wastod miwn pwyllgor, | |
| (1, 0) 263 | 'R wy-i wedi bod ar gannodd o bwyllgora— |
| (Mari) O—h! | |
| (Mari) O—h! | |
| (1, 0) 265 | Wel, fe alla wêd ma nid dyma'r tro cynta i fi fod ar bwyllgor, ond chlywas i ariod son am |boint of ordor| miwn pwyllgor Cwmrag o'r blan. |
| (1, 0) 266 | Ond cerwch ymlan i ni gal clwad beth sy gita chi. |
| (Obadiah) Dyna beth sy gen i: pwy isha i ni gal 'steddfod sy, pwy les ma'r hen 'steddfota bach ma'n nithir? | |
| (Obadiah) 'R wy-i 'n cynnyg yn bod ni yn cal drama. | |
| (1, 0) 272 | Beth! |
| (1, 0) 273 | Wara hen blai yn y capal! |
| (Matthew) Ma gen-i welliant. | |
| (Jacob) Consart! talu arian mawr i ferched hannar nôth i ganu yn nhy Dduw! | |
| (1, 0) 277 | 'D os dim drama na chonsart i fod. |
| (1, 0) 278 | |Fi| yw'r cadeirydd, a wetyn, tewch son. |
| (1, 0) 279 | Heblaw hynny, ma cwrdd y brotyr wedi penderfynu cal 'steddfod. |
| (1, 0) 280 | Os na chynaliwn ni 'steddfod nawr fe fydd aelota Salam yn meddwl 'u bod nhw wedi cal y gora arno-ni. |
| (Mari) {Yn annerch y gadair yn ffurfiol iawn.} | |
| (Mari) Mr. Cadeirydd, |point of ordor|. | |
| (1, 0) 283 | O, beth wyddoch chi am beth felny? |
| (Mari) Ma gen-i gystal hawl a neb arall i wêd gair, nagos-a? | |
| (Mari) Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch," dim ond i chi gal ych ffordd. | |
| (1, 0) 290 | Dyna i gyd sy gita-chi i wed? |
| (Mari) Nace, dyma beth sy gen i: os ôs un wedi croesi'r nall, ni yn Pisgah sy wedi mynd yn grôs i aelota Salam. | |
| (1, 0) 299 | Dyna chi! arno-chi ma'r bai. |
| (1, 0) 300 | Fe roias i rypudd teg i chi; fe wyddwn-i o'r gora y gnelsa Mari gawl o'r cwbwl. |
| (Mari) Otw; 'r wy-i'n mynd i nithir cawl, a ma raid i chi ifad-a, bob un o chi. | |
| (Matthew) 'D yn-ni ariod wedi cal unrhyw gymwynas oddiwrth aelota Salam. | |
| (1, 0) 317 | Nag-yn, a nawr, gan 'i bod hi wedi mynd yn waetha waetha, 'd wy-i ddim yn gweld fod isha i ni bito cal 'steddfod. |
| (Jacob) Nagw inna chwaith. | |
| (Jacob) Mlan â'r program, mlan â'r program. | |
| (1, 0) 323 | Ia, ia; dyma ni wedi bod bron hannar awr man hyn, a 'd yn-ni ddim tamad nes mlan, dim ond o'ch hachos chi, Mari. |
| (1, 0) 324 | Dos dim isha mynd i'r shop arno-chi, ne rwpath? |
| (Mari) Nagos, 'r wy-i'n itha cysurus man hyn. | |
| (Mari) A fel gwetws Matthew, falla galla-i fod o help mawr i chi. | |
| (1, 0) 327 | Wel, beth gymerwn ni gynta? |
| (1, 0) 328 | Y prif-ddarn? |
| (1, 0) 329 | Dewch Matthew, chi yw'r dechreuwr canu, beth yw'ch barn chi? |
| (Obadiah) Mr. Cadeirydd, r'wy-i'n cwnnu lan ar |boint of ordor|. | |
| (Obadiah) Mr. Cadeirydd, r'wy-i'n cwnnu lan ar |boint of ordor|. | |
| (1, 0) 331 | Wel 'tawn i'n marw, rhyw gratur penstiff ych chi Obadiah! |
| (1, 0) 332 | Beth sy'n bod nawr? |
| (Obadiah) Pwy isha sy i ni roi'r lle blaena i'r hen ganu 'ma? | |
| (Mari) 'R wy inna yn eilio'r cynyciad. | |
| (1, 0) 342 | Na, na, fe gymerwn y prif-ddarn gynta. |
| (1, 0) 343 | Os yma ryw gynyciad? |
| (Jacob) 'D wy-i ddim llawar o gerddor, ond ma na ddernyn bach pert iawn a geira bendigetic iddo-fa y licswn i weld ar y program. | |
| (Jacob) 'D wy-i ddim llawar o gerddor, ond ma na ddernyn bach pert iawn a geira bendigetic iddo-fa y licswn i weld ar y program. | |
| (1, 0) 345 | Beth yw hwnnw? |
| (Jacob) "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd." | |
| (Mari) Chi'n cofio'r noswaith 'ny ithoch chi a fi— | |
| (1, 0) 357 | Ho'n wir, dyma hanas blasus i ddoti o mlan i, ontefa? |
| (Jacob) Malachi bach, plant ôn-ni. | |
| (Obadiah) Mr. Cadeirydd, otyn-ni wedi dod yma heno i glwad hanes caru Jacob Evans? | |
| (1, 0) 366 | Mari, chi ddechreuws yr hen ddwli-ma. |
| (Mari) Ond plant ôn-ni, Malachi bach, plant ôn-ni. | |
| (Jacob) Fe ddaw'r hen amsar'n ol mor felys. | |
| (1, 0) 372 | Daw-a'n wir! |
| (1, 0) 373 | Cymerwch chi bwyll Jacob. |
| (1, 0) 374 | Llai o'r hen amsar melys 'na, os gwelwch chi'n dda. |
| (1, 0) 375 | Matthew, chi yw'r dyn yn y dryswch 'ma. |
| (1, 0) 376 | Dewch nawr. |
| (Matthew) Y peth cynta sy gita ni gofio pan yn dewish y prif-ddarn yw bod y byd-cerddorol yn symud ymlan. | |
| (Matthew) Ma isha rwpath mwy na |phitchfork|, cofiwch, i nithir cerddor. | |
| (1, 0) 385 | Dyna glatchan yn 'i lle, Matthew. |
| (1, 0) 386 | Ishteddwch lawr, Obadiah, a dysgwch wrando'n barchus pan bodyn o wybotath yn gwêd gair. |
| (Jacob) Shwt ddernyn yw dernyn—beth och-chi yn 'i alw fa, Matthew? | |
| (Matthew) Wel, dyna'r dernyn ôdd ar ym meddwl i, "Worthy is the Lamb." | |
| (1, 0) 400 | O, Sisnag, iefa? |
| (Matthew) Ia, Sisnag yw-a. | |
| (Matthew) Atnod o'r Scrythur yw'r geira. | |
| (1, 0) 403 | Iefa'n wir. |
| (1, 0) 404 | Shwt ma'r Ysgrythur yn canu yn Sisnag, Matthew? |
| (Matthew) Wel, ma'n raid cyfadda, 'dyw-hi ddim 'r un peth. | |
| (Matthew) Wel, ma'n raid cyfadda, 'dyw-hi ddim 'r un peth. | |
| (1, 0) 406 | Dyna-fe lwchi, Cwmrag yw iaith crefydd, ontefa? |
| (Jacob) Ia,ia,—ia. | |
| (1, 0) 411 | Mari, chi'n cofio 'steddfod Aberdar! |
| (Mari) Cofio, ddala-i mod-i! | |
| (1, 0) 414 | Dyna le gwelais-i Mari gynta; yn canu gita altos Côr y Cwm. |
| (1, 0) 415 | 'R wy'n 'i gweld hi nawr, ffroc lâs, shacad goch, het felan a phlufyn gwyrdd—ôdd hi fel twmplan fach, ôdd! |
| (1, 0) 416 | Fuas-i fawr o dro cyn dala 'i llycad hi, a fe ddath rwpath drosto-i bob tamad, do; "Dyna ngwraig i," myntwn-i, "dyna ngwraig i." |
| (Mari) Chi'n cofio'r dwarnod, Jacob? | |
| (Mari) Gita chi yr itho-i i'r 'steddfod. | |
| (1, 0) 419 | Ia, ia, ond, ha! ha!—gita fi yr ithoch chi sha thre. |
| (Jacob) {Yn sychlyd.} | |
| (Jacob) Mr. Cadeirydd, otyn-ni wedi dod yma heno i glwad hanas caru Malachi Williams? | |
| (1, 0) 422 | Dyna chi, Mari, arnoch chi ma'r bai, chi ddechreuws, cofiwch—ond fe licswn i gal "Y don o flan y gwyntodd " yn 'stedfod Pisgah. |
| (Mari) Licswn inna hefyd, fe ddaw'r hen amsar 'nol mor felys. | |
| (Mari) Licswn inna hefyd, fe ddaw'r hen amsar 'nol mor felys. | |
| (1, 0) 424 | Daw-a, daw; Matthew, ma'r "Don o flan y gwyntodd " yn |glassical|, on'd yw hi? |
| (Jacob) |Classical|, nag yw! | |
| (Jacob) |Classical|, nag yw! | |
| (1, 0) 426 | Ma-hi'n ddicon mwy |classical| na'r "Blotyn bach." |
| (1, 0) 427 | Dewch nawr, Matthew, gwetwch ych barn yn onast. |
| (Matthew) {Yn ddifrifol.} | |
| (Matthew) 'R wy-i'n cynnyg "Worthy is the Lamb." | |
| (1, 0) 434 | Os yma rywun yn eilio'r cynyciad? |
| (Obadiah) {Yn ffyrnig.} | |
| (Matthew) Mannars, Obadiah, mannars os gwelwch chi'n dda. | |
| (1, 0) 438 | Ryw gynyciad arall? |
| (Matthew) {Yn codi.} | |
| (Jacob) 'R wy'-i'n cynnyg "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd." | |
| (1, 0) 444 | Os yma rywun yn ddicon dwl i eilio hwnna? |
| (Mari) Os; 'r wy-i yn 'i eilio-fa. | |
| (Mari) Os; 'r wy-i yn 'i eilio-fa. | |
| (1, 0) 446 | Mari! |
| (Jacob) 'Nawr, Mr. Cadeirydd, whara teg, lan âg ê, lan âg ê. | |
| (1, 0) 449 | Pob un sy dros y "Blotyn bach," i ddod a'r hen amsar melys nol? |
| (1, 0) 451 | Pob un sy'n grôs? |
| (1, 0) 454 | Nawr ta, Jacob, ble 'r ych-chi nawr, eh? |
| (1, 0) 456 | Dewch chi, merch-i! |
| (Mari) {Yn siriol.} | |
| (Mari) Mr. Cadeirydd, 'r wy-i'n dymuno cynnyg "Y don o flan y gwyntodd." | |
| (1, 0) 459 | Wel, 'tawn-i heb gyffro o'r fan! |
| (Mari) Eiliwch-a, Malachi, eiliwch-a. | |
| (1, 0) 462 | Eiliwch-a 'ch hunan. |
| (Obadiah) Fe eilia-i'r cynyciad. | |
| (1, 0) 465 | O'n wir; ym mhwy 'steddfod buoch |chi|, Obadiah? |
| (Mari) Lan âg ê, lan âg ê. | |
| (1, 0) 468 | Pob un sy dros "Y don o flan y gwyntodd"? |
| (1, 0) 470 | Pob un sy'n grôs? |
| (Obadiah) O'n i'n eilio'r cynyciad er mwyn dangos y dryswch sy'n dilyn o gymeryd yr hen ganu 'ma gynta. | |
| (Obadiah) 'R wy-i'n cretu y dylsa-ni fynd ymlan at yr ochor lenyddol. | |
| (1, 0) 476 | Itha right. |
| (1, 0) 477 | Ishteddwch i lawr, Matthew, fe ddewn ni'n ol at y canu eto. |
| (Obadiah) {Yn chwyddo.} | |
| (Mari) 'R wy-i'n eilio'r cynyciad. | |
| (1, 0) 482 | Barddoniath a pheth? |
| (Obadiah) Barddoniath a ryddiath. | |
| (1, 0) 485 | Ryddiath? |
| (1, 0) 487 | Fe fyddwn-ni'n cynnal y 'steddfod, Obadiah, miwn ty cysegredig. |
| (1, 0) 489 | Os gita chi ryw syniad beth ma-fa'n gisho'i wêd? |
| (Jacob) Ryddiath, bachan, ryddiath—traethawd ne lythyr caru. | |
| (Jacob) Ryddiath, bachan, ryddiath—traethawd ne lythyr caru. | |
| (1, 0) 491 | O—h, wel, pam na wetiff y dyn 'i feddwl yn blan. |
| (1, 0) 492 | O'r gora, fe ddechreuwn gita'r llythyr caru. |
| (1, 0) 493 | Faint o wobor gynycwn-ni? |
| (Mari) Otych-chi'n cofio'r llythyron caru o'ch chi'n arfadd hela ato-i, Malachi? | |
| (1, 0) 498 | Ma ryw wendid ryfadd wedi dod drosto chi yn ych henaint, nagos-a? |
| (Mari) Os falla'n wir, nawr wy-i yn 'i gal-a, lwchi, fe'i cesoch chitha fa yn ifanc iawn. | |
| (Jacob) Ordor, ordor. | |
| (1, 0) 511 | Gadewch i bob un spelian fel ma-fa'n dewish, yn enw'r bendith, spelian fel dysgws-a yn yr Ysgol Sul, spelian 'r un ffordd a'r Beibl. |
| (Obadiah) 'Dyw orgraff y Beibl ddim hannar |right|. | |
| (1, 0) 515 | Obadiah, ma'n flin gen-i'ch clwad chi yn wilia felna, bachan ifanc gobithol fel chi, sy â'i lycad ar y sêt fawr. |
| (Jacob) Dyna fe, lwchi, 'dos dim daioni yn dod o ddarllan y |New Theology| 'na. | |
| (1, 0) 519 | Nawr Obadiah, ishteddwch lawr, ne dyn a wyr beth wetwch chi nesa. |
| (1, 0) 520 | Os triwch chi fod yn gymedrol, fe driwn ninna anghofio'r hyn wetsoch chi. |
| (1, 0) 521 | Cofiwch chi, tsa aelota Pisgah yn dod i wpod am hyn, fe fysa hi yn galed iawn arnoch-chi. |
| (Jacob) Er mwyn mynd mlan, 'r wy i'n dymuno cynnyg gwobor o gini am y Bryddest ora. | |
| (Matthew) Dyna ryw synnwyr nawr. | |
| (1, 0) 526 | Ar bwy destun, Jacob? |
| (Jacob) "Noah yn mynd miwn i'r Arch." | |
| (Jacob) "Noah yn mynd miwn i'r Arch." | |
| (1, 0) 528 | Testun hyfryd. |
| (Mari) Ma gen-i welliant at y testun yna. | |
| (Mari) Ma gen-i welliant at y testun yna. | |
| (1, 0) 530 | Wel? |
| (Mari) "Noah yn dod mas o'r arch." | |
| (1, 0) 544 | Os yma rywun yn diall Obadiah? |
| (Matthew) 'R wy-i'n cretu mod i yn 'i ddiall-a wath ma'r hen grotyn 'na sy gen i yn clepran petha tepyg amball waith. | |
| (1, 0) 552 | Nawr, nawr, Obadiah, ôs dim ffraeo i fod yn y ty 'ma. |
| (1, 0) 553 | Ishteddwch lawr. |
| (Jacob) Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch." | |
| (Mari) Druan a chi! | |
| (1, 0) 557 | Ag ar bwy ma'r bai. |
| (1, 0) 558 | Fe fysan-ni'r dynon wedi nithir gwaith onibai amdano chi. |
| (Mari) 'R un hen gân o hyd: y wraig hon a roddaist i mi. | |
| (Obadiah) Mr. Cadeirydd, 'r wy-i'n gofyn i Mr. Bifan i nithir |apology| i fi. | |
| (1, 0) 562 | 'R wy-inna yn gofyn i chitha i ishta lawr. |
| (1, 0) 563 | 'Rych chi lawn cynddrwg a Mari. |
| (Matthew) Ma fa lawar gwath. | |
| (1, 0) 566 | Odd hawl gita ni i ddewis Mari yn aelod o'r pwyllgor 'ma? |
| (Jacob a Matthew) Odd, ôdd—ôdd. | |
| (Jacob a Matthew) Odd, ôdd—ôdd. | |
| (1, 0) 569 | O'r gora, os odd hawl gita ni idd 'i nithir hi'n aelod, ma hawl gita ni idd 'i diaeloti hi. |
| (Jacob) Ma reswm yn 'yna hefyd. | |
| (Jacob) Ma reswm yn 'yna hefyd. | |
| (1, 0) 571 | A os ôs hawl gita ni i ddiaeloti Mari ma hawl gita ni i ddiaeloti Obadiah. |
| (Matthew) Clywch, clywch. | |
| (Matthew) Clywch, clywch. | |
| (1, 0) 573 | 'D yw Mari a Obadiah yn ddim byd ond rhwystyr, a wetyn, ma'n well i ni idd 'i diaeloti nhw. |
| (1, 0) 574 | Fyddwn ni'n tri ddim wincad yn partoi program: fe gewch chi, Matthew, ych ffordd gita'r gerddoriath, fe gaiff Jacob drefnu'r farddoniath a'r—a'r peth arall 'na, a fe ofala inna am yr amrywiath. |
| (Mari) Pwyllgor o ddynon, wel, wel! | |
| (Mari) Fuoch chi'n gofyn i aelota Salam i gynnal 'u 'steddfod ar ryw ddwarnod arall? | |
| (1, 0) 580 | Y |ni| yn mynd i ofyn iddyn |nhw|! |
| (1, 0) 581 | Otyn |nhw| wedi dod i ofyn i |ni|? |
| (Jacob) Mlan â'r program, mlan â'r program, er mwyn i ni gal 'i ddosparthu fa dydd Sul nesa; a fel gwetas-i, os bydd aelota Salam yn ddicon digwiddyl i gynnal 'steddfod wetyn, wel, wfft idd 'u crefydd nhw, weta-i. | |
| (Mari) Beth wetsa-chi nawr, tsa aelota Salam yn dod â'u program mas cyn dydd Sul? | |
| (1, 0) 584 | Dim |fear|, ma nhw lawar rhy gysglyd. |
| (Mari) {Yn codi ac yn siarad yn araf a thawel.} | |
| (1, 0) 608 | Obadiah! |