| (Dafydd) {Yn estyn ei freichiau ac yn agor ei geg.} | |
| (Dafydd) O di..aa..wch! | |
| (1, 0) 24 | Dafydd, 'y machgen i, 'rwyt ti'n dechreu'r dydd yn bur anweddus. |
| (1, 0) 25 | Y mae'r wawr wedi torri ar ddiwrnod arall, Dafydd. |
| (Dafydd) Torred hi. | |
| (Dafydd) Torred hi. | |
| (1, 0) 27 | Testun diolch sydd gennym, Dafydd. |
| (1, 0) 28 | Testun diolch. |
| (1, 0) 29 | Y wawr wedi torri a ninnau dan do. |
| (Dafydd) {Yn edrych oddiamgylch.} | |
| (Dafydd) Buckingham Palas! | |
| (1, 0) 32 | Na, nid Buckingham Palas, Dafydd, ond sgubor, a diolch am gymaint a |
| (1, 0) 33 | hynny. |
| (Dafydd) Malachi! | |
| (Dafydd) Cig moch? | |
| (1, 0) 37 | Rhedeg braidd yn ormodol i fyd y moethau 'rwyt ti, 'machgen i. |
| (1, 0) 39 | Bydd yn amyneddgar, bachan! |
| (1, 0) 40 | Dysg i bwyso ar Ragluniaeth. |
| (Dafydd) Pam? | |
| (Dafydd) O... o... os rhywbeth mewn golwg gyda chi? | |
| (1, 0) 43 | O, na, na, na, Dafydd. |
| (1, 0) 44 | Dim ond â llygad ffydd, 'y machgen i. |
| (1, 0) 45 | Am argraffu ar dy feddwl di wyf i, na ŵyr dyn ddim pa fendithion a ddaw gyda'r wawr. |
| (1, 0) 46 | Os cofi di, Dafydd, 'doeddwn i ddim mewn sefyllfa i weled rhyw lawer â'r llygad naturiol neithiwr. |
| (1, 0) 47 | Sôn amdana i rw' i nawr. |
| (Dafydd) Dyna'r ffaith. | |
| (Dafydd) Dyna'r ffaith. | |
| (1, 0) 49 | Na, Dafydd. |
| (1, 0) 50 | Yr oeddwn wedi edrych ar y gwin pan fyddo goch. |
| (1, 0) 51 | Y ddiod gadarn, Dafydd, fy mab, bydd ofalus gyda'r ddiod gadarn. |
| (Dafydd) Go fore yw hi i bregeth, Malachi. | |
| (Dafydd) Go fore yw hi i bregeth, Malachi. | |
| (1, 0) 53 | 'Roedd crefydd yn y teulu. |
| (1, 0) 54 | Fe ddioddefodd 'y nhad oherwydd i grefydd. |
| (Dafydd) O, shwt? | |
| (Dafydd) O, shwt? | |
| (1, 0) 56 | Canu emynau Pantycelyn berfedd nos wrth ladrata ffowls. |
| (1, 0) 57 | Camgymeriad. |
| (1, 0) 58 | Gyda llaw, beth oedd dy rhieni di, Dafydd? |
| (Dafydd) Y, wel. | |
| (Dafydd) Ma' nhw … ma' nhw wedi marw ych dou. | |
| (1, 0) 61 | Ma'n rhai inne hefyd. |
| (Dafydd) Wel … a … mae'n well gen i beido a siarad am danyn' nhw ar hyn o bryd. | |
| (Dafydd) Wel … a … mae'n well gen i beido a siarad am danyn' nhw ar hyn o bryd. | |
| (1, 0) 63 | Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei? |
| (Dafydd) O'n … wel o'n, mewn ffordd o siarad. | |
| (Dafydd) O'n … wel o'n, mewn ffordd o siarad. | |
| (1, 0) 65 | Mae'n beth rhyfedd felltigedig, os bydd pobol wedi byw'n barchus 'dyw i plant byth yn leico gweyd gair am danyn' nhw. |
| (1, 0) 66 | 'Rwy' wedi diolch llawer fod 'y nhad ymron cymint o flagard a finne … |
| (1, 0) 68 | Be ddiawl wyt ti'n moyn cysgu mewn sgubor fan hyn os o'dd dy rieni yn bobol barchus? |
| (Dafydd) Wn 'im. | |
| (Dafydd) Falle taw am i bod nhw'n bobol barchus. | |
| (1, 0) 71 | Be ti'n feddwl wrth hynny? |
| (Dafydd) Mi ges i ddigon ar fod yn respectabl. | |
| (Dafydd) Mi ges i ddigon ar fod yn respectabl. | |
| (1, 0) 73 | Câl digon ar fod yn respectabl? |
| (1, 0) 74 | Be nest ti, meddwi? |
| (Dafydd) Nage. | |
| (Dafydd) Nage. | |
| (1, 0) 76 | Ladratest ti rywbeth? |
| (Dafydd) Naddo. | |
| (Dafydd) Naddo. | |
| (1, 0) 78 | Beth te? |
| (Dafydd) Dim. | |
| (Dafydd) Dyna'r cwbwl. | |
| (1, 0) 82 | Doet ti ddim yn leico dy waith gw'lei. |
| (Dafydd) Nag own. | |
| (Dafydd) Nag own. | |
| (1, 0) 84 | 'Rown i'n meddwl. |
| (Dafydd) Ie, ond wyddoch chi beth o'dd 'y ngwaith i? | |
| (Dafydd) Ie, ond wyddoch chi beth o'dd 'y ngwaith i? | |
| (1, 0) 86 | Na wn i. |
| (Dafydd) Bod yn respectabl. | |
| (Dafydd) Bod yn respectabl. | |
| (1, 0) 88 | Bachan, 'rwyt ti fel tiwn rownd. |
| (1, 0) 89 | Beth oet ti – clerc? |
| (Dafydd) Nage. | |
| (Dafydd) Mwy respectabl na hynny. | |
| (1, 0) 92 | Bancer? |
| (Dafydd) Nage. | |
| (Dafydd) Nage. | |
| (1, 0) 94 | Na. |
| (1, 0) 95 | D'wyt ti ddim digon o gythrel i fod yn fancer. |
| (1, 0) 96 | A wi'n gwbod, hala insiwrans! |
| (Dafydd) {Yn ysgwyd ei ben.} | |
| (Dafydd) Na. | |
| (1, 0) 99 | Wel mâs â hi. |
| (Dafydd) Pregethwr! | |
| (Dafydd) Pregethwr! | |
| (1, 0) 101 | Pregethwr! |
| (Dafydd) Bugel Methodist. | |
| (Dafydd) Bugel Methodist. | |
| (1, 0) 103 | Bugel Methodist! |
| (1, 0) 104 | Bugel Methodist! |
| (1, 0) 105 | Ystyria, Dafydd, 'y machgen i. |
| (1, 0) 106 | Ystyria. |
| (1, 0) 107 | 'Rwy'n hen ŵr penwyn, Dafydd. |
| (1, 0) 108 | Paid a thwyllo hen ŵr! |
| (Dafydd) 'Dwy ddim yn ych twyllo chi. | |
| (Dafydd) 'Row'n i'n fugel Methodist wythnos yn ôl. | |
| (1, 0) 111 | Wythnos yn ôl? |
| (Dafydd) Wythos yn ôl. | |
| (Dafydd) Wythos yn ôl. | |
| (1, 0) 113 | Dim erioed! |
| (Dafydd) O'wn wir. | |
| (Dafydd) O'wn wir. | |
| (1, 0) 115 | Wel, alli di ddim mynd yn ôl 'na? |
| (Dafydd) 'Dwy ddim am fynd yn ôl. | |
| (Dafydd) 'Dwy ddim am fynd yn ôl. | |
| (1, 0) 120 | Dafydd, fy mab. |
| (1, 0) 121 | Dafydd, Dafydd. |
| (1, 0) 122 | Pan na fyset ti'n 'i phriodi hi? |
| (Dafydd) Eh! | |
| (Dafydd) Be' … be' chi'n feddwl? | |
| (1, 0) 125 | Pam na fyset ti'n 'i phriodi hi, Dafydd. |
| (1, 0) 126 | Lodes ffein o'dd y lodes. |
| (1, 0) 127 | Ddylet ti ddim o'i gadel hi. |
| (Dafydd) Na. | |
| (Dafydd) 'Rych chi'n hollol mâs o'ch lle. | |
| (1, 0) 130 | Odw i? |
| (Dafydd) Odych. | |
| (Dafydd) 'Drychwch 'ma, leicech chi ddim bod yn bregethwr, leicech chi? | |
| (1, 0) 133 | Pam na leicwn i, Dafydd? |
| (1, 0) 134 | Pam na leicwn i? |
| (1, 0) 135 | O, Dafydd, Dafydd! |
| (1, 0) 136 | Mae'n ened i yn dyheu am y cyfle. |
| (1, 0) 138 | Y Parchedig Malachi Jones, B.A., B.D. |
| (1, 0) 139 | Bydd y Parchedig Malachi Jones yn pregethu yma y Saboth nesaf! |
| (1, 0) 140 | Pregethir yn nghyfarfod yr hwyr gan y Parch Malachi Jones, B.A., B.D. |
| (1, 0) 141 | Malachi Jones o Gapel Seion! |
| (1, 0) 143 | Pan fydd stormydd bywyd yn torri ar eich traws, pan ddaw'r ddrycin a'r tywyllwch, pwy rydd gysur i'r weddw a'r amddifad? |
| (1, 0) 144 | Malachi Jones! |
| (1, 0) 145 | Pwy fydd barod i godi cardotyn o'r llwch? |
| (1, 0) 146 | Malachi Jones! |
| (1, 0) 147 | Pwy rydd gynhorthwy i'r gweiniaid? |
| (1, 0) 148 | Pwy ond yr Hen Falachi? |
| (Dafydd) Ie, dyna'r ochor ych chi'n weld ohoni. | |
| (1, 0) 151 | Arglwydd, gâd i'm dawel orffwys, |
| (1, 0) 152 | Dan gysgodau'r palmwydd clyd, |
| (1, 0) 153 | Lle'r eistedda'r pererinion |
| (1, 0) 154 | Ar eu ffordd i'r nefol fyd. |
| (1, 0) 155 | ~ |
| (1, 0) 156 | Ie, mae llawer i hen sant yn teimlo'n bur ddiolchgar heno am gysgodau'r palmwydd. |
| (1, 0) 157 | Chwi'r oedrannus sydd om blaen i heno, mae ôl llafur a lludded y dydd ar eich hwynebau chwi; mae stormydd bywyd wedi gadael creithiau ar eich gruddiau. |
| (1, 0) 158 | Beth am dani, mhobol i? |
| (1, 0) 159 | Beth am gysgodau'r palmwydd? |
| (1, 0) 160 | Deuwch gyda mi. |
| (1, 0) 161 | Mae yno ffynnon risial i'r sychedig, a lle i gallon friw i orffwys – dan gysgodau'r palmwydd clyd! |
| (1, 0) 163 | Wyddost ti, neud sport 'rown i 'nawr, ond nid dyna fel y byswn i'n pregethu. |
| (1, 0) 164 | Mi fyddwn i wedi troi pob pechadur yn yr oedfa cyn pen hanner awr. |
| (1, 0) 165 | Bachan, 'rwy'n credu y troiwn i'n hunan cyn y diwedd! |
| (Dafydd) Gyfaill, mi flinech yn gynt nag y meddyliech chi. | |
| (Dafydd) Mi flines i arni. | |
| (1, 0) 168 | Blino ar beth? |
| (Dafydd) Blino ar fyw'n respectabl … respectabl …respectabl! | |
| (Dafydd) Mae capeli'r ganrif hon yn farw gelain. | |
| (1, 0) 179 | Yn farw gelain? |
| (1, 0) 180 | Beth ddigwyddodd? |
| (Dafydd) Mi dreies yn ddigon gonest, ond 'rown i'n rhoi gormod o shocks i'r saint – a ma' gwaith neyd hynny y dyddie hyn. | |
| (Dafydd) Mi dreies yn ddigon gonest, ond 'rown i'n rhoi gormod o shocks i'r saint – a ma' gwaith neyd hynny y dyddie hyn. | |
| (1, 0) 182 | O be' wnest ti i'w dihuno? |
| (Dafydd) O llawer o bethe. | |
| (Dafydd) Ma' dyn yn mynd yn rebel gyda amser. | |
| (1, 0) 185 | A beth o'n nhw'n gweud te? |